BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Llywodraeth Leol (Diwrnod Arferol Etholiad) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040218w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif218 (Cy.22)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Diwrnod Arferol Etholiad) (Cymru) 2004

  Wedi'i wneud 3 Chwefror 2004 
  Yn dod i rym 6 Chwefror 2004 

Ar ôl ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol ac unrhyw bersonau neu gyrff eraill y mae'n barnu eu bod yn briodol yn unol ag adran 104(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003[1] a chan arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 104(1) a (2) a 123(1) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Lleol (Diwrnod Arferol Etholiad) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 6 Chwefror 2004.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

    (3) Yn y Gorchymyn hwn:

Newid y diwrnod arferol yn 2004
     2.  - (1) Er gwaethaf adran 37 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, yn 2004 yr un diwrnod â dyddiad y bleidlais yn etholiad cyffredinol Senedd Ewrop[4] a gynhelir y flwyddyn honno fydd diwrnod arferol etholiad cynghorwyr ar gyfer pob ardal llywodraeth leol yng Nghymru.

    (2) O ganlyniad i'r newid i ddiwrnod arferol etholiad y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (1) cyfnod swydd unrhyw gynghorydd ar gyfer ardal llywodraeth leol yng Nghymru a fyddai wedi ymddeol fel arall ar y pedwerydd diwrnod ar ôl diwrnod arferol gwreiddiol etholiad at bob diben yw'r cyfnod sy'n dod i ben ar y pedwerydd diwrnod ar ôl y diwrnod arferol etholiad newydd.

    (3) Cyfnod swydd cynghorydd a etholir ar gyfer ardal llywodaraeth leol yng Nghymru ar ddiwrnod arferol etholiad yn 2004 y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (1) at bob diben yw'r cyfnod sy'n dod i ben ar y pedwerydd diwrnod ar ôl yr etholiad cyffredin nesaf.

    (4) O ganlyniad i'r newid i ddiwrnod arferol etholiad y darperiu ar ei gyfer ym mharagraff (1) ni fydd adran 16(1) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985[5] yn gymwys i unrhyw etholiadau cynghorwyr cymuned sydd i'w cynnal ar y diwrnod arferol ar gyfer etholiad cynghorwyr yn ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru yn 2004.

    (5) Mae unrhyw gyfeiriad at 6 Mai 2004 mewn unrhyw orchymyn - 

i'w ddehongli fel cyfeiriad at ddiwrnod arferol etholiad cynghorwyr yn 2004 ar gyfer ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru, fel y darperir ar ei gyfer yn unol â pharagraff (1) uchod.

Etholiadau i lenwi swyddi gwag dros dro
     3. O ran etholiadau cyffredin yn 2004 yng Nghymru - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

3 Chwefror 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae Adran 104(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru newid drwy orchymyn ddiwrnod arferol etholiad cynghorwyr ar gyfer pob ardal llywodraeth leol yng Nghymru. Mae'r gorchymyn hwn, sy'n cael ei wneud o dan yr adran honno, yn newid diwrnod arferol etholiadau llywodraeth leol 2004 yng Nghymru fel y bydd yr un fath â dyddiad etholiadau Senedd Ewrop yn y flwyddyn honno. Mae'n ymdrin hefyd â nifer o faterion canlyniadol.

Fel arfer y dydd Iau cyntaf ym mis Mai ym mhob blwyddyn etholiad yw'r diwrnod arferol ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr. Mae Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn darparu, o ran etholiadau llywodraeth leol 2004 yng Nghymru, fod y diwrnod hwn yn cael ei newid i fod yr un fath â dyddiad y bleidlais ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop yn 2004 sef 10 Mehefin. Mae'n darparu hefyd, o ran etholiadau llywodraeth leol 2004 yng Nghymru - 

Mae Erthygl 3 yn estyn, o ran awdurdodau lleol yng Nghymru, y cyfnod pan na chaniateir cynnal is-etholiad cyn diwrnod arferol yr etholiad ar gyfer yr awdurdodau hynny, yn y fath fodd ag y bydd y cyfnod hwn, o ran etholiadau 2004, yn para o 10 Tachwedd 2003 (y dyddiad pan fyddai'r cyfnod hwn yn dechrau fel rheol) tan ddiwrnod arferol addasedig etholiadau o'r fath yn 2004 fel y penderfynir arno yn unol ag erthygl 2(1) o'r Gorchymyn hwn.


Notes:

[1] 2003 p.26.back

[2] 1983 p.2.back

[3] 1972 p.70. Cafodd adran 21 ei amnewid gan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994.back

[4] Mae dyddiad y bleidlais yn etholiad arferol Senedd Ewrop yn cael ei bennu gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 4 o Ddeddf Etholiadau Senedd Ewrop 2002 (p. 24).back

[5] 1985 p.50. Mae adran 16(1) yn darparu ar gyfer gohirio am 3 wythnos y bleidlais mewn etholiad cynghorwyr plwyfi os yw dyddiad y bleidlais mewn etholiad cyffredinol Senedd Ewrop a diwrnod arferol etholiad cynghorwyr yng Nghymru a Lloegr yr un fath.back

[6] 2000 p.22.back

[7] O.S. 1986/2215.back

[8] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090865 1


  © Crown copyright 2004

Prepared 17 February 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040218w.html