BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) (Rhif 2) 2003 Rhif 946 (Cy.127)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030946w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 946 (Cy.127)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) (Rhif 2) 2003

  Wedi'i wneud 26 Mawrth 2003 
  Yn dod i rym 31 Mawrth 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a hwythau'n gweithredu ar y cyd drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1 ac 8(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[1] yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enw, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) (Rhif 2) 2003; mae'n gymwys i Gymru a daw i rym ar 31 Mawrth 2003.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y Prif Orchymyn" yw Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002[2].

Diwygio erthygl 1
     3. Yn erthygl 1(2) o'r Prif Orchymyn rhoddir y geiriau "1 Awst 2003" yn lle "1 Ebrill 2003".

Diwygio erthygl 7
    
4. Yn lle is-baragraff (2)(a) o erthygl 7 o'r Prif Orchymyn, rhoddir yr is-baragraff canlynol  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Mawrth 2003


E. A. Morley
Is-Ysgrifennydd Seneddol

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
27 Mawrth 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn yn hwn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2302 (Cy.227)) ("y Prif Orchymyn").

Mae'r Gorchymyn yn diwygio'r dyddiad pan fydd effaith y Prif Orchymyn yn darfod (o 1 Ebrill 2003 i 1 Awst 2003) (erthygl 3) a chywiro camgymeriad testunol a gyflwynwyd gan y Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2003 (O.S. 2003/167 (Cy.27)) (erthygl 4).

Nid oes arfarniad rheoliadol wedi ei baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.


Notes:

[1] 1981 p.22. Trosglwyddwyd swyddogaethau a roddwyd o dan Ddeddf 1981 i "the Ministers" (yn ôl y diffiniad yn adran 86 o'r Ddeddf honno) i'r graddau eu bod yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn cysylltiad â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau ar y cyd "the Ministers" a oedd yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban mewn cysylltiad â Chymru i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Trosglwyddwyd pob swyddogaeth y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd ymhellach wedyn i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).back

[2] O.S. 2002/2302 (Cy.227), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/167 (Cy.27) .back



English version



ISBN 0 11090712 4


 
© Crown copyright 2003
Prepared 10 April 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030946w.html