BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2002 Rhif 1721 (Cy.188)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031721w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 1721 (Cy.188)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2002

  Wedi'u gwneud 9 Gorffennaf 2003 
  Yn dod i rym 31 Gorffennaf 2003 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 17(2), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1], sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi ystyried, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, sy'n sefydlu yr Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac sy'n gosod gweithdrefnau mewn perthynas â diogelwch bwyd[3], ac yn unol ag adran 48(4) a 4(B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2003, a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2003 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn  - 

    (2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd i'r geiriau cyfatebol yn Rheoliad y Comisiwn.

Tramgwyddau a chosbau
     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 9 a 10, bydd person yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol os yw'r cyfryw berson  - 

    (2) At ddibenion y rheoliad hwn  - 

Gorfodi
    
4.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), bydd yn ddyletswydd ar bob awdurdod iechyd porthladd i weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

    (2) Mewn perthynas ag unrhyw le nad yw wedi'i leoli yn ardal awdurdod iechyd porthladd, caiff y Rheoliadau hyn eu gweithredu a'u gorfodi gan yr awdurdod bwyd ar gyfer yr ardal y mae'r lle hwnnw wedi'i leoli ynddi.

Addasu adran 29 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (caffael samplau) a dadansoddi samplau
    
5.  - (1) Wrth ei chymhwyso at gymryd sampl o unrhyw fwyd a nodwyd yn adrannau 1 i 5 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, caiff adran 29 o'r Ddeddf ei haddasu er mwyn ei gwneud yn ofynnol i'r pwer i gymryd samplau o dan is-adran (b) a (d) o'r adran honno gael ei arfer yn unol â'r dulliau o gymryd samplau a ddisgrifir neu y cyfeirir atynt yn  - 

    (2) Y gofyniad yw, yn achos letys o'r math a nodir ym mhwynt 1.3 neu 1.4 o Adran 1 o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn, isafswm nifer yr unedau sydd eu hangen ar gyfer pob sampl labordy fydd deg.

    (3) Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n cyfateb i ddisgrifiad y mae is-baragraff (b) o'r paragraff hwnnw yn ymwneud ag ef, a phan fo'r swyddog awdurdodedig hwnnw wedi cyflwyno'r sampl hwnnw i'w ddadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf bydd y person sy'n dadansoddi'r sampl yn sicrhau bod  - 

    (4) Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n ateb y disgrifiad y mae is-baragraff (c) o'r paragraff hwnnw yn ymwneud ag ef, a phan fo'r swyddog awdurdodedig wedi cyflwyno'r sampl hwnnw i'w ddadansoddi yn unol ag adran 39(1)(a) o'r Ddeddf bydd y person sy'n dadansoddi'r sampl yn sicrhau  - 

    (5) Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n ateb y disgrifiad y mae is-baragraff (d) o'r paragraff hwnnw yn ymwneud ag ef, a phan fo'r swyddog awdurdodedig hwnnw wedi cyflwyno'r sampl hwnnw i'w ddadansoddi yn unol ag adran 30(1)(a) o'r Ddeddf, bydd y person sy'n dadansoddi'r sampl yn sicrhau  - 

    (6) Pan fo swyddog awdurdodedig, yn unol ag adran 29(b) neu (d) o'r Ddeddf fel y'i haddaswyd gan baragraff (1), wedi cymryd sampl o fwyd sy'n ateb y disgrifiad y mae is-baragraff (e) o'r paragraff hwnnw yn ymwneud ag ef, a phan fo'r swyddog awdurdodedig hwnnw wedi cyflwyno'r sampl hwnnw i'w ddadansoddi yn unol ag adran 30(1) (a) o'r Ddeddf, bydd y person sy'n dadansoddi'r sampl yn sicrhau  - 

Amddiffyniad mewn perthynas ag allforio
     6. Mewn unrhyw achos o dramgwydd sy'n cynnwys torri rheoliad 3 bydd profi'r canlynol yn amddiffyniad i'r sawl sy'n cael ei gyhuddo  - 

Cymhwyso amrywiol adrannau'r Ddeddf
    
7.  - (1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn  - 

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3), bydd adran 9 o'r Ddeddf (archwilio ac atafaelu bwyd amheus) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiadau canlynol fel petai'n darllen fel a ganlyn  - 

    (3) Bydd yr ymadroddion "authroised officer", "food authority", "port health authority", "human consumption", "placing on the market", "authorised spinach", "authorised lettuce", "Directive 98/53/EC", "Directive 2001/22/EC" and "Directive 2002/26/EC", a "Directive 2002/69/EC", a ddefnyddir yn adran 9 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn yn rhinwedd paragraff (2), at y dibenion hynny, yn dwyn yr un ystyr ag sydd i'r ymadroddion cyfatebol Cymraeg yn y Rheoliadau hyn.

Dychwelyd neu ddistrywio bwyd a fewnforir i Gymru nad yw'n cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn
    
8.  - (1) Os yw'n ymddangos i swyddog awdurdodedig awdurdod iechyd porthladd neu'r awdurdod bwyd, pa un bynnag y bo, fod unrhyw fwyd yn torri rheoliad 3(1)(a)(i) neu (b)(i) a'i fod wedi'i fewnforio i Gymru, gall swyddog o'r fath, ar ôl ymgynghori'n briodol â pherson yr ymddengys i'r swyddog mai ef yw'r sawl sy'n mewnforio, gyflwyno i'r person hwnnw hysbysiad sy'n ei gwneud yn ofynnol fod  - 

    (2) Mewn unrhyw achos lle caiff apêl o'r fath a grybwyllir ym mharagraff (3) ei dwyn mae'n rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) ddatgan  - 

    (3) Caiff unrhyw berson sy'n tybio iddo gael cam o ganlyniad i benderfyniad y swyddog awdurdodedig i gyflwyno hysbysiad o dan baragraff (1) apelio i lys ynadon, a chaiff y llys benderfynu pa un a gyflwynwyd yr hysbysiad yn gyfreithlon ai peidio.

    (4) Y cyfnod ar gyfer dwyn y cyfryw apêl a grybwyllir ym mharagraff (3) fydd 6 diwrnod o'r dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad heb gyfrif y Sadwrn ,y Sul a Gwyliau Cyhoeddus ac, at ddibenion y paragraff hwn, tybir bod gwneud cwyn yn gyfystyr â dwyn apêl.

    (5) Y weithdrefn ar gyfer dwyn apêl gerbron llys ynadon o dan baragraff (3) fydd trwy wneud cwyn am hysbysiad, a bydd Deddf y Llysoedd Ynadon 1980[
24] yn gymwys i'r achos.

    (6) Os bydd llys yn caniatáu apêl a gaiff ei dwyn o dan baragraff (3) rhaid i'r awdurdod dan sylw ddigolledu perchennog y bwyd dan sylw am unrhyw leihad yn ei werth o ganlyniad i'r cam a gymerwyd gan y swyddog awdurdodedig.

    (7) Bydd unrhyw gwestiwn dadleuol ynghylch hawl y perchennog i gael ei ddigolledu neu ynghylch maint y swm a fydd yn daladwy o dan baragraff (6) yn cael ei benderfynu trwy gymrodeddu.

    (8) Bydd unrhyw berson a fydd yn torri telerau hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) yn euog o dramgwydd a bydd yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i gyfnod yng ngharchar na fydd yn fwy na thri mis.

Darpariaethau trosiannol
     9. Ni fydd Rheoliad 3(1)(a)(i) a (b)(i) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fwyd sy'n cael ei osod yn gyfreithlon ar y farchnad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd cyn 5 Ebrill 2002 sy'n cael ei gwmpasu gan, ond nad yw'n bodloni gofynion, Erthygl 1.1, 2.1 neu 2.2 o Reoliad y Comisiwn, fel y'u darllenir gydag Erthygl 1.2 o'r Rheoliad hwnnw i'r graddau y mae'r diffyg yn bodoli oherwydd y gosodir ar y farchnad fwyd yn cynnwys halogyn a nodwyd yn adran 3 neu 4 o Atodiad I i'r Rheoliad hwnnw ar lefel sy'n uwch na'r hyn a bennwyd yn ail golofn yr adran dan sylw.

    
10. Ni fydd rheoliad 3(1)(a)(ii) ac b(ii) yn gymwys mewn perthynas â thorri Erthygl 2.3 o Reoliad y Comisiwn, i'r graddau bod y toramod yn cynnwys yn y defnydd o gynhwysion bwyd, ar gyfer cynhyrchu bwyd cyfansawdd, fwyd a osodwyd yn gyfreithlon ar y farchnad yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd cyn 5 Ebrill 2002 ac sy'n cynnwys halogyn a bennwyd yn adran 3 neu 4 o Atodiad I i'r Rheoliad hwnnw ar lefel sy'n uwch na'r hyn a nodwyd yn yr ail golofn o'r adran dan sylw.

Diwygiadau canlyniadol
    
11. Yn Atodlen 1 i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplo a Chymwysterau) 1990[25] i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru (darpariaethau nad yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt) yn lle pob cofnod sy'n ymwneud â'r Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2002 rhowch y canlynol  - 

Dirymu Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2002
     12. Caiff y Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2002 [26]eu dirymu.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[27].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Gorffennaf 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n ymestyn i Gymru yn unig ac sy'n diddymu ac yn ailddeddfu gyda newidiadau Reoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2002 (O.S. 2001/1886)(Cy.195) yn  - 

     2. Mae'r Rheoliadau hyn  - 

     3. Paratowyd arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Ty Southgate, Caerdydd, CF10 1EW.


Notes:

[1] 1990 (p. 16).back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r "Ysgrifennydd Gwladol" o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back

[4] 1984 (p.22).back

[5] OJ Rhif L372, 31.12.85, t.50.back

[6] OJ Rhif L290, 24.11.93, t.14.back

[7] OJ Rhif L201, 17.7.1998, t.93.back

[8] OJ Rhif L75, 16.3.2002, t.44.back

[9] OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.14back

[10] OJ Rhif L325, 8.12.2001, t.34back

[11] OJ Rhif L252, 20.9.2002, t.40.back

[12] OJ Rhif L1, 3.1.94, t.3.back

[13] OJ Rhif L1, 3.1.94, t.37.back

[14] OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.1 fel y'i mabwysiadwyd gan benderfyniad Cyd-bwyllgor yr AEE Rhif 81/2002 (OJ Rhif L266, 3.10.2002, t.30 ac atodiad AEE Rhif 49, 3.10.2002)..back

[15] OJ Rhif L313, 30.11.2001, t.60 fel y'i mabwysiadwyd gan Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr AEE Rhif 81/2002..back

[16] OJ Rhif L321, 6.12.2001, t.1 fel y'i mabwysiadwyd gan Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr AEE Rhif 81/2002.back

[17] OJ Rhif L37, 7.2.2002, t.4 fel y'i mabwysiadwyd gan Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr AEE Rhif 139/2002 (OJ Rhif L19, 23.1.2003, t.3 ac atodiad AEE Rhif 5, 23.1.2003).back

[18] OJ Rhif L41, 13.2.2002, t.12 fel y'i mabwysiadwyd gan Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr AEE Rhif 100/2002 (OJ Rhif L298, 31.10.2002, t.13 ac atodiad AEE Rhif 54, 31.10.2002, t.11).back

[19] OJ Rhif L75, 16.3.2002, t.18, fel y'i mabwysiadwyd gan Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr AEE Rhif 161/2002 (OJ Rhif L38, 13.2.2003, t.16 ac atodiad AAE Rhif 9, 13.2.2003, t.13).back

[20] OJ Rhif L80, 23.3.2002, t.42.back

[21] OJ Rhif L86, 3.4.2002, t.5 fel y'i mabwysiadwyd gan Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr AEE Rhif 161/2002..back

[22] OJ Rhif L155, 14.6.2002, t.63 fel y'i mabwysiadwyd gan Benderfyniad Cyd-bwyllgor yr AEE Rhif 161/2002.back

[23] OJ Rhif L187, 16.7.2002, t.30.back

[24] 1980 c.43.back

[25] O.S. 1990/2463. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1999/1603 ac O.S. 2002/1886 (W.195).back

[26] O.S. 2002/1886 (W.195).back

[27] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090753 1


 
© Crown copyright 2003
Prepared 16 July 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031721w.html