BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2003 Rhif 3036 (Cy.284)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033036w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 3036 (Cy.284)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2003

  Wedi'u gwneud 26 Tachwedd 2003 
  Yn dod i rym 30 Tachwedd 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, a 2(1) a (5) o Ddeddf Rheoli Pysgodfeydd Môr 1966[1] ac a freiniwyd bellach ynddo[2], ar gais Cyngor Sir Penfro a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac wedi ymgynghori â phob awdurod lleol a fyddai yn cael ei effeithio, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2003 a daw i rym ar 30 Tachwedd 2003.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "y prif Orchymyn" yw'r gorchymyn a wnaed gan y Bwrdd Amaethyddiaeth a Physgodfeydd ar 27 Mehefin 1912[
3] (a greodd Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru ac a sefydlodd bwyllgor pysgodfeydd lleol er mwyn rheoli'r pysgodfeydd môr o fewn yr Ardal honno).

Diwygiadau i'r prif Orchymyn
     2. Diwygir y prif Orchymyn yn unol ag erthyglau 3 i 5 isod.

    
3. Yn lle erthygl 7 (cyfansoddiad y pwyllgor) rhoddir y canlynol  - 

     4. Yn lle erthygl 17 (treuliau) rhoddir y canlynol  - 

     5. Yn lle'r Atodlen rhoddir yr Atodlen a welir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

26 Tachwedd 2003



ATODLEN
Erthygl 5 Erthyglau 7 ac 17






EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn amrywio ymhellach Orchymyn a wnaed gan y Bwrdd Amaethyddiaeth a Physgodfeydd ar 27 Mehefin 1912 (fel y'i diwygiwyd) i sefydlu Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru.

Mae'r Gorchymyn yn amrywio cyfansoddiad y pwyllgor pysgodfeydd lleol ar gyfer yr ardal er mwyn darparu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf dynnu'n ôl o'r pwyllgor. Er hynny, fe fydd ffiniau ardal môr yr Ardal Pysgodfeydd Môr yn parhau heb ei newid.

Mae nifer y cynrychiolwyr o bob cyngor a chyfraniad pob cyngor at dreuliau'r pwyllgor wedi' u pennu (erthyglau 3 a 4 a'r Atodlen).


Notes:

[1] 1966 p.38, a ddiwygiwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25) adran 102; gweler adran 20(1) ar gyfer y diffiniad o "the Minister".back

[2] Trosglwyddwyd drwy O.S. 1978/272 swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Rheoli Pysgodfeydd Môr 1966 i'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru. Trosglwyddwyd swyddogaethau hynny'r Ysgrifennydd Gwladol wedyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] Rh.S a G. 1926/1121 fel y'i amrywiwyd gan O.S. 1953/443, 1973/2203 a 1996/618.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090814 7


 
© Crown copyright 2003
Prepared 3 December 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033036w.html