![]() |
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | |
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003 Rhif 1968 (Cy.213) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20031968w.html |
[New search] [Help]
Wedi'i wneud | 29 Gorffennaf 2003 | ||
Yn dod i rym | 1 Awst 2003 |
Dehongli
2.
- (1) Yn y Gorchymyn hwn -
(2) Rhaid i unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig. Gellir ei wneud yn ddarostyngedig i amodau a gellir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu unrhyw bryd mewn ysgrifen.
Glanhau a diheintio mewn cysylltiad â chludo anifeiliaid carnog a dofednod
3.
- (1) Mae'r erthygl hon yn gymwys mewn cysylltiad â chludo -
ac mae cyfeiriadau yn yr erthygl hon at "anifail" i gael eu dehongli yn unol â hynny.
(2) Yn yr amgylchiadau a nodir yn Atodlen 1, gofynion erthygl 4 sydd yn gymwys yn lle gofynion yr erthygl hon.
(3) Rhaid i ddefnyddiwr unrhyw gyfrwng cludo a ddefnyddiwyd i gludo unrhyw anifail, neu unrhyw beth a allai beri perygl o drosglwyddo clefyd, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a heb fod yn fwy na 24 awr ar ôl cwblhau'r daith, sicrhau bod y cyfrwng cludo ac unrhyw gyfarpar yn cael eu glanhau a'u diheintio yn unol ag Atodlen 2 neu (yn achos cynhwysydd) eu dinistrio.
(4) Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw gyfrwng cludo, na pheri na chaniatáu i gyfrwng cludo gael ei ddefnyddio, i gludo unrhyw anifail onid yw'r cyfrwng cludo ac unrhyw gyfarpar wedi cael eu glanhau a'u diheintio yn unol ag Atodlen 2 ers y tro diwethaf iddynt gael eu defnyddio i gludo unrhyw anifail, neu unrhyw beth a allai beri perygl o drosglwyddo clefyd.
(5) Os yw cyfrwng cludo neu unrhyw gyfarpar wedi ei faeddu fel y gallai beri perygl o drosglwyddo clefyd ers y tro diwethaf iddo gael ei lanhau a'i ddiheintio, ni chaiff neb lwytho anifail i mewn i'r cyfrwng cludo, na pheri na chaniatáu i unrhyw anifail gael ei lwytho, onid yw'r rhannau o'r cyfrwng cludo neu'r cyfarpar a faeddwyd wedi cael eu glanhau a'u diheintio eto yn unol â pharagraffau 1, 3 a 4 o Atodlen 2.
(6) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo anifeiliaid symud ymaith unrhyw anifeiliaid sydd wedi marw wrth iddynt gael eu cludo, ac unrhyw sarn (llaesodr) fudr a charthion o'r cyfrwng cludo cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
Glanhau a diheintio mewn cysylltiad â chludo mamaliaid ac adar eraill, ac anifeiliaid carnog a dofednod mewn rhai amgylchiadau
4.
- (1) Mae'r erthygl hon yn gymwys mewn cysylltiad â chludo -
ac mae'n rhaid i gyfeiriadau yn yr erthygl hon at "anifail" gael eu dehongli yn unol â hynny.
(2) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys yn achos -
(3) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo anifeiliaid, neu'n peri neu'n caniatáu i anifeiliaid gael eu cludo, os yw'r erthygl hon yn gymwys, sicrhau -
(4) Rhaid gwneud y glanhau a'r diheintio o dan yr erthygl hon yn unol â pharagraffau 1, 3 a 4 o Atodlen 2.
Glanhau a diheintio mewn cysylltiad â chludo ceffylau
5.
- (1) Rhaid i unrhyw berson sy'n cludo ceffylau, neu'n peri neu'n caniatáu i geffylau gael eu cludo, sicrhau -
(2) Ni yw'r erthygl hon yn gymwys yn yr amgylchiadau a nodwyd yn erthygl 4(2) oni bai bod y cyfrwng cludo wedi'i ddefnyddio ddiwethaf i gludo anifail y mae erthygl 3 yn gymwys iddi.
(3) Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw gyfrwng cludo, na pheri na chaniatáu iddo gael ei ddefnyddio, i gludo unrhyw anifail y mae erthygl 3 yn gymwys iddo oni bai bod y cyfrwng cludo ac unrhyw gyfarpar wedi'u glanhau a'u diheintio yn unol ag Atodlen 2 ers iddynt gael eu defnyddio ddiwethaf i gludo ceffyl.
(4) Rhaid gwneud y glanhau a'r diheintio o dan yr erthygl hon yn unol â pharagraffau 1, 3 a 4 o Atodlen 2.
Cabiau Gyrwyr
6.
Nid oes dim yn y Gorchymyn hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol diheintio y tu mewn i gab gyrrwr unrhyw gyfrwng cludo.
Gwaredu deunydd ar ôl glanhau
7.
- (1) Rhaid i'r person sy'n gyfrifol am lanhau'r cyfrwng cludo ac unrhyw gyfarpar o dan y Gorchymyn hwn sicrhau bod yr holl borthiant y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato, y sarn (llaesodr), y carthion ac unrhyw ddeunyddiau eraill sy'n tarddu o anifeiliaid, ac unrhyw halogion eraill sydd wedi cael eu symud o'r cyfrwng cludo -
(2) Nid yw'r erthygl hon yn gymwys i unrhyw ddeunydd y mae gofyn ei waredu o dan Orchymyn Sgil-Gynhyrchion Anifeiliaid 1999[3].
Cyfrwng cludo yn ymadael â lladd-dy neu safle gwerthu
8.
- (1) Os yw cyfrwng cludo -
rhaid i'r gyrrwr, cyn ymadael â'r safle, roi datganiad ysgrifenedig i feddiannydd y lladd-dy, neu drwyddedai'r safle gwerthu, yn nodi ym mha le y bydd y glanhau a'r diheintio yn unol ag erthygl 3(3) yn digwydd.
(2) Rhaid i'r meddiannydd neu'r trwyddedai -
Pwerau arolygwyr, etc.
9.
- (1) Caiff arolygydd sydd wedi ei fodloni naill ai -
gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson sydd i'w weld ganddo yn gyfrifol am y cyfrwng cludo neu'r cyfarpar hwnnw.
(2) Caiff hysbysiad a gyflwynir o dan y paragraff blaenorol -
(3) Os cyflwynir hysbysiad o dan y paragraff blaenorol, rhaid gwneud y glanhau a'r diheintio yn unol ag Atodlen 2 onid yw'r hysbysiad yn pennu dull arall o lanhau a diheintio.
(4) Caiff arolygydd gyflwyno hysbysiad i unrhyw berson y mae'n ofynnol iddo wneud y glanhau a'r diheintio yn unol ag erthygl 3, 4 neu 5 yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw wneud y glanhau a'r diheintio yn unol â'r hyn a bennir yn yr hysbysiad yn lle eu gwneud yn unol ag Atodlen 2 os yw'r arolygydd wedi ei fodloni bod angen gwneud hynny at ddibenion iechyd anifeiliaid.
(5) Onid yw person yn cydymffurfio â hysbysiad a gyflwynir o dan yr erthygl hon, caiff arolygydd drefnu y cydymffurfir â darpariaethau'r hysbysiad ar draul y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo.
Gorfodi
10.
- (1) Yr awdurdod lleol sydd i orfodi'r Gorchymyn hwn.
(2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, fod rhaid i ddyletswydd i orfodi sydd wedi'i gosod ar awdurdod lleol o dan y rheoliad hwn gael ei chyflawni gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol ac nid gan yr awdurdod lleol.
Dirymu
11.
Dirymir Gorchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 2) 2003[4].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
John Marek
Y Dirprwy Lywydd
29 Gorffennaf 2003
Ben Bradshaw
Yr Is-Ysgrifennydd Seneddol
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
29 Gorffennaf 2003
(3) Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys i deithiau rhwng dau safle gwerthu.
Teithio yn ôl ac ymlaen i sioeau da byw o fewn un diwrnod
3.
Os defnyddir cyfrwng cludo ar gyfer cludo anifeiliaid o'u safle tarddiad i sioe da byw ac yn ôl ac nad yw paragraff 2 yn gymwys, yna erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys mewn cysylltiad â'r cyfrwng cludo pan yw ar safle'r sioe ar yr amod -
Dadlwytho dros dro
4.
Erthygl 4, yn hytrach nag erthygl 3, sy'n gymwys mewn cysylltiad â chyfrwng cludo y mae anifeiliaid wedi cael eu dadlwytho ohono, a hynny dim ond i roi bwyd neu dd r iddynt, neu at ryw ddiben dros dro arall, ac wedyn eu hail lwytho ynddo.
(2) Yn achos anifeiliaid a gludwyd mewn cynhwysydd, rhaid glanhau'r tu mewn i'r cynhwysydd p'un a yw wedi ei faeddu ai peidio, a rhaid glanhau'r tu allan i'r cynhwysydd ac unrhyw rannau o'r cyfrwng cludo sy'n cario'r cynhwysydd os ydynt wedi'u baeddu.
(3) Rhaid i olwynion, gardiau olwynion a bwâu olwynion cyfrwng cludo gael eu glanhau p'un a ydynt wedi eu baeddu ai peidio a p'un a glydwyd yr anifeiliaid mewn cynhwysydd ai peidio.
(4) At ddibenion erthygl 3, rhaid diheintio hefyd bob rhan o gyfrwng cludo y mae'n ofynnol ei lanhau.
Y dull glanhau
3.
Rhaid glanhau drwy symud ymaith unrhyw borthiant y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd ato, unrhyw sarn (llaesodr), unrhyw garthion ac unrhyw ddeunydd arall sy'n tarddu o anifeiliaid, unrhyw laid ac unrhyw halogion eraill drwy ddefnyddio unrhyw gyfrwng priodol, a glanhau wedyn â dwr, stêm neu, pan fo'n briodol, gemegau neu gyfansoddion cemegol (neu, os bydd angen, unrhyw gyfuniad o'r rhain) nes cael gwared ar y baw.
Y dull diheintio
4.
Rhaid i bopeth y mae'n ofynnol ei ddiheintio o dan y Gorchymyn hwn gael ei ddiheintio ar ôl gorffen ei lanhau, drwy ddefnyddio diheintydd a gymeradwywyd o dan Orchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 1978[5] yn ôl y crynodiad sy'n ofynnol o dan y gorchymyn hwnnw ar gyfer "gorchmynion cyffredinol".
[2] O.S. 2003/1967 (Cy. 212).back
[3] O.S. 1999/646 fel y'i diwygiwyd ynghylch Cymru gan O.S. 2001/1735 (Cy.122).back
[4] O.S. 2003/1470 (Cy.172).back
[5] O.S. 1978/32, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/919 ac, ynghylch Cymru, gan O.S. 2001/641 (Cy.31).back
© Crown copyright 2003 | Prepared 26 August 2003 |