BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2003 Rhif 976 (Cy.135)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030976w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 976 (Cy.135)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2003

  Wedi'u gwneud 1 Ebrill 2003 
  Yn dod i rym 11 Ebrill 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi [1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) (Diwygio) 2003; maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru ac yn dod i rym ar 11 Ebrill 2003.

Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2002
    
2. Diwygir Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2002[3] yn unol â'r Rheoliadau hyn.

Diwygio rheoliad 2
     3.  - (1) Diwygir rheoliad 2(1) yn unol â'r rheoliad hwn  - 

    (2) Ar ôl y diffiniad o "the Customs Code", mewnosodir y diffiniad canlynol- - 

    (3) Ar ôl y diffiniad o "physical check" mewnosodir y diffiniad canlynol - - 

Diwygio rheoliad 4
     4. Mewnosodir y geiriau "subject to regulation 16," ar ddechrau rheoliad 4(c).

Mewnosod rheoliad 12A
    
5. Ar ôl rheoliad 12, mewnosodir y rheoliad canlynol - 

Diwygio rheoliad 13
    
6. Yn rheoliad 13(1)(b), rhoddir y geiriau "or in Commission Decision 2001/812/EC" yn lle "or the Annex to Commission Decision 2001/812/EC".

Amnewid rheoliad 16
    
7. Rhoddir y rheoliad canlynol yn lle rheoliad 16  - 

Diwygio rheoliad 28
    
8.  - (1) Yn lle paragraff 1 o reoliad 28, rhoddir y paragraff canlynol  - 

    (2) Yn rheoliad 28(2), rhoddir y geiriau "an official veterinary surgeon, an authorised officer, the National Assembly, a local authority, the Agency or the Commissioners" yn lle "an official veterinary surgeon, an authorised officer, the National Assembly, a local authority or the Agency".

Diwygio Rhan I o Atodlen 6
    
9. Yn Rhan I o Atodlen 6 rhoddir y geiriau "16 (Prohibition of introduction of products except at border inspection posts)" yn lle "16 (Introduction of products at border inspection posts)".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

1 Ebrill 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd ) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/1387 (Cy.136), fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2002/3011 (Cy.282) ac O.S. 2002/3239 (Cy.307)) ('y prif Reoliadau') sy'n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 97/78/EC sy'n gosod yr egwyddorion sy'n llywodraethu trefnu gwiriadau milfeddygol ar gynhyrchion sy'n dod i'r Gymuned o drydydd gwledydd (OJ Rhif . L24, 30.1.98, t.9).

Mae rheoliad 5 yn mewnosod rheoliad 12A newydd yn y prif Reoliadau sy'n darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Comisiynwyr y Tollau Tramor a Chartref ("y Comisiynwyr"), unrhyw awdurdod lleol a'r Asiantaeth Safonau Bwyd gyfnewid gwybodaeth ymysg ei gilydd a rhannu gwybodaeth gydag awdurdodau gorfodi yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban.

Mae rheoliad 6 yn gwneud mân newid drafftio i reoliad 13 o'r prif Reoliadau.

Mae rheoliad 7 yn rhoi rheoliad newydd yn lle rheoliad 16 o'r prif Reoliadau. Mae'r rheoliad 16 newydd yn darparu bod y gwaharddiad ar gyflwyno cynhyrchion sy'n deillio o anifeiliaid i Gymru (ac eithrio wrth fannau archwilio ar y ffin) yn cael ei orfodi yn y pwyntiau mynediad gan y Comisiynwyr yn hytrach na chan yr awdurdodau lleol.

Mae rheoliad 8 yn diwygio rheoliad 28 o'r prif Reoliadau i ddarparu y caiff y Comisiynwyr godi tâl am y costau wrth ailddosbarthu neu ddifetha cynnyrch neu lwyth ar y person y cyflwynwyd hysbysiad atafaelu iddo.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ac mae ar gael ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Gellir cael copïau oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Yr Is-adran Iechyd Anifeiliaid, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Notes:

[1] O.S. 1999/2788.back

[2] 1972 p. 68.back

[3] O.S. 2002/1387 (Cy.136), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/3011 (Cy. 282), a 2002/3230 (Cy. 307).back

[4] 1979 p. 2.back



English version



ISBN 0 11090715 9


 
© Crown copyright 2003
Prepared 10 April 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030976w.html