BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Ansawdd Aer (Osôn) (Cymru) 2003 Rhif . 1848 (Cy.198)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031848w.html

[New search] [Help]



STATUTORY INSTRUMENTS


2003 Rhif . 1848 (Cy.198)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Ansawdd Aer (Osôn) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 16 Gorffennaf 2003 
  Yn dod i rym 9 Medi 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[1] ac is-adran (2) o adran 2 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2], a chan ei fod wedi'i ddynodi at ddibenion yr is-adran honno gan Erthygl 2 o Orchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 2000[3] mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud ag asesu a rheoli ansawdd aer amgylchynol a chydymffurfio â gwerthoedd terfyn, gwerthoedd targed, ac amcanion ansawdd aer, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ansawdd Aer (Osôn) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 9 Medi 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diffiniadau
    
2. Yn y Rheoliadau hyn  - 

Gwerthoedd targed ac amcanion hirdymor
     3.  - (1) Mae'r gwerthoedd targed ar gyfer lefelau osôn wedi'u nodi yn Rhan II o Atodlen 1.

    (2) Mae'r amcanion hirdymor ar gyfer lefelau osôn wedi'u nodi yn rhan III o Atodlen 1.

    (3) Mae'r diffiniadau a'r darpariaethau yn Rhan I o Atodlen 1 yn gymwys i Rannau II a III o'r Atodlen honno.

Asesu lefelau osôn a rhagsylweddion osôn
    
4.  - (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod lefelau osôn a rhagsylweddion osôn yn cael eu hasesu ym mhob parth yn unol â'r rheoliad hwn.

    (2) Rhaid defnyddio mesuriadau sefydlog parhaus mewn unrhyw barth lle, o fewn unrhyw un o'r pum mlynedd blaenorol, y mae lefelau osôn wedi bod yn uwch nag amcan hirdymor.

    (3) Er mwyn penderfynu a yw lefelau osôn, yn ystod unrhyw un o'r pum mlynedd blaenorol, wedi bod yn uwch nag amcan hirdymor mewn parth nad yw data o fesuriadau sefydlog parhaus ar gael ar ei gyfer am y cyfan o'r cyfnod hwnnw, caniateir i ymgyrchoedd mesur byrhoedlog, ar adegau ac mewn lleoliadau sy'n debyg o fod yn nodweddiadol o'r lefelau llygredd uchaf, gael eu cyfuno â chanlyniadau o restrau allyriannau a gwaith modelu.

    (4) Pan nad yw lefelau osôn mewn parth wedi bod yn uwch na'r amcanion hirdymor mewn unrhyw un o'r pum mlynedd blaenorol, caniateir defnyddio cyfuniad o fesuriadau sefydlog parhaus, gwaith modelu a mesuriadau dangosol yn y parth hwnnw.

    (5) Ar gyfer pob parth y mae paragraff (2) yn gymwys iddo, rhaid i isafswm nifer y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog parhaus fod yn unol â Rhan I o Atodlen 3.

    (6) Ar gyfer pob parth y mae paragraff (2) yn gymwys iddo, rhaid bod mesuriadau nitrogen deuocsid - 

    (7) Caniateir lleihau nifer y pwyntiau samplu sefydlog sy'n ofynnol o dan baragraff (5) ar yr amod  - 

    (8) Ar gyfer pob parth y mae paragraff (7) yn gymwys iddo, rhaid cymryd y ffynonellau gwybodaeth ychwanegol y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (7)(a) i ystyriaeth wrth asesu ansawdd aer mewn perthynas â gwerthoedd targed.

    (9) Ar gyfer pob parth y mae paragraff (4) yn gymwys iddo, rhaid i isafswm y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog fod yn unol â Rhan II o Atodlen 3.

    (10) Mae Atodlen 2 yn cael effaith at ddibenion penderfynu lleoliadau pwyntiau samplu ar gyfer mesur osôn.

    (11) Rhaid defnyddio'r dulliau cyfeirio ar gyfer dadansoddi osôn a chalibradu offerynnau osôn sydd wedi'u nodi yn Atodlen 6 oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn mabwysiadu dulliau eraill y gellir dangos eu bod yn rhoi canlyniadau cyfatebol yn ei farn ef.

    (12) Ar gyfer rhagsylweddion osôn  - 

    (13) Ar gyfer osôn ac ocsidau nitrogen rhaid i fesuriadau cyfaint gael eu safon ar dymheredd o 293K a phwysedd o 101.3kPa.

Rhaglenni a mesurau i fynd i'r afael â lefelau osôn
    
5.  - (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestr o'r parthau lle mae  - 

    (2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol baratoi a gweithredu, ar gyfer pob parth sydd wedi'i restru o dan baragraff (1)(a), gynllun neu raglen ar gyfer cyrraedd y gwerthoedd targed erbyn y dyddiad a bennir yn Rhan II o Atodlen 1.

    (3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn na fyddai modd cyrraedd y gwerthoedd targed drwy fesurau cymesur.

    (4) Wrth baratoi a gweithredu cynllun neu raglen o dan baragraff (2), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod y cynllun neu'r rhaglen yn cael ei integreiddio, lle bo'n briodol, ag unrhyw gynllun neu raglen sydd wedi'i pharatoi ar gyfer y parth hwnnw o dan reoliad 10 o Reoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2002[
5].

    (5) Rhaid i gynllun neu raglen a baratowyd o dan baragraff (2) gynnwys, o leiaf, wybodaeth sy'n cyfateb i'r wybodaeth sydd wedi'i rhestru yn Atodlen 7 i Reoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2002, (fel petai cyfeiriadau yn yr Atodlen honno at "llygredd" yn gyfeiriadau at lefelau osôn sy'n uwch na'r lefel darged), a rhaid trefnu iddynt fod ar gael i'r cyhoedd.

    (6) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol baratoi a gweithredu ar gyfer pob parth a restrir o dan baragraff (1)(b) fesurau y mae'n barnu eu bod yn gost-effeithiol, gan anelu at sicrhau'r amcanion hirdymor.

    (7) Rhaid i'r mesurau a baratoir ac a weithredir o dan baragraff (6) fod o leiaf yn gyson ag unrhyw gynlluniau neu raglenni a baratowyd ac a weithredwyd o dan baragraff (2).

    (8) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar gyfer unrhyw barth y mae paragraff (1)(c) yn gymwys iddo  - 

Y trothwy gwybodaeth a'r trothwy rhybuddio
     6. Mae'r trothwy gwybodaeth a'r trothwy rhybuddio ar gyfer osôn wedi'u nodi yn Rhan I o Atodlen 7.

Gwybodaeth gyhoeddus
    
7.  - (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod gwybodaeth gyfoes ar lefelau osôn yn cael ei rhoi ar gael i'r cyhoedd fel mater o drefn yn unol â darpariaethau'r Rheoliad hwn.

    (2) Rhaid diweddaru'r wybodaeth am lefelau osôn ym mharagraff (1)  - 

    (3) Rhaid bod gwybodaeth sy'n cael ei rhoi ar gael o dan baragraff (1) yn cynnwys  - 

    (4) Rhaid i'r adroddiadau blynyddol y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (3)(b) ddangos, o leiaf  - 

    (5) At ddibenion y rheoliad hwn, mae'r "cyfnod cyfartaleddu perthnasol"  - 

    (6) Yn ychwanegol at ei darparu i'r cyhoedd, rhaid darparu gwybodaeth y trefnwyd iddi fod ar gael o dan baragraff (3)(c) i unrhyw fwrdd iechyd lleol y mae gormodiant o'r fath yn effeithio ar ei ardal neu y gallai gormodiant o'r fath effeithio ar ei ardal.

    (7) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi'r wybodaeth a'r adroddiadau y cyfeirir atynt yn y rheoliad hwn yn y modd y mae'n barnu ei fod yn briodol, o ystyried natur yr wybodaeth honno a'r adroddiadau hynny.

    (8) Os eir yn uwch na'r trothwy rhybuddio neu'r trothwy gwybodaeth, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddarparu i'r cyhoedd yr wybodaeth a bennir yn Rhan II o Atodlen 7.

    (9) Os daroganir gormodiant uwchlaw'r trothwy rhybuddio neu'r trothwy gwybodaeth, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, lle bo'n ymarferol, ddarparu i'r cyhoedd yr wybodaeth a bennir yn Rhan II o Atodlen 7.

    (10) Rhaid i wybodaeth y trefnir iddi fod ar gael i'r cyhoedd o dan y rheoliad hwn fod yn glir, yn ddealladwy ac yn hygyrch.

Cynlluniau gweithredu tymor byr
    
8.  - (1) Os oes unrhyw risg o fynd yn uwch na'r trothwy rhybuddio ar gyfer osôn mewn parth, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu a oes posibilrwydd sylweddol o leihau'r risg honno neu leihau hyd neu ddifrifoldeb unrhyw ormodiant o'r fath petai hynny'n digwydd ac os felly, rhaid iddo lunio cynllun gweithredu, gan gymryd i ystyriaeth amgylchiadau lleol penodol, gan nodi'r mesurau sydd i'w cymryd, yn y tymor byr, i ddileu neu leihau'r risg honno neu leihau hyd neu ddifrifoldeb y gormodiant, yn ôl fel y digwydd.

    (2) Wrth wneud y penderfyniad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1), rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd i ystyriaeth yr amodau daearyddol, meteorolegol ac economaidd cenedlaethol.

    (3) Rhaid i'r Cynulliad Genedlaethol drefnu bod y canlynol ar gael i'r cyhoedd  - 

Llygredd trawsffiniol
    
9.  - (1) Os yw lefel osôn mewn unrhyw barth yng Nghymru yn uwch na gwerth targed neu amcan hirdymor, a bod y gormodiant hynny wedi'i achosi i raddau helaeth, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, gan allyriannau rhagsylweddion mewn un o Aelod Wladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol.

    (2) Os yw'r Ysgrifennydd Gwladol yn llunio cynllun neu raglen ar y cyd, neu gynllun gweithredu tymor byr ar y cyd, gydag un o Aelod Wladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd, gan gydymffurfio â dyletswydd a osodwyd gan y Gymuned, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol weithredu yn ôl yr hyn sydd o fewn ei bwerau i roi'r cynllun hwnnw neu'r rhaglen honno ar waith yng Nghymru.

    (3) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr "dyletswydd a osodwyd gan y Gymuned" yw dyletswydd a osodwyd ar y Deyrnas Unedig gan Erthygl 8(1) neu (2) o Gyfarwyddeb 2002/3/EC o'r Senedd Ewropeaidd a'r Cyngor sy'n ymwneud ag osôn yn yr aer amgylchynol[
6].

Gofynion ynglycircn â gwybodaeth
     10.  - (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud yn siwr fod yr wybodaeth a bennir yn Rhan I o Atodlen 8 yn cael ei sicrhau a'i chydgasglu.

    (2) Mae'r meini prawf ar gyfer agregu data a chyfrifo paramedrau ystadegol a bennir yn Rhan II o Atodlen 8 yn gymwys i'r wybodaeth a bennir ym mharagraff (1).

Dirymu Rheoliadau Monitro Osôn a Gwybodaeth am Osôn 1994
    
11. Dirymir drwy hyn Reoliadau Monitro Osôn a Gwybodaeth am Osôn 1994[7], i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Gorffennaf 2003



ATODLEN 1
Rheoliadau 3 a 5(2)


Y GWERTHOEDD TARGED A'R AMCANION HIRDYMOR AR GYFER LEFELAU OSÔN




RHAN I

Diffiniadau a dehongli

Wrth asesu i ba raddau y cydymffurfiwyd â'r gwerthoedd targed a'r amcanion hirdymor a nodir yn yr Atodlen hon  - 



RHAN II

Y gwerthoedd targed ar gyfer osôn

     Paramedr Y gwerth targed ar gyfer 2010 (a)
     1. Y gwerth targed ar gyfer diogelu iechyd dynol

Y cymedr 8 awr dyddiol uchaf (b) 120µg/m3, sef ffigur na ddylid mynd yn uwch nag ef ar fwy na 25 diwrnod fesul blwyddyn galendar a hynny wedi'i gyfartaleddu dros dair blynedd (c)
     2. Y gwerth targed ar gyfer diogelu llystyfiant

AOT40, wedi'i gyfrifo o werthoedd 1 awr o Fai i Orffennaf 18,000µg/m3·awr wedi'i gyfartaleddu dros bum mlynedd (c)

(a) asesir cydymffurfedd â'r gwerthoedd targed yn ôl y gwerth hwn. Hynny yw, 2010 fydd y flwyddyn gyntaf y defnyddir y data ar ei chyfer i gyfrifo cydymffurfedd dros dair neu bum mlynedd fel y bo'n briodol.

(b) rhaid dethol crynodiad y cymedr 8 awr dyddiol uchaf drwy archwilio cyfartaleddau cyfredol 8 awr, wedi'u cyfrifo o ddata yn ôl yr awr ac wedi'u diweddaru bob awr. Rhaid priodoli pob cyfartaledd 8 awr sydd wedi'i gyfrifo felly i'r diwrnod y mae'n dod i ben arno  -  hynny yw, y cyfnod cyfrifo cyntaf ar gyfer unrhyw un diwrnod fydd y cyfnod o 17:00 ar y diwrnod cynt i 01:00 ar y diwrnod hwnnw; y cyfnod cyfrifo olaf ar gyfer unrhyw un diwrnod fydd y cyfnod o 16:00 i 24:00 ar y diwrnod hwnnw.

(c) os nad oes modd penderfynu'r cyfartaleddau tair-blynedd neu'r cyfartaleddau pum-mlynedd ar sail set gyflawn ac olynol o ddata blynyddol, rhaid bod isafswm y data blynyddol sy'n ofynnol ar gyfer gwirio cydymffurfedd â'r gwerthoedd targed fel a ganlyn:



RHAN III

Amcanion hirdymor ar gyfer osôn

     Paramedr Amcan hirdymor
     1. Yr amcan hirdymor ar gyfer diogelu iechyd pobl

Y cymedr 8 awr dyddiol uchaf o fewn blwyddyn galendar 120µg/m3
     2. Yr amcan hirdymor ar gyfer diogelu llystyfiant

AOT40, wedi'i gyfrifo o werthoedd 1 awr o Fai i Orffennaf 6,000µg/m3·awr



ATODLEN 2
Rheoliad 4(10)


DOSBARTHU A LLEOLI PWYNTIAU SAMPLU


Bydd yr ystyriaethau canlynol yn gymwys i fesuriadau sefydlog:



RHAN I

Lleoli ar y raddfa facro



Y math o orsaf Amcan y mesuriad Cynrychioldeb (a) Meini prawf lleoli ar y raddfa facro
Trefol Diogelu iechyd pobl: asesu datguddiad y boblogaeth drefol i osôn h.y., lle mae'r dwysedd poblogaeth a chrynodiad osôn yn gymharol uchel ac yn nodweddiadol o ddatguddiad y boblogaeth gyffredinol. Ychydig o km2. I ffwrdd o ddylanwad allyriannau lleol megis traffig, gorsafoedd petrol etc; lleoliadau awyredig lle gellir mesur lefelau sydd wedi'u cymysgu'n dda; lleoliadau megis rhannau preswyl a rhannau masnachol mewn dinasoedd, parciau (i ffwrdd o'r coed), strydoedd mawr neu sgwarau gydag ychydig o draffig neu ddim o gwbl, mannau agored sy'n nodweddiadol o gyfleusterau addysg, chwaraeon neu hamdden.
Maestrefol Diogelu iechyd pobl a llystyfiant: Asesu datguddiad y boblogaeth a'r llystyfiant sydd wedi'u lleoli ar gyrion y crynhoad, lle mae'r lefelau osôn uchaf, y mae'r boblogaeth a'r llystyfiant yn debygol o fod yn agored yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol iddynt, yn digwydd. Rhai degau o km2 Ar ryw bellter o ardal yr allyriannau uchaf o du'r gwynt gan ddilyn cyfeiriadau'r prif wynt yn ystod amodau sy'n ffafriol ar gyfer ffurfio osôn;

lle mae'r boblogaeth cnydau sensitif neu ecosystemau naturiol wedi'u lleoli ar ymylon allanol crynhoad yn cael eu datguddio i lefelau uchel o osôn;

os yw'n briodol rhai gorsafoedd maestrefol o du'r gwynt i'r ardal lle mae'r allyriannau uchaf, er mwyn penderfynu lefelau cefndir rhanbarthol osôn.

Gwledig Diogelu llystyfiant a iechyd pobl: Asesu datguddiad y boblogaeth, cnydau ac ecosystemau naturiol i grynodiadau osôn ar raddfa is-ranbarthol. Lefelau is-ranbarthol (ychydig o km2) Gellir lleoli gorsafoedd mewn cytrefi bychain a/neu ardaloedd ag ecosystemau naturiol, fforestydd neu gnydau;

yn gynrychioliadol ar gyfer osôn i ffwrdd o ddylanwad allyriannau lleol uniongyrchol megis sefydliadau diwydiannol a ffyrdd;

mewn safleoedd â mannau agored, ond nid ar bennau'r mynyddoedd uchaf.

Cefndir gwledig Diogelu llystyfiant ac iechyd pobl: Asesu datguddiad cnydau ac ecosystemau naturiol i grynodiadau osôn ar raddfa ranbarthol yn ogystal â datguddiad y poblogaethau. Lefelau rhanbarthol/ cenedlaethol/cyfandirol (1,000 to 10,000km2) Gorsafoedd sydd wedi'u lleoli mewn mannau â dwysedd poblogaeth is, e.e. gydag ecosystemau naturiol, fforestydd, yn bell iawn o fannau trefol a diwydiannol ac i ffwrdd o allyriannau lleol;

osgoi lleoliadau sy'n rhwym wrth y duedd leol i ffurfio amodau gwrth-droi sy'n agos at y ddaear, a chopâu'r mynyddoedd uchaf hefyd;

nid argymhellir safleoedd arfodirol gyda chylchoedd gwynt dyddiol amlwg lleol eu natur.


Ar gyfer gorsafoedd gwledig a gorsafoedd cefndir gwledig, dylid ystyried cydlynu, lle bo'n briodol, â'r gofynion monitro yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1091/94 [8] ynghylch diogelu fforestydd y Gymuned rhag llygredd atmosfferig.



RHAN II

Lleoli ar y raddfa ficro

Dylid dilyn y canllawiau canlynol, cyn belled ag y bo'n ymarferol:

     1. dylai'r llif o amgylch profiedydd samplu y fewnfa fod y ddigyfyngiad (yn rhydd mewn cylchran o 2700 o leiaf) heb unrhyw rwystrau sy'n effeithio ar lif yr aer yng nghyffiniau'r samplwr, h.y. i ffwrdd o adeiladau, balconïau, coed ac unrhyw rwystrau eraill a hynny â mwy na dwywaith gymaint y gwahaniaeth rhwng uchder y rhwystr ac uchder y samplwr.

     2. yn gyffredinol, dylai pwynt samplu'r fewnfa fod rhwng 1.5m (y parth anadlu) a 4m uwchlaw'r ddaear. Mae safleoedd uwch yn bosibl hefyd ar gyfer gorsafoedd trefol o dan rai amgylchiadau ac mewn mannau coediog.

     3. dylai profiedydd y fewnfa fod y bell i ffwrdd o unrhyw ffynonellau megis ffwrneisi a chyrn simneiau hylosgi a mwy na 10m o'r ffordd agosaf, a'r pellter yn cynyddu fel ffwythiant dwysedd traffig.

     4. dylai allfa wacáu'r samplwr fod wedi'i leoli er mwyn osgoi ailgylchu nwyon llosg i fewnfa'r samplwr.

Gall y ffactorau canlynol gael eu cymryd i ystyriaeth hefyd:



RHAN III

Dogfennu ac adolygu'r gwaith o ddewis safleoedd

Dylai gweithdrefnau dewis safleoedd gael eu dogfennu'n llawn adeg y dosbarthu drwy gyfrwng megis ffotograffau pwynt-cwmpawd o'r amgylchoedd a map manwl. Dylid adolygu safleoedd yn rheolaidd gan ailadrodd y gwaith dogfennu i sicrhau bod y meini prawf dewis yn cael eu bodloni o hyd.

Mae hyn yn gofyn am sgrinio a dehongli'r data monitro'n briodol yng nghyd-destun y prosesau metereolegol a ffotocemegol sy'n effeithio ar grynodiadau osôn sy'n cael eu mesur yn y safle priodol.



ATODLEN 3
Rheoliad 4(5), (6) a (9)


Y MEINI PRAWF AR GYFER DARGANFOD ISAFSYMIAU'R PWYNTIAU SAMPLU AR GYFER MESURIADAU SEFYDLOG O LEFELAU OSÔN




RHAN I

Isafswm y pwyntiau samplu ar gyfer mesuriadau sefydlog parhaus i asesu ansawdd aer gyda golwg ar gydymffurfedd â'r gwerthoedd targed, yr amcanion hirdymor a throthwyon gwybodaeth a rhybuddio os mesuriadau parhaus yw'r unig ffynhonnell wybodaeth.

Poblogaeth (x 1,000) Crynoadau (trefol a maestrefol) (a) Parthau eraill (maestrefol a gwledig) (a) Cefndir Gwledig
0  -  250      1 1 orsaf/50,000 km2 fel
251  -  500 1 2 dwysedd cyfartalog ar gyfer
501  -  1,000 2 2 pob parth fesul gwlad (b)
1,001  -  1,500 3 3     
1,501  -  2,000 3 4     
2,001  -  2,750 4 5     
2,751  -  3,750 5 6     
> 3,750 1 orsaf ychwanegol fesul 2 filiwn o drigolion 1 orsaf ychwanegol fesul 2 filiwn o drigolion     





RHAN II

Isafswm y pwyntiau samplu ar gyfer y mesuriadau sefydlog ar gyfer parthau sy'n cyrraedd yr amcanion hirdymor.

Rhaid i nifer y pwyntiau samplu ar gyfer osôn, mewn cyfuniad â dulliau eraill o asesu ychwanegol megis modelu ansawdd aer a mesuriadau nitrogen deuocsid sydd wedi'u cydleoli, fod yn ddigon i archwilio tuedd llygredd osôn a gwirio cydymffurfedd â'r amcanion hirdymor. Caniateir lleihau nifer y gorsafoedd sydd wedi'u lleoli mewn crynoadau a pharthau eraill i draean o'r nifer a bennir yn Rhan I. Os gwybodaeth o orsafoedd mesuriadau sefydlog yw unig ffynhonnell yr wybodaeth, dylid cadw o leiaf un orsaf fonitro. Os canlyniad hyn, mewn parthau lle ceir asesiad ychwanegol, yw nad oes gan barth unrhyw orsaf ar ôl, rhaid sicrhau drwy gydlynu â nifer y gorsafoedd mewn parthau cymdogol fod asesiad digonol o grynodiadau osôn yn erbyn amcanion hirdymor yn cael ei gynnal. Dylai nifer y gorsafoedd cefndir gwledig fod yn 1 am bob 100,000 km2.



ATODLEN 4
Rheoliad 4(12)


MESURIADAU RHAGSYLWEDDION OSÔN


Amcanion
Prif amcanion mesuriadau rhagsylweddion osôn yw dadansoddi unrhyw duedd mewn rhagsylweddion osôn, gwirio effeithlonrwydd strategaethau lleihau allyriannau, gwirio cysondeb rhestrau allyriannau a helpu i briodoli ffynonellau allyrru i grynodiadau llygredd.

Nod ychwanegol yw cynnal dealltwriaeth o brosesau ffufio osôn a gwasgaru rhagsylweddion, yn ogystal â chymhwyso modelau ffotocemegol.

Sylweddau
Rhaid i fesuriadau rhagsylweddion osôn gynnwys o leiaf ocsidau nitrogen a chyfansoddion organig anweddol priodol (VOCs). Rhoddir rhestr o'r VOCs yr argymhellir eu mesur isod.

Ethan 1-bwten Isopren ethyl bensen
Ethylen trans-2-bwten n-hecsan m+p-sylen
Acetylen cis-2-bwten i-hecsan o-sylen
Propan 1.3-bwtadïen n-heptan 1,2,4-trimeth.bensen
Propen n-pentan n-octan 1,2,3-trimeth.bensen
n-bwtan i-pentan i-octan 1,3,5-trimeth.bensen
i-bwtan 1-penten bensen fformaldehyd
     2-penten tolwen cyfanswm hydrocarbonau anfethan

Dulliau cyfeirio
Y dull cyfeirio ar gyfer dadansoddi ocsidau nitrogen fydd y dull sydd wedi'i bennu yn Rhan II o Atodlen 6 i Reoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2002, O. S. 2002/3183 (Cy.299).

Lleoli
Dylid cymryd mesuriadau mewn ardaloedd trefol a maestrefol yn benodol mewn unrhyw safle monitro sydd wedi'i sefydlu yn unol â gofynion Rheoliadau Gwerthoedd Terfyn Ansawdd Aer (Cymru) 2002 ac y bernir eu bod yn briodol mewn perthynas â'r amcanion monitro yn yr Atodlen hon.



ATODLEN 5
Rheoliad 4(7)



AMCANION ANSAWDD DATA A LLUNIO CANLYNIADAU ASESIADAU ANSAWDD AER


RHAN I

Amcanion ansawdd data

Mae'r amcanion ansawdd data canlynol ar gyfer yr ansicrwydd sy'n cael ei ganiatáu ar gyfer dulliau asesu, yr isafsymiau amser a'r gwaith cofnodi data yn sgil mesur yn cael eu nodi er mwyn arwain rhaglenni sicrwydd ansawdd;

     Ar gyfer osôn, NO ac NO2
Mesuriadau sefydlog parhaus
Ansicrwydd mesuriadau unigol 15%
Isafswm ar gyfer cofnodi data 90% yn ystod yr haf

75% yn ystod y gaeaf

Mesur dangosol
Ansicrwydd mesuriadau unigol 30%
Isafswm ar gyfer cofnodi data 90%
Isafswm ystod amser >10% yn ystod yr haf
Modelu
Ansicrwydd     
Cyfartaleddau 1 awr (yn ystod y dydd) 50%
Uchafswm dyddiol 8 awr 50%
Amcangyfrif gwrthrychol
Ansicrwydd 75%

Rhaid cloriannu ansicrwydd y dulliau mesur (ar gyfwng hyder o 95%) yn unol â'r egwyddorion sydd wedi'u nodi yn "Guide to the Expression of Uncertainty of Measurements" (ISO 1993) neu'r fethodoleg yn ISO 5725-1 "Accuracy (trueness and precision) of measurement methods and results" (ISO 1994)[
9] neu safon gyfatebol. Mae'r canrannau ar gyfer ansicrwydd yn y tabl wedi'u rhoi ar gyfer mesuriadau unigol, wedi'u cyfartaleddu dros y cyfnod ar gyfer cyfrifo gwerthoedd targed ac amcanion hirdymor, ar gyfer cyfwng hyder o 95%. Dylai'r ansicrwydd ar gyfer mesuriadau sefydlog parhaus gael ei ddehongli fel pe bai'n gymwysadwy o gwmpas y crynodiad sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer y trothwy priodol.

Mae'r ansicrwydd ar gyfer modelu ac amcangyfrif gwrthrychol yn golygu'r uchafswm amrywiadau ar y lefelau crynodiadau a gyfrifir ac a fesurir, dros y cyfnod ar gyfer cyfrifo'r trothwy priodol, heb gymryd amseriad digwyddiadau i ystyriaeth.

Ystyr "ystod amser" yw canran yr amser y dylid ei ystyried wrth fesur y llygryn ar gyfer pennu'r gwerth trothwy.

Ystyr "cofnodi data" yw'r gymhareb o'r amser y mae'r offeryn yn cynhyrchu data dilys ar ei gyfer, i'r amser y mae'r paramedr ystadegol neu'r gwerth agregedig i'w gyfrifo ar ei gyfer.

Nid yw'r gofynion ar gyfer isafsymiau cofnodi data ac isafsymiau ystod amser yn cynnwys colli data wrth i'r offer gael eu calibradu yn rheolaidd neu eu cynnal a'u cadw fel rhan o'r drefn.



RHAN II

Canlyniadau asesu ansawdd aer

Dylai'r wybodaeth ganlynol gael ei llunio ar gyfer parthau neu grynoadau y defnyddir ffynonellau heblaw mesuriadau ynddynt i ychwanegu at gwybodaeth o fesuriadau;



ATODLEN 6
Rheoliad 4(11)


DULLIAU CYFEIRIO AR GYFER DADANSODDI OSÔN A CHALIBRADU OFFERYNNAU OSÔN


Y dull ffotometrig UV fydd y dull cyfeirio ar gyfer dadansoddi osôn (ISO FDIS 13964)[
10].

Y dull cyfeirio ffotometrau UV fydd y dull cyfeirio ar gyfer calibradu offerynnau osôn (ISO FDIS 13964, VDI 2468, B1.6)[11].



ATODLEN 7
Rheoliadau 6, 7(8) a (9)


TROTHWYON GWYBODAETH A THROTHWYON RHYBUDDIO




RHAN I

Y trothwy gwybodaeth a'r trothwy rhybuddio ar gyfer osôn

     Paramedr Trothwy
Trothwy Gwybodaeth Cyfartaledd o 1 awr 180µg/m3
Trothwy Rhybuddio Cyfartaledd o 1 awr (a) 240µg/m3



RHAN II

Isafswm y manylion sydd i'w darparu i'r cyhoedd pan eir yn uwch na'r trothwy gwybodaeth neu'r trothwy rhybuddio neu pan ddaroganir y bydd gormodiant.

Dylai'r manylion sydd i'w darparu cyn gynted â phosibl i'r cyhoedd ar raddfa ddigon mawr gynnwys:

     1. Gwybodaeth am unrhyw ormodiant y sylwyd arno:

     2. Y darogan ar gyfer y prynhawn, y diwrnod neu'r diwrnodau canlynol:

     3. Gwybodaeth am y math o boblogaeth o dan sylw, yr effeithiau posibl ar iechyd a'r ymddygiad a argymhellir:

     4. Rhaid i'r wybodaeth a ddarperir o dan yr Atodlen hon gynnwys hefyd:



ATODLEN 8
Rheoliad 10(1) a (2)


YR WYBODAETH SYDD I'W SICRHAU A'I CHYDGASGLU AM LEFELAU OSÔN, A MEINI PRAWF AR GYFER AGREGU DATA A CHYFRIFO PARAMEDRAU YSTADEGOL




RHAN I

Gwybodaeth am lefelau osôn

Rhaid sicrhau a chydgasglu'r wybodaeth ganlynol am lefelau osôn:

     Y math o orsaf Lefel Yr amser cyfartaleddu/ cronni Y dyddiad dros dro ar gyfer pob mis o Ebrill i Fedi Adroddiad ar gyfer pob blwyddyn
Trothwy gwybodaeth Unrhyw un 180µg/m3 1 awr  -  ar gyfer pob diwrnod lle cafwyd unrhyw ormodiant: y dyddiad, cyfanswm oriau'r gormodiant, gwerth osôn 1 awr uchaf a gwerthoedd NO2 cysylltiedig yn ôl y gofyn.

 -  gwerth osôn 1 awr misol uchaf.

 -  ar gyfer pob diwrnod lle cafwyd unrhyw ormodiant: y dyddiad, cyfanswm oriau'r gormodiant, gwerth osôn 1 awr uchaf a gwerthoedd NO2 cysylltiedig yn ôl y gofyn.
Trothwy rhybuddio Unrhyw un 240µg/m3 1 awr  -  ar gyfer pob diwrnod lle cafwyd unrhyw ormodiant: y dyddiad, cyfanswm oriau'r gormodiant, gwerth osôn 1 awr uchaf a gwerthoedd NO2 cysylltiedig yn ôl y gofyn.  -  ar gyfer pob diwrnod lle cafwyd unrhyw ormodiant: y dyddiad, cyfanswm oriau'r gormodiant, gwerth osôn 1 awr uchaf a gwerthoedd NO2 cysylltiedig yn ôl y gofyn.
Diogelu iechyd Unrhyw un 120µg/m3 8 awr  -  ar gyfer pob diwrnod lle cafwyd unrhyw ormodiant; y dyddiad, uchafswm o 8 awr (b)  -  ar gyfer pob diwrnod lle cafwyd unrhyw ormodiant; y dyddiad, uchafswm o 8 awr (b)
Diogelu llystyfiant Maestrefol, trefol, cefndir gwledig AOT40 (a) = 6,000 µg/m3·h 1 awr, amser wedi'i gronni o Fai i Fehefin      Gwerth
Diogelu fforestydd Maestrefol, trefol, cefndir gwledig AOT40 (a) = 20,000 µg/m3·h 1 awr, amser wedi'i gronni o Ebrill i Fedi      Gwerth
Deunyddiau Unrhyw un 40µg/m3 Blwyddyn      Gwerth



RHAN II

Y meini prawf ar gyfer agregu data a chyfrifo paramedrau ystadegol

Yn y Rhan hon, mae canraddau i'w cyfrifo drwy ddefnyddio'r dull a bennir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 97/101/EC[
12].

Mae'r meini prawf canlynol i'w defnyddio ar gyfer gwirio dilysrwydd wrth agregu data a chyfrifo paramedrau ystadegol:

Paramedr Y gyfran o ddata dilys sy'n ofynnol
Gwerthoedd 1 awr 75% (45 munud)
Gwerthoedd 8 awr 75% o'r gwerthoedd (6 awr)
Y cymedr 8 awr dyddiol uchaf o gyfartaleddau 8 awr cyfredol 75% o'r cyfartaleddau 8 awr cyfredol yn ôl yr awr (8 awr y dydd)
AOT40 90% o'r gwerthoedd 1 awr dros y cyfnod amser a ddiffinnir ar gyfer cyfrifo'r AOT40 (a)
Y cymedr blynyddol 75% o'r gwerthoedd 1 awr dros dymhorau'r haf (Ebrill i Fedi) a'r gaeaf (Ionawr i Fawrth, Hydref i Rhagfyr) ar wahân
Nifer y gormodiannau a'r gwerthoedd uchaf fesul mis 90% o'r gwerth cymedrig 8 awr dyddiol uchaf (27 gwerth dyddiol sydd ar gael fesul mis) 90% o'r gwerthoedd 1 awr rhwng 8:00 a 20:00 Amser Ewropeaidd Canolog
Nifer y gormodiannau a'r gwerthoedd uchaf fesul blwyddyn Pum mis yr haf allan o chwech dros dymor yr haf (Ebrill i Fedi)

* sef nifer yr oriau o fewn cyfnod amser diffiniad yr AOT40 (hynny yw, 8:00 i 20:00 Amser Ewropeaidd Canolog o 1 Mai i 31 Gorffennaf bob blwyddyn, i ddiogelu llystyfiant ac o 1 Ebrill i 30 Medi bob blwyddyn i ddiogelu fforestydd).



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu, yng Nghymru, Gyfarwyddeb 2002/3/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynglycircn ag osôn mewn aer amgylchynol.

Mae Rheoliad 3 yn gosod gwerthoedd targed ac amcanion hirdymor ar gyfer crynodiadau osôn mewn aer amgylchynol ("lefelau osôn") er mwyn diogelu iechyd pobl a llystyfiant.

Mae Rheoliad 4 yn gosod dyletswydd ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") i sicrhau bod crynodiadau osôn a rhagsylweddion osôn mewn aer amgylchynol yn cael eu hasesu ym mhob parth yng Nghymru yn unol â'r dulliau a bennir yn y rheoliad hwnnw. Mae'r rheoliad yn darparu bod y dull asesu priodol ar gyfer pob parth i'w benderfynu drwy gyfeirio at hanes lefelau osôn yn y parth hwnnw yn ystod y pum mlynedd blaenorol. Mae'n pennu, drwy gyfeirio at Ran I o Atodlen 3, isafswm nifer y pwyntiau samplu sy'n ofynnol mewn parthau lle defnyddir mesuriadau sefydlog parhaus fel yr unig ddull asesu, ac yn ei gwneud yn ofynnol i fesuriadau nitrogen deuocsid gael eu gwneud mewn nid llai na hanner o'r pwyntiau samplu hynny. Mae'n darparu manylion hefyd am yr amgylchiadau lle caniateir lleihau nifer y pwyntiau samplu sefydlog sy'n ofynnol o dan Ran I o Atodlen 3, ac am y modd y mae rhaid asesu ansawdd aer o dan yr amgylchiadau hynny. Mae'r rheoliad yn pennu, drwy gyfeirio at Ran II o Atodlen 3, isafswm nifer y pwyntiau samplu sy'n ofynnol mewn parthau lle caniateir i ddulliau mesur heblaw mesuriadau sefydlog parhaus gael eu defnyddio. Mae'n nodi hefyd, drwy gyfeirio at Atodlen 6, y dulliau cyfeirio ar gyfer dadansoddi osôn a chalibradu offerynnau osôn ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau data ar grynodiadau'r rhagsylweddion osôn sydd wedi'u rhestru yn Atodlen 4.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio rhestr o barthau yng Nghymru: lle mae lefelau osôn yn uwch na'r gwerthoedd targed; lle mae lefelau osôn yn uwch na'r amcanion hirdymor ond yn hafal i'r gwerthoedd targed neu'n is na hwy; a lle mae lefelau osôn yn bodloni'r amcanion hirdymor. Mae'r rheoliad yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol baratoi cynlluniau gweithredu ar gyfer pob parth yn y categori cyntaf a'u rhoi ar waith er mwyn cyrraedd y gwerth targed o fewn y dyddiad penodedig, lle mae modd sicrhau hynny drwy fesurau cymesur, a threfnu bod cynlluniau o'r fath ar gael i'r cyhoedd. Mae'n ei gwneud yn ofynnol hefyd i'r Cynulliad Cenedlaethol baratoi a gweithredu mesurau cost-effeithiol ar gyfer parthau yn yr ail gategori, gan anelu at gyflawni'r amcanion hirdymor. Yn ychwanegol, mae'r rheoliad yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i sicrhau, ym mhob parth yn y trydydd categori, fod lefelau osôn yn cael eu cadw islaw'r amcanion hirdymor a'u bod yn cael eu cynnal drwy fesurau cymesur.

Mae rheoliad 6 yn gosod y trothwy gwybodaeth a'r trothwy rhybuddio ar gyfer osôn, drwy gyfeirio at Ran I o Atodlen 7.

Mae rheoliad 7 yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i sicrhau bod gwybodaeth gyfoes am lefelau osôn yn cael ei rhoi ar gael i'r cyhoedd fel mater o drefn. Rhaid i'r wybodaeth hon gynnwys nodyn am yr holl ddigwyddiadau pan aeth lefelau osôn yn uwch na'r amcan hirdymor a'r trothwyon penodedig, ynghyd â gwerthusiad o effaith y gormodiannau hynny ar iechyd pobl; adroddiadau blynyddol cynhwysfawr; a gwybodaeth amserol am ormodiannau gwirioneddol neu ddaroganedig uwchlaw'r trothwy rhybuddio. Mae'r rheoliad yn ei gwneud yn ofynnol i bob gwybodaeth o'r fath fod yn glir, yn ddealladwy ac yn hygyrch.

Mae rheoliad 8 yn gosod dyletswydd ar y Cynulliad Cenedlaethol i lunio cynllun gweithredu ar gyfer pob parth lle bo risg o fynd yn uwch na'r trothwy rhybuddio, os yw'n penderfynu bod posibilrwydd sylweddol o leihau'r risg honno neu leihau hyd neu ddifrifoldeb unrhyw ormodiant o'r fath. Mae'r rheoliad yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol drefnu bod canlyniadau ei benderfyniadau, y cynlluniau gweithredu y mae'n eu llunio, a gwybodaeth am roi'r cynlluniau gweithredu hynny ar waith, ar gael i'r cyhoedd.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol pan fydd lefelau osôn mewn unrhyw barth yng Nghymru yn mynd yn uwch na gwerth targed neu amcan hirdymor, a'i bod yn ymddangos i'r Cynulliad fod y gormodiant hwn yn deillio'n bennaf o allyriannau rhagsylweddion mewn un o Aelod Wladwriaethau eraill yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n gosod dyletswydd hefyd ar y Cynulliad Cenedlaethol i gymryd unrhyw gamau sydd o fewn ei bwerau i roi eu heffaith i unrhyw gydgynllun gweithredu neu gydraglen, neu gydgynllun gweithredu byrdymor, a luniwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac Aelod-wladwriaeth arall i gydymffurfio ag Erthygl 8(1) neu (2) o Gyfarwyddeb 2002/3/EC.

Mae Rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud yn siwr fod yr wybodaeth a bennir yn Rhan I o Atodlen 8 yn cael ei sicrhau a'i chydgasglu. Mae'r meini prawf ar gyfer agregu data a chyfrifo'r paramedrau ystadegol a bennir yn Rhan II o Atodlen 8 yn gymwys i'r wybodaeth hon.

Mae Rheoliad 11 yn dirymu Rheoliadau Monitro Osôn a Gwybodaeth am Osôn 1994, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.


Notes:

[1] 1998 p.38.back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 2000/2812.back

[4] 1977 p.49. Mewnosodwyd adran 16BA gan adran 6(1) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17).back

[5] O.S. 2002/3183 (Cy.299).back

[6] OJ L 67, 9.3.2002, t.14.back

[7] O.S. 1994/440.back

[8] OJ L 125, 18.5.1994, t.1.back

[9] Gellir cael copïau o'r cyhoeddiadau hyn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth adran werthiannau Sefydliad Safonau Prydain naill ai dros y ffôn ar 020 8996 9001 neu drwy'r post oddi wrth y BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain, W4 4AL.back

[10] Gellir cael copïau o'r cyhoeddiad hwn gan y Corff Safonau Rhyngwladol oddi wrth adran werthiannau Sefydliad Safonau Prydain naill ai dros y ffôn ar 020 8996 9001 neu drwy'r post oddi wrth y BSI, Standards House, 389 Chiswick High Road, Llundain, W4 4AL.back

[11] Gweler uchod.back

[12] OJ L 35, 5.2.1997, t.14.back



English version



ISBN 0 11090764 7


 
© Crown copyright 2003
Prepared 23 July 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031848w.html