BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Cymru) 2003 Rhif 3037 (Cy.285) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033037w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 26 Tachwedd 2003 | ||
Yn dod i rym | 28 Tachwedd 2003 |
(2) Caiff unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad neu Atodlen â Rhif ei ddehongli fel cyfeiriad at y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.
Brasterau llysiau mewn cynhyrchion siocled
3.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, ceir ychwanegu brasterau llysiau, heblaw saim coco, a bennir yn Atodlen 2 at y cynhyrchion siocled hynny a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5, 6, 8 a 9 o Atodlen 1.
(2) Ni chaiff ychwanegyn yn unol â pharagraff (1) fod yn fwy na 5 y cant o'r cynnyrch gorffenedig, ar ôl tynnu cyfanswm pwysau unrhyw sylweddau bwytadwy eraill a ddefnyddir yn unol â Nodyn 1 o Atodlen 1, heb leihau isafswm cynnwys y saim coco neu gyfanswm y solidau coco powdr.
Cwmpas y Rheoliadau
4.
Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion dynodedig a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl ac sy'n barod i'w cyflenwi i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.
Disgrifiadau neilltuedig
5.
Ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw fwyd â label, pa un a yw ynghlwm wrth y papur lapio neu'r cynhwysydd neu wedi'i argraffu arnynt, os yw'r label yn ddisgrifiad neilltuedig neu'n deillio o ddisgrifiad neilltuedig, neu os yw'r label yn dwyn neu'n cynnwys disgrifiad neilltuedig neu rywbeth sy'n deillio o ddisgrifiad neilltuedig neu unrhyw air neu ddisgrifiad sy'n sylweddol debyg i ddisgrifiad neilltuedig onid yw -
Labelu a disgrifio cynhyrchion dynodedig
6.
- (1) Heb ragfarnu Rhan II o Reoliadau 1996 yn gyffredinol, ni chaiff unrhyw berson werthu unrhyw gynnyrch dynodedig onid yw'r manylion canlynol wedi'u marcio arno neu ar label ynghlwm wrtho -
(ch) yn ddarostyngedig i baragraff (4) isod, yn achos cynnyrch dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitem 2(c), 2(d), 2(e), 3, 4, 5, 8 neu 9 o Atodlen 1, dangoser beth yw cyfanswm cynnwys solidau coco powdr ar ffurf "cocoa solids…% minimum";
(d) yn achos cynnyrch coco a bennir yng ngholofn 2 o eitem 2(b) neu 2(e), dangoser beth yw'r cynnwys saim coco.
(2) Pan werthir cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5, 6, 7 a 10 o Atodlen 1 mewn pecyn amrywiaeth -
(3) At y disgrifiadau neilltuedig "chocolate", "milk chocolate" a "couverture chocolate" ceir ychwanegu gwybodaeth neu ddisgrifiadau sy'n ymwneud â meini prawf ansawdd ar yr amod bod y cynnyrch yn cynnwys -
(4) Caiff cyfanswm cynnwys solidau coco y mae'n ofynnol gan baragraff (1)(ch) uchod ei nodi ar gynnyrch dynodedig neu ar label y cynnyrch ei gyfrifo ar ôl tynnu i ffwrdd bwysau sylweddau bwytadwy eraill y darparwyd ar eu cyfer yn Nodyn 1 o Atodlen 1 ond heb dynnu i ffwrdd bwysau unrhyw gynhwysyn a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 1 yn un o gynhwysion y cynnyrch hwnnw neu bwysau unrhyw fraster llysiau a ychwanegir yn unol â rheoliad 3.
Dull o farcio neu labelu
7.
- (1) Bydd Rheoliadau 35, 36(1) a (5) a 38 o Reoliadau 1996 (sy'n ymwneud â'r dull o farcio neu labelu bwyd) yn gymwys i'r manylion y mae'n ofynnol gan reoliad 6 o'r Rheoliadau hyn eu nodi ar gynnyrch dynodedig neu ar ei label fel pe baent yn fanylion y mae'n ofynnol gan Reoliadau 1996 eu nodi ar fwyd neu ar ei label.
(2) Bydd yr wybodaeth y mae'n ofynnol gan baragraff (1)(b) o reoliad 6 ei nodi ar gynnyrch siocled dynodedig neu ar ei label -
Dulliau o gosbi a gorfodi
8.
- (1) Bydd unrhyw berson sy'n torri neu'n peidio â chydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 5 neu 6 yn euog o dramgwydd ac yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Bydd pob awdurdod bwyd yn gorfodi'r Rheoliadau hyn yn ei ardal ac yn eu gweithredu.
Amddiffyniad mewn cysylltiad ag allforion
9.
Mewn unrhyw achosion yn ymwneud â thramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd profi'r canlynol yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir -
Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990
10.
Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni yn cael ei ddehongli at ddibenion y Rheoliadau hyn fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn -
Diwygiadau a dirymiadau
11.
- (1) Yn Rheoliadau 1996 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) yn rheoliad 4(2) (cwmpas Rhan II) caiff is-baragraff (b) ei hepgor.
(2) Caiff y cofnodion canlynol sy'n ymwneud â'r Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled 1976[8] eu hepgor (i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru)
(3) Yn Atodlen 9 i Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) caiff y cofnod sy'n ymwneud â Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Diwygio) 1982[16]) ei hepgor.
(4) I'r graddau y mae'r Rheoliadau y maent yn ymddangos ynddynt yn gymwys i Gymru, yn lle'r cyfeiriadau canlynol i Gyfarwyddeb 73/241/EEC[17] caiff cyfeiriadau at Gyfarwyddeb 2000/36/EC[18]) eu rhoi -
(5) Dirymir drwy hyn Reoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled 1976 a Rheoliadau Cynhyrchion Coco a Siocled (Diwygio) 1982 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru).
Darpariaeth drosiannol
12.
Mewn unrhyw achos mewn cysylltiad â thramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd profi'r canlynol yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir -
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[21]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
26 Tachwedd 2003
Colofn 1 | Colofn 2 |
Disgrifiadau Neilltuedig | Cynhyrchion Dynodedig |
1.
Cocoa butter |
Y saim a geir o ffa coco neu rannau o ffa coco y mae iddo'r nodweddion canlynol: - nad yw mwy na 1.75 y cant o'i gynnwys yn asid brasterog rhydd (wedi'i fynegi fel asid oleig); aco ran saim coco wedi'i wasgu, nad yw mwy na 0.35 y cant ohono'n ddeunydd na ellir ei droi'n sebon (a bennir trwy ddefnyddio ether petroliwm); neuo ran saim coco arall, nad yw mwy na 0.5 y cant ohono'n ddeunydd na ellir ei droi'n sebon (ac wedi'i bennu yn yr un modd). |
2.
|
Y cynnyrch a geir o droi ffa coco sydd wedi'u glanhau, y plisgyn wedi'i dynnu, a'r ffa wedi'u rhostio, yn bowdr ac na yw llai nag 20 y cant o'i gynnwys yn saim coco, wedi'i gyfrifo yn unol â phwysau'r deunydd sych, ac nad yw mwy na 9 y cant ohono'n ddwr. |
(b) Fat-reduced cocoa neu Fat-reduced cocoa powder |
Coco powdr y mae llai nag 20 y cant o'i gynnwys yn saim coco, wedi'i gyfrifo'n unol â phwysau'r deunydd sych. |
(c) Powdered chocolate neu Chocolate in powder |
Cynnyrch sy'n gymysgedd o goco powdr a siwgrau, ac nad yw llai na 32 y cant o'i gynnwys yn goco powdr. |
(ch) Drinking chocolate neu Sweetened cocoa neu Sweetened cocoa powder |
Cynnyrch sy'n gymysgedd o goco powdr a siwgrau, ac nad yw llai na 25 y cant o'i gynnwys yn goco powdr. |
(d) Fat-reduced drinking chocolate neu Fat-reduced sweetened cocoa neu Fat-reduced sweetened cocoa powder |
Cynnyrch sy'n gymysgedd o goco powdr a bennir yn eitem 2(b) a siwgrau, ac nad yw llai na 25 y cant o'i gynnwys yn goco powdr o'r fath. |
3.
|
(a) Cynnyrch a geir o gynhyrchion coco a siwgrau ac, yn ddarostyngedig i eitem 3(b), nad yw llai na chyfanswm o 35 y cant o'i gynnwys yn solidau coco, a dim llai na 18 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco a dim llai na 14 y cant ohono'n solidau coco difraster sych. |
(b) Os ychwanegir at "Chocolate"
|
(b) (i) Cynnyrch a gyflwynir ar ffurf gronynnau neu fflochenni ac nad oes llai na chyfanswm o 32 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych, a dim llai na 12 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco a dim llai na 14 y cant ohono'n solidau coco difraster sych. |
(ii) "couverture" |
(ii) Cynnyrch nad yw llai na chyfanswm o 35 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych, a dim llai na 31 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco a dim llai na 2.5 y cant ohono'n solidau coco difraster sych. |
(iii) "Gianduja" neu un o ddeilliannau "Gianduja" |
(iii) Y cynnyrch siocled cnau a geir (1) o siocled y mae o leiaf cyfanswm o 32 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych ac isafswm o 8 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n solidau coco difraster sych, a (2) o gnau cyll wedi'u malu'n fân a bod y gyfran o'r rheini'n gyfran o'r fath fel bod 100 gram o'r cynnyrch yn cynnwys dim llai nag 20 gram a dim mwy na 40 gram o gnau cyll; gellir fod wedi ychwanegu ato -
- cnau almon, cnau cyll a chnau o fathau gwahanol, naill ai'n gyfan neu mewn darnau, a bod cyfrannau'r rheini'n gyfrannau o'r fath fel nad ydynt, ynghyd â'r cnau cyll wedi'u malu, yn fwy na 60 y cant o gyfanswm pwysau'r cynnyrch. |
4.
|
(a) Y cynnyrch a geir o gynhyrchion coco, siwgrau a llaeth neu gynhyrchion llaeth ac, yn ddarostyngedig i eitem 4(b) -
- nad yw llai nag 14 y cant o'i gynnwys yn solidau llaeth sych a geir drwy ddadhydradu llaeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu sgim, neu hufen yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu o hufen, menyn neu saim llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl; - nad yw llai na 2.5 y cant o'i gynnwys yn solidau coco difraster sych; - nad yw llai na 3.5 y cant o'i gynnwys yn saim llaeth; - nad yw llai na 25 y cant o'i gynnwys yn saim (saim coco a saim llaeth). |
(b) Os ychwanegir at "Milk chocolate" -
|
(b)
|
(ii) "couverture" |
(ii) Cynnyrch y mae o leiaf cyfanswm o 31 y cant o'i gynnwys yn saim (saim coco a saim llaeth). |
(iii) "Gianduja" neu un o ddeilliannau "Gianduja" |
(iii) Y cynnyrch siocled llaeth cnau a geir (1) o siocled llaeth y mae isafswm o 10 y cant o'i gynnwys yn solidau llaeth sych, a geir drwy ddadhydradu llaeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu sgim, neu hufen, yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu o hufen, menyn neu saim llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu' gyfan gwbl, a (2) o gnau cyll wedi'u malu'n fân a bod cyfran y rheini'n gyfran o'r fath fel nad yw 100 gram o'r cynnyrch yn cynnwys llai na 15 gram ac nid mwy na 40 gram o gnau cyll; a gellid bod wedi ychwanegu ato gnau almon, cnau cyll a chnau o fathau eraill, naill ai'n gyfan neu'n ddarnau, a bod cyfrannau'r rheini'n gyfrannau o'r fath fel nad ydynt, ynghyd â'r cnau cyll wedi'u malu, yn fwy na 60 y cant o gyfanswm pwysau'r cynnyrch. |
(c) Os rhoddir yn lle "Milk" -
|
(c)
|
(ii) "skimmed milk" |
(ii) Cynnyrch nad yw mwy nag 1 y cant o'i gynnwys yn saim llaeth. |
5.
Family milk chocolate neu Milk chocolate |
Cynnyrch a geir o gynhyrchion coco, siwgrau a llaeth neu gynhyrchion llaeth y mae - - nid llai na chyfanswm o 20 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych; - nid llai nag 20 y cant yn solidau llaeth sych a geir drwy ddadhydradu llaeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu sgim, neu hufen, yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu o hufen, menyn neu saim llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl; - nid llai na 2.5 y cant o'i gynnwys yn solidau coco difraster sych; - nid llai na 5 y cant yn saim llaeth; - nid llai na chyfanswm o 25 y cant yn saim (saim coco a saim llaeth). |
6.
White chocolate |
Cynnyrch a geir o saim coco, llaeth neu gynhyrchion llaeth a siwgrau ac y mae nid llai nag 20 y cant o'i gynnwys yn saim coco ac nid llai na 14 y cant yn solidau llaeth sych a geir drwy ddadhydradu llaeth cyflawn, llaeth hanner sgim neu sgim, neu hufen, yn rhannol neu'n gyfan gwbl, neu o hufen, menyn, neu saim llaeth wedi'u dadhydradu'n rhannol neu'n gyfan gwbl, ac y mae nid llai na 3.5 y cant ohono'n saim llaeth. |
7.
Filled chocolate neu Chocolate with . . . filling neu Chocolate with . . . centre |
Cynnyrch â llenwad, os cynnyrch a bennir yng ngholof 2 o eitem 3, 4, 5 or 6 o'r Atodlen hon yw'r rhan allanol ohono ac os nad yw'r rhan allanol honno'n fwy na 25 y cant o gyfanswm pwysau'r cynnyrch, ond nid yw'n cynnwys unrhyw gynnyrch â llenwad, os cynhyrchion wedi'u pobi, toes, bisged neu iâ bwytadwy sydd y tu mewn iddo. |
8.
Chocolate a la taza |
Cynnyrch a geir o gynhyrchion coco, siwgrau, a blawd neu starts gwenith, reis neu indrawn, nad yw llai na chyfanswm o 35 y cant ohono'n solidau coco sych, ac nid llai na 18 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco ac nid llai na 14 y cant ohono'n solidau coco difraster sych, ac nid mwy nag 8 y cant ohono'n flawd neu'n starts. |
9.
Chocolate familiar a la taza |
Cynnyrch a geir o gynhyrchion coco, siwgrau, a blawd neu o starts gwenith, reis neu indrawn, nad yw llai na chyfanswm o 30 y cant o'i gynnwys yn solidau coco sych, ac nid llai na 18 y cant o'r cyfanswm hwnnw'n saim coco ac nid llai na 12 y cant ohono'n solidau coco difraster sych ac nid mwy na 18 y cant yn flawd neu'n starts. |
10.
A chocolate neu A praline |
Cynnyrch nad yw'n fwy o faint nag un llond ceg ac sy'n cynnwys: -
(b) un siocled neu gyfuniad neu gymysgedd o siocled o fewn ystyr unrhyw ddiffiniadau a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5 a 6 o'r Atodlen hon ac unrhyw sylwedd bwytadwy arall, ar yr amod nad yw'r siocled yn llai na 25 y cant o gyfanswm pwysau'r cynnyrch. |
(2) Dim ond y cyflasynnau hynny nad ydynt yn dynwared blas siocled neu saim llaeth y ceir eu hychwanegu at y cynhyrchion dynodedog a bennir yng nholofn 2 o eitemau 2, 3, 4, 5, 6, 8 a 9 o'r Atodlen hon.
2.
- (1) Caiff isafswm cynnwys y cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 3, 4, 5, 6, 8 a 9 o'r Atodlen hon eu cyfrifo ar ôl tynnu i ffwrdd bwysau'r sylweddau bwytadwy eraill y darperir ar eu cyfer yn Nodyn 1 i'r Atodlen hon.
(2) Yn achos y cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 7 a 10 o'r Atodlen hon, caiff isafswm y cynhwysion ei gyfrifo ar ôl tynnu i ffwrdd bwysau'r sylweddau bwytadwy eraill y darperir ar eu cyfer yn Nodyn 1 i'r Atodlen hon, yn ogystal â phwysau'r llenwad.
(3) Caiff cynnwys siocled y cynhyrchion siocled dynodedig a bennir yng ngholofn 2 o eitemau 7 a 10 o'r Atodlen hon ei gyfrifo mewn perthynas â chyfanswm pwysau'r cynnyrch gorffenedig, yn cynnwys y llenwad.
3.
Yn yr Atodlen hon, mae "sugars" yn cynnwys siwgrau yr ymdrinnir â hwy yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2001/111/EC[22] a siwgrau eraill.
2.
I gydymffurfio â'r meini prawf a bennir ym mharagraff 1 uchod, ceir defnyddio'r seimiau llysiau canlynol, a geir o'r planhigion a restrir yn y Tabl isod: -
Enw arferol y saim llysiau | Enw gwyddonol y planhigion y gellir cael y seimiau a restrir ohonynt |
1.
Illipe, Coeden wêr Borneo neu Tengkawang |
Shorea spp. |
2.
Olew palmwydd |
Elaeis guineensisElaeis olifera |
3.
Sal |
Shorea robusta |
4.
Shea |
Burtyrospermum parkii |
5.
Kokum gurgi |
Garcinia indica |
6.
Cnewllyn mango |
Mangifera indica |
Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi ei osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau deddfwriaeth Ewropeaidd y cyfeirir ati uchod wedi'u trawsosod yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.
[2] Trosglwyddwyd y swyddogaethau a oedd yn arferadwy yn y gorffennol gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back
[4] OJ Rhif L1, 3.1.94, t.1.back
[5] OJ Rhif L1, 3.1.94, t.571.back
[6] O.S. 1996/1499; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1998/1398.back
[7] OJ Rhif L197, 3.8.2000, t.19, fel y'i mabwysiadwyd gan Benderfyniad 152/2001 Cyd-bwyllgor yr AEE (OJ Rhif L65, 7.3.2002, t.26).back
[8] O.S. 1976/541; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1982/17, 1982/1727, 1990/2486, 1991/1476, 1992/2596, 1995/3187, 1995/3267, 1996/1499 a 2002/329(Cy.42).back
[9] O.S. 1982/1727 y mae iddynt ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[10] O.S. 1990/2486 y mae iddynt ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[11] O.S. 1992/1476 y mae iddynt ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[12] O.S. 1992/2596 y mae iddynt ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[13] O.S. 1995/3187; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1997/1413, 1999/1136, 2001/1440(Cy.102), 2001/1787(Cy.128) a 2002/329(Cy.42).back
[15] O.S. 2002/329(Cy.42).back
[17] OJ Rhif L228 16.8.1973, t.23, fel y'i dirymwyd yn effeithiol o 3 Awst 2003 gan Gyfarwyddeb 2000/36/EC (OJ Rhif L197, 3.8.2000, t.19).back
[18] OJ Rhif L197, 3.8.2000, t.19.back
[19] O.S. 1995/3124 y mae iddynt ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[20] O.S. 1995/3187; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1999/1136.back
[22] OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.53.back
© Crown copyright 2003 | Prepared 3 December 2003 |