BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 Rhif 148 (Cy.18)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030148w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 148 (Cy.18)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003

  Wedi'i wneud 29 Ionawr 2003 
  Yn dod i rym 10 Chwefror 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16BA, is-adrannau (1), (2) a (3) a 126(4) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1], ac Atodlen 5B, paragraffau 1 a 2 i'r Ddeddf honno, sy'n arferadwy ganddo mewn perthynas â Chymru[2], yn gwneud y Gorchymyn canlynol - 

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 10 Chwefror 2003.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn - 

Sefydlu Byrddau Iechyd Lleol
     3. Sefydlir drwy hyn, gydag effaith o'r dyddiad sefydlu, y Byrddau Iechyd Lleol a restrwyd yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn a gaiff eu galw yn ôl yr enwau a briodolir iddynt yn yr Atodlen honNo.

Natur Byrddau Iechyd Lleol
    
4. Sefydlir bob Bwrdd Iechyd Lleol at y dibenion a nodir yn adran 16BA (1) o Ddeddf 1977.

Ardaloedd Byrddau Iechyd Lleol
    
5.  - (1) Bydd pob ardal Bwrdd Iechyd Lleol yr un â'r brif ardal llywodraeth leol a bennir iddi yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a bydd iddi'r un ffiniau.

    (2) Os caiff y brif ardal llywodareth leol a bennir i Fwrdd Iechyd Lleol o dan baragraff (1) uchod ei hamrywio, caiff ardal y Bwrdd Iechyd Lleol ei amrywio yn unol â hynny.

    (3) Nid yw paragraff (2) uchod yn gymwys mewn perthynas â chreu prif ardal llywodraeth leol newydd, diddymu prif ardal llywodraeth leol sydd eisoes yn bodoli neu uno dwy brif ardal llywodraeth leol neu fwy.

Dyddiad gweithredol a dyddiad cyfirfyddu Byrddau Iechyd Lleol
    
6.  - (1) Dyddiad gweithredol bob Bwrdd Iechyd Lleol fydd 1 Ebrill 2003.

    (2) Dyddiad cyfrifyddu bob Bwrdd Iechyd Lleol fydd 31 Mawrth.

Swyddogaethau cyfyngedig cyn y dyddiad gweithredu
    
7. Rhwng ei ddyddiad sefydlu a'i ddyddiad gweithredu, bydd gan bob Bwrdd Iechyd Lleol y swyddogaethau canlynol - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Ionawr 2003



YR ATODLEN
Erthygl 3 Erthygl 5


Enwau Byrddau Iechyd Lleol a phrif ardaloedd llywodraeth leol y maent yn cael eu sefydlu ar eu cyfer


Enwau Byrddau Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan erthygl 3 Y brif ardal llywodraeth leol y mae'r Bwrdd Iechyd Lleol yn cael ei sefydlu ar ei chyfer
     1. Bwrdd Iechyd Lleol Ynys Môn

Ynys Môn
     2. Bwrdd Iechyd Lleol Gwynedd

Gwynedd[5]
     3. Bwrdd Iechyd Lleol Caerdydd

Caerdydd
     4. Bwrdd Iechyd Lleol Ceredigion

Ceredigion[6]
     5. Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin

Sir Gaerfyrddin
     6. Bwrdd Iechyd Lleol Sir Ddinbych

Sir Ddinbych
     7. Bwrdd Iechyd Lleol Sir y Fflint

Sir y Fflint
     8. Bwrdd Iechyd Lleol Sir Fynwy

Sir Fynwy
     9. Bwrdd Iechyd Lleol Sir Benfro

Sir Benfro
     10. Bwrdd Iechyd Lleol Powys

Powys
     11. Bwrdd Iechyd Lleol Abertawe

Abertawe
     12. Bwrdd Iechyd Lleol Conwy

Conwy[7]
     13. Bwrdd Iechyd Lleol Blaenau Gwent

Blaenau Gwent
     14. Bwrdd Iechyd Lleol Pen-y-bont ar Ogwr

Pen-y-bont ar Ogwr
     15. Bwrdd Iechyd Lleol Caerffili

Caerffili
     16. Bwrdd Iechyd Lleol Merthyr Tudful

Merthyr Tudful
     17. Bwrdd Iechyd Lleol Castell-nedd/Port Talbot

Castell-nedd a Phort Talbot
     18. Bwrdd Iechyd Lleol Casnewydd

Casnewydd
     19. Bwrdd Iechyd Lleol Rhondda Cynon Tâf

Rhondda Cynon Tâf
     20. Bwrdd Iechyd Lleol Tor-faen

Tor-faen
     21. Bwrdd Iechyd Bro Morgannwg

Bro Morgannwg
     22. Bwrdd Iechyd Lleol Wrecsam

Wrecsam



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Roedd y ddogfen strategaeth Gwella Iechyd yng Nghymru, a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru fis Chwefror 2001, yn dynodi'r bwriad i ddiddymu'r pum Awdurdod Iechyd sydd eisoes yn bodoli yng Nghymru ar 1 Ebrill 2003 a chreu Byrddau Iechyd Lleol y gall y Cynulliad Cenedlaethol ddirprwyo iddynt swyddogaethau Awdurdodau Iechyd a drosglwyddwyd iddo yn unol ag adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (1998 p.38), a swyddogaethau eraill y Cynulliad Cenedlaethol sy'n ymwneud â'r gwasanaeth iechyd.

Mae'r Gorchymyn hwn yn sefydlu Byrddau Iechyd Lleol fel y darperir ar gyfer hynny yn adran 16BA o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (1977 p. 49) ac Atodlen 5B iddi ac mae'n nodi'r ardaloedd y maent wedi'u sefydlu ar eu cyfer. Y bwriad yw y bydd gan Fyrddau Iechyd Lleol yr un ffiniau ag ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru. Mae'r Gorchymyn hefyd yn darparu ar gyfer swyddogaethau interim Byrddau Iechyd Lleol rhwng dyddiadau eu sefydlu a'u dyddiadau gweithredol ac yn nodi eu dyddiadau cyfrifyddu.

Mae Awdurdod Iechyd Cymru yn cael eu diddymu drwy Orchymyn sy'n cael ei wneud yn unol ag adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998.

Mewn perthynas ag aelodaeth a chyfansoddiad Byrddau Iechyd Lleol, gweler Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/149, (Cy.19)).

Mewn perthynas â'r swyddogaethau a ddirprwywyd i Fyrddau Iechyd Lleol, gweler Reoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/150, (Cy.20)).


Notes:

[1] 1977 p.49, fel y'i diwygiwyd. Y diwygiadau perthnasol at ddiben y Gorchymyn hwn yw'r rhai a wnaed gan adran 6 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (2002 p.17) ac Atodlenni 4 a 5 iddi.back

[2] Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo of Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672), fel y caiff ei ddarllen gydag adran 40 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002.back

[3] 1972 p.70. Amnewidiwyd Rhannau I a II o Atodlen 4 gan Ddeddf Lywodraeth Leol (Cymru) 1994 (1994 p.19).back

[4] 1998 p.38.back

[5] Yr enw a ddefnyddir i ddisgrifio'r ardal hon yn Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yw "Caernarfonshire and Merionethshire".back

[6] Yr enw a ddefnydir i ddisgrifio'r ardal hon yn Atodlen 4 i Ddeddf Llywodrateh Leol 1972 yw "Cardiganshire".back

[7] Yr enw a ddefnyddir i ddisgrifio'r ardal hon yn Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yw "Aberconwy and Colwyn".back



English version



ISBN 0 11090666 7


 
© Crown copyright 2003
Prepared 12 March 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030148w.html