BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) (Diwygio) 2003 Rhif 389 (Cy.51)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030389w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 389 (Cy.51)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) (Diwygio) 2003

  Wedi'u gwneud 25 Chwefror 2003 
  Yn dod i rym 17 Mawrth 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1(5) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Bellach 1998[1] a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]:

Enw a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 17 Mawrth 2003.

Diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999
    
2.  - (1) Diwigir Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999[3] fel a ganlyn.

    (2) Rhowch yr Atodlen canlynol yn lle'r Atodlen i Reoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999  - 





Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Chwefror 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheolidau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Cyfansoddiad) 1999 trwy amnewid yr Atodlen i'r Rheoliadau hynny.

Mae'r Atodlen newydd yn diweddaru rhestr o gyrff sydd â'r hawl i enwebu personau i gael eu penodi i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae'r cyrff canlynol wedi cael eu dileu o Ran Dau o'r Atodlen:

    
  • Grwcirc p Gweithredu Anghenion Arbennig Cymru

        
  • Cyngor CHM Cyf Cymru

        
  • Cyngor Diwydiannau ac Addysg Uwch

        
  • Cynhadledd Prif Athrawon a Phrif Athrawesau

        
  • Cyngor Ysgolion Annibynnol

        
  • Ffederasiwn Busnesai Bychan

    Mae'r cyrff canlynol yn cael eu hychwanegu i Ran dau o'r Atodlen:

        
  • Cyngor Cenedlaethol am Addysg a Hyfforddiant Cymru

        
  • TUC Cymru

    Mae enw "University Council for Education of Teachers Cymru" wedi cael ei newid i "Universities Council for Education of Teachers Cymru".


    Notes:

    [1] 1998 p.30; am ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 43(1). Mae adran 1(5) a (7) a Atodlen 1 yn weithredol mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911).back

    [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau ) 1999 (O.S. 1999/672).back

    [3] O.S. 1999/1619, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/3185 (Cy. 43).back

    [4] 1998 p.38.back



    English version



    ISBN 0 11090656 X


     
    © Crown copyright 2003
    Prepared 4 March 2003


    BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
    URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030389w.html