BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2003 Rhif 1717 (Cy.184)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031717w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 1717 (Cy.184)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 9 Gorffennaf 2003 
  Yn dod i rym 31 Gorffennaf 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 214 o Ddeddf Addysg 2002[1].

Enw, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn  - 

    (2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau, yn ôl eu trefn, at adrannau o Ddeddf 2002 ac Atodlenni iddi.

Pwcircer corff llywodraethu i ddarparu cyfleusterau cymunedol, etc
     3.  - (1) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 2003 ac sy'n dod i ben yn union cyn dechrau'r diwrnod y mae adran 21 yn dod i rym mewn perthynas â Chymru, mae adran 28(3)[3] i fod i gael effaith fel petai'r geiriau "section 38(2) of the School Standards and Framework Act 1998" wedi'u rhoi yn lle'r geiriau "section 21(2)".

    (2) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 2003 ac sy'n dod i ben yn union cyn dechrau'r diwrnod y mae'r diffiniad o "maintained school" yn adran 39 yn dod i rym mewn perthynas â Chymru, mae cyfeiriadau yn adrannau 27, 29(1) a pharagraff 3 o Atodlen 1[4] (i'r graddau y mae mewn grym) at "maintained school" i fod i gael effaith fel petaent yn gyfeiriadau at ysgol a gynhelir fel y diffinnir "maintained school" yn adran 20(7) o Ddeddf 1998.

    (3) Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 2003 ac sy'n dod i ben yn union cyn dechrau'r diwrnod y mae paragraff 1 o Atodlen 1 yn dod i rym mewn perthynas â Chymru, mae cyfeiriadau ym mhgaragraff 3 o'r Atodlen honno[5] (i'r graddau y mae mewn grym) at "governing body" i fod i gael effaith fel petaent yn gyfeiriadau at gorff llywodraethu ysgol a gynhelir a ymgorfforwyd o dan adran 36(1) o Ddeddf 1998.

Diwygio Gorchymyn Addysg (Trosglwyddo Swyddogaethau ynglycircn â Chiniawau Ysgolion) (Cymru) 1999
     4.  - (1) Mae Gorchymyn Addysg (Trosglwyddo Swyddogaethau ynglycircn â Chiniawau Ysgolion) (Cymru) 1999[6]) yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn erthygl 2(1) mae'r geiriau "Subject to paragraph (3)," yn cael eu dileu.

    (3) Yn erthygl 2(2)(a) mae'r geiriau "section 512(3) and (4)" yn cael eu rhoi yn lle'r geiriau "section 512(1A) and (1B)".

    (4) Yn erthygl 2(2)(b) mae'r geiriau "section 512ZB(1)" yn cael eu rhoi yn lle'r geiriau "section 512(3)(a)".

    (5) Mae erthygl 2(3) yn cael ei dirymu.

    (6) Mae erthygl 5 sydd wedi'i Rhif o'n anghywir yn cael ei Rhif o'n erthygl 4.

    (7) Yn erthygl 4(1) a (2) (fel y mae wedi'i hailrifo) mae'r geiriau "section 512ZA(2)" yn cael eu rhoi yn lle'r geiriau "section 512(2)(b)" ym mhob man y maent yn ymddangos.

Diwygio Gorchymyn Addysg (Trosglwyddo Swyddogaethau ynglycircn â Chiniawau Ysgolion) (Cymru) (Rhif 2) 1999
     5.  - (1) Mae Gorchymyn Addysg (Trosglwyddo Swyddogaethau ynglycircn â Chiniawau Ysgolion) (Cymru) (Rhif 2) 1999[7] yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn erthygl 2(1) mae'r geiriau "Subject to paragraph (3)" yn cael eu dileu.

    (3) Yn erthygl 2(2)(a) mae'r geiriau "section 512(3) and (4)" yn cael eu rhoi yn lle'r geiriau "section 512(1A) and (1B)".

    (4) Yn erthygl 2(2)(b) mae'r geiriau "section 512ZB(1)" yn cael eu rhoi yn lle'r geiriau "section 512(3)(a)".

    (5) Mae erthygl 2(3) yn cael ei dirymu.

    (6) Yn erthygl 4(1) a (2) mae'r geiriau "section 512ZA(2)" yn cael eu rhoi yn lle'r geiriau "section 512(2)(b)" ym mhob man y maent yn ymddangos.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Staff Prydau Bwyd Ysgolion) (Cymru) 1999
     6.  - (1) Mae Rheoliadau Addysg (Staff Prydau Bwyd Ysgolion) (Cymru) 1999[8] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn y diffiniad o "Gorchymyn adran 512A" yn rheoliad 1(3) mae'r geiriau "adran 512A(2)(b)" yn cael eu rhoi yn lle'r geiriau "adran 512(2)(b)".

Diwygio Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002
     7.  - (1) Mae Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002[9] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 18(2)(d) mae'r gair "Academi" yn cael ei roi yn lle'r geiriau "Academi Dinas".

Diwygio Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002
     8.  - (1) Mae Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002[10]) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 3(1)(b)(i) mae'r gair "academi" yn cael ei roi yn lle'r geiriau "academi dinas".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11]


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Gorffennaf 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn cymhwyso addasiadau trosiannol i Ddeddf Addysg 2002 mewn cysylltiad â'r ffaith bod darpariaethau'r Ddeddf yn cael eu dwyn i rym gan Orchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2003. Maent yn gwneud diwygiadau canlyniadol hefyd.

Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi.

Mae Rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ynglycircn â dyfodiad i rym adrannau 27 a 28 sy'n galluogi cyrff llywodraethu i ddarparu cyfleusterau cymunedol ac adran 29 sy'n ymwneud â swyddogaethau ychwanegol cyrff llywodraethu. Nes y bydd adran 21 yn dod i rym, mae adran 28 i fod i gael effaith fel petai'n cyfeirio at y ddyletswydd sydd wedi'i chynnwys yn adran 38(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Deddf 1998), sef dyletswydd corff llywodraethu i hyrwyddo safonau uchel o ran cyrhaeddiad addysgol yn yr ysgol. Nes y bydd y diffiniad o "maintained school" yn adran 39 (sy'n cynnwys ysgol feithrin a gynhelir) yn dod i rym, mae'r cyfeiriadau yn adrannau 27, 29(1) ac Atodlen 1 at ysgol a gynhelir i fod i gael effaith fel petaent yn gyfeiriadau at "maintained school" fel y'i diffinnir yn Neddf 1998, a hwnnw'n ddiffiniad nad yw'n cynnwys ysgol feithrin a gynhelir. Nes y bydd paragraff 1 o Atodlen 1 yn dod i rym, mae'r cyfeiriadau at "governing body" ym mharagraff 3 o Atodlen 1 i fod i gael effaith fel petaent yn gyfeiriadau at gorff llywodraethu a ymgorfforwyd o dan Ddeddf 1998.

Mae Rheoliadau 4 i 6 yn gwneud diwygiadau i Orchymyn Addysg (Trosglwyddo Swyddogaethau ynglycircn â Chiniawau Ysgolion) (Cymru) 1999, Gorchymyn Addysg (Trosglwyddo Swyddogaethau ynglycircn â Chiniawau Ysgolion) (Cymru) (Rhif 2) 1999 a Rheoliadau Addysg (Staff Prydau Bwyd Ysgolion) (Cymru) 1999. Mae'r rhain yn canlyn dwyn i rym ar 31 Mawrth 2003 adran 201 sy'n gwneud darpariaeth ynglycircn â swyddogaethau AALl ynghylch darparu prydau bwyd ysgolion.

Mae Rheoliadau 7 ac 8 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002 a Rheoliadau Cymwysterau Athrawon Addysg Bellach (Cymru) 2002, yn y fath fodd ag i gyfeirio at "academïau" yn hytrach nag "academïau dinas". Mae hyn yn canlyn dyfodiad i rym adran 67 ar 26 Gorffennaf 2002, a honno'n adran sy'n darparu bod academïau dinas i'w hadnabod fel academïau. Dim ond yn Lloegr y caniateir i academïau gael eu sefydlu.


Notes:

[1] 2002 p. 32.back

[2] 1998 p.31.back

[3] Mae adran 28 i ddod i rym ar 1 Medi 2003 yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2003, O.S. 2003/1718 (Cy.185) (C.72).back

[4] Mae adrannau 27 a 29 ac Atodlen 1 (yn rhannol) i ddod i rym ar 1 Medi 2003 yn rhinwedd O.S. 2003/1718 (Cy.185) (C.72).back

[5] Mae paragraff 3 o Atodlen 1 i ddod i rym yn rhannol ar 1 Medi 2003 yn rhinwedd O.S. 2003/1718 (Cy.185) (C.72).back

[6] O.S. 1999/610.back

[7] O.S. 1999/1779.back

[8] O.S. 1999/2802.back

[9] O.S. 2002/152 (Cy. 20).back

[10] O.S. 2002/1663 (Cy. 158).back

[11] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090755 8


 
© Crown copyright 2003
Prepared 18 July 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031717w.html