BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2003 Rhif 1714 (Cy.182)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031714w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 1714 (Cy.182)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 8 Gorffennaf 2003 
  Yn dod i rym 10 Gorffennaf 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 62, 143(1) a 2 a (146)(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988[1] a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 9 iddi ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]:

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 10 Gorffennaf 2003.

Cymhwyso a Dehongli
    
2.  - (1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr y "Prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) 1989[
3].

Diwygio'r Prif Reoliadau
     3. Diwygir y Prif Reoliadau fel a ganlyn  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Gorffennaf 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestri Lleol) 1989 (fel y'u diwygiwyd) (y "Rheoliadau") yn rhagnodi'r pwerau sydd gan awdurdodau lleol i gasglu ac adennill ardrethi annomestig. Yn benodol, mae rheoliadau 13(1) a 17(1) o'r Rheoliadau ac Atodlen 2 iddynt yn rhagnodi'r ffurflenni Gorchymyn Dyled a Gwarant Traddodi y mae'n rhaid i Lysoedd Ynadon eu defnyddio yn dilyn ceisiadau iddynt gan awdurdodau lleol ar gyfer gorchmynion neu warantau o'r fath.

Mae Adran yr Arglwydd Ganghellor yn ddiweddar wedi gwneud arolwg o'r ffurflenni a ddefnyddir mewn Llysoedd Ynadon ac maent yn awr yn dymuno defnyddio set newydd o ffurflenni sydd i gyd i fod yn gyson o ran eu harddull. Fel rhan o'r broses hon, mae'n angenrheidiol anghymhwyso'r ffurf ar Orchymyn Dyled a Gwarant Traddodi a grybwyllir uchod.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dileu'r gofyniad ei bod yn rhaid i Lysoedd Ynadon ddefnyddio'r ffurf ar Orchymyn Dyled a Gwarant Traddodi penodedig neu ffurf sydd ag effaith tebyg mewn cysylltiad â chasglu ac adennill ardrethi annomestig.


Notes:

[1] 1988 p.41. Adran 143(2) fel y'i diwygiwyd gan adran 139 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42) a pharagraffau 72 a 79(3) o Atodlen 5 iddi. Paragraff 2 o Atodlen 9 i Ddeddf 1988 fel y'i diwygiwyd gan adran 117 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p.14) a pharagraff 87(1) o Atodlen 13 iddi ac adrannau 139 a 194(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42) a pharagraffau 1, 44(2) i (4) a 79(3) o Atodlen 5 a Rhan II o Atodlen 12 iddi. Paragraffau 3 a 4 o Atodlen 9 i Ddeddf 1988 fel y'i diwygiwyd gan adran 117(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14) a pharagraffau 87(2) a (3) o Atodlen 13 iddi.back

[2] Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[3] O.S. 1989/1058. Diwygiwyd Rheoliad 13(1) o Reoliadau 1989 gan reoliad 7(3) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Amrywiol Ddarpariaethau) 1990 (O.S. 1990/145). Diwygiwyd Atodlen 2 o Reoliadau 1989 gan Erthygl 3 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol (Diddymiadau, Arbediadau a Diwygiadau Canlyniadol) 1993 (O.S. 1993/616) a Rhan II o Atodlen 2 iddi a rheoliad 3(2)(c) o Reoliadau Taliadau Cymunedol ac Ardrethu Annomestig (Amrywiol Ddarpariaethau) 1992 (O.S. 1992/474). Mae yna ddiwygiadau eraill i Reoliadau 1989 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090750 7


 
© Crown copyright 2003
Prepared 16 July 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031714w.html