BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Colagen a Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) (Cymru) 2003 Rhif 3229 (Cy.309)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033229w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2003 Rhif 3229 (Cy.309)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Colagen a Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) (Cymru) 2003

  Wedi'u gwneud 9 Rhagfyr 2003 
  Yn dod i rym 31 Rhagfyr 2003 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ac ar ôl ymgynghori yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar gyfer materion diogelwch bwyd[3], yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Colagen a Gelatin (Masnach o fewn y Gymuned) (Cymru) 2003 ac daw i rym ar 31 Rhagfyr 2003.

    (2) Mae'r Rheoliadau yma yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn  - 

Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996
     3.  - (1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996[7] yn unol â pharagraffau (2) a (3).

    (2) Ym mharagraff 9 o Atodlen 3 (Community measures relevant to intra-Community trade) caiff y geiriau "and Commission Decision 2003/721/EC (OJ No. L260, 11.10.2003, p.21) " eu mewnosod yn union o flaen y geiriau "and as amended by".

    (3) Ym mharagraff 12 o Atodlen 3 caiff y geiriau "Commission Decision 2003/721/EC (OJ No.L260, 11.10.2003, p.21) " eu mewnosod ar ddiwedd y paragraff hwnnw.

Awdurdodi canolfannau casglu a thanerdai
     4.  - (1) an wneir cais o dan y Rheoliad hwn, rhaid i awdurdod bwyd awdurdodi canolfan gasglu neu danerdy at ddibenion cyflenwi deunyddiau crai ar gyfer cynhyrchu colagen a fwriedir i'w fwyta gan bobl, os caiff yr awdurdod bwyd ei fodloni  - 

    (2) Wrth ganiatáu unrhyw awdurdodiad o dan y rheoliadau hwn, rhaid i'r awdurdod bwyd roi Rhif penodol i'r ganolfan gasglu neu'r tanerdy o dan sylw.

    (3) Rhaid i berchennog y busnes sy'n cael ei redeg mewn unrhyw sefydliad sy'n cael ei awdurdodi o dan y rheoliad hwn hysbysu'r awdurdod bwyd ar unwaith  - 

Awdurdodi sefydliadau sy'n cynhyrchu colagen a fwriedir i'w fwyta gan bobl
    
5.  - (1) Pan wneir cais o dan y rheoliad hwn, rhaid i awdurdod bwyd awdurdodi sefydliad i gynhyrchu colagen a fwriedir i'w fwyta gan bobl os yw'r awdurdod bwyd wedi'i fodloni - 

    (2) Pan ganiateir awdurdodiad o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r awdurdod bwyd roi Rhif adnabod unigryw i'r sefydlaid dan sylw.

    (3) Rhaid i berchennog y busnes sy'n cael ei redeg yn unrhyw sefydliad a awdurdodwyd o dan y rheoliad hwn hysbysu'r awdurdod bwyd ar unwaith  - 

Atal awdurdodiadau a'u tynnu yn ôl
    
6.  - (1) Caiff awdurdod bwyd atal awdurdodiad a ganiatawyd o dan reoliad 4 neu 5 neu ei dynnu'n ôl os yw wedi'i fodloni nad yw'r ganolfan gasglu, y tanerdy neu'r sefydliad dan sylw ("y safle") yn bodloni'r gofynion a bennir yn rheoliad 4(1) neu 5(1) fel sy'n briodol, neu fod perchennog y safle wedi methu â chydymffurfio â rheoliadau 4(3) neu 5(3), fel sy'n briodol.

    (2) Rhaid i awdurdod bwyd beidio ag atal awdurdodiad neu ei dynnu'n ôl o dan y rheoliad hwn oni bai  - 

    (3) Rhaid i hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (2)(a)  - 

Yr hawl i apelio
    
7.  - (1) Caiff person a dramgwyddir drwy benderfyniad gan awdurdod bwyd o dan y Rheoliadau hyn i wrthod awdurdodiad neu i atal awdurdodiad neu i dynnu awdurdodiad yn ôl apelio i lys ynadon.

    (2) Bydd adran 37(3), (5) a (6) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 yn effeithiol mewn perthynas ag apelau o dan y rheoliad hwn fel y maent yn effeithiol mewn perthynas ag apêl o dan yr adran honno.

    (3) Ni fydd tynnu yn ôl neu atal awdurdodiad a ganiatawyd o dan reoliad 4 neu 5 yn dod yn effeithiol nes i'r amser ar gyfer apelio yn erbyn hynny ddod i ben ac, os gwneir apêl, nes penderfynu ar yr apêl yn derfynol.

Dileu awdurdodiad
    
8. Rhaid i awdurdod bwyd ddileu awdurdodiad o dan reoliad 4 neu 5  - 

Cofrestru
    
9.  - (1) Rhaid i'r Asiantaeth gadw cofrestr o safleoedd sydd wedi'u hawdurdodi o dan reoliad 4 neu 5.

    (2) Rhaid i bob awdurdod bwyd hysbysu'r Asiantaeth, drwy unrhyw gyfrwng y mae'n rhesymol i'r Asiantaeth ofyn amdano  - 

    (3) Rhaid i bob hysbysiad o dan baragraff (2) gynnwys yr wybodaeth ganlynol  - 

    (4) Rhaid i'r Asiantaeth gymryd camau rhesymol i drefnu bod yr wybodaeth ar y gofrestr ar gael i'r cyhoedd ar adegau rhesymol.

Gorfodi
    
10. Bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu gorfodi gan yr awdurdod bwyd yn ei ardal a bydd rheoliad 6(2) i (6) o Reoliadau Cynhyrchion Sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 yn gymwys mewn perthynas ag awdurdod bwyd sy'n gorfodi'r Rheoliadau hyn fel y mae'n gymwys mewn cysylltiad ag awdurdod lleol sy'n gorfodi'r Rheoliadau hynny.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
8]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Rhagfyr 2003



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn gweithredu, mewn perthynas â Chymru, Penderfyniad y Comisiwn 2003/721/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC ynglycircn â'r gofynion ar gyfer colagen (OJ Rhif L260, 11.10.2003, t.21) fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniad y Comisiwn 2003/503/EC (OJ Rhif L170, 9.7.2003, t.30)  -  "Penderfyniad y Comisiwn"  -  i'r graddau y mae'n ymwneud â masnach rhwng Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd.

    
2. Mae darpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC (OJ Rhif L62, 15.3.93, t.49) sy'n berthnasol i fasnach o fewn y Gymuned yn cael eu gweithredu mewn perthynas â Phrydain Fawr yn ei chyfanrwydd gan Reoliadau Cynhyrchion sy'n Deillio o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 (O.S. 1996/3124, fel y'u diwygiwyd eisoes)  -  "Rheoliadau 1996".

    
3. Mae Penderfyniad y Comisiwn yn diwygio Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/118/EEC  -  a hynny'n effeithiol o 31 Rhagfyr 2003 ymlaen  - 

     4. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1996, a hynny'n effeithiol o 31 Rhagfyr 2003 ymlaen er mwyn gwneud y diwygiad a ddisgrifir ym mharagraph 3(a) a'r gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff 3(b) yn effeithiol; mae'r rhain yn cyfeirio at  - 

     5. Wrth weithredu gweddill y gofynion y cyfeirir atynt ym mharagraff 3(b), mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud y canlynol a hynny'n effeithiol o 31 Rhagfyr 2003 ymlaen  - 

     6. Mae'n ofynnol i'r Asiantaeth Safonau Bwyd gadw cofrestr o'r safleoedd a awdurdodwyd gan awdurdodau bwyd o dan reoliadau 4 a 5 ac mae'n ofynnol i awdurdodau bwyd roi i'r Asiantaeth wybodaeth benodol ynghylch awdurdodiadau a ganiatawyd ganddynt (rheoliad 9).

    
7. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer eu gorfodi gan yr awdurdod bwyd perthnasol ac, at ddibenion gorfodi o'r fath, yn cymhwyso rheoliad 6(2) i (6) o Reoliadau 1996 (rheoliad 10).

    
8. Mae Arfarniad Rheoliadaol o effaith y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.


Notes:

[1] O.S. 1999/2788.back

[2] 1972 p.68.back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back

[4] (ch) 1990 p.16.back

[5] OJ Rhif L62, 15.3.1993, t.49.back

[6] OJ Rhif L13, 18.1.2003, t.24.back

[7] O.S.1996/3124; fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/2219(Cy. 159).back

[8] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090846 5


 
© Crown copyright 2003
Prepared 22 December 2003


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2003/20033229w.html