OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 2292 (Cy.228)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Bwyd (Ffigys, Cnau Cyll a Chnau Pistasio o Dwrci) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Diwygio) 2003
|
Wedi'u gwneud |
5 Medi 2003 | |
|
Yn dod i rym |
6 Medi 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Ffigys, Cnau Cyll a Chnau Pistasio o Dwrci) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Diwygio) 2003 a deuant i rym ar 6 Medi 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau Bwyd (Ffigys, Cnau Cyll a Chnau Pistasio o Dwrci) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2002
2.
- (1) Diwygir paragraff (1) o reoliad 2 (dehongli) i Reoliadau Bwyd (Ffigys, Cnau Cyll a Chnau Pistasio o Dwrci) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2)[3] yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Yn lle'r diffiniad o "the Commission Decision", rhodder y diffiniad a ganlyn -
"
"the Commission Decision" means Commission Decision 2002/80/EC imposing special conditions on the import of figs, hazelnuts and pistachios and certain products derived thereof originating in or consigned from Turkey[4] as amended by Commission Decision 2002/233/EC[5], Commission Decision 2002/679/EC[6] and Commission Decision 2003/552/EC[7]);".
(3) Yn lle paragraff (4) o reoliad 4 rhoddir y paragraff a ganlyn -
"
(4) The requirements are those specified in -
(a) Article 1.4 of the Commission Decision (which is concerned with documentary checks relating to consignments of controlled Turkish products);
(b) Article 1.5 and 1.6 of that Decision (which provisions are concerned with the sampling and analysis of such consignments), other than the requirement under Article 1.5 to supply the Commission with specified information; and
(c) Article 1.7 of that Decision (which is concerned with the case where consignments are split).".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8].
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
5 Medi 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig. Maent yn diwygio Rheoliadau Bwyd (Ffigys, Cnau Cyll a Chnau Pistasio o Dwrci) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (O.S.2002/2296) (Cy.225) (rheoliad 2) O.S. 2002/2296 (Cy.225) sy'n gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2002/2296/EC sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio ffigys, cnau cyll a chnau pistasio a chynhyrchion penodol sy'n deillio ohonynt ac sy'n tarddu o Dwrci neu'n cael eu traddodi oddi yno (OJ Rhif L34, 5.2.2002, t.26) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2002/233/EC (OJ Rhif L78, 21.3.2002, t.14) a Phenderfyniad y Comisiwn 2002/679/EC (Rhif OJ L229, 27.8.2002, t. 37).
Effaith y diwygio a wneir gan y Rheoliadau hyn yw bod O.S. 2002/2296 (Cy.225) yn awr yn gweithredu Penderfyniad y Comisiwn 2002/80/EC fel y'i diwygiwyd bellach gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/552/EC (Rhif OJ L187, 26.7.2003, t. 47). Pennir y categorïau o gynhyrchion sydd yn ddarostyngedig i'r amodau mewnforio arbennig y cyfeirir atynt uchod yn Erthygl 1 o Benderfyniad y Comisiwn 1/2002/EC fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/552/EC.
Dyma'r prif newidiadau sy'n cael eu hachosi gan y Rheoliadau hyn -
(a) mae'r diffiniad o "Penderfyniad y Comisiwn" yn rheoliad 2(1) o O.S. 2002/2296 (Cy.225) yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu'r diwygiad a wneir iddo gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/552/EC;
(b) mae diwygiad canlyniadol i'r diffiniad o "Turkish products" yn rheoliad 2(1) o O.S. 2002/2296 (Cy. 225); ac
(c) addaswyd y gofyniad blaenorol bod bob llwyth o gynhyrchion Twrcaidd o dan reolaeth yn ddarostyngedig i samplu a dadansoddi er mwyn sicrhau cydymffurfedd â Phenderfyniad y Comisiwn 2002/80/EC, fel y'i diwygiwyd, drwy ddarparu -
(i) bod samplu a dadansoddi mewn perthynas ag afflatocsin B1 a'r cyfanswm o lefelau afflatocsin yn digwydd mewn perthynas â llwythi o ffigys sychion, cnau cyll a chnau pistasio a chynhyrchion penodol sy'n deillio ohonynt,
(ii) bod rhaid i'r cyfnod cadw at ddibenion hapsamplu a hapddadansoddi beidio â bod yn hwy na 15 diwrnod gwaith, a
(iii) bod rhaid i gopi o'r dystysgrif iechyd a'r dogfennau sy'n mynd gyda hi fynd gyda phob rhan o lwyth hollt.
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn.
Notes:
[1]
O.S. 1999/2788.back
[2]
1972 (p. 68).back
[3]
O.S. 2002/2296 (Cy.225).back
[4]
OJ Rhif L34, 5.2.2002, t.26.back
[5]
OJ Rhif L78, 31.3.2002, t.14.back
[6]
OJ Rhif L229, 27.8.2002, t.37.back
[7]
OJ Rhif L187, 26.7.2003, t.47.back
[8]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090781 7
|