BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau'r Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 803 (Cy.97)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030803w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 803 (Cy.97)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau'r Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2003

  Wedi'i wneud 19 Mawrth 2003 
  Yn dod i rym 2 Ebrill 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwcircer a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 131(2) o Ddeddf Tai 1985[1] sydd wedi'i freinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y mae'n arferadwy yng Nghymru[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau'r Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 2 Ebrill 2003.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn mae cyfeiriad at y "prif Orchymyn" yn gyfeiriad at Orchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau'r Disgownt) (Cymru) 1999[3].

Diwygio Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau'r Disgownt) (Cymru) 1999
     3. Yn erthygl 3 (Mwyafswm disgowntau) o'r prif Orchymyn yn lle'r ffigur "£24,000" rhodder y ffigur "£16,000".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 [
4]


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

19 Mawrth 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Gall fod gan berson sy'n arfer yr hawl i brynu tycirc annedd yng Nghymru yr hawl o dan Ran V o Ddeddf Tai 1985 ("y Ddeddf"), o dan adrannau 129 i 131 o Atodlen 4 i'r Ddeddf, i ddisgownt sy'n gymesur â chanran o'r pris cyn disgownt.

Mae adran 131 o'r Ddeddf yn darparu terfynau ar swm y disgownt y mae gan brynwr arfaethedig hawl iddo ac mae adran 131(2) yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud Gorchymyn yn rhagnodi'r mwyafswm y gellir gostwng y pris sy'n daladwy am y tycirc annedd o dan y cynllun hawl i brynu. Breinir y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru.

O dan adran 131(2), gwnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol Orchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Terfynau ar y Disgownt) (Cymru) 1999 ("y prif Orchymyn") a ragnododd, ymysg pethau eraill, mai mwyafswm y disgownt hwn oedd £24,000. Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio'r prif Orchymyn drwy ddarparu mai mwyafswm y disgownt sydd ar gael yw £16,000.


Notes:

[1] 1985 p.68.back

[2] Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1999/292.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090709 4


 
© Crown copyright 2003
Prepared 10 April 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030803w.html