BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 416 (Cy.60)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030416w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 416 (Cy.60)

AFON, CYMRU

PYSGODFEYDD EOGIAID A PHYSGOD DwcircR CROYW

Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003

  Wedi'i wneud 26 Chwefror 2003 
  Yn dod i rym 1 Mawrth 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 1(1) o Ddeddf Pysgod Byw (Cymru a Lloegr) 1980[1] a phob pwcircer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw; ac, yn unol ag adran 1(2) o'r Ddeddf honno, ar ôl ymgynghori â Chyngor Cefn Gwlad Cymru ac English Nature ac unrhyw bersonau eraill y mae'n barnu eu bod yn briodol; ac am ei fod o'r farn y gallai'r rhywogaethau o bysgod byw y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddynt gystadlu ag unrhyw bysgod dwcirc r croyw, pysgod cregyn neu eogiaid yng Nghymru, neu eu disodli, eu hysglyfaethu neu niweidio eu cynefin, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 1 Mawrth 2003.

    (2) Mae'r gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio
    
2. Diwygir Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) 1998[2] fel a ganlyn  - 



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Chwefror 2003



YR ATODLEN
ERTHYGL 2(B)






EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Gwahardd Cadw neu Ollwng Pysgod Byw (Rhywogaethau Penodedig) 1998 ("Gorchymyn 1998"), mewn perthynas â Chymru  - 

    (1) drwy ddarparu mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru fydd yr awdurdod trwyddedu mewn perthynas â'r gwaharddiad yng Ngorchymyn 1998 ar gadw neu ollwng pysgod penodedig ac eithrio o dan drwydded (erthygl 2(a)); a

    (2) drwy roi Atodlen newydd yn lle'r un a gynhwysir yng Ngorchymyn 1998 sy'n pennu'r rhywogaethau o bysgod y bydd y Gorchymyn hwnnw yn gymwys iddynt (erthygl 2(b)). Mae'r Atodlen newydd yn ychwanegu at y rhywogaethau a bennwyd yn yr Atodlen wreiddiol.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Gorchymyn hwn a'i adneuo yn llyfrgell y Cynulliad Cenedlaethol. Gellir cael copïau oddi wrth y canlynol:

Y Gangen Bysgodfeydd

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Parc Cathays

Caerdydd CF10 3NQ


Notes:

[1] 1980 p.27. Trosglwyddwyd pwerau'r Gweinidog o dan adran 1 o'r Ddeddf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 2 iddo (O.S. 1999/672).back

[2] O.S. 1998/2409.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090661 6


 
© Crown copyright 2003
Prepared 6 March 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030416w.html