BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040245w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif245 (Cy.24)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 4 Chwefror 2004 
  Yn dod i rym 8 Chwefror 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Rheolaeth Frys) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 8 Chwefror 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygiadau i Reoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003[3] yn unol â pharagraffau (2) a (3).

    (2) Yn lle paragraffau (1) a (2) o reoliad 6 (ailanfon neu ddistrywio mewnforion anghyfreithlon) rhowch y paragraffau canlynol  - 

    (3) Ym mharagraff (3) o reoliad 6 yn lle'r geiriau "a gyflwynwyd yr hysbysiad yn gyfreithlon ai peidio" rhowch "a ddylid cadarnhau neu wrthod yr hysbysiad ai peidio".

Diwygiadau i Reoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003
     3.  - (1) Diwygir Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003[5] yn unol â pharagraffau (2), (3) a (4).

    (2) Ym mharagraff (2) o reoliad 6 hepgorwch y geiriau "Mewn unrhyw achos pan ganiateir dwyn apêl o'r math a grybwyllir ym mharagraff (3)".

    (3) Ym mharagraff (3) o reoliad 6 yn lle'r geiriau "a gyflwynwyd yr hysbysiad yn gyfreithlon ai peidio" rhowch "a ddylid cadarnhau neu wrthod yr hysbysiad ai peidio".

    (4) Yn rheoliad 7 hepgorwch y geiriau "Gorchymyn Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 1997, Gorchymyn Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Diwygio) 1997 a".

Diwygiadau i Reoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 a Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003
     4.  - (1) Diwygir Reoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003[6] a Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003[7] yn unol â pharagraffau (2) a (3).

    (2) Ym mhob achos, ym mharagraff (2) o reoliad 6 hepgorir y geiriau "Mewn unrhyw achos pan ganiateir dwyn apêl o'r math a grybwyllir ym mharagraff (3)".

    (3) Ym mhob achos, ym mharagraff (3) o reoliad 6 yn lle'r geiriau "a gyflwynwyd yr hysbysiad yn gyfreithlon ai peidio" rhowch "a ddylid cadarnhau neu wrthod yr hysbysiad ai peidio".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[8]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Chwefror 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2254 (Cy.224)); Rheoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003 (O.S. 2003/2288 (Cy.227)); Rheoliadau Bwyd (Tsilis Poeth a Chynhyrchion Tsilis Poeth) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2455 (Cy.238)); a Rheoliadau Bwyd (Pysgnau o'r Aifft) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2910 (Cy.276)) sy'n cael eu hadnabod yn eu crynswth at ddibenion y Nodyn Esboniadol hwn fel "y Rheoliadau Bwyd"

Mae'r Rheoliadau hyn yn dileu geiriad diangen o reoliad 6(2) o'r priod Reoliadau Bwyd, sy'n darparu bod rhaid i hysbysiad, sy'n gorchymyn ailanfon neu ddistrywio mewnforion anghyfreithlon, gynnwys gwybodaeth am yr hawl i apelio.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio rheoliad 6(3) o'r priod Reoliadau Bwyd er mwyn sicrhau bod y Llys Ynadon yn gallu penderfynu a yw hysbysiad sydd wedi'i gyflwyno gan swyddog awdurdodedig o dan reoliad 6(1) wedi'i gyflwyno'n gywir a hefyd a yw'n gyfreithlon mewnforio'r cynnyrch o dan sylw.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'n benodol hefyd Reoliadau Bwyd (Cnau Brasil) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/2254 (Cy.224)). Maent yn diwygio'r weithdrefn sydd i'w dilyn pan fydd arolygiad neu archwiliad o gnau Brasil yn dangos nad ydynt yn cydymffurfio â'r lefelau uchaf ar gyfer afflatocsin B1 a'r cyfanswm o afflatocsin a sefydlwyd drwy Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001 sy'n pennu'r lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn bwydydd (OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.1) (rheoliad 2(2)). Mae'r weithdrefn ddiwygiedig yn cydweddu â Phenderfyniad y Comisiwn 2003/493/EC sy'n gosod amodau arbennig ar fewnforio cnau Brasil yn eu plisg sy'n deillio o Frasil neu wedi'u traddodi oddi yno (OJ Rhif L168, 5.7.2003, t. 33).

Mae'r Rheoliadau hyn (rheoliad 3(4)) hefyd yn diwygio'n benodol Reoliadau Bwyd (Cnau Pistasio o Iran) (Rheolaeth Frys) (Cymru) (Rhif 2) 2003 (O.S. 2003/2288 (Cy.227)) er mwyn cywiro gwall drafftio.

Nid oes unrhyw arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ynglycircn â'r Rheoliadau hyn.


Notes:

[1] O.S. 1999/2788.back

[2] 1972 p. 68.back

[3] O.S. 2003/2254 (Cy. 224).back

[4] (ch) OJ Rhif L77, 16.3.2001, t.1.back

[5] O.S. 2003/2288 (Cy. 227).back

[6] O.S. 2003/2455 (Cy. 238).back

[7] O.S. 2003/2910 (Cy. 276).back

[8] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090862 7


  © Crown copyright 2004

Prepared 16 February 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040245w.html