BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 Rhif 2455 (Cy.238) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20032455w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 24 Medi 2003 | ||
Yn dod i rym | s25 Medi 2003 |
(2) Mae i unrhyw derm a ddefnyddir yn y diffiniad o "tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth" ym mharagraff (1) yr un ystyr â'r term cyfatebol ym Mhenderfyniad y Comisiwn.
Gwahardd mewnforio
3.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff neb fewnforio i Gymru unrhyw dsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth oni bai -
(2) Rhaid peidio â deall unrhyw beth ym mharagraff (1) fel petai'n gwahardd mewnforio i Gymru o Aelod-wladwriaeth unrhyw dsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth a reolir ac sydd mewn cylchrediad rhydd yn yr Aelod-wladwriaeth honno.
(3) Euog o dramgwydd yw unrhyw berson sy'n mynd yn groes i baragraff (1), gan wybod hynny, ac mae'n agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am dymor nad yw'n hwy na thri mis.
(4) At ddibenion penderfynu a yw person yn euog neu beidio o dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i baragraff (3), rhaid rhagdybio, oni phrofir i'r gwrthwyneb, mai tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth a reolir yw unrhyw dsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth.
Gorfodi
4.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dyletswydd pob awdurdod iechyd porthladd fydd gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
(2) Mewn perthynas ag unrhyw le nad yw o fewn ardal awdurdod iechyd porthladd, rhaid i'r awdurdod bwyd ar gyfer yr ardal y mae'r lle hwnnw ynddi weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn.
(3) At ddibenion arfer y ddyletswydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) neu, yn ôl fel y digwydd, (2), rhaid i swyddog awdurdodedig yr awdurdod o dan sylw -
(4) Y gofynion yw'r gofynion a bennir yn -
(5) Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd ac awdurdod bwyd roi unrhyw gymorth a gwybodaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Asiantaeth Safonau Bwyd y maent yn gofyn yn rhesymol amdanynt mewn cysylltiad â gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn.
Cymhwyso amryw ddarpariaethau yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 a samplu a dadansoddi
5.
- (1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn -
(2) Mae adran 29 o'r Ddeddf (caffael samplau) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiadau canlynol -
(c) hepgorir is-adran (c); ac
(ch) yn lle'r geiriau "any of the provisions of this Act or of regulations or orders made under it" yn is-adran (d) rhoddir y geiriau "the Food (Hot Chilli and Hot Chilli Products) (Emergency Control) (Wales) Regulations 2003".
(3) Bydd adran 30 (dadansoddi samplau etc.) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad canlynol, sef mai yn is-adran (1) yn lle'r geiriau "An authorised officer of an enforcement authority who has procured a sample under section 29 above shall" rhoddir y geiriau "An authorised officer of a food authority or a port health authority who has procured a sample under section 29 above as applied for the purposes of the Food (Hot Chilli and Hot Chilli Products) (Emergency Control) (Wales) Regulations 2003 by regulation 5(2) thereof shall".
(4) Pan fydd sampl a sicrhawyd o dan adran 29 o'r Ddeddf fel y'i cymhwysir at ddibenion y Rheoliadau hyn gan baragraff (2) wedi'i ddadansoddi yn unol â'r darpariaethau yn adran 30 o'r Ddeddf fel y'i cymhwysir gan baragraff (3), bydd hawl gan y perchennog, os bydd yn gofyn am un, i gael copi o'r dystysgrif ddadansoddi gan yr awdurdod y mae'n ddyletswydd arno, yn rhinwedd rheoliad 4(1) neu (2), i orfodi'r darpariaethau hynny.
Distrywio mewnforion anghyfreithlon
6.
- (1) Wedi arolygu neu archwilio unrhyw dsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth, os yw'n ymddangos i swyddog awdurdodedig awdurdod iechyd porthladd neu, yn ôl fel y digwydd, awdurdod bwyd, eu bod wedi'u mewnforio yn groes i reoliad 3(1), ar ôl iddo ymgynghori'n briodol â pherson y mae'n ymddangos iddo mai ef yw'r mewnforiwr, caiff gyflwyno hysbysiad i'r person hwnnw sy'n gorchymyn distrywio'r tsilis poeth a'r cynhyrchion tsilis poeth o fewn y cyfnod rhesymol a bennir.
(2) Mewn unrhyw achos pan ganiateir dwyn apêl o'r math a grybwyllir ym mharagraff (3), rhaid i'r hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) ddatgan -
(3) Caiff unrhyw berson sy'n tybio iddo gael cam oherwydd penderfyniad swyddog awdurdodedig i gyflwyno hysbysiad o dan baragraff (1) apelio i lys ynadon a fydd yn penderfynu a gyflwynwyd yr hysbysiad yn gyfreithlon ai peidio.
(4) Chwe diwrnod o'r dyddiad pryd y cyflwynwyd yr hysbysiad ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul a Gwyliau Cyhoeddus yw'r cyfnod erbyn pryd y caniateir dwyn yr apêl a grybwyllwyd ym mharagraff (3) ac at ddibenion y paragraff hwn bernir bod gwneud y gwyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl.
(5) Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (3) y weithdrefn fydd ei gwneud drwy gyfrwng cwyn ar gyfer gorchymyn a Deddf Llysoedd Ynadon 1980[7] fydd yn gymwys i'r achos.
(6) Os yw'r llys yn caniatáu apêl o dan baragraff (3), rhaid i'r awdurdod o dan sylw dalu iawndal i berchennog y tsilis poeth a'r cynhyrchion tsilis poeth o dan sylw am unrhyw ddibrisiant yn eu gwerth sy'n dod yn sgil y camau a gymerwyd gan y swyddog awdurdodedig.
(7) Penderfynir unrhyw gwestiwn y mae dadl yn ei gylch ynghylch hawl i iawndal neu swm iawndal sy'n daladwy o dan baragraff (6) drwy gymrodeddu.
(8) Bydd unrhyw berson sy'n torri telerau hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchar am dymor nad yw'n hwy na thri mis.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8]
Dafydd Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
24 Medi 2003
Rhifau cod y gyfundrefn enwi a sefydlwyd o dan Reoliad 2658/87 ar y tariff a'r gyfundrefn enwi ystadegol ac ar dariff y Dollau (OJ Rhif L256, 7.9.87, t.1) yw'r codau CN y cyfeirir atynt yn y diffiniad o "tsilis poeth a chynhyrchion tsilis poeth".
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi yngln â'r Rheoliadau hyn.
[5] OJ Rhif L154, 21.6.2003, t.114.back
[6] OJ Rhif L186, 25.7.2003, t.47.back
© Crown copyright 2003 | Prepared 6 October 2003 |