BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 140 (Cy.12)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030140w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 140 (Cy.12)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Diwygio) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 28 Ionawr 2003 
  Yn dod i rym 1 Mawrth 2003 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 218(1)(a), (2), 232(5) a (6) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[1], ac adran 10(1) a (2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[2] sydd bellach wedi eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[3], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enw, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999
    
2. Mae Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999[4]) yn cael eu diwygio fel a ganlyn: - 

Diwygio Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Cymru) 2000
     3. Mae Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Cymru) 2000[5] yn cael eu diwygio trwy roi yn lle'r diffiniad o "athro neu athrawes gymwysedig" yn rheoliad 2 y diffiniad canlynol - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Ionawr 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999 er mwyn galluogi Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru i benderfynu a yw categorïau penodol o bersonau yn athrawon cymwysedig. Mae'r rhain yn cynnwys person sydd wedi cwblhau cwrs hyfforddiant cychwynnol i athrawon yng Nghymru, yr Alban neu yng Ngogledd Iwerddon; person sydd yn cael ei adnabod fel athro neu athrawes yng Ngogledd Iwerddon; person sydd wedi ei gofrestru gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban; athro neu athrawes ysgol o Ardal Economaidd Ewrop; a pherson sydd wedi ei argymell ar gyfer statws athro neu athrawes gymwysedig gan Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiad canlyniadol i'r diffiniad o "athro neu athrawes gymwysedig" yn Rheoliadau Cymhellion Hyfforddi Athrawon (Cymru) 2000.


Notes:

[1] 1988 p.40. Diwygiwyd adran 232(6) gan adran 14 o Ddeddf Addysg 1994 a pharagraff 6 o Atodlen 3 ac Atodlen 4 i Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30).back

[2] 1998 p.30.back

[3] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau)1999 (O.S. 1999/672).back

[4] O.S 1999/2817 (Cy.18) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2938(Cy.279).back

[5] O.S. 2000/ 2560 (Cy. 169).back

[6] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11090631 4


 
© Crown copyright 2003
Prepared 7 February 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030140w.html