BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021883w.html

[New search] [Help]



2002 Rhif 1883 (Cy.192)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 18 Gorffennaf 2002 
  Yn dod i rym 26 Awst 2002 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 38, 39, 43ZA, 49F, 49I, 49L, 49M, 49N, 49O, 49P, 49Q, 49R a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] ac adran 65 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, hyd a lled a dehongli
     1.  - 1 Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 26 Awst 2002.

    (2) Maent yn gymwys i Gymru yn unig.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y prif Reoliadau" "the principal Regulations" yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986[
3].

    (4) Caiff y prif Reoliadau eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.

Diwygio rheoliad 2
     2.  - (1) Yn rheoliad 2 (dehongli) - 

and shall be treated as including a case where a person is treated as suspended by a Health Authority in Wales by virtue of Regulation 6(2) of the Abolition of the Tribunal Regulations,

    (2) Yn narpariaethau'r prif Reoliadau a restrwyd yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, bob tro y bydd "the Committee" yn ymddangos rhowch yn ei le "Health Authority".

Diwygio rheoliad 7
     3. Yn rheoliad 7(1) (cais i gynnwys enw ar y rhestr offthalmig) yn lle is-baragraff (c) rhowch - 

Mewnosod rheoliadau newydd
    
4. Ar ôl rheoliad 7 (cais i gynnwys enw ar y rhestr offthalmig) mewnosodwch - 

Diwygio rheoliad 8
    
5. Yn rheoliad 8 (tynnu enw oddi ar y rhestr offthalmig), yn lle paragraff (2) rhowch - 

Mewnosod rheoliadau newydd
    
6. Ar ôl rheoliad 9 (tynnu enw oddi ar rhestr offthalmig) mewnosodwch y rheoliadau newydd canlynol - 

Amnewid rheoliad 12A
    
7. Yn lle rheoliad 12A (taliadau i gontractwyr sy'n cael eu hatal dros dro o dan gyfarwyddyd y Tribiwnlys), rhoddwch - 

Diwygio Atodlen 1
    
8.  - (1) Caiff Atodlen 1 (amodau gwasanaeth) ei diwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol.

    (2) Ar ôl paragraff 6 (cofnodion) mewnosodwch - 

Mewnosod Atodlen 1A
    
9. Ar ôl Atodlen 1, rhoddwch - 



Eithriadau
    
10.  - (1) Ac eithrio'r diwygiadu a wnaed i'r prif Reoliadau gan ddarpariaethau'r rheoliadau a restrwyd ym mharagraff (2) ("the listed amendments"), pan, trwy rinwedd rheoliad 6(3) o Reoliadau Diddymu'r Tribiwnlys bod achos yn parhau gerbron y Tribiwnlys ar ôl 31 Gorffennaf 2002, ni fydd y diwygiadau a restrwyd yn gymwys i ymarferwr meddygol offthalmig neu optegydd mewn perthynas ag achos yr ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd hyd nes bod yr achos wedi dirwyn i ben a bod y cyfnod ar gyfer apelio wedi dod i ben, neu bod unrhyw apêl wedi cael ei dynnu'n ôl neu bod yr ymarferydd meddygol offthalmig neu'r optegydd wedi diysbyddu ei hawliau i apelio, fel y digwydd.

    (2) At ddibenion paragraff (1) y diwygiadau a restrwyd yw'r rheini a wnaed gan - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
14]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Gorffennaf 2002



YR ATODLEN
Rheoliad 2(2)


Amnewid cyfeiriadau at Awdurdod Iechyd


Yn rheoliad 2(1) (dehongli),y diffiniad o "locality".

Rheoliad 6 (rhestr offthalmig)[
15].

Rheoliad 7 (cais i gynnwys enw ar restr offthalmig)[16].

Rheoliad 8 (tynnu enw oddi ar restr offthalmig).

Rheoliad 9 (tynnu enw oddi ar restr offthalmig)[17].

Rheoliad 10 (y Datganiad).

Rheoliad 11 (amodau gwasanaeth).

Rheoliad 12 (talu am wasanaethau)[18]).

Rheoliad 13A (profion llygaid  -  ceisiadau)[19].

Rheoliad 13B (profion llygaid sy'n cael eu trin fel profion)[20]).

Rheoliad 15 (cyhoeddi manylion).

Rheoliad 16 (cyflwyno dogfennau).

Yn Atodlen 1 (amodau gwasanaeth) - 

Paragraffau 4[21], 6[22], 7[23]), 8[24] a 9[25].



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 ("y prif Reoliadau"), sy'n rheoleiddio'r amodau y mae ymarferwyr meddygol offthalmig neu optegwyr yn darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ("Deddf 1977") er mwyn gweithredu rhai darpariaethau yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2002.

Mae rheoliad 2 yn ychwanegu rhai diffiniadau ychwanegol i reoliad 2 y prif Reoliadau.

Mae rheoliad 3 yn mewnosod rheoliadau 7A i 7D newydd.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 8 o'r prif Reoliadau er mwyn nodi'r amgylchiadau ychwanegol pan na all ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd dynnu eu henwau oddi ar y rhestr offthalmig, heb ganiatâd y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 9 o'r prif Reoliadau er mwyn ychwanegu rhesymau ychwanegol ar gyfer tynnu'n orfodol ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd oddi ar y rhestr.

Mae rheoliad 6 yn ychwanegu rheoliadau 9A i 9H newydd er mwyn rhoi effaith i adrannau 49F i 49R o'r Ddeddf.

Mae rheoliad 6 yn amnewid rheoliad 12A newydd yn y prif Reoliadau am fod y pwcircer y mae'n ddibynnol arno, sef adran 49E o'r Ddeddf wedi'i diddymu yn y Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Atodlen 5, paragraff 5. Yn hytrach gwneir darpariaethau newydd ar gyfer talu ymarferwyr sydd wedi'u hatal dros dro.

Mae rheoliad 6 hefyd yn mewnosod rheoliad 12B newydd yn y prif Reoliadau. Mae hwn yn ei gwneud hi'n ofynnol i ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd hysbysu Awdurdod Iechyd os yw'r ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd yn gwneud cais i gael ei gynnwys ar restr Awdurdod Iechyd arall.

Mae rheoliad 7 yn diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (amodau gwasanaeth Ymarferwyr Cyffredinol).

Mae rheoliad 8 yn ychwanegu Atodlen 1A i'r prif Reoliadau (gwybodaeth ac ymgymeriadau sydd i'w rhoi wrth wneud cais i gynnwys enw ar y rhestr offthalmig). Mae hyn yn darparu ar gyfer darparu gwybodaeth benodedig. Mae angen ymgymeriad y bydd yr ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd yn hysbysu'r Awdurdod Iechyd am unrhyw newidiadau i'r wybodaeth a ddarparwyd gyda'r cais, ac i barhau i gyflenwi gwybodaeth ragnodedig i'r Awdurdod Iechyd unwaith y byddant wedi'u cynnwys. Mae angen hefyd i'r ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd gydsynio i gais gan yr Awdurdod Iechyd yn gofyn i gorff rheoliadol yr ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd i roi gwybodaeth benodedig i'r Awdurdod Iechyd.


Notes:

[1] 1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19), adran 26(2)(g) ac (i), ar gyfer y diffiniadau o "prescribed" a "regulations". Cafodd adran 38 ei diwygio gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) ("the Health Services Act"), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 51; gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) ("the Health and Social Security Act"), adran 1(3); gan O.S. 1985/39, erthygl 7(11); gan Ddeddf Iechyd a Moddion/Meddygaeth 1988 (p.49) ("the Health and Medicines Act"), adran 13(1); a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("the Health Authorities Act"), Atodlen 1, paragraff 27. Cafodd adran 39 ei hymestyn gan Ddeddf Iechyd a Meddygaeth, adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf y Gwasanaethau Iechyd, adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 52; gan Ddeddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, adran 1(4), Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 1 ac Atodlen 8, Rhan I; gan O.S. 1985/39, erthygl 7(12); gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd, Atodlen 1, paragraff 28; gan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8), adran 9(4) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15), ("the 2001 Act") adran 20(5) a 23(4). O safbwynt Cymru mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 38, 39 a 126(4) o Ddeddf 1977 yn cael eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2 o, ac Atodlen 1 i, Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672; mae adran 68 o Ddeddf 2001 yn darparu y dylai Atodlen 1 gael ei dehongli fel ei bod yn cynnwys y diwygiadau a wnaed gan y Ddeddf honno i Ddeddf 1977, sef adrannau 43ZA a 49F i 49R; felly mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn i Gymru yn unig.back

[2] 2001 p.15.back

[3] O.S. 1986/975; y Rheoliadau diwygio perthnasol yw 1988/486, 1989/395, 1990/1051, 1991/583, 1992/404, 1995/558, 1996/705, 1996/2320, 1999/2562, 1999/2841 a 2001/414.back

[4] O.S. 2002/1920back

[5] Mewnosodwyd adran 49S gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15), adran 27(1).back

[6] Gellir cysylltu â Gwasanaeth Gwrth-dwyll y Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy ysgrifennu atynt yn Hannibal House, Elephant and Castle, Llundain SE1 6TE, neu yrru e-bost i DCFS@doh.gov.UK.back

[7] 1997 p.46.back

[8] Amnewidiwyd adran 46 gan Ddeddf Iechyd 1999 p.8.back

[9] 1997 p. 51.back

[10] 1984 p.22.back

[11] 1952 p.52back

[12] 1997 p.51.back

[13] Mae'r Awdurdod Asesu Clinigol Cenedlaethol yn Awdurdod Iechyd arbennig a sefydlwyd o dan adran 11 o'r Ddeddf gan O.S. 2000/2961.back

[14] 1998 p.38.back

[15] Diwygiwyd rheoliad 6 gan O.S. 1996/705.back

[16] Diwygiwyd rheoliad 7 gan O.S. 1996/705.back

[17] Diwygiwyd rheoliad 9 gan O.S. 1996/705.back

[18] Diwygiwyd rheoliad 12 gan O.S. 1989/395 a 1996/705.back

[19] Mewnosodwyd rheoliad 13A gan O.S. 1989/395.back

[20] Mewnosodwyd rheoliad 13B gan O.S. 1989/395.back

[21] Diwygiwyd paragraff 4 gan O.S. 1988/486.back

[22] Diwygiwyd paragraff 6 gan O.S. 1988/486.back

[23] Diwygiwyd paragraff 7 gan O.S. 1988/486 a 1996/705.back

[24] Diwygiwyd paragraff 8 gan O.S. 1988/486 a 1999/705.back

[25] Diwygiwyd paragraff 9 gan O.S. 1990/1051.back



English version



ISBN 0 11090564 4


  Prepared 3 September 2002


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2002/20021883w.html