BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cofrestru Tir Comin (Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 994 (Cy.143)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030994w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 994 (Cy.143)

TIR COMIN, CYMRU

Rheoliadau Cofrestru Tir Comin (Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 2 Ebrill 2003 
  Yn dod i rym 1 Mai 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan erthygl 19(1)(a) a (d) o Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2] a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cofrestru Tir Comin (Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 1 Mai 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn - 

Amnewid ffi newydd
     2. Yn Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau - 

Diwygio'r Ffurflen
    
3. Yn y rhan o'r Ffurflen o dan y pennawd "FEES", yn lle'r symiau "£6.00", "50p" a "£10.00", rhodder y symiau "£14.00", "£1.00" a "£20.00" yn eu trefn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

2 Ebrill 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu, mewn perthynas â Chymru, ar gyfer cynyddu'r ffioedd a ragnodwyd yn Rheoliadau Cofrestru Tir Comin (Cyffredinol) 1966 (O.S. 1966/1471), a gynyddwyd o'r blaen gan Reoliadau Cofrestru Tir Comin (Cyffredinol) (Diwygio) 1980 (O.S. 1980/1195) a Rheoliadau Cofrestru Tir Comin (Cyffredinol) (Diwygio) 1989 (O.S. 1989/2167)), am chwiliadau yng Nghofrestrau Tir Comin a Meysydd y Trefi a'r Pentrefi ac am ddarparu copïau wedi'u hardystio o gofnodion yn y Cofrestrau.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio'r symiau a bennir yn Nhabl y Ffioedd sydd ar ddiwedd y ffurflen yn yr Atodlen i O.S. 1989/2167 yn unol â hynny.


Notes:

[1] 1965 p.64. Gweler y diffiniad o "prescribed" yn adran 22(1).back

[2] Trosglwyddwyd y pwerau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1966/1471; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1970/1996, 1980/1195 a 1989/2167.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090736 1


 
© Crown copyright 2003
Prepared 1 May 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20030994w.html