OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 149 (Cy.19)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
29 Ionawr 2003 | |
|
Yn dod i rym |
10 Chwefror 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 16BC(2) a (3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a pharagraffau 6(1), a (2) o Atodlen 5B iddi[1] sy'n arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol[2] mewn perthynas â Chymru, yn gwneud y Rheoliadau canlynol -
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 10 Chwefror 2003.
Dehongli
2.
Bydd y geiriau a'r ymadroddion canlynol yn dwyn yr ystyron canlynol -
mae "aelod" ("member") yn cynnwys cadeirydd ac is-gadeirydd, aelodau sy'n swyddogion ac nad ydynt yn swyddogion, aelodau cyswllt ac aelodau cyfetholedig Bwrdd;
ystyr "aelod awdurdod lleol" ("local authority member") yw aelod o Fwrdd sy'n cael ei enwebu gan yr awdurdod lleol ar gyfer ardal y Bwrdd hwnnw;
ystyr "aelodau cyntaf" ("first members") yw'r personau hynny a benodir gyntaf fel aelodau'r Bwrdd yn union ar ôl iddo gael ei sefydlu;
ystyr "aelod cysgodol" ("shadow member") yw person a enwir i fod yn un o aelodau cyntaf Bwrdd ar ddyddiad dod i rym y Rheoliadau hyn;
ystyr "aelod nad yw'n swyddog" ("non-officer member") yw aelod o Fwrdd nad yw'n dal unrhyw swydd a nodir yn rheoliad 3(3);
ystyr "aelod sy'n swyddog" ("officer member") yw aelod sy'n dal unrhyw swydd a nodir yn rheoliad 3(3);
ystyr "ardal y Bwrdd" ("Board's area") yw'r ardal y mae Bwrdd yn cael ei sefydlu ar ei chyfer fel y nodir yng Ngorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 [3], fel y gellir amrywio ardal o'r fath o bryd i'w gilydd;
ystyr "awdurdod lleol" ("local authority") yw cyngor neu gyngor bwrdeistref yng Nghymru;
ystyr "Bwrdd" ("Board") yw Bwrdd Iechyd Lleol;
ystyr "corff gwasanaeth iechyd" ("health service body") yw Awdurdod Iechyd, Awdurdod Iechyd Arbennig, Awdurdod Iechyd Strategol, Bwrdd Iechyd Lleol, Ymddiredolaeth GIG neu Ymddiredolaeth Gofal Sylfaenol;
ystyr "Cynulliad" ("Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "Cyngor Iechyd Cymuned" ("Community Health Council") yw Cyngor Iechyd Cymuned a sefydlwyd yng Nghymru yn unol ag adran 20 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977;
ystyr "Deddf 1977" ("1977 Act") yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977;
ystyr "gofalwr" ("carer") yw person 16 oed neu drosodd sy'n darparu neu sydd wedi darparu cyfran sylweddol o ofal a hynny'n rheolaidd i berson arall, heblaw drwy rinwedd contract cyflogaeth neu gontract arall gydag unrhyw berson, neu fel gwirfoddolwr i gorff gwirfoddol;
bydd i "proffesiwn gofal iechyd" ("health care profession") yr un ystyr ag a roddir iddo yn adran 25(12) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002;
ystyr "ymarferydd meddygol cyffredinol" ("general medical practitioner") yw ymarferydd meddygol cyffredinol sy'n darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ran II o Ddeddf 1977 neu wasanaethau meddygol personol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997[4];
RHAN I
Aelodaeth
Aelodaeth Byrddau Iechyd Lleol
3.
- (1) Bydd Bwrdd wedi ei ffurfio o'r aelodau a ddisgrifir yn y Rheoliadau hyn.
(2) Yr aelodau sy'n swyddogion fydd -
(a) y prif swyddog;
(b) y swyddog meddygol;
(c) y swyddog cyllid; ac
(ch) y swyddog nyrs.
(3) Yr aelodau nad ydynt yn swyddogion fydd -
(a) y cadeirydd;
(b) yr is-gadeirydd;
(c) hyd at bedwar aelod awdurdod lleol, y mae'n rhaid i o leiaf un ohonynt fod yn aelod etholedig o gyngor yr awdurdod lleol hwnnw, a rhaid i un ohonynt fod yn uwch-swyddog gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol hwnw;
(ch) arbenigydd iechyd y cyhoedd;
(d) hyd at dri aelod ymarferydd meddygol cyffredinol;
(dd) aelod fferyllydd;
(e) aelod ymarferydd deintyddol;
(f) aelod optometrydd;
(ff) aelod nyrsio, bydwreigiaeth neu ymwelydd iechyd;
(g) aelod therapi;
(ng) hyd at ddau aelod o'r sector gwirfoddol;
(h) hyd at ddau aelod lleyg o'r gymuned, y mae'n rhaid i un ohonynt fod yn ofalwr; a
(i) pedwar aelod cyswllt.
(4) Yn ychwanegol at at yr aelodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) uchod, caiff y Bwrdd o bryd i'w gilydd benodi cyfryw aelodau cyfetholedig sydd yn ei farn ef yn angenrheidiol neu'n briodol er mwyn i'r Bwrdd gyflawni ei swyddogaethau.
Penodi aelodau Byrddau Iechyd Lleol
4.
- (1) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i benodiad yr aelodau cyntaf.
(2) Bydd y Cynulliad yn penodi'r cadeirydd ac, os yw o'r farn ei fod yn briodol, is-gadeirydd Bwrdd.
(3) Penodir yr holl aelodau (heblaw'r cadeirydd, is-gadeirydd a'r aelodau cyfetholedig) gan y Bwrdd yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Cynulliad.
(4) Penodir aelodau cyfetholedig gan y Bwrdd, a fydd yn rhoi sylw i unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan y Cynulliad o dro i dro ynghylch penodiadau.
(5) Rhaid i'r person neu'r personau sy'n gyfrifol am wneud unrhyw bendodiad o dan baragraff (3) sicrhau, cyn iddynt wneud unrhyw benodiad o'r fath, y cydymffurfir â darpariaethau Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn (i'r graddau y maent yn gymwys i'r penodiad), a rhaid iddynt barchu unrhyw gyfarwyddyd a ddyroddir gan y Cynulliad o bryd i'w gilydd ynghylch penodiadau.
Trefniadau trosiannol ar gyfer penodi aelodau cyntaf Bwrdd Iechyd Lleol
5.
- (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i benodiad aelodau cyntaf Bwrdd yn unig.
(2) Rhaid i gadeirydd cyntaf Bwrdd (ac is-gadeirydd os oes un i gael ei benodi gan y Cynulliad) fod y person neu bersonau a ddynodir gan y Cynulliad i ddal swydd neu swyddi o'r fath ar y dyddiad pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym.
(3) Rhaid i brif swyddog cyntaf Bwrdd fod y person a ddynodwyd gan y Cynulliad i ddal swydd o'r fath ar y dyddiad pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym.
(4) Rhaid i aelodau cyntaf Bwrdd (heblaw am y cadeirydd, is-gadeirydd neu brif swyddog) fod y personau hynny a ddynodir gan y Cynulliad i ddal y swyddi o aelodau ar y dyddiad pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym.
(5) Os oes unrhyw swydd wag (heblaw mewn perthynas â swydd cadeirydd neu is-gadeirydd) yn aelodaeth y Bwrdd ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym, caiff y Bwrdd benodi aelodau i unrhyw swydd wag o'r fath yn unol â darpariaethau rheoliad 4.
Gofynion i fod yn gymwys i fod yn aelod o Fwrdd Iechyd Lleol
6.
Rhaid i unrhyw berson sy'n gwneud cais i fod yn aelod o Fwrdd fodloni'r gofynion ar gyfer bod yn gymwys a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn cyn y gall person o'r fath gael ei benodi'n aelod.
Cyfnod penodiad aelodau cyfetholedig
7.
Ni chaiff aelodau cyfetholedig eu penodi am gyfnod sy'n hwy na blwyddyn a ni chânt eu hailbenodi pan ddaw eu tymor i ben oni bai fod y Bwrdd yn penderfynu bod ailbenodiad o'r fath yn angenrheidiol neu'n hwylus i'r Bwrdd gyflawni ei swyddogaethau.
Terfynu penodiad ac atal dros dro aelodau sy'n swyddogion
8.
- (1) Os bydd y cadeirydd ac aelodau nad ydynt yn swyddogion yn penderfynu nad yw o fudd i'r Bwrdd i berson sy'n aelod fel swyddog barhau i ddal ei swydd fel aelod o'r fath, gallant derfynu cyfnod dal swydd y person hwnnw ar unwaith.
(2) Os bydd yr aelodau sy'n swyddogion (heblaw aelod sy'n swyddog ac sy'n destun hysbysiad i'r cadeirydd o dan y paragraff hwn) yn hysbysu'r cadeirydd eu bod o'r farn na ddylai person sy'n aelod fel swyddog barhau i ddal swydd fel aelod o'r fath, gall y cadeirydd ac aelodau nad ydynt yn swyddogion y Bwrdd derfynu cyfnod dal swydd y person hwnnw os ydynt o'r farn nad yw o fudd i'r Bwrdd i'r person hwnnw barhau i ddal y swydd.
(3) Os bydd y cadeirydd ac aelodau nad ydynt yn swyddogion o dan baragraff (2) yn terfynu cyfnod dal swydd aelod sy'n swyddog neu'n penderfynu y dylai person o'r fath barhau i ddal swydd, rhaid iddynt hysbysu'r Cynulliad yn ddiymdroi yn ysgrifenedig, gan ddatgan y rhesymau am eu penderfyniad.
(4) Pan fo person wedi cael ei benodi i fod yn aelod sy'n swyddog -
(a) os daw'n hysbys i'r cadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion bod y person bellach yn anghymwys i gael ei benodi o dan Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, rhaid iddynt hysbysu'r person a'r Cynulliad yn ysgrifenedig a hynny'n ddiymdroi am anghymwyster o'r fath; neu
(b) os daw'n hysbys i'r cadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion bod y person yn anghymwys felly ar adeg ei benodi, rhaid iddynt hysbysu'r person a'r Cynulliad yn ysgrifenedig a hynny'n ddiymdroi o'u barn na chafodd y person ei benodi yn briodol;
ac, yn dilyn hysbysiad o'r fath, gall y cadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion derfynu cyfnod dal swydd y person hwnnw a bydd y person hwnnw yn peidio â gweithredu fel aelod sy'n swyddog.
(5) Os yw'n ymddangos i'r cadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion bod aelod sy'n swyddog wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 15, gallant derfynu cyfnod dal swydd y person hwnnw a bydd y person hwnnw yn peidio â bod yn aelod sy'n swyddog.
(6) Os yw person sy'n aelod sy'n swyddog wedi methu â mynychu cyfarfod o'r Bwrdd am gyfnod o dri mis, rhaid i'r cadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion derfynu cyfnod dal swydd y person hwnnw oni bai eu bod yn fodlon -
(a) mai achos rhesymol oedd y rheswm dros yr absenoldeb; a
(b) y bydd modd i'r person fynychu cyfarfodydd o'r fath o fewn cyfnod o'r fath sydd yn rhesymol ym marn y cadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion.
(7) Cyn iddynt wneud eu penderfyniad terfynol ynghylch terfynu cyfnod dal swydd aelod sy'n swyddog, gall y cadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion, os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol i wneud hynny, atal dros dro cyfnod dal swydd aelod sy'n swyddog am gyfnod o'r fath sydd yn eu barn hwy yn rhesymol cyn eu bod yn gwneud eu penderfyniad terfynol.
(8) Os bydd y cadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion yn penderfynu atal dros dro gyfnod dal swydd aelod sy'n swyddog, rhaid iddynt hysbysu'r Cynulliad yn ysgrifnedneig a hynny'n ddiymdroi, gan ddatgan y rhesymau am eu pednerfyniad.
(9) Rhaid i aelod sy'n swyddog y mae ei gyfnod dal swydd yn cael ei atal dros dro gael ei atal dros dro hefyd rhag cyflawni swyddogaethau aelod, a bydd aelod sy'n swyddog y mae ei gyfnod dal swydd yn cael ei derfynu yn peidio â bod yn aelod.
Terfynu penodiad ac atal dros dro aelodau nad ydynt yn swyddogion
9.
- (1) Os bydd y Bwrdd yn penderfynu -
(a) nad yw o fudd i'r gwasanaeth iechyd yn yr ardal y mae'r Bwrdd yn gweithredu ynddi; neu
(b) nad yw'n gydnaws â rheolaeth dda y Bwrdd,
i berson a benodwyd i ddal swydd fel aelod nad yw'n swyddog o'r Bwrdd hwnnw barhau i ddal y swydd honno, gall y Bwrdd, gyda chaniatâd y Cynulliad, derfynu aelodaeth y person hwn yn ddiymdroi.
(2) Pan fo person wedi'i benodi yn aelod nad yw'n swyddog -
(a) os daw'n hysbys i'r Bwrdd bod y person bellach yn anghymwys i gael ei benodi o dan Ran 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, rhaid i'r Bwrdd hysbysu'r person hwnnw a'r Cynulliad yn ddiymdroi a hynny'n ysgrifenedig o anghymwysedd o'r fath, neu
(b) os daw'n hysbys i'r Bwrdd bod y person yn anghymwys felly ar adeg ei benodi, rhaid i'r Bwrdd yn ddiymdroi hysbysu'r person a'r Cynulliad yn ysgrifenedig am yr anghymwysiad hwnnw,
caiff y Bwrdd, gyda chydsyniad blaenorol y Cynulliad, derfynu aelodaeth y person hwnnw yn ddiymdroi a bydd y person hwnnw yn peidio â gweithredu fel y cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod nad yw'n swyddog arall.
(3) Os yw'n ymddangos i'r Bwrdd bod aelod nad yw'n swyddog wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 15, gall y Bwrdd, gyda chaniatâd y Cynulliad, derfynu aelodaeth y person hwnnw yn ddiymdroi.
(4) Os yw aelod nad yw'n swyddog wedi methu â mynychu cyfarfod o'r Bwrdd am gyfnod o dri mis, rhaid i'r Bwrdd derfynu aelodaeth y person hwnnw oni bai ei fod yn fodlon bod -
(a) yr absenoldeb o ganlyniad i achos rhesymol; a
(b) y bydd modd i'r person fynychu cyfarfodydd o'r fath o fewn cyfnod o'r fath sydd ym marn y Bwrdd yn rhesymol.
(5) Cyn gwneud penderfyniad terfynol ynghylch terfynu aelodaeth unrhyw aelod nad yw'n swyddog gall y Bwrdd, os yw o'r farn ei bod yn briodol gwneud hynny, atal dros dro aelodaeth aelod nad yw'n swyddog am gyfnod sydd yn ei farn ef yn rhesymol cyn iddo wneud ei benderfyniad terfynol.
(6) Os bydd y Bwrdd yn penderfynu atal dros dro aelodaeth aelod nad yw'n swyddog, rhaid iddo hysbysu'r Cynulliad yn ysgrifenedig yn ddiymdroi gan ddatgan ei resymau am ei benderfyniad.
(7) Bydd aelod nad yw'n swyddog y mae ei aelodaeth yn cael ei atal dros dro hefyd yn cael ei atal dros dro rhag cyflawni swyddogaethau aelod.
RHAN II
Trafodion a threfniadau gweinyddol Byrddau
Penodi is-gadeirydd
10.
- (1) Os nad oes is-gadeirydd wedi cael ei benodi gan y Cynulliad, yna yn ddarostyngedig i baragraff (2), gall y cadeirydd ac aelodau nad ydynt yn swyddogion o'r Bwrdd benodi un o'u plith, nad yw'n aelod sy'n swyddog o'r Bwrdd, i fod yn is-gadeirydd am gyfnod, nad yw'n hwy na gweddill ei dymor fel aelod o'r Bwrdd, ag y gallant ei bennu.
(2) Gall unrhyw aelod a benodwyd felly ymddiswyddo ar unrhyw adeg o'i swydd fel is-gadeirydd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r cadeirydd.
(3) Y dyddiad pan gaiff ymddiswyddiad drwy hysbysiad a roddwyd yn unol â pharagraff (2) effaith fydd -
(a) pan fo'r dyddiad wedi'i bennu yn yr hysbysiad fel y dyddiad pan fydd yr ymddiswyddiad i gael effaith, y dyddiad hwnnw; a
(b) mewn urnhyw achos arall, y dyddiad pan dderbynnir yr hysbysiad gan y cadeirydd.
Pwerau is-gadeirydd
11.
Pan -
(a) gaiff aelod Bwrdd ei benodi yn is-gadeirydd naill ai gan y Cynulliad neu o dan reoliad 10, a
(b) bod cadeirydd y Bwrdd wedi marw neu wedi peidio â dal swydd, neu yn methu â chyflawni dyletswyddau cadeirydd o ganlyniad i salwch, absenoldeb o Gymru a Lloegr neu unrhyw achos arall,
bydd yr is-gadeirydd yn gweithredu fel cadeirydd hyd nes y caiff cadeirydd newydd ei benodi neu bod y cadeirydd presennol yn ailafael yn nyletswyddau cadeirydd, yn ôl fel y digwydd; a dylid cymryd bod cyfeiriadau at y cadeirydd yn Atodlen 3, cyn belled nad oes cadeirydd all gyflawni dyletswyddau cadeirydd, yn cynnyws cyfeiriadau at yr is-gadeirydd.
Penodi pwyllgorau ac is-bwyllgorau
12.
Yn ddarostyngedig i gyfarwyddiadau y gall y Cynulliad eu rhoi, gall Bwrdd, ac os yw'n cael ei gyfarwyddo gan y Cynulliad, rhaid iddo -
(a) benodi pwyllgorau ar gyfer y Bwrdd, neu
(b) ynghyd ag un Bwrdd neu Ymddiredolaeth GIG neu fwy neu'r awdurdod lleol ar gyfer ardal y Bwrdd, benodi pwyllgorau ar y cyd neu is-bwyllgorau,
sy'n cynnwys yn rhannol neu'n gyfan gwbl aelodau'r Bwrdd neu gyrff gwasanaeth iechyd eraill neu bersonau nad ydynt yn aelodau o'r Bwrdd neu gyrff gwasanaeth iechyd eraill.
Cyfarfodydd a thrafodion
13.
- (1) Rhaid i gyfarfodydd a thrafodion Bwrdd gael eu cynnal yn unol â'r rheolau a nodwyd yn Atodlen 3 a'r Rheolau Sefydlog a wnaed o dan baragraff (2).
(2) Yn ddarostyngedig i'r rheolau hynny, rheoliad 16 ac unrhyw gyfarwyddiadau y gellir eu rhoi gan y Cynulliad rhaid i Fwrdd wneud, a gall amrywio neu ddiddymu, Rheolau Sefydlog ar gyfer rheoleiddio ei drafodion a'i fusnes; a gall Rheolau Seyfdlog o'r fath gynnwys darpariaeth ar gyfer eu hatal dros dro.
(3) Yn ddarostyngedig i gyfarwyddiadau y gellir eu rhoi gan y Cynulliad, caiff y Bwrdd -
(a) ar ei ben ei hun, neu
(b) yn achos pwyllgor neu is-bwyllgor o'r Bwrdd, gan y pwyllgor neu'r is-bwyllgor hwnnw, neu
(c) yn achos pwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlir ar y cyd â Byrddau eraill, Ymddiriedolaethau GIG neu'r awdurdod lleol ar gyfer ardal y Bwrdd, ar y cyd â'r Byrddau eraill hynny, yr Ymddiriedolaethau GIG neu'r awdurdod lleol,
wneud, amrywio a dirymu Rheolau Seyfdlog sy'n ymwneud â chworwm, trafodion a lleoliad cyfarfod pwyllgor neu is-bwyllgor ond, yn ddarostyngedig i unrhyw Reolau Sefydlog o'r fath, bydd y cworwm, trafodion a lleoliad y cyfarfod o'r math y gall y pwyllgor neu is-bwyllgor benderfynu arnynt.
Aelodau cyswllt ac aelodau cyfetholedig
14.
Ni chaiff aelodau cyswllt ac aelodau cyfetholedig bleidleisio mewn unrhyw gyfarfod o Fwrdd.
Analluedd aelodau o ganlyniad i fuddiant ariannol
15.
- (1) Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau canlynol o'r rheoliad hwn, os oes gan aelod o Fwrdd urnhyw fuddiant ariannol, uniongyrchol neu anuniongyrchol, mewn unrhyw gontract, contract arafaethedig neu fater arall a'i fod yn bresennol mewn cyfarfod o'r Bwrdd lle mae'r contract, contract arfaethedig neu fater arall yn destun ystyriaeth, rhaid i'r Aelod hwnnw ddatgelu hynny yn y cyfarfod a hynny cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol wedi i'r cyfarfod ddechrau ac ni chaiff gymryd rhan yn yr ystyriaeth neu drafodaeth o'r contract, contract arfaethedig neu fater arall neu bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sy'n ymwneud ag ef.
(2) Gall y Cynulliad, yn ddarostyngedig i amodau o'r fath y mae'n addas yn ei farn ef eu gosod, godi unrhyw analluedd a osodwyd gan y rheoliad hwn mewn unrhyw achos pan fo'n ymddangos i'r Cynulliad y byddai o fudd i'r gwasanaeth iechyd i wneud hynny.
(3) Gall Bwrdd, drwy Reol Sefydlog a wnaed o dan reoliad 13(2) ddarparu ar gyfer eithrio unrhyw aelod o gyfarfod o'r Bwrdd tra bo unrhyw gontract, contract arfaethedig neu fater arall y mae gan yr aelod hwnnw fuddiant ariannol ynddo, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, o dan ystyriaeth.
(4) Ni chaiff unrhyw dâl, iawndal neu lwfans sy'n daladwy i aelod drwy rinwedd paragraff 12 o Atodlen 4 i Ddeddf 1977 ei drin fel buddiant ariannol at ddiben y rheoliad hwn.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (6), caiff aelod ei drin at ddibenion y rheoliad hwn fel pe bai ganddo fuddiant ariannol anuniongyrchol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall os yw aelod o'r fath, neu unrhyw un a enwebir gan aelod o'r fath -
(a) yn gyfarwyddwr cwmni neu'n swyddog o fath arall cwmni neu gorff, nad yw'n gorff cyhoeddus, y gwnaed y contract ag ef neu y bwriedir ei wneud ag ef neu y mae ganddo fuddiant ariannol uniongyrchol yn y mater o dan ystyriaeth; neu
(b) yn berson y gwnaed y contract gydag ef neu y bwriedir ei wneud gydag ef, neu y mae ganddo fuddiant ariannol uniongyrchol yn y mater o dan ystyriaeth, neu y mae'n bartner i berson o'r fath, neu'n cael ei gyflogi gan berson o'r fath;
ac yn achos personau sy'n briod â'i gilydd neu sy'n cyd-fyw fel pobl briod (p'un a ydynt o wahanol ryw neu beidio), caiff buddiant un ohonynt, os ydyw'n wybyddus i'r llall, ei ystyried at ddiben y rheoliad hwn fel pe bai hefyd yn fuddiant sy'n perthyn i'r llall.
(6) Ni chaiff aelod gael ei drin fel pe bai ganddo fuddiant ariannol mewn unrhyw gontract, contract arfaethedig neu fater arall am y rhesymau canlynol yn unig -
(a) bod yr aelod hwnnw yn aelod o gwmni neu gorff arall os nad oes gan yr aelod hwnnw unrhyw fuddiant buddiol mewn unrhyw warantau y cwmni neu'r corff hwnnw; neu
(b) bod ganddo fuddiant mewn unrhyw gwmni, corff neu berson y mae gan aelod o'r fath gysylltiad ag ef fel y crybwyllir ym mharagraff (5) sydd mor wan neu ansylweddol fel nad oes modd ei ystyried yn rhesymol y byddai'n debygol o ddylanwadu ar aelod wrth ystyried neu drafod neu bleidleisio ar, unrhyw gwestiwn mewn perthynas â'r contract hwnnw, contract arfaethedig neu fater.
(7) Pan fo gan aelod fuddiant ariannol anuniongyrchol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall a hynny'n unig oherwydd bod ganddo fuddiant buddiol mewn gwarannau cwmni neu gorff arall, ac -
(a) nad yw cyfanswm gwerth tybiannol y gwarannau hynny yn fwy na £5,000 neu un rhan o gant cyfanswm gwerth tybiannol y cyfalaf cyfranddaliadau a ddyroddwyd y cwmni neu gorff, p'un bynnag yw'r isaf, a
(b) os yw'r cyfalaf cyfranddaliadau yn perthyn i fwy nag un dosbarth, nad yw cyfanswm gwerth tybiannol cyfranddaliadau unrhyw ddosbarth y mae gan yr aelod fuddiant buddiol ynddo yn fwy na un rhan o gant cyfanswm y cyfalaf cyfranddaliadau a ddyroddwyd y dosbarth hwnnw,
ni fydd y rheoliad hwn yn gwahardd yr aelod hwnnw rhag cymryd rhan wrth i'r contract, contract arfaethedig neu fater arall gael ei ystyried neu ei drafod na rhag pleidleisio ar unrhyw gwestiwn mewn perthynas ag ef.
(8) Nid yw paragraff (7) yn effeithio ar ddyletswydd aelod i ddatgelu buddiant o dan baragraff (1).
(9) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phwyllgor neu is-bwyllgor ac i gyd bwyllgor neu is-bwyllgor fel y mae'n gymwys mewn perthynas â Bwrdd, ac mae'n gymwys i aelod unrhyw bwyllgor, is-bwyllgor neu gyd-bwyllgor o'r fath (p'un a ydyw person o'r fath hefyd yn aelod o Fwrdd ai peidio) fel y mae'n gymwys i aelod o Fwrdd.
(10) Yn y rheoliad hwn -
mae "corff cyhoeddus" ("public body") yn cynnwys unrhyw gorff a sefydlwyd at y diben o gyflawni, o dan berchnogaeth genedlaethol, unrhyw ddiwydiant neu ran o unrhyw ddiwydiant neu ymgymeriad, corff llywodraethu unrhyw brifysgol, coleg prifysgol neu goleg, ysgol neu neuadd brifysgol a'r Ymddiredolaeth Genedlaethol ar gyfer Mannau o Ddiddordeb Hanesyddol neu Harddwch Naturiol a ymgorfforwyd gan Ddeddf yr Ymddiredolaeth Genedlaethol 1907[5];
ystyr "gwarannau" ("securities") yw -
(a) cyfranddaliadau neu ddebenturau, p'un a ydynt yn cynnwys tâl ar asedau cwmni neu gorff arall, neu hawliau neu log mewn unrhyw gyfranddaliad neu ddebentur; neu
(b) hawliau (boed yn wirioneddol neu'n amodol) mewn perthynas ag arian a fenthycwyd i, neu a adneuwyd gyda, unrhyw gymdeithas ddiwydiannol neu ddarbodus neu gymdeithas adeiladu;
ystyr "cyfranddaliadau" ("shares") yw cyfranddaliadau yng nghyfalaf cyfranddaliadau cwmni neu gorff arall neu stoc cwmni neu gorff arall.
Trefniadau gan Fyrddau ar gyfer arfer eu swyddogaethau
16.
- (1) Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Cynulliad, gall unrhyw swyddogaeth sy'n arferadwy gan Fwrdd drwy drefniant â'r Bwrdd hwnnnw, ac yn ddarostyngedig i gyfyngiadau ac amodau o'r fath ag y gwêl y Bwrdd yn ddoeth, gael eu harfer -
(a) gan Fwrdd arall;
(b) gan Awdurdod Iechyd Arbennig;
(c) ar y cyd gydag un neu fwy o'r canlynol -
(i) awdurdodau lleol;
(ii) ymddiredolaethau GIG;
(iii) Awdurdodau Iechyd Strategol yn Lloegr;
(iv) Ymddiredolaethau Gofal Sylfaenol yn Lloegr; neu
(ch) ar ran y Bwrdd gan bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog o'r Bwrdd.
(2) Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan y Cynulliad, gall unrhyw swyddogaeth sy'n arferadwy gan Fwrdd ar y cyd ag un neu fwy o'r cyrff a restrir ym mharagraff (1)(c) drwy drefniant â chorff neu chyrff o'r fath gael ei harfer ar eu rhan ar y cyd gan gyd-bwyllgor neu is-bwyllgor.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
29 Ionawr 2003
ATODLEN 1Rheoliad 4(5)
Gweithdrefnau ar gyfer penodi swyddogion sy'n aelodau a swyddogion nad ydynt yn aelodau
(1) Mae'r Atodlen hon yn gymwys ar gyfer dethol a phenodi holl aelodau'r Bwrdd heblaw'r cadeirydd a'r is-gadeirydd, aelodau cyswllt, aelodau cyfetholedig a'r aelodau cyntaf.
(2) Rhaid i'r Bwrdd sicrhau bod trefniadau priodol yn cael eu cyflwyno ar gyfer dethol a phenodi personau yn aelodau a bod y trefniadau hynny yn cymryd i ystyriaeth -
(a) yr egwyddorion a osodir o dro i dro gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus[7] ac yng Nghod Ymarfer y Cynulliad ar Benodi Gweinidogion i Gyrff Cyhoeddus[8];
(b) y gofyniad i'r broses o ddethol a phenodi aelodau fod yn agored a thryloyw;
(c) y gofyniad ar gyfer cystadleuaeth deg ac agored wrth ddethol a phenodi aelodau; ac
(ch) yr angen i sichrau bod ymgeiswyr llwyddiannus yn bodloni'r gofynion cymhwyster a nodir yn Atodlen 2 a'u bod yn bodloni'r meini prawf ar gyfer dethol a'r safonau cymhwysedd a ddefnyddir gan y Bwrdd.
ATODLEN 2Rheoliad 6
Gofynion cymhwyster ar gyfer aelodau
RHAN
I
Gofynion cyffredinol
(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), (5) a (7), ni fydd person yn gymwys i gael ei benodi fel aelod os yw'r person hwnnw -
(a) wedi'i gael yn euog o fewn y pum mlynedd blaenorol yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw o unrhyw dramgwydd a'i fod wedi derbyn dedfryd o gael ei ddedfrydu i garchar (boed honno'n ddedfryd ohiriedig ai peidio) am gyfnod nad yw'n llai na thri mis heb y dewis o ddirwy
(b) wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr neu wedi gwneud cyfamod neu drefniant â chredydwyr;
(c) wedi cael ei orfodi i adael, heblaw drwy ddiswyddiad, unrhyw gyflogaeth gyflogedig gyda chorff gwasanaeth iechyd;
(ch) bod ei aelodaeth fel cadeirydd, aelod neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd wedi'i derfynu, heblaw o ganlyniad i ddiswyddiad, ymddiswyddiad gwirfoddol, ad-drefnu'r corff gwasanaeth iechyd, neu bod cyfnod mewn swydd y cafodd y person hwnnw ei phenodi iddi wedi dod i ben;
(d) (heblaw yn achos aelod cyswllt) yn gadeirydd neu'n gyfarwyddwr Ymddiredolaeth GIG.
(2) At ddibenion paragraff (1) (a) ystyrir mai dyddiad yr euogfarn yw'r dyddiad pan ddaw'r cyfnod arferol a ganiatier ar gyfer gwneud apêl neu gais mewn perthynas â'r euogfarn i ben neu, os gwneir apêl neu gais o'r fath, y dyddiad pan gaiff yr apêl ei gwblhau neu ei roi heibio neu'n methu o ganlyniad i beidio â'i erlyn.
(3) At ddibenion paragraff (1) (c), ni chaiff person ei drin fel pe bai wedi bod mewn cyflogaeth gyflogedig dim ond am ei fod wedi dal swydd cadeirydd, aelod neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd.
(4) Pan fo person yn anghymwys o ganlyniad i baragagarff (1) (b) -
(a) os caiff y methdaliad ei ddirymu ar y sail na ddylai'r person fod wedi cael ei ddyfarnu'n fethdalwr neu ar y sail bod dyledion y person wedi cael eu talu'n llawn, bydd y person hwnnw yn gymwys i gael ei benodi fel aelod ar ddyddiad y dirymu;
(b) os yw person yn cael ei ryddhau o fethdaliad, bydd y person hwnnw yn gymwys i gael ei benodi fel aelod ar ddyddiad y rhyddhau;
(c) os, ag yntau wedi gwneud cyfamod neu drefniant â chredydwyr, bod dyledion y person yn cael eu talu'n llawn, bydd y person hwnnw yn gymwys i gael ei benodi fel aelod ar y dyddiad pan gaiff y dyledion hynny eu talu'n llawn; ac
(ch) os, ag yntau wedi gwneud cyfamod neu drefniant â chredydwyr, bod y person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi fel aelod pan ddaw'r pum mlynedd o'r dyddiad pan fodlonwyd amodau'r weithred gyfamod neu drefniant i ben.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), pan fo person yn anghymwys o ganlyniad i baragraff (1) (c), gall y person hwnnw, ar ôl i ddwy flynedd o dyddiad y diswyddiad ddod i ben, wneud cais ysgrifenedig i'r Cynulliad i waredu'r anghymwysedd, a gall y Cynulliad gyfarwyddo y bydd yr anghymwysedd yn dod i ben.
(6) Pan fo'r Cynulliad yn gwrthod cais i dynnu anghymwysedd, ni all y person hwnnw wneud unrhyw gais pellach hyd nes bod dwy flynedd wedi dod i ben gan ddechrau â dyddiad gwneud y cais a bydd y paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gais dilynol.
(7) Pan fo person yn anghymwys o ganlyniad i baragraff (1) (d), bydd y person hwnnw yn gymwys i gael ei benodi fel aelod pan fydd cyfnod o ddwy flynedd ers dyddiad terfynu'r aelodaeth neu unrhyw gyfnod hirach y gallai'r awdurdod fod wedi'i bennu a derfynodd yr aelodaeth ddod i ben, ond gall y Cynulliad, os caiff cais ysgrifenedig ei wneud iddo gan y person hwnnw, leihau'r cyfnod anghymwysedd.
RHAN
II
Gofynion cymhwysedd ar gyfer categorïau penodol o aelod
Swyddog meddygol
(8) Er mwyn bod yn gymwys i gael ei benodi fel y swyddog meddygol, rhaid i berson fod yn aelod o broffesiwn gofal iechyd, a gynhwysir ar gofrestr briodol a gedwir gan y corff proffesiynol sy'n gyfrifol am gofrestru aelodau proffesiwn y person hwnnw.
Swyddog nyrs
(9) Er mwyn bod yn gymwys i gael ei benodi fel y swyddog nyrs, rhaid i berson gael ei gynnwys ar y gofrestr a gedwir gan y Cyngor Nyrsys a Bydwragedd.
Aelodau ymarferydd meddygol cyffredinol
(10) Er mwyn bod yn gymwys i gael ei benodi fel aelod ymarferydd meddygol cyffredinol, rhaid i berson fodloni gofynion paragraff (18) a rhaid iddo fod yn ymarferydd meddygol cyffredinol sydd wedi ymddeol o gofrestr o'r fath yn ystod y cyfnod o ddeuddeg mis yn union cyn y dyddiad pan gafodd cais y person hwnnw ei gyflwyno i'r Bwrdd hwnnw.
Aelod ymarferydd deintyddol
(11) Er mwyn bod yn gymwys i gael ei benodi fel yr aelod ymarferydd deintyddol, rhaid i berson fodloni gofynion paragraff (18) a rhaid iddo fod wedi cael ei gynnwys ar y gofrestr a gedwir gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol, neu wedi ymddeol o gofrestr o'r fath yn ystod y cyfnod o ddueddeg mis yn union cyn y dyddiad pan gafodd cais y person hwnnw ei gyflwyno i'r Bwrdd.
Aelod bydwreigiaeth nyrsio ac ymwelydd iechyd
(12) Er mwyn bod yn gymwys i gael ei benodi fel yr aelod bydwreigiaeth nyrsio ac ymwelydd iechyd, rhaid i berson fodloni gofynion paragraff (18) a rhaid iddo fod wedi'i gynnwys ar gofrestr a gedwir gan y Cyngor Nyrsys a Bydwragedd, neu fod wedi ymddeol o gofrestr o'r fath yn ystod y cyfnod o ddeuddeg mis yn union cyn y dyddiad pan gaiff cais y person hwnnw ei gyflwyno i'r Bwrdd hwnnw.
Aelod optometrydd
(13) Er mwyn bod yn gymwys i gael ei benodi fel yr aelod optometrydd, rhaid i berson fodloni gofynion paragraff (18) a rhaid iddo fod wedi'i gynnwys ar y gofrestr a gedwir gan y Cyngor Optegol Cyffredinol; neu fod wedi ymddeol o gofrestr o'r fath yn ystod y cyfnod deuddeg mis yn union cyn y dyddiad pan gaiff cais y person hwnnw ei gyflwyno i'r Bwrdd hwnnw.
Aelod fferylliaeth
(14) Er mwyn bod yn gymwys i gael ei benodi fel yr aelod fferylliaeth, rhaid i berson fodloni gofynion paragraff (18) a rhaid iddo gael ei gynnwys ar y gofrestr a gedwir gan Gymdeithas Fferyllol Frenhinol Prydain Fawr; neu fod wedi ymddeol o gofrestr o'r fath yn ystod y cyfnod o ddeuddeg mis yn union cyn y dyddiad pan gafodd cais y person hwnnw ei gyflwyno i'r Bwrdd hwnnw.
Aelod therapi
(15) Er mwyn bod yn gymwys i gael ei benodi fel yr aelod therapi, rhaid i berson -
(a) bodloni gofynion paragraff (18); a
(b) rhaid iddo fod yn aelod o un o'r proffesiynau canlynol -
Therapyddion Celfyddyd
Therapyddion Drama
Therapyddion Cerddoriaeth
Ceiropodyddion/Podiatryddion
Deietygwyr
Therapyddion Galwedigaethol
Orthoptyddion
Ffysiotherapyddion
Therapyddion Siarad ac Iaith
neu fod wedi ymddeol o ymarfer mewn proffesiwn o'r fath yn ystod y cyfnod o ddeuddeg mis yn union cyn y dyddiad pan gaiff cais y person hwnnw ei gyflwyno i'r Bwrdd hwnnw.
Arbenigydd iechyd y cyhoedd
(16) Er mwyn bod yn gymwys i gael ei benodi fel yr arbenigydd iechyd y cyhoedd rhaid i berson gael ei gyflogi gan Wasanaeth Cenedlaethol Iechyd y Cyhoedd pan gaiff cais y person hwnnw ei gyflwyno i'r Bwrdd hwnnw.
Aelodau cyswllt
(17) O'r pedwar aelod cyswllt -
(a) rhaid i un fod yn aelod neu'n swyddog Cyngor Iechyd Cymuned sy'n gyfrifol am ardal Bwrdd neu ran o'r ardal honno;
(b) rhaid i un fod yn gadeirydd, aelod neu swyddog Bwrdd Ymddiriedolaeth GIG; ac
(c) rhaid i un fod yn ymarferydd meddygol a gyflogir gan Ymddiriedolaeth GIG neu gorff gwasanaeth iechyd arall;
(ch) rhaid i un fod yn swyddog amser llawn neu'n gynrychiolydd achrededig lleol undeb llafur sy'n cynrychioli personau a gyflogir yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Gofynion cyffredinol ar gyfer aelodau proffesiynol
(18) Er mwyn bod yn gymwys i gael ei benodi fel -
(a) aelod ymarferydd meddygol cyffredinol;
(b) aelod ymarferydd deintyddol;
(c) aelod fferyllol;
(ch) aelod optometrydd;
(d) aelod bydwreigiaeth nyrsio ac ymwelydd iechyd; neu
(dd) aelod therapi,
rhaid i berson fod wedi ymwneud â darparu gofal i aelodau o'r cyhoedd yn ardal y Bwrdd am gyfartaledd o un diwrnod yr wythnos o leiaf yn ystod y cyfnod deuddeg mis yn union cyn dyddiad cais y person hwnnw.
ATODLEN 3Rheoliad 13
Rheolau ynghylch cyfarfodydd a thrafodion Byrddau
1.
Rhaid i gyfarfod cyntaf Bwrdd gael ei gynnal ar ddiwrnod ac mewn lle y gellir ei bennu gan y cadeirdyd a'r cadeirydd fydd yn gyfrifol am gynnull y cyfarfod.
2.
- (1) Gall y cadeirydd alw cyfarfod o'r Bwrdd ar unrhyw adeg.
(2) Os bydd y cadeirydd yn gwrthod galw cyfarfod wedi i gais at y diben hwnnw, a lofnodwyd gan o leiaf draean o'r aelodau, gael ei gyflwyno iddo, neu os nad yw'n gwrthod, ond nad yw'n galw cyfarfod o fewn saith diwrnod ar ôl i gais o'r fath gael ei gyflwyno iddo, gall y traean hwnnw neu fwy o'r aelodau alw cyfarfod yn ddiymdroi.
(3) Cyn bob cyfarfod o Fwrdd, rhaid i hysbysiad o'r cyfarfod, yn nodi'r busnes y bwriedir ei drin ynddo, ac wedi'i lofnodi gan y cadeirydd neu gan swyddog o'r Bwrdd a awdurdodwyd gan y cadeirydd i lofnodi ar ei ran gael ei ddanfon i bob aelod, neu gael ei anfon drwy'r post i breswylfa arferol aelod o'r fath, fel ei fod ar gael i aelod o'r fath o leiaf dri diwrnod clir cyn y cyfarfod.
(4) Ni fydd diffyg cyflwyno'r hysbysiad ar unrhyw aelod yn effeithio ar ddilysrwydd cyfarfod.
(5) Yn achos cyfarfod sy'n cael ei alw gan aelodau yn absenoldeb y cadeirydd, rhaid i'r hysbysiad gael ei lofnodi gan yr aelodau hynny ac ni chaiff unrhyw fusnes ei drin yn y cyfarfod heblaw'r hyn a bennir yn yr hysbysiad.
3.
- (1) Mewn unrhyw gyfarfod o'r Bwrdd y cadeirydd, os yw'n bresennol, fydd yn llywyddu.
(2) Os yw'r cadeirydd yn absennol o'r cyfarfod, yr is-gadeirydd, os oes un wedi'i benodi ac os yw'n bresennol, fydd yn llywyddu.
(3) Os yw'r cadeirdydd a'r is-gadeirydd yn absennol, aelod nad yw'n swyddog a ddewisir gan yr aelodau sy'n bresennol fydd yn llywyddu.
4.
Rhaid i bob cwestiwn mewn cyfarfod gael ei benderfynu gan fwyafrif pleidleisiau'r aelodau sy'n bresennol a thrwy bleidleisio ar y cwestiwn ac, os yw'r pleidleisiau yn gydradd, bydd gan y person sy'n llywyddu ail bleidlais a phleidlais fwrw.
5.
Caiff enwau'r cadeirydd a'r aelodau sy'n bresennol yn y cyfarfod eu cofnodi.
6.
Yn ddarostyngedig i baragraff 7, ni chaiff busnes ei drin mewn cyfarfod oni bai -
(a) nad yw'r nifer sy'n bresennol yn llai na thraean o aelodaeth y Bwrdd yn ei gyfanrwydd; a
(b) bod y sawl sy'n bresennol yn cynnwys o leiaf un aelod sy'n swyddog ac un aelod nad yw'n swyddog.
7.
Rhaid i gofnodion y trafodion gael eu llunio a'u cyflwyno i gael eu cytuno arnynt yng nghyfarfod nesaf y Bwrdd, lle cânt, os cytunir arnynt, eu llofnodi gan y person sy'n llywyddu.
8.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i unrhyw gyfarfod Bwrdd fod yn agored i'r cyhoedd.
(2) Caiff Bwrdd benderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod yn unol â darpariaethau adran 1(2) a (3) o Ddeddf Cyrff Cyhoeddus (Mynediad i Gyfarfodydd) 1960[9].
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Yr oedd y ddogfen strategaeth "Gwella Iechyd yng Nghymru", a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru fis Chwefror 2001, yn dynodi'r bwriad i ddiddymu'r pum Awdurdod Iechyd presennol yng Nghymru ar 1 Ebrill 2003 a chreu Byrddau Iechyd Lleol y gall y Cynulliad Cenedlaethol ddirprwyo swyddogaethau'r Awdurdodau Iechyd a swyddogaethau eraill y Cynulliad Cenedlaethol sy'n ymwneud â'r gwasanaeth iechyd iddynt.
Mae Byrddau Iechyd Lleol i'w sefydlu gan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/148, Cy.18) a byddant yn dechrau gweithredu ar 1 Ebrill 2003. Nodir eu swyddogaethau yn Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/150, Cy.20)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfansoddiad ac aelodaeth Byrddau Iechyd Lleol, gan gynnwys eu gweithdrefnau a'u trefniadau gweinyddol.
Notes:
[1]
1977 p.49.back
[2]
Mae swyddogaethau o dan adran 16BC ac Atodlen 5B o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 wedi eu breinio yn uniongyrchol yn y Cynulliad.back
[3]
O.S. 2003 Rhif 148. Cy. 18.back
[4]
1997 p.46.back
[5]
1907 p.136.back
[6]
1998 p. 38.back
[7]
Ceir copïau o'r ddogfen hon drwy ysgrifennu i'r Is-adran (Adnoddau Dynol) GIG, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.back
[8]
Ceir copïau o'r ddogfen hon drwy ysgrifennu i'r Is-adran (Adnoddau Dynol) GIG, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.back
[9]
1960 p.67.back
English version
ISBN
0 11090663 2
|