OFFERYNNAU STATUDOL
2003 Rhif 2299 (Cy.229)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Bwyd (Prysgnau o Tsieina) (Rheolaeth Frys) (Diwygio) (Cymru) 2003
|
Wedi'u gwneud |
5 Medi 2003 | |
|
Yn dod i rym |
6 Medi 2003 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Teitl a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Prysgnau o Tsieina) (Rheolaeth Frys) (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 6 Medi 2003.
Diwygiad i Reoliadau Bwyd (Prysgnau o Tsieina) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2002
2.
- (1) Caiff paragraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Bwyd (Prysgnau o Tsieina) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2002[3] ei ddiwygio yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn lle'r diffiniad o "the Commission Decision" rhoddir y diffiniad canlynol -
"
"the Commission Decision" means Commission Decision 2002/79/EC imposing special conditions on the import of peanuts and certain products derived from peanuts originating in or consigned from China[4]) as amended by Commission Decision 2002/233/EC[5], Commission Decision 2002/678/EC[6]) and Commission Decision 2003/550/EC[7];"
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8].
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
5 Medi 2003
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwyd (Prysgnau o Tsieina) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2295 (Cy.224)) (rheoliad 2). Y diwygiad yw y caiff y diffiniad o "the Commission Decision" yn rheoliad 2(1) ei ddiweddaru i adlewyrchu diwygiad pellach a wnaed iddo gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/550/EC (OJ Rhif L187, 22.7.2003, t.39).
Mae O.S. 2002/2295 (Cy. 224) yn rhoi ar waith Benderfyniad y Comisiwn 2002/79/EC sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio prysgnau a chynhyrchion penodol sy'n deillio o brysgnau sy'n tarddu o Tsieina neu a anfonir oddi yno (OJ Rhif L34, 5.2.2002, t. 26) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2002/233/EC (OJ Rhif L78, 21.3.2002, t. 14) a Phenderfyniad y Comisiwn 2002/678/EC (OJ Rhif L229, 27.8.2002, t. 33). Effaith y diwygiad a wneir gan y Rheoliadau hyn yw bod O.S. 2002/2295 (Cy. 224) yn awr yn rhoi ar waith Benderfyniad y Comisiwn 2002/79/EC fel y'i diwygiwyd yn awr hefyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/550/EC. Pennir y categorïau o gynhyrchion sydd yn ddarostyngedig i'r amodau mewnforio arbennig y cyfeirir atynt uchod yn Erthygl 1 o Benderfyniad y Comisiwn 2002/79/EC fel y'i diwygiwyd.
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn.
Notes:
[1]
O.S.1999/2788.back
[2]
1972 p. 68.back
[3]
O.S. 2002/2295 (Cy.224).back
[4]
OJ Rhif L34, 5.2.2002, t.21.back
[5]
OJ Rhif L78, 21.3.2002, t.14.back
[6]
OJ Rhif L229, 27.8.2002, t.33.back
[7]
OJ Rhif L187, 22.7.2003, t.39.back
[8]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090782 5
|