BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003 Rhif 2288 (Cy.227)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032288w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 2288 (Cy.227)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003

  Wedi'u gwneud 5 Medi 2003 
  Yn dod i rym 6 Medi 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003 a deuant i rym ar 6 Medi 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn  - 

ac unrhyw gynhyrchion sy'n deillio o gnau pistasio neu gnau pistasio wedi eu rhostio sy'n tarddu, neu a draddodwyd, o Iran;

    (2) Mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y diffiniad o "cnau pistasio Iranaidd" ym mharagraff (1) yr un ystyr â'r ymadroddion cyfatebol ym Mhenderfyniad y Comisiwn.

Gwaharddiad ar fewnforio
     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff neb fewnforio i Gymru unrhyw gnau pistasio Iranaidd oni bai bod yr amodau a bennir yn Erthygl 2.4, 2.5 a 2.7 o Benderfyniad y Comisiwn wedi eu bodloni mewn perthynas â'r cnau pistasio hynny.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff neb fewnforio i Gymru unrhyw gnau pistasio, heblaw drwy bwynt mynediad a restrir yn Atodiad II i Benderfyniad y Comisiwn.

    (3) Rhaid peidio â deall na pharagraff (1) na pharagraff (2) fel petaent yn gwahardd mewnforio i Gymru o Aelod-wladwriaeth unrhyw gnau pistasio Iranaidd sydd mewn cylchrediad rhydd yn yr Aelod-wladwriaeth honno.

    (4) Euog o dramgwydd yw unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff (1) neu (2), gan wybod hynny, ac mae'n agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am dymor nad yw'n hwy na thri mis.

Gorfodi
    
4.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dyletswydd pob awdurdod iechyd porthladd yw gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

    (2) Mewn perthynas ag unrhyw le nad yw o fewn ardal awdurdod iechyd porthladd, rhaid i'r awdurdod bwyd ar gyfer yr ardal y mae'r lle hwnnw ynddi weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn.

    (3) At ddibenion arfer y dyletswydd y cyfeirir ato ym mharagraff (1) neu, yn ôl y digwydd, (2), rhaid i swyddog awdurdodedig yr awdurdod dan sylw - 

    (4) Y gofynion yw'r gofynion a bennir yn  - 

    (5) Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd ac awdurdod bwyd roi unrhyw gymorth a gwybodaeth i'r Ysgrifennydd Gwladol a'r Asiantaeth Safonau Bwyd y maent yn gofyn yn rhesymol amdano neu amdani mewn cysylltiad â gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn.

Cymhwyso amryw ddarpariaethau o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 a samplo a dadansoddi
    
5.  - (1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn  - 

    (2) Mae adran 29 o'r Ddeddf (caffael samplau) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiadau canlynol  - 

    (3) Pan fydd swyddog awdurdodedig wedi cymryd sampl o unrhyw gnau pistasio Iranaidd yn unol ag adran 29(b) o'r Ddeddf fel y'i cymhwysir at ddibenion y Rheoliadau hyn gan baragraff (2), rhaid iddo sicrhau - 

    (4) Cyn i ddadansoddwr gytuno i ddadansoddi sampl yn unol â pharagraff (3)(c), caiff fynnu cael ei dalu unrhyw ffi resymol y mae'n gofyn amdano.

    (5) Rhaid i ddadansoddwr sydd wedi dadansoddi sampl yn unol â pharagraff (3)(c) roi i'r person a'i rhoddodd iddo dystysgrif a fydd yn pennu canlyniad y dadansoddi ac a fydd wedi'i llofnodi gan y dadansoddwr.

    (6) Mewn unrhyw achos o dan y Rheoliadau hyn, os bydd un parti yn cyflwyno  - 

yn dystiolaeth ddigonol o'r ffeithiau sy'n cael eu datgan ynddi oni bai, mewn achos sy'n dod o fewn is-baragraff (a), bod y parti arall yn gofyn i'r dadansoddwr gael ei alw fel tyst.

    (7) Pan fydd sampl a gafwyd o dan adran 29 o'r Ddeddf fel y'i cymhwyswyd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan baragraff (2) wedi'i dadansoddi yn unol â pharagraff 3(b) ac (c), bydd gan y perchennog hawl ar gais i gael copi o'r dystysgrif ddadansoddi gan yr awdurdod sydd, yn rhinwedd rheoliad 4(1) neu (2), â'r dyletswydd o'u gorfodi.

    (8) Nid yw dim ym mharagraff (3)(c) i'w gymryd fel petai'n atal rhywun sy'n gweithio o dan gyfarwyddyd dadansoddwr rhag gwneud dadansoddiad.

Ail-anfon neu ddistrywio mewnforion anghyfreithlon
     6.  - (1) Wedi arolygu neu archwilio unrhyw gnau pistasio Iranaidd, os yw'n ymddangos i swyddog awdurdodedig awdurdod iechyd porthladd neu, yn ôl y digwydd, awdurdod bwyd, eu bod wedi'u mewnforio yn groes i reoliad 3(1) neu (2), wedi iddo ymgynghori'n briodol â pherson y mae'n ymddangos iddo mai ef yw'r mewnforiwr, caiff gyflwyno hysbysiad i'r person hwnnw sy'n gorchymyn  - 

    (2) Mewn unrhyw achos pan ganiateir dwyn apêl o'r math a grybwyllir ym mharagraff (3) rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) ddatgan  - 

    (3) Caiff unrhyw berson sy'n tybio iddo gael cam oherwydd penderfyniad swyddog awdurdodedig i gyflwyno hysbysiad o dan baragraff (1) apelio i lys ynadon a fydd yn penderfynu a gyflwynwyd yr hysbysiad yn gyfreithlon ai peidio.

    (4) Chwe diwrnod o'r dyddiad pryd cyflwynwyd yr hysbysiad ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Cyhoeddus yw'r cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl a grybwyllir ym mharagraff (3) ac at ddibenion y paragraff hwn bernir bod gwneud y gwcirc yn yn gyfystyr â dwyn yr apêl.

    (5) Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (3) y weithdrefn fydd ei wneud drwy gyfrwng cwyn ar gyfer gorchymyn a Deddf Llysoedd Ynadon 1980[
14] fydd yn gymwys i'r achos.

    (6) Os yw'r llys yn caniatáu apêl o dan baragraff (3) rhaid i'r awdurdod dan sylw dalu iawndal i berchennog y cnau pistasio Iranaidd dan sylw am unrhyw ddibrisiant yn eu gwerth sy'n dod yn sgil y camau a gymerwyd gan y swyddog awdurdodedig.

    (7) Penderfynir unrhyw gwestiwn y mae dadl yn ei gylch ynghylch hawl i iawndal neu swm iawndal sy'n daladwy o dan baragraff (6) drwy gymrodeddu.

    (8) Bydd unrhyw berson sy'n torri telerau hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am dymor nad yw'n hwy na thri mis.

Dirymu Gorchymyn Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) 1997, Gorchymyn Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Diwygio) 1997 a Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003
     7. Mae Gorchymyn Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) 1997[15], Gorchymyn Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Diwygio) 1997[16] a Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003[17] yn cael eu dirymu i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[18])


Jane Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

5 Medi 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig, yn dirymu ac yn ailddeddfu gyda newidiadau Orchymyn Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) 1997 (O.S. 1997/2238 (Gorchymyn 1997), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/3046), sy'n gymwys i Brydain Fawr i gyd a Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) 2003 (O.S. 2003/1119) (Cy.150)) (Gorchymyn 2003) sy'n gymwys i Gymru'n unig. Rheoliad 7 sy'n rhoi effaith i'r dirymu.

Rhoddodd Gorchymyn 1997 ar waith Benderfyniad y Comisiwn 97/613/EC sy'n ymdrin ag atal dros dro fewnforio cnau pistasio a chynhyrchion penodol sy'n deillio o gnau pistasio ac sy'n tarddu neu a draddodwyd o Iran (OJ Rhif L248, 11.9.97, t.33), a chafodd ei ddiddymu wedyn a rhoddwyd yn ei le Benderfyniad y Comisiwn 1997/830/EC (OJ Rhif L343, 13.12.97, t. 30).

Dirymodd ac ailddeddfodd gyda newidiadau Gorchymyn 2003 Orchymyn 1997, fel y'i diwygiwyd. Rhoddodd Gorchymyn 2003 ar waith Benderfyniad y Comisiwn 1997/830/EC sy'n diddymu Penderfyniad y Comisiwn 97/613/EC ac yn gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau pistasio a chynhyrchion penodol sy'n deillio o gnau pistasio sy'n tarddu o Iran, neu'n cael eu traddodi oddi yno (OJ Rhif L343, 13.12.97, t.30), fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 1998/400/EC (OJ Rhif L176, 20.6.98, t.37), Penderfyniad y Comisiwn 2000/238/EC (OJ Rhif L75, 24.3.2000, t.59) a Phenderfynaid y Comisiwn 2002/1041/EC. Pennir y categorïau o gynhyrchion sy'n ddarostyngedig i'r amodau hynny yn Erthygl 2 o Benderfyniad y Comisiwn 1997/830/EC fel y'i diwygiwyd felly. Caiff Gorchymyn 2003 ei ddirymu a'i ailddeddfu gyda newidiadau gan iddo gael ei wneud drwy gamgymeriad cyn i Benderfyniad y Comisiwn 2002/1041/EC gael ei fabwysiadu.

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith Benderfyniad y Comisiwn 1997/830/EC sy'n diddymu Penderfyniad y Comisiwn 97/613/EC ac yn gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau pistasio a chynhyrchion penodol sy'n deillio o gnau pistasio sy'n tarddu, neu a draddodwyd, o Iran (OJ Rhif L343, 13.12.1997, t.30) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 1998/400/EC (OJ Rhif L176, 20.6.98, t.37), 2000/238/EC (OJ Rhif L75, 24.3.2000, t.59) a 2003/551/EC (OJ Rhif L187, 26.7.2003, t.43). Pennir y categorïau o gynhyrchion sy'n ddarostyngedig i'r amodau hynny yn Erthygl 2(1) o Benderfyniad y Comisiwn 1997/830/EC fel y'i diwygiwyd.

Mae'r Rheoliadau hyn  - 

Dyma'r prif newidiadau sy'n cael eu hachosi gan y Rheoliadau hyn  - 

Rhif au cod y gyfundrefn enwi gyfun a sefydlwyd gan Reoliad y Cyngor 2658/87 ar y tariff a'r gyfundrefn enwi ystadegol ac ar dariff y Tollau (OJ Rhif L256, 7.9.87, t.1) yw'r codau CN y cyfeirir atynt yn y diffiniad o "cnau pistasio o Iran".

Ni pharatowyd arfarniad rheoliadol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.


Notes:

[1] O.S. 1999/2788.back

[2] 1972 p. 68.back

[3] 1990 p.16.back

[4] 1984 p.22..back

[5] OJ Rhif L201, 17.7.1998, t.93.back

[6] OJ Rhif L75, 16.3.2002, t.44.back

[7] OJ Rhif L343, 13.12.1997, t.30.back

[8] OJ Rhif L176, 20.6.98, t.37.back

[9] OJ Rhif L75, 24.3.2000, t.59.back

[10] OJ Rhif L187, 26.7.2003back

[11] OJ Rhif L256, 7.9.87, t.1.back

[12] OJ Rhif L290, 24.11.93, t.14.back

[13] OJ Rhif L372, 31.12.85, t.50.back

[14] 1980 p. 43.back

[15] O.S. 1997/2238.back

[16] O.S. 1997/3046.back

[17] O.S. 2003/1119 (Cy.150).back

[18] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090780 9


 
© Crown copyright 2003
Prepared 19 September 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032288w.html