BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2003 Rhif 784 (Cy.95)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030784w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 784 (Cy.95)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 18 Mawrth 2003 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso ac effaith
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

    (3) Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992[
2] yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.

Diwygio paragraff 47A yn Atodlen 2
     2. Diwygir paragraff 47A o Atodlen 2 (Cwynion) yn unol â'r paragraffau canlynol  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

18 Mawrth 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992 sy'n rheoleiddio'r telerau ynghylch darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.

Mae Rheoliad 2 yn cynnwys darpariaethau sy'n diwygio'r cyfnod o amser sydd gan feddygon i ymateb i gwynion a wneir gan neu ar ran cleifion neu gleifion blaenorol o dan drefn gwyno'r practis. Caiff yr amser a ganiateir i feddygon gydnabod cwynion ar lafar neu'n ysgrifenedig ei leihau o dri diwrnod i ddau ddiwrnod (gan eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith a gwyliau banc), tra caiff yr amser a ganiateir i roi i achwynydd grynodeb ysgrifenedig o ymchwiliadau a chasgliadau ei gynyddu o 10 i 20 diwrnod gwaith (gan eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith a gwyliau banc).


Notes:

[1] 1977 p.49; gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990") adran 26(2)(g) a (i), i gael y diffiniadau o "prescribed" a "regulations".

Diwygiwyd adran 29(1) gan O.S. 1985/39, erthygl 7(3); gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17), adran 2(1), Atodlen 1, paragaff 18; gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17) ("Deddf 2002"), adrannau 2(5) a 37(1), Atodlen 2, Rhan 1, paragraffau 1, 3(1)(2) a 3(a)(b), Atodlen 8, paragraffau 1 a 2; gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46), adran 41(10), (12), Atodlen 2, paragraff 8 ac Atodlen 3, Rhan 1; Deddf Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 (p.41), adran 14, Atodlen 6, paragraffau 2(1) a (2); gan Ddeddf y Gwasanaethu Iechyd 1980 (p.53), adran 7; Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15) ("Deddf 2001"), adran 23(1) a (2); Deddf Feddygol 1983 (p.54) adran 56(1), Atodlen 5, paragraff 16(a), a Deddf Feddygol (Perfformiad Proffesiynol) 1995 (p.51) adran 4, Atodlen 1, paragraff 28(b).

Diwygiwyd Adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2); gan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8), adran 65(1), Atodlen 4, paragraffau 4, 37(1) a 6; gan Ddeddf 2001, adran 67(1), Atodlen 5, Rhan 1, paragraffau 5(1) a 13(b) a chan Ddeddf 2002, adran 6(3)(c).

O ran Cymru, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 29 a 126(4), o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo, O.S. 1999/672.back

[2] O.S. 1992/635, yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1996/702 sy'n mewnosod paragraffau 47A a B yn Atodlen 2.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090695 0


 
© Crown copyright 2003
Prepared 1 April 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030784w.html