BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003 Rhif 781 (Cy.92)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030781w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 781 (Cy.92)

PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 18 Mawrth 2003 
  Yn dod i rym 1 Medi 2003 


TREFN Y RHEOLIADAU


RHAN I

CYFFREDINOL
1. Enwi, cychwyn a chymhwyso
2. Dehongli
3. Sefydliadau sydd wedi'u heithrio
4. Datganiad o Ddiben

RHAN II

PERSONAU COFRESTREDIG
5. Ffitrwydd y darparydd cofrestredig
6. Penodi rheolwr
7. Ffitrwydd y rheolwr
8. Y person cofrestredig  -  gofynion cyffredinol
9. Hysbysu tramgwyddau

RHAN III

RHEDEG CANOLFANNAU PRESWYL I DEULUOEDD
10. Iechyd a lles trigolion
11. Gofynion pellach ynghylch iechyd a lles
12. Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant
13. Lleoliadau
14. Cyfleusterau a gwasanaethau
15. Staffio'r ganolfan breswyl i deuluoedd
16. Ffitrwydd y gweithwyr
17. Cyflogi staff
18. Barn y staff ynghylch rhedeg y ganolfan breswyl i deuluoedd
19. Cofnodion
20. Cwynion

RHAN IV

TIR AC ADEILADAU
21. Ffitrwydd tir ac adeiladau
22. Rhagofalon tân

RHAN V

RHEOLI
23. Adolygu ansawdd y gofal
24. Y sefyllfa ariannol
25. Ymweliadau gan y darparydd cofrestredig

RHAN VI

AMRYWIOL
26. Hysbysu marwolaeth, salwch a digwyddiadau eraill
27. Hysbysu absenoldeb
28. Hysbysu newidiadau
29. Penodi datodwyr etc.
30. Marwolaeth person cofrestredig
31. Tramgwyddau
32. Cydymffurfio â'r rheoliadau
33. Ffioedd
34. Darpariaethau trosiannol

ATODLENNI

  1. Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys yn y datganiad o ddiben

  2. Yr wybodaeth y mae ei hangen mewn perthynas â phersonau sy'n ceisio rhedeg neu reoli canolfan breswyl i deuluoedd neu weithio yno

  3. Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn cofnodion achosion

  4. Cofnodion eraill mewn perthynas â chanolfannau preswyl i deuluoedd

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 4(6), 16(3), 22(1), (2)(a) i (d) ac (f) i (j), (5)(a) ac (c), (7) (a) i (j), 25(1), 34(1), 35(1), a 118 (5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[
1] ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n credu eu bod yn briodol[2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: - 



RHAN I

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 1 Medi 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chanolfannau preswyl i deuluoedd yng Nghymru.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn - 

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio lle darperir fel arall, nid yw cyfeiriadau at blentyn yn cynnwys rhiant sy'n cael ei letya mewn canolfan breswyl i deuluoedd sydd o dan 18 oed.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys cyflogi person p'un ai am dâl neu beidio, a ph'un ai o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau, a chaniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr, a dehonglir cyfeiriadau at gyflogai neu at gyflogi person yn unol â hynny.

    (4) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad  - 

    (5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfa o dan ei reolaeth fel y swyddfa briodol mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd sydd wedi'u lleoli mewn ardal benodol yng Nghymru.

Sefydliadau sydd wedi'u heithrio
     3. At ddibenion Deddf 2000, mae sefydliad wedi'i eithrio o fod yn ganolfan breswyl i deuluoedd  - 

Datganiad o Ddiben
    
4.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig lunio mewn perthynas â'r ganolfan breswyl i deuluoedd ddatganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "y datganiad o ddiben") a rhaid iddo gynnwys datganiad ynghylch y materion a restrir yn Atodlen 1.

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i swyddfa briodol Cynulliad Cenedlaethol Cymru a rhaid iddo drefnu bod copi ohono ar gael, pan ofynnir amdano, i gael ei archwilio  - 

    (3) Rhaid i'r person cofrestredig gynhyrchu arweiniad ysgrifenedig i'r ganolfan breswyl i deuluoedd (yr "arweiniad trigolyn") sy'n cynnwys crynodeb o'r datganiad o ddiben, a rhaid iddo ddarparu copi ohono i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol a phob rhiant sy'n cael eu lletya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig  - 

    (5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6) rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y ganolfan breswyl i deuluoedd yn cael ei rhedeg bob amser mewn modd sy'n gyson â'i datganiad o ddiben.

    (6) Ni fydd dim ym mharagraff (5) nac yn rheoliadau 14(1) nac 21(1) yn ei gwneud yn ofynnol nac yn awdurdodi'r person cofrestredig i dorri'r canlynol neu i beidio â chydymffurfio â hwy  - 



RHAN II

PERSONAU COFRESTREDIG

Ffitrwydd y darparydd cofrestredig
    
5.  - (1) Rhaid i berson beidio â rhedeg canolfan breswyl i deuluoedd oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.

    (2) Nid yw person yn ffit i redeg canolfan breswyl i deuluoedd oni bai fod y person  - 

    (3) Dyma'r gofynion  - 

    (4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os oes unigolyn wedi gwneud cais am y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i rhoi.

    (5) Nid yw person yn ffit i redeg canolfan breswyl i deuluoedd  - 

Penodi rheolwr
     6.  - (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn i redeg canolfan breswyl i deuluoedd  - 

    (2) Pan fydd y darparydd cofrestredig yn penodi person i reoli'r ganolfan breswyl i deuluoedd, rhaid i'r darparydd cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith  - 

Ffitrwydd y rheolwr
    
7.  - (1) Rhaid i berson beidio â rheoli canolfan breswyl i deuluoedd oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.

    (2) Nid yw person yn ffit i reoli canolfan breswyl i deuluoedd oni bai  - 

    (3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os oes unigolyn wedi gwneud cais am y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i rhoi.

Y person cofrestredig  -  gofynion cyffredinol
     8.  - (1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, o roi sylw i faint y ganolfan breswyl i deuluoedd, y datganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y trigolion redeg y ganolfan neu ei rheoli (yn ôl fel y digwydd) â gofal, medrusrwydd a medr digonol.

    (2) Os yw'r darparydd cofrestredig  - 

o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo'r profiad a'r medrau y mae eu hangen i redeg y ganolfan breswyl i deuluoedd.

    (3) Rhaid i'r rheolwr cofrestredig ymgymryd o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo'r medrau y mae eu hangen i reoli'r ganolfan breswyl i deuluoedd.

Hysbysu tramgwyddau
    
9. Os yw'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, p'un ai yng Nghymru neu mewn man arall, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith  - 



RHAN III

RHEDEG CANOLFANNAU PRESWYL I DEULUOEDD

Iechyd a lles y trigolion
    
10.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y ganolfan breswyl i deuluoedd yn cael ei rhedeg yn y fath fodd ag y bydd  - 

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y bo'n ymarferol, ddarganfod dymuniadau a theimladau'r trigolion a'u cymryd i ystyriaeth wrth wneud penderfyniadau ynghylch eu hiechyd a'u lles, neu'r modd y cânt eu trin.

    (3) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sicrhau bod y ganolfan breswyl i deuluoedd yn cael ei rhedeg  - 

    (4) Wrth gydymffurfio â'r rheoliad hwn, pryd bynnag y ceir gwrthdrawiad rhwng buddiannau aelodau o deulu, rhaid i'r person cofrestredig drin lles plant y teulu hwnnw fel y peth pwysicaf.

Gofynion pellach ynghylch iechyd a lles
    
11.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig drefnu bod gan y trigolion gyfle i gael unrhyw gyngor neu driniaeth feddygol sy'n angenrheidiol.

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau ar gyfer cofnodi, trafod, cadw'n ddiogel, rhoi'n ddiogel a gwaredu'n ddiogel meddyginiaethau a dderbynnir i'r ganolfan breswyl i deuluoedd.

    (3) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i atal heintiadau, amgylchiadau gwenwynig a lledaeniad heintiadau yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau  - 

    (5) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau, drwy hyfforddi personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd neu drwy fesurau eraill, i atal y trigolion rhag cael niwed neu ddioddef camdriniaeth neu gael eu gosod mewn risg o gael niwed neu eu cam-drin.

    (6) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na chaiff unrhyw un o'r trigolion ei atal yn gorfforol oni bai mai ataliad o'r math a ddefnyddir yw'r unig ddull ymarferol o ddiogelu lles y trigolyn hwnnw neu unrhyw drigolyn arall a bod yna amgylchiadau eithriadol.

    (7) Ar unrhyw achlysur pan gaiff un o'r trigolion ei atal yn gorfforol, rhaid i'r person cofrestredig gofnodi'r amgylchiadau, gan gynnwys natur yr ataliad.

    (8) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau nad yw'r personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd yn defnyddio unrhyw fath o gosb gorfforol ar unrhyw adeg ar unrhyw blentyn neu riant o dan 18 oed sy'n cael ei letya mewn canolfan breswyl i deuluoedd.

Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant
    
12.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig ar amddiffyn plant  - 

    (2) Rhaid i'r weithdrefn o dan baragraff (1)(b) ddarparu'n benodol ar gyfer  - 

    (3) Yn y rheoliad hwn  - 

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig ar gyfer atal bwlio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd sy'n cynnwys yn benodol weithdrefn ar gyfer ymdrin â honiad o fwlio.

Lleoliadau
    
13.  - (1) Cyn darparu llety ar gyfer teulu yn y ganolfan breswyl i deuluoedd, neu os nad yw hynny'n rhesymol ymarferol, cyn gynted â phosibl wedyn, rhaid i'r person cofrestredig lunio cynllun ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel "y cynllun lleoliad"), gan ymgynghori â'r awdurdod lleoli, a chan nodi yn benodol  - 

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig gadw'r cynllun lleoliad o dan sylw a'i adolygu yn ôl yr angen.

    (3) Wrth baratoi neu adolygu'r cynllun lleoliad, rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y bo'n ymarferol  - 

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig roi copi o'r cynllun lleoliad ac o unrhyw ddiwygiad iddo i'r awdurdod lleoli ac i'r rhiant yn y teulu y mae'n ymwneud ag ef

Cyfleusterau a gwasanaethau
    
14.  - (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 4(6), rhaid i'r person cofrestredig ddarparu cyfleusterau a gwasanaethau ar gyfer trigolion yn unol â'r datganiad o ddiben.

    (2) O roi sylw i faint y ganolfan breswyl i deuluoedd a nifer ac anghenion y trigolion, rhaid i'r person cofrestredig  - 

Staffio'r ganolfan breswyl i deuluoedd
    
15. Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau, o roi sylw i'r canlynol  - 

fod nifer digonol o bersonau a chanddynt gymwysterau, medrau a phrofiad addas yn gweithio i'r ganolfan breswyl i deuluoedd.

Ffitrwydd y gweithwyr
    
16.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig beidio  - 

    (2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir gan berson heblaw'r person cofrestredig mewn swydd lle y gallai ddod i gysylltiad yn rheolaidd â'r trigolion yn ystod ei ddyletswyddau.

    (3) At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio mewn canolfan breswyl i deuluoedd oni bai  - 

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw berson sy'n gweithio i ganolfan breswyl i deuluoedd ac nad yw paragraff (2) yn gymwys iddo yn cael ei oruchwylio'n briodol wrth gyflawni ei ddyletswyddau.

Cyflogi staff
    
17.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig  - 

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig weithredu gweithdrefn ddisgyblu a fydd, yn benodol  - 

    (3) At ddibenion paragraff (2)(b), person priodol yw  - 

    (4) Ym mharagraff (2), mae "plentyn" hefyd yn cynnwys rhiant sydd o dan 18 oed.

    (5) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob person a gyflogir ganddo  - 

Barn y staff ynghylch rhedeg y ganolfan breswyl i deuluoedd
    
18.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw fater sy'n ymwneud â rhedeg y ganolfan breswyl i deuluoedd i'r graddau y gallai adlewyrchu iechyd neu les y trigolion.

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau i alluogi personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd i roi gwybod i'r person cofrestredig a swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol am unrhyw fater y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo.

Cofnodion
    
19.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig gadw, mewn perthynas â phob teulu sy'n cael ei letya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd, gofnod sydd  - 

    (2) Rhaid i'r cofnod a grybwyllir ym mharagraff (1) gael ei gadw'n ddiogel a rhaid peidio â'i ddatgelu i neb ac eithrio yn unol â'r canlynol  - 

    (3) Rhaid hefyd i'r person cofrestredig gadw'r cofnodion a bennir yn Atodlen 4 mewn perthynas â'r ganolfan breswyl i deuluoedd.

    (4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff (3)  - 

    (5) Rhaid i gofnod sy'n cael ei gadw yn unol â pharagraff (1) gael ei gadw yn y ganolfan breswyl i deuluoedd cyhyd ag y bydd y teulu y mae'n ymwneud ag ef yn cael ei letya yno.

Cwynion
    
20.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu gweithdrefn ("y weithdrefn gwynion") ar gyfer ystyried cwynion a wneir i'r person cofrestredig gan drigolyn neu gan berson sy'n gwcirceithredu ar ran trigolyn.

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw gwcirc yn a wneir o dan y weithdrefn gwcirc ynion yn cael ei hymchwilio'n llawn.

    (3) Rhaid i'r person cofrestredig roi copi ysgrifenedig o'r weithdrefn gwcirc ynion i unrhyw drigolyn ac i unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran trigolyn os gofynnir amdano.

    (4) Rhaid i'r copi ysgrifenedig o'r weithdrefn gwcircynion gynnwys  - 

    (5) Rhaid i'r person cofrestredig roi gwybod i'r person a wnaeth y gwcirc yn am y camau sydd i'w cymryd (os oes rhai), a hynny o fewn 28 diwrnod ar ôl dyddiad gwneud y gwcirc yn, neu unrhyw gyfnod byrrach a fydd yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

    (6) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei wneud o unrhyw gwcircyn neu sylw, o'r camau a gymerir mewn ymateb iddynt, ac o ganlyniad yr ymchwiliad.

    (7) Rhaid i'r person cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan ofynnir amdano ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o'r cwynion a wnaed yn ystod y deuddeg mis blaenorol a'r camau a gymerwyd.



RHAN IV

SAFLEOEDD

Ffitrwydd tir ac adeiladau
    
21.  - (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 4(6), rhaid i'r person cofrestredig beidio â defnyddio tir ac adeiladau at ddibenion canolfan breswyl i deuluoedd oni bai  - 

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau  - 

    (3) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu ar gyfer personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd  - 

Rhagofalon Tân
    
22.  - (1) Ar ôl ymgynghori â'r awdurdod tân, rhaid i'r person cofrestredig  - 

    (2) Yn y rheoliad hwn ystyr "awdurdod tân" yw'r awdurdod sy'n cyflawni, yn yr ardal y mae canolfan breswyl i deuluoedd wedi'i lleoli ynddi, swyddogaeth awdurdod tân o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947[10].



RHAN V

RHEOLI

Adolygu ansawdd y gofal
     23.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu a chynnal system ar gyfer  - 

ansawdd y gofal a ddarperir yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig roi adroddiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag unrhyw adolygiad a gynhelir ganddo at ddibenion paragraff (1), a threfnu bod copi o'r adroddiad ar gael i'r trigolion.

    (3) Rhaid i'r system y cyfeirir ati ym mharagraff (1) ddarparu ar gyfer ymgynghori â thrigolion.

Y sefyllfa ariannol
    
24.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig redeg y ganolfan breswyl i deuluoedd mewn modd sy'n debyg o sicrhau y bydd y ganolfan breswyl i deuluoedd yn hyfyw yn ariannol er mwyn cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben.

    (2) Rhaid i'r person cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth a dogfennau y gall ofyn amdanynt er mwyn ystyried hyfywedd ariannol y ganolfan breswyl i deuluoedd, gan gynnwys  - 

    (3) Yn y rheoliad hwn mae cwmni yn gwmni cysylltiedig ag un arall os oes gan un ohonynt reolaeth ar y llall neu os yw'r ddau o dan reolaeth yr un person.

Ymweliadau gan y darparydd cofrestredig
    
25.  - (1) Os unigolyn yw'r darparydd cofrestredig, ond nad yw â gofal y ganolfan breswyl i deuluoedd o ddydd i ddydd, rhaid iddo ymweld â'r ganolfan breswyl i deuluoedd yn unol â'r rheoliad hwn.

    (2) Os corff yw'r darparydd cofrestredig, rhaid i'r canlynol ymweld â'r ganolfan breswyl i deuluoedd yn unol â'r rheoliad hwn  - 

    (3) Rhaid i ymweliadau o dan baragraff (1) neu (2) ddigwydd o leiaf unwaith y mis a gallant fod yn ddirybudd.

    (4) Rhaid i'r person sy'n ymweld  - 

    (5) Rhaid i'r darparydd cofrestredig roi copi o'r adroddiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan baragraff (4)(c)  - 



RHAN VI

AMRYWIOL

Hysbysu marwolaeth, salwch a digwyddiadau eraill
    
26.  - (1) Rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ddi-oed os digwydd  - 

    (2) Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir yn unol â'r rheoliad hwn ar lafar gael ei gadarnhau yn ysgrifenedig.

Hysbysu absenoldeb
    
27.  - (1) Os yw  - 

yn bwriadu bod yn absennol o'r ganolfan breswyl i deuluoedd am gyfnod di-dor o 28 diwrnod neu fwy, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb arfaethedig.

    (2) Ac eithrio mewn achos brys, rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei roi o leiaf 28 diwrnod cyn i'r absenoldeb arfaethedig gychwyn neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach y gellir cytuno arno gyda swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r hysbysiad bennu  - 

    (3) Os yw'r absenoldeb yn codi o ganlyniad i argyfwng, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad o'r absenoldeb o fewn un wythnos wedi i'r argyfwng ddigwydd, gan bennu'r materion yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).

    (4) Os bydd  - 

wedi bod yn absennol o'r ganolfan breswyl i deuluoedd am gyfnod di-dor o 28 diwrnod neu fwy, ac nad yw swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol wedi cael hysbysiad o'r absenoldeb, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol gan bennu'r materion a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (d) o baragraff (2).

    (5) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan fydd y darparydd cofrestredig neu (yn ôl fel y digwydd) y rheolwr cofrestredig yn dychwelyd i'r gwaith heb fod yn hwyrach na saith diwrnod wedi iddo ddychwelyd.

Hysbysu newidiadau
    
28. Rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n ymarferol gwneud hynny os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol yn digwydd neu os bwriedir iddynt ddigwydd  - 

Penodi datodwyr etc.
    
29.  - (1) Rhaid i unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo  - 

    (2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir  - 

Marwolaeth person cofrestredig
    
30.  - (1) Os oes mwy nag un person wedi'i gofrestru mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd, a bod person cofrestredig yn marw, rhaid i'r person cofrestredig arall hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig o'r farwolaeth yn ddi-oed.

    (2) Os nad oes ond un person wedi'i gofrestru mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd, a mae'r person hwnnw yn marw, rhaid i'w gynrychiolwyr personol hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig  - 

    (3) Caiff cynrychiolwyr personol darparydd cofrestredig marw redeg y ganolfan breswyl i deuluoedd heb fod wedi'u cofrestru mewn perthynas â hi  - 

    (4) Gall y Cynulliad Cenedlaethol ymestyn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3)(a) gan gyfnod pellach, heb fod yn fwy na blwyddyn, a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid iddynt hysbysu unrhyw benderfyniad o'r fath yn ysgrifenedig i'r cynrychiolwyr personol.

    (5) Rhaid i'r cynrychiolwyr personol benodi person i gymryd gofal amser-llawn o ddydd i ddydd dros y ganolfan breswyl i deuluoedd yn ystod unrhyw gyfnod pan fyddant yn rhedeg y ganolfan breswyl i deuluoedd yn unol â pharagraff (3) heb fod wedi'u cofrestru mewn perthynas â hi.

Tramgwyddau
    
31.  - (1) Bydd torri neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau rheoliadau 4 i 28 yn dramgwydd.

    (2) Caiff Swyddfabriodol y Cynulliad Cenedlaethol ddwyn achos yn erbyn person a fu unwaith yn berson cofrestredig ond nad yw'n un mwyach, mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â rheoliad 19.

Cydymffurfio â'r rheoliadau
    
32. Os oes mwy nag un person cofrestredig mewn perthynas â chanolfan breswyl i deuluoedd, ni fydd yn ofynnol i unrhyw un o'r personau cofrestredig wneud unrhyw beth y mae'n ofynnol i'r person cofrestredig ei wneud o dan y rheoliadau hyn, os yw wedi'i wneud gan un o'r personau cofrestredig eraill.

Ffioedd
    
33.  - (1) Mae Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002[11] yn cael eu diwygio yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn.

    (2) Yn y paragraff o dan y pennawd "Arrangement of Regulations", ychwanegir y llinell ganlynol ar y diwedd  -  "11. Annual fee  -  residential family centres."

    (3) Yn rheoliad 2(1),

    (4) Ar ôl rheoliad 10 (Annual Fee  -  boarding schools and colleges), mewnosodir y rheoliad canlynol  - 

Darpariaethau trosiannol
    
34.  - (1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson sy'n rhedeg canolfan breswyl i deuluoedd ac sy'n gwneud cais yn briodol am gofrestru cyn 31 Rhagfyr 2003 o dan Ran II o Ddeddf 2000 (y "darparydd anghofrestredig").

    (2) Ni fydd adran 11(1), (5) a (6) o Ddeddf 2000 yn gymwys i ddarparydd anghofrestredig mewn perthynas â'r sefydliad  - 

    (3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys  - 

    (4) Os yw paragraff 3 yn gymwys  - 

a bydd paragraff (2) o'r rheoliad hwn yn peidio â bod yn gymwys i'r darparydd anghofresredig, o'r adeg y caiff y gorchymyn ei wneud.

    (5) Bydd adran 20(2), (4) a (5) o Ddeddf 2000 yn gymwys i unrhyw gais a wneir i ynad o dan baragraff (3), ac i unrhyw orchymyn a wneir o dan bargaraff (4), fel petai'r cais neu'r gorchymyn (yn ôl fel y digwydd) wedi'i wneud o dan adran 20(1) o Ddeddf 2000 a'i gymhwyso at y darparydd anghofrestredig.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
12]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Mawrth 2003



ATODLEN 1
Rheoliad 4(1)


YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN


     1. Datganiad o nodau ac amcanion y ganolfan breswyl i deuluoedd.

     2. Datganiad o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau, gan gynnwys manylion y math o lety, sydd i'w darparu gan y ganolfan breswyl i deuluoedd.

     3. Enw a chyfeiriad y darparydd cofrestredig ac enw a chyfeiriad unrhyw reolwr cofrestredig.

     4. Cymwysterau a phrofiad perthnasol y darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig.

     5. Niferoedd y personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd, eu cymwysterau a'u profiad perthnasol.

     6. Strwythur trefniadol y ganolfan breswyl i deuluoedd.

     7. Ffioedd a thaliadau'r ganolfan breswyl i deuluoedd.

     8. Y meini prawf ar gyfer derbyniadau i'r ganolfan breswyl i deuluoedd, gan gynnwys, fel y bo'n gymwys, oedran isaf ac uchaf y rhieni a'r plant a dderbynnir (os oes oedran isaf ac uchaf).

     9. Disgrifiad o ethos ac athroniaeth sylfaenol y ganolfan breswyl i deuluoedd, ac os yw'r rhain wedi'u seilio ar unrhyw fodel damcaniaethol neu therapiwtig, disgrifiad o'r model hwnnw.

     10. Disgrifiad o unrhyw dechnegau penodol ar gyfer asesu, monitro neu therapi sydd i'w defnyddio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd ac o'r trefniadau ar gyfer eu goruchwylio.

     11. Disgrifiad o'r cyngor, y canllawiau a'r cwnsela a ddarperir, gan gynnwys y trefniadau ar gyfer goruchwyliaeth broffesiynol.

     12. Y rhagofalon tân a'r gweithdrefnau brys sy'n gysylltiedig â hwy yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.

     13. Y trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion.

     14. Y rheolau ac amodau sy'n gymwys i drigolion, ac o dan ba amgylchiadau y gall lleoliadau gael eu terfynu.

     15. Y trefniadau ar gyfer parchu preifatrwydd ac urddas y trigolion.

     16. Y polisi ynghylch defnyddio cyffuriau ac alcohol yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.

     17. Polisi cyfrinachedd y ganolfan breswyl i deuluoedd.

     18. Y trefniadau ar gyfer amddiffyn plant.



ATODLEN 2
Rheoliadau 5, 7, 16


YR WYBODAETH Y MAE EI HANGEN MEWN PERTHYNAS Â PHERSONAU SY'N CEISIO RHEDEG NEU REOLI CANOLFAN BRESWYL I DEULUOEDD NEU WEITHIO MEWN UN


     1. Prawf adnabod cadarnhaol.

     2. Naill ai  - 

gan gynnwys yn y naill achos a'r llall, ganlyniad gwiriadau sydd wedi'u cynnal yn unol, yn ôl fel y digwydd, ag adran 113(3A) neu 115(6A) o'r Ddeddf honno.

     3. Dau dystlythyr ysgrifenedig gan gynnwys tystlythyr oddi wrth y cyflogwr diwethaf, os oes un.

     4. Pan fo person wedi bod yn gweithio gynt mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau'n cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, cadarnhad, i'r graddau y bo hynny'n rhesymol ymarferol, o'r rheswm y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.

     5. Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.

     6. Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.

     7. Gwiriad heddlu, sef adroddiad a gynhyrchir gan neu ar ran prif swyddog heddlu o fewn ystyr Deddf yr Heddlu 1996 sy'n cofnodi, fel y maent adeg cynhyrchu'r adroddiad, yr holl dramgwyddau troseddol  - 



ATODLEN 3
Rheoliad 19(1)(a)


YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN COFNODION ACHOSION


     1. Mewn perthynas â phob aelod o'r teulu  - 

     2. Enw'r awdurdod lleoli, os oes un, ac enw, cyfeiriad a Rhif ffôn cynrychiolydd i'r awdurdod hwnnw.

     3. Enw, cyfeiriad a Rhif ffôn unrhyw weithiwr cymdeithasol sydd am y tro wedi'i ddyrannu i unrhyw aelod o'r teulu.

     4. Telerau unrhyw orchymyn llys y mae'r teulu yn cael llety yn y ganolfan breswyl i deuluoedd odano.

     5. Enw a chyfeiriad yr ymarferydd cyffredinol y mae aelodau'r teulu wedi'u cynnwys yn ei restr.

     6. Enw, cyfeiriad a Rhif ffôn unrhyw ysgol, coleg neu weithle y mae unrhyw aelod o'r teulu'n eu mynychu.

     7. Dyddiad ac amgylchiadau unrhyw ddigwyddiad difrifol sy'n cynnwys unrhyw aelod o'r teulu, a dyddiad ac amgylchiadau unrhyw fesurau disgyblu neu ataliad corfforol a ddefnyddiwyd ar unrhyw aelod o'r teulu.

     8. Unrhyw anghenion arbennig o ran deiet, deintyddiaeth neu unrhyw rai eraill o ran iechyd, gan gynnwys manylion unrhyw alergeddau sydd gan unrhyw aelod o'r teulu.

     9. Manylion unrhyw feddyginiaethau sy'n cael eu cadw ar gyfer unrhyw aelod o'r teulu yn y ganolfan breswyl i deuluoedd, a manylion unrhyw feddyginiaethau a roddir i unrhyw un o'r trigolion gan berson sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.

     10. Manylion unrhyw ddamwain neu salwch difrifol a gaiff unrhyw aelod o'r teulu tra bo'n cael ei letya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.

     11. Y trefniadau ar gyfer cysylltiadau rhwng unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y ganolfan breswyl i deuluoedd ac unrhyw berson perthnasol arall, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau ar y cysylltiadau, a manylion unrhyw orchmynion llys sy'n ymwneud â chysylltiadau unrhyw berson â'r plentyn.

     12. Manylion am unrhyw gyfnod pryd y bu unrhyw aelod o'r teulu yn absennol o'r ganolfan breswyl i deuluoedd, ac a gafodd yr absenoldeb ei awdurdodi gan y person cofrestredig neu beidio.

     13. Copi o'r cynllun lleoliad ac unrhyw adolygiad ohono.

     14. Cofnod o unrhyw arian neu bethau gwerthfawr a adneuir gan unrhyw aelod o'r teulu i'w cadw'n ddiogel, ynghyd â'r dyddiad y cafodd yr arian hwnnw ei dynnu neu y cafodd unrhyw bethau gwerthfawr eu dychwelyd.

     15. Y cyfeiriad, a'r math o sefydliad neu lety, y mae'r teulu'n mynd iddo wrth ymadael â'r ganolfan breswyl i deuluoedd.



ATODLEN 4
Rheoliad 19(3)


COFNODION ERAILL MEWN PERTHYNAS Â CHANOLFANNAU PRESWYL I DEULUOEDD


     1. Copi o'r datganiad o ddiben.

     2. Cofnod ar ffurf cofrestr sy'n dangos  - 

     3. Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd damweiniau neu os aiff un o'r trigolion ar goll.

     4. Datganiad o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os ceir tân.

     5. Cofnod o bob ymarfer tân, dril neu brawf ar offer tân (gan gynnwys larymau tân) a gynhelir yn y ganolfan breswyl i deuluoedd a chofnod o unrhyw gamau a gymerir i gywiro diffygion yn yr offer tân.

     6. Cofnod dyddiol o'r digwyddiadau yn y ganolfan breswyl i deuluoedd y bydd yn rhaid iddynt gynnwys manylion unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol a fydd yn effeithio ar drigolion  - 

     7. Cofnod sy'n dangos mewn perthynas â phob person a gyflogir yn y ganolfan breswyl i deuluoedd  - 

     8. Copi o unrhyw adroddiad a wneir o dan reoliad 25.

     9. Cofnod o bob cwyn a wneir gan y trigolion neu gan bersonau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd am sut mae'r ganolfan breswyl i deuluoedd yn gweithredu, a'r camau a gymerwyd gan y person cofrestredig mewn perthynas ag unrhyw gwcirc yn o'r fath.

     10. Cofnod o'r taliadau a godir, a'r ffioedd a delir, gan bob teulu neu mewn perthynas â hwy, gan gynnwys unrhyw symiau ychwanegol sy'n daladwy am wasanaethau nad yw'r taliadau hynny'n eu cynnwys, a'r symiau a delir gan bob un o'r trigolion neu mewn perthynas â hwy.

     11. Copi o roster dyletswyddau staff y personau sy'n gweithio yn y ganolfan breswyl i deuluoedd, a chofnod o'r rosteri a gafodd eu gweithio mewn gwirionedd.

     12. Cofnod o bob ymwelydd â'r ganolfan breswyl i deuluoedd.

     13. Cofnod o bob cyfrif a gedwir yn y ganolfan breswyl i deuluoedd.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ("y Ddeddf") ac maent yn gymwys mewn perthynas â chanolfannau preswyl i deuluoedd yng Nghymru. Mae Rhannau I a II o'r Ddeddf yn darparu mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru a fydd yn cofrestru ac yn arolygu sefydliadau ac asiantaethau mewn perthynas â Chymru. Mae'r Ddeddf yn darparu hefyd i'r Cynulliad wneud rheoliadau sy'n llywodraethu y ffordd y mae sefydliadau ac asiantaethau yn cael eu rhedeg mewn perthynas â Chymru.

Mae rheoliad 3 yn eithrio sefydliadau penodol o'r diffiniad o ganolfan breswyl i deuluoedd o dan adran 1 o'r Ddeddf. Mae'r rhain yn cynnwys unrhyw sefydliad sy'n ysbyty yn y gwasanaeth iechyd, yn ysbyty annibynnol, yn glinig annibynnol, yn gartref gofal, yn hostel neu'n lloches rhag trais domestig.

O dan reoliad 4, rhaid i bob canolfan breswyl i deuluoedd gael datganiad o ddiben sy'n cynnwys y materion a nodir yn atodlen 1, ac arweiniad i'r ganolfan ar gyfer y trigolion. Rhaid i'r ganolfan breswyl i deuluoedd gael ei rhedeg mewn modd sy'n gyson â'r datganiad o ddiben.

Mae Rhan II yn gwneud darpariaeth ynghylch y personau sy'n rhedeg neu'n rheoli'r cartref, ac mae yn ei gwneud yn ofynnol bod gwybodaeth boddhaol ar gael mewn perthynas â'r materion a ragnodir yn Atodlen 2. Os corff yw'r darparydd, rhaid iddo enwebu unigolyn cyfrifol y mae'n rhaid i'r wybodaeth hon fod ar gael mewn perthynas â hwy (rheoliad 5). Mae rheoliad 6 yn rhagnodi o dan ba amgylchiadau y mae'n rhaid penodi rheolwr ar gyfer y ganolfan breswyl i deuluoedd, ac mae rheoliad 8 yn gosod gofynion cyffredinol mewn perthynas â rhedeg y ganolfan breswyl i deuluoedd yn iawn, a'r angen am hyfforddiant priodol.

Mae Rhan III yn gwneud darpariaeth ynghylch y ffordd y mae canolfannau preswyl i deuluoedd yn cael eu rhedeg, yn enwedig ynghylch iechyd a lles trigolion, amddiffyn plant a llunio cynlluniau lleoliad. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd ynghylch staffio canolfannau preswyl i deuluoedd, a ffitrwydd y gweithwyr, ac ynghylch cwynion a chadw cofnodion.

Mae Rhan IV yn gwneud darpariaeth ynghylch addasrwydd tir ac adeiladau, ac ynghylch y rhagofalon tân sydd i'w cymryd. Mae Rhan V yn ymdrin â rheoli canolfannau preswyl i deuluoedd. Mae rheoliad 23 yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cofrestredig adolygu ansawdd y gofal a ddarperir yn y ganolfan breswyl i deuluoedd. Mae rheoliad 24 yn gosod gofynion mewn perthynas â sefyllfa ariannol y ganolfan breswyl i deuluoedd. Mae rheoliad 25 yn ei gwneud yn ofynnol i'r darparydd cofrestredig ymweld â'r ganolfan breswyl i deuluoedd fel a ragnodir.

Mae Rhan VI yn ymdrin â materion amrywiol sy'n cynnwys rhoi hysbysiadau i'r Cynulliad. Mae rheoliad 31 yn darparu ar gyfer tramgwyddau, gellir cael bod torri'r rheoliadau a bennir yn rheoliad 31 yn dramgwydd ar ran y person cofrestredig. Mae rheoliad 33 yn diwygio Rheoliadau Rheoleiddio Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002 drwy ragnodi'r ffi flynyddol mewn perthynas â chofrestru canolfannau preswyl i deuluoedd.


Notes:

[1] 2000 p.14. Mae'r pwerau'n arferadwy gan y Gweinidog priodol, a ddiffinnir yn adran 121(1) o Ddeddf 2000, mewn perthynas â Chymru, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac mewn perthynas â Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, fel yr Ysgrifennydd Gwladol. Diffinnir "prescribed" a "regulations" yn adran 121(1) o'r Ddeddf honno.back

[2] Gweler adran 22(9) o Ddeddf 2000 i gael gweld y gofyniad i ymgynghori.back

[3] 1989 p.41.back

[4] 1977 p.49.back

[5] 1997 p.46back

[6] 1999 p.14.back

[7] 1988 p.40.back

[8] 1999 p.14.back

[9] 1988 p.40.back

[10] 1947 p.41.back

[11] O.S. 2002/921 fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Arolygu Ysgolion Preswyl (Pwerau a Ffioedd) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/3161).back

[12] 1998 p.38.back

[13] 1997 p.50. Mae swydd yn dod o fewn adran 115(3) os yw'n cynnwys gofalu yn rheolaidd am bersonau o dan 18 oed, eu hyfforddi, eu goruchwylio neu fod y daliwr â gofal drostynt ar ei ben ei hun.back

[14] 1974 p.53back

[15] O.S. 1975/1023. Mae diwygiadau perthnasol wedi'u gwneud gan O.S. 1986/1249, O.S. 1986/2268 ac O.S. 2001/1192.back



English version



ISBN 0 11090733 7


 
© Crown copyright 2003
Prepared 30 April 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030781w.html