BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn y Cwricwlwm Sylfaenol ar gyfer Cymru (Diwygio) 2003 Rhif 932 (W.122)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030932w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 932 (W.122)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn y Cwricwlwm Sylfaenol ar gyfer Cymru (Diwygio) 2003

  Wedi'i wneud 26 Mawrth 2003 
  Yn dod i rym fel y darparwyd yn erthygl 1

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol trwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 101(3)(a) o Ddeddf Addysg 2002[1].

Enw a chychwyn
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Cwricwlwm Sylfaenol ar gyfer Cymru (Diwygio) 2003.

    (2) Mae'r Erthygl hon ac Erthygl 2(1) a (2), o'r Gorchymyn hwn yn dod i rym ar 1 Medi 2003.

    (3) Mae Erthygl 2(3) yn dod i rym ar 1 Medi 2004.

Diwygio Adran 101(1) o Ddeddf Addysg 2002
    
2.  - (1) Caiff Adran 101(1) o Ddeddf Addysg 2002 ei diwygio fel a ganlyn.

    (2) Ar ôl paragraff (b) mewnosodir  - 

    (3) Ar ôl paragraff (ba) (a fewnosodir yn unol â pharagraff (2)) mewnosodir  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Mawrth 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae adran 101(1) o Ddeddf Addysg 2002 (y Ddeddf) yn ei gwneud yn ofynnol i'r cwricwlwm ar gyfer pob ysgol a gynhelir yng Nghymru gynnwys cwricwlwm sylfaenol sy'n cwmpasu addysg grefyddol, y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Cymru ac addysg rhyw. Mae is-adran (3) yn galluogi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud Gorchymyn sy'n diwygio is-adran (1) drwy ychwanegu gofynion pellach.

Mae'r Gorchymyn hwn, sydd wedi'i wneud o dan is-adran (3), yn ychwanegu dau ofyniad newydd at y cwricwlwm sylfaenol. Mae'r cyntaf, sydd i fod yn gymwys o 1 Medi 2003, yn ei gwneud yn ofynnol i'r cwricwlwm sylfaenol gynnwys darpariaeth ar gyfer addysg bersonol a chymdeithasol i ddisgyblion cofrestredig o oedran ysgol gorfodol. Mae'r ail, sydd i fod yn gymwys o 1 Medi 2004, yn ei gwneud yn ofynnol i'r cwricwlwm gynnwys darpariaeth ar gyfer addysg gysylltiedig â gwaith i ddisgyblion sydd yng nghyfnod allweddol pedwar (disgyblion 14 - 16 oed yn fras).

Wrth addysgu plant mewn addysg bersonol a chymdeithasol ac addysg gysylltiedig â gwaith mae'n rhaid rhoi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol  -  gweler adran 100(8) o'r Ddeddf. Bydd y Cynulliad yn cyhoeddi canllawiau yng Nghylchlythyr cccc 13/2003, Cynulliad Cenedlaethol Cymru "Addysg Bersonal a Chymdeithasol ac Addysg Gysylltiedig â Gwaith yn y Cyricwlwm Sylfaenol". Gellir cael copïau o Is-adran Safonau a Pherfformiad y Cynulliad a gellir eu gweld ar dysgu.cymru.gov.uk.


Notes:

[1] 2002 p.32.back

[2] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090737 X


 
© Crown copyright 2003
Prepared 7 May 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030932w.html