BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2003 Rhif 1715 (Cy.183)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031715w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 1715 (Cy.183)

TRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 8 Gorffennaf 2003 
  Yn dod i rym 10 Gorffennaf 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 14(3) a 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1] a pharagraffau 1, 2, 3 ac 8 o Atodiad 4 iddi ac a freinir yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru[2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 10 Gorffennaf 2003.

Cymhwyso a Dehongli
    
2.  - (1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr y "Prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992[
3]

     3. Diwygio'r Prif Reoliadau
Diwygir y Prif Reoliadau fel a ganlyn  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Gorffennaf 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (fel y'u diwygiwyd) (y "Rheoliadau") yn rhagnodi'r pwerau y caiff awdurdodau lleol eu defnyddio i gasglu ac adennill treth gyngor. Yn benodol, mae rheoliadau 35(1) a 48(1) o'r Rheoliadau ac Atodlen 2 iddynt yn rhagnodi'r ffurflenni Gorchymyn Dyled a Gwarant Traddodi y mae'n rhaid i Lysoedd Ynadon eu defnyddio yn dilyn ceisiadau iddynt gan awdurdodau lleol ar gyfer gorchmynion neu warantau o'r fath.

Mae Adran yr Arglwydd Ganghellor yn ddiweddar wedi gwneud arolwg o'r ffurflenni a ddefnyddir mewn Llysoedd Ynadon ac maent yn awr yn dymuno defnyddio set newydd o ffurflenni sydd i gyd i fod yn gyson o ran eu harddull. Fel rhan o'r broses hon, mae'n angenrheidiol anghymhwyso'r ffurf ar Orchymyn Dyled a Gwarant Traddodi a grybwyllir uchod.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dileu'r gofyniad ei bod yn rhaid i Lysoedd Ynadon ddefnyddio'r ffurf ar Orchymyn Dyled a Gwarant Traddodi penodedig neu ffurf sydd ag effeith tebyg mewn cysylltiad â chasglu ac adennill treth cyngor.


Notes:

[1] 1992 (p.14).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1992/613, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymu) 1995 (p.44); rheoliad 3 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Gorchymyn Atafaelu Enillion) (Cymru) 1992 (O.S. 1992/1741) a'r Atodlen iddynt; rheoliadau 3 i 12 a 15 i 20 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) 1992 (O.S. 1992/3008); rheoliad 2 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) 1993 (O.S. 1993/196); rheoliadau 3 i 8 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Rhif 2) 1993 (O.S. 1993/773) a'r Atodlen iddynt; rheoliadau 3 i 9 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) 1994 (O.S. 1994/505); rheoliadau 3 i 6 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) 1995 (O.S. 1995/22); erthygl 2 o Orchymyn Llysoedd Ynadon (Cymru) (Canlyniadau Newidiadau i Lywodraeth Leol) 1996 (O.S. 1996/675) a pharagraff 10 o'r Atodlen iddo; erthygl 30 o Orchymyn Awdurdodau Lleol (Contractio Allan Swyddogaethau Bilio, Casglu a Gorfodi'r Dreth) 1996 (O.S. 1996/1880); rheoliad 2 o Reoliadau Tâl Cymunedol a'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Lwfans Ceisio Gwaith) 1996 (O.S. 1996/2405); rheoliadau 3 a 4 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) 1997 (O.S. 1997/393); rheoliadau 3 i 8 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) 1998 (O.S. 1998/295) a'r Atodlen iddynt; rheoliadau 2 i 4 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) 1999 (O.S. 1999/534); rheoliadau 2 a 3 o Reoliadau Taliadau Cymunedol, Y Dreth Gyngor ac Ardrethu Annomestig (Gorfodi) (Llysoedd Ynadon) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/1076 (Cy.52)); ac erthyglau 2(s) a 38 o Orchymyn Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithredol a Threfniadau Amgen) (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau Eraill) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/808 (Cy.89)). Mae yna ddiwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i Gymru.back

[4] 1998 (p.38).back



English version



ISBN 0 11090751 5


 
© Crown copyright 2003
Prepared 16 July 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031715w.html