BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Tai (Hawl i Gaffael a Hawl i Brynu) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig a Rhanbarthau Dynodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 1147 (Cy.155)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031147w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 1147 (Cy.155)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Tai (Hawl i Gaffael a Hawl i Brynu) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig a Rhanbarthau Dynodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003

  Wedi'i wneud 24 Ebrill 2003 
  Yn dod i rym 25 Ebrill 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 157 o Ddeddf Tai 1985[1] ac adran 17 o Ddeddf Tai 1996[2], ac ar ôl ymgynghori, yn unol ag is-adran (6) o adran 17 o Ddeddf Tai 1996, â'r awdurdodau lleol a'r cyrff a grybwyllir yn yr is-adran honno, yn gwneud y Gorchymyn canlynol: - 

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Gaffael a Hawl i Brynu) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig a Rhanbarthau Dynodedig) (Diwygio) (Cymru) 2003 a daw i rym ar 25 Ebrill 2003.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio
    
2. Diwygir Gorchymyn Tai (Hawl i Gaffael a Hawl i Brynu) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig a Rhanbarthau Dynodedig) (Cymru) 2003[3] yn unol â'r hyn a nodir yn erthyglau 3, 4, a 5 isod.

Erthygl 1
     3. Yn Erthygl 1 yn lle "2002" rhowch "2003".

Erthygl 2
    
4. Ar ddiwedd Erthygl 2 ychwanegwch:

Atodlen
    
5. Yn y fersiwn Gymraeg o'r Atodlen o dan y pennawd "Ym Mwrdeistref Sirol Rhondda, Cynon, Taf" yn lle "Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Gwyr" rhowch "Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].


J E Randerson
Y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg

24 Ebrill 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


O dan adran 157 o Ddeddf Tai 1985 ("Deddf 1985"), os yw trawsgludiad neu grant yn cael ei gyflawni yn unol â Rhan V o Ddeddf 1985 (yr hawl i brynu) gan awdurdod lleol neu gymdeithas tai (y landlord) a bod y tycirc annedd hwnnw wedi'i leoli mewn:

     -  Parc Cenedlaethol,

     -  ardal sydd wedi'i dynodi o dan adran 82 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yn ardal o harddwch naturiol eithradol, neu

     -  ardal sydd wedi'i dynodi drwy orchymyn Cynulliad Cendlaethol Cymru yn ardal wledig,

fe all y trawsgludiad neu'r grant gynnwys cyfamod sy'n cyfyngu ar hawl y tenant i werthu'r tycirc annedd yn y modd a nodwyd yn yr adran honno.

O dan adran 16 o Ddeddf Tai 1996 ("Deddf 1996") mae gan denant landlord cymdeithasol cofrestredig hawl mewn amgylchiadau penodol i gaffael yr annedd y mae ef neu hi yn byw ynddi. Mae hyn yn ddarostyngedig i adran 17 o Ddeddf 1996 sy'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol drwy orchymyn i ddynodi ardaloedd gwledig mewn perthynas ag anheddau lle na fydd yr hawl sy'n cael ei rhoi gan adran 16 yn codi.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Tai (Hawl i Gaffael a Hawl i Brynu) (Ardaloedd Gwledig Dynodedig a Rhanbarthau Dynodedig) (Cymru) 2003 sy'n dynodi ardaloedd gwledig at ddibenion adran 157 o Ddeddf 1985 ac adran 17 o Ddeddf 1996 drwy gywiro'r ffaith fod Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithradol wedi'u hepgor o ran yr ardaloedd hynny a ddynodir o dan adran 17.


Notes:

[1] 1985 p.68; Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[2] 1996 p.52; Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[3] O.S. 2003/54(Cy.5)back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090740 X


 
© Crown copyright 2003
Prepared 13 May 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031147w.html