BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2004 Rhif314 (Cy.32)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004
|
Wedi'u gwneud |
10 Chwefror 2004 | |
|
Yn dod i rym |
6 Mawrth 2005 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 6(4), 16(1)(a), (e) ac (f), (17)(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2], ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor[3] sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) 2004; maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 6 Mawrth 2005.
Dehongli
2.
- (1) Yn y Rheoliadau hyn -
mae i "awdurdod bwyd" yr un ystyr â "food authority" yn adran 5(1A) a (3) o'r Ddeddf i'r graddau y gall is-adran 3 fod yn gymwys i Gymru;
ystyr "babanod" ("infants") yw plant o dan ddeuddeng mis oed;
ystyr "bwyd babanod" ("baby foods") yw bwydydd sydd i'w defnyddio at ddiben maethol penodol, sy'n bodloni gofynion penodol babanod a phlant ifanc mewn iechyd da ac sydd wedi'u bwriadu i'w defnyddio gan fabanod tra'u bod yn cael eu diddyfnu, a chan blant ifanc fel ychwanegyn at eu deiet neu ar gyfer eu hymaddasiad graddol i fwyd cyffredin, ond nad ydynt yn cynnwys bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn;
ystyr "bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn" ("processed cereal-based foods") yw bwydydd sydd i'w defnyddio at ddiben maethol penodol o fewn y categorïau a bennir yn Rhan I o Atodlen 1, sy'n bodloni gofynion penodol babanod a phlant ifanc mewn iechyd da ac sydd wedi'u bwriadu i'w defnyddio gan fabanod tra'u bod yn cael eu diddyfnu, a chan blant ifanc fel ychwanegyn at eu deiet neu ar gyfer eu hymaddasiad graddol i fwyd cyffredin;
ystyr "Cytundeb AEE" ("EEA Agreement") yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd[4] a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y'i haddaswyd gan y Protocol[5] a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr "gweddill plaleiddiad" ("pesticide residue") yw'r gweddill mewn bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn neu mewn bwydydd babanod a hwnnw'n weddill cynnyrch amddiffyn planhigion fel y diffinnir "plant protection product" ym mhwynt 1 o Erthygl 2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/414/EEC[6] yngln â gosod cynhyrchion amddiffyn planhigion ar y farchnad, gan gynnwys ei fetabolion a chynhyrchion sy'n deillio o'r cynnyrch hwnnw wrth iddo ddiraddio neu adweithio;
mae "gwerthu" ("sell") yn cynnwys meddu i werthu a chynnig, dangos neu hysbysebu i'w werthu;
ystyr "Gwladwriaeth AEE" ("EEA State") yw Gwladwriaeth sy'n Barti Contractio i'r Cytundeb AEE;
ystyr "y Gyfarwyddeb" ("the Directive") yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 96/5/EC[7]) ar fwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd babanod ar gyfer babanod a phlant ifanc, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 1998/36/EC[8], Cyfarwyddeb y Comisiwn 1999/39/EC[9]) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2003/13/EC[10]; ac
ystyr "plant ifanc" ("young children") yw plant rhwng un a thair blwydd oed.
(2) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn a'r ymadroddion cyfatebol yn y Gyfarwyddeb yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag ystyr yr ymadroddion cyfatebol yn y Gyfarwyddeb.
(3) Os yw unrhyw Atodlen yn cynnwys unrhyw nodyn, rhaid i ddarpariaethau'r Atodlen honno gael eu dehongli a'u cymhwyso yn unol â'r nodyn hwnnw.
Esemptiad
3.
Ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw fwyd babanod sy'n llaeth sydd wedi'i fwriadu ar gyfer plant ifanc.
Cyfyngiadau ar werthu bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd babanod
4.
Ni chaiff neb werthu unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn nac unrhyw fwyd babanod oni bai bod y bwyd hwnnw -
(a) yn cydymffurfio â gofynion rheoliadau 5 i 7 o ran gweithgynhyrchu a chyfansoddiad; a
(b) wedi'i labelu yn unol â rheoliad 8.
Gofynion cyffredinol o ran gweithgynhyrchu a chyfansoddiad
5.
- (1) Rhaid peidio â gweithgynhyrchu unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn nac unrhyw fwyd babanod o unrhyw gyfansoddyn ac eithrio'r rhai y mae eu haddasrwydd sydd i'w defnyddio at ddiben maethol penodol gan fabanod a phlant ifanc wedi'i gadarnhau drwy ddata gwyddonol sydd wedi'u derbyn yn gyffredinol.
(2) Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu unrhyw fwyd babanod beidio â chynnwys cymaint o unrhyw sylwedd ag i beryglu iechyd babanod neu blant ifanc.
(3) Rhaid i gyfansoddiad bwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn gydymffurfio â'r meini prawf a bennir yn Rhan II o Atodlen 1 o'i darllen ynghyd ag Atodlen 2.
(4) Rhaid i gyfansoddiad bwyd babanod gydymffurfio â'r meini prawf a bennir yn Atodlen 3.
Sylweddau maethol a maetholion sydd wedi'u hychwanegu
6.
- (1) Wrth weithgynhyrchu unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu unrhyw fwyd babanod, rhaid peidio ag ychwanegu unrhyw sylwedd maethol ac eithrio sylwedd maethol a bennir yn Atodlen 4.
(2) Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn nac unrhyw fwyd babanod beidio â chynnwys cymaint o unrhyw faetholyn wedi'i ychwanegu a bennir yng ngholofn 1 o Ran I o Atodlen 5 ag i fynd dros y terfyn uchaf a bennir gyferbyn â'r maetholyn hwnnw yng ngholofn 2 o'r Rhan honno.
(3) Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn nac unrhyw fwyd babanod a bennir yng ngholofn 1 o Ran II o Atodlen 5 beidio â chynnwys unrhyw faetholyn wedi'i ychwanegu a bennir gyferbyn â'r bwyd hwnnw yng ngholofn 2 o'r Rhan honno ag i fynd dros y terfyn uchaf a bennir yng ngholofn 3 o'r rhan honno.
Gweddillion plaleiddiaid
7.
- (1) Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu unrhyw fwyd babanod beidio â chynnwys -
(a) unrhyw weddill plaleiddiad o blaleiddiad a bennir yn Atodlen 6; na
(b) unrhyw omethoad, pan yw'n fetabolyn plaleiddiad nas pennir yn Atodlen 6, nac unrhyw gynnyrch sy'n deillio o ddiraddiant neu ymadwaith y metabolyn hwnnw,
ar lefel sy'n uwch na 0.003 mg/kg.
(2) Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu fwyd babanod beidio â chynnwys unrhyw weddill plaleiddiad o blaleiddiad a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 7 ar lefel uwch na'r lefel a bennir yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno mewn perthynas â'r plaleiddiad hwnnw.
(3) Rhaid i unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu fwyd babanod beidio â chynnwys unrhyw weddill plaleiddiad o unrhyw blaleiddiad unigol nas pennir yn Atodlen 6 neu golofn 1 Atodlen 7 ar lefel sy'n uwch na 0.01 mg/kg.
(4) Mae'r lefelau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) to (3) yn gymwys i'r bwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu'r bwyd babanod -
(a) sydd wedi'i weithgynhyrchu fel bwyd sy'n barod i gael ei fwyta, neu
(b) os nad yw wedi'i weithgynhyrchu felly, fel y'i hailansoddiwyd yn unol â chyfarwyddiadau'i weithgynhyrchydd.
(5) Rhaid i'r dulliau dadansoddi ar gyfer penderfynu lefelau gweddillion plaleiddiaid at ddibenion y rheoliad hwn fod yn ddulliau safonedig sydd wedi'u derbyn yn gyffredinol.
Labelu
8.
- (1) Heb leihau effaith gyffredinol Rhan II o Reoliadau Labelu Bwyd 1996[11], rhaid i fwydydd proses sydd wedi'i seilio ar rawn a bwydydd babanod gael eu labelu â'r manylion canlynol -
(a) datganiad ynghylch o ba oedran priodol (y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai na phedwar mis) y caniateir defnyddio'r bwyd, o ystyried ei gyfansoddiad, ei ansawdd ffisegol neu ei nodweddion penodol eraill;
(b) gwybodaeth am bresenoldeb neu absenoldeb glwten os yw'r oedran sydd wedi'i ddatgan yn unol ag is-baragraff (a) yn llai na chwe mis;
(c) gwerth yr ynni sydd ar gael a hwnnw wedi'i fynegi mewn kJ a kcal, a'r cynnwys o ran protein, carbohydradau a braster, wedi'i fynegi ar ffurf rifiadol, fesul 100 g neu 100 ml o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu ac, os yw'n briodol, fesul maint penodedig o'r bwyd fel y mae wedi'i fwriadu i gael ei fwyta neu ei yfed;
(ch) y maint cyfartalog, wedi'i fynegi ar ffurf rifiadol, fesul 100 g neu 100 ml o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu ac, os yw'n briodol, fesul maint penodedig o'r bwyd fel y mae wedi'i fwriadu i gael ei fwyta neu ei yfed, o bob sylwedd mwynol ac o bob fitamin y mae gofyniad o ran uchafswm neu isafswm ei gyfansoddiad wedi'i bennu yn -
(i) Rhan II o Atodlen 1 yn achos bwydydd proses wedi'u seilio ar rawn; a
(ii) Atodlen 3 yn achos bwydydd babanod; a
(d) os yw'n angenrheidiol paratoi'r bwyd, cyfarwyddiadau priodol ar gyfer ei baratoi a datganiad yngln â phwysigrwydd dilyn y cyfarwyddiadau hynny.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (1)(ch), rhaid peidio â labelu unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn nac unrhyw fwyd babanod â maint cyfartalog unrhyw faetholyn a bennir yn Atodlen 4 oni bai -
(a) bod y maint cyfartalog yn cael ei fynegi ar ffurf rifiadol, fesul 100 g neu 100 ml o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu ac, os yw'n briodol, fesul maint penodedig o'r bwyd fel y mae wedi'i fwriadu i'w fwyta neu i'w yfed; a
(b) yn achos sylwedd mwynol neu fitamin, fod hwnnw'n sylwedd mwynol neu'n fitamin ac eithrio'r un y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1)(ch).
(3) Os, yn unol â pharagraff (1)(ch) neu baragraff (2), y mae unrhyw fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu unrhyw fwyd babanod wedi'i labelu â'r maint cyfartalog, fesul 100 g neu 100 ml o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu ac, os yw'n briodol, fesul maint penodedig o'r bwyd fel y mae wedi'i fwriadu i'w fwyta neu i'w yfed, o unrhyw fitamin neu fwyn a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 8, rhaid i label y bwyd beidio â mynegi'r maint cyfartalog hwnnw fel canran o'r gwerth cyfeiriadol a bennir yng ngholofn 2 o Atodlen 8 mewn perthynas â fitamin neu'r mwyn hwnnw oni bai bod y maint sy'n bresennol yn hafal i 15 y cant neu fwy o'r gwerth cyfeiriadol.
Gorfodi
9.
- (1) Ac eithrio os yw paragraff (2) yn gymwys, rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
(2) Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal o ran bwyd sydd wedi'i fewnforio.
Tramgwydd a chosb
10.
Os bydd unrhyw berson yn mynd yn groes i reoliad 4, bydd yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Amddiffyniad yngln ag allforion
11.
Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddir brofi -
(a) bod y bwyd, yr honnir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni mewn perthynas ag ef, wedi'i fwriadu i'w allforio i wlad sydd â deddfwriaeth debyg i'r Rheoliadau hyn a bod y bwyd yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno; a
(b) yn achos allforio i un o Wladwriaethau'r AEE, bod y ddeddfwriaeth yn cydymffurfio â darpariaethau'r Gyfarwyddeb[12].
Cymhwyso darpariaethau amrywiol y Ddeddf
12.
Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn -
(a) adran 2 (ystyr estynedig "sale" etc.);
(b) adran 3 (rhagdybiaethau fod bwyd wedi'i fwriadu i'w fwyta gan bobl);
(c) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(ch) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy), fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 8, 14 neu 15;
(d) adran 22 (amddiffyn cyhoeddi wrth gynnal busnes);
(dd) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(e) adran 33(1) (rhwystro swyddogion etc.);
(f) adran 33(2), gyda'r addasiad bod rhaid barnu bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above" yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod;
(ff) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y cymhwysir hi gan baragraff (e) uchod;
(g) adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y cymhwysir hi gan baragraff (f) uchod;
(ng) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
(h) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Dirymu
13.
- (1) Dirymir Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc 1997[13] a Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Diwygio) 1999[14] mewn perthynas â Chymru.
(2) Dirymir Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Diwygio) (Cymru) 2001[15].
Diwygiad
14.
- (1) Diwygir Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd 1990[16])(i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 2(7) (gwahardd gwerthu etc fwyd sy'n cynnwys tryptoffan), yn y diffiniadau o "processed cereal-based food" a "baby food" yn lle'r geiriau "the Processed Cereal-based Foods and Baby Foods for Infants and Young Children Regulations 1997" rhowch y geiriau "the Processed Cereal-based Foods and Baby Foods for Infants and Young Children (Wales) Regulations 2004".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[17]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Chwefror 2004
ATODLEN 1Rheoliadau 2(1), 5(3) ac 8(1)(ch)
BWYDYDD SYDD WEDI'U SEILIO AR RAWN
RHAN
I
Categorïau o fwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn
1.
Grawn syml sydd i'w hailansoddi neu y mae rhaid eu hailansoddi â llaeth neu hylifau maethlon priodol eraill.
2.
Grawn â bwyd uchel mewn protein sydd wedi'i ychwanegu ac sydd i'w hailansoddi neu y mae rhaid eu hailansoddi â dwr neu hylif arall heb brotein.
3.
Pastau sydd i'w defnyddio ar ôl eu coginio mewn dwr berwedig neu hylifau priodol eraill.
4.
Bisgedi caled a bisgedi eraill sydd i'w defnyddio naill ai'n uniongyrchol neu, ar ôl eu malu'n fân, gan ychwanegu dwr, llaeth neu hylifau addas eraill atynt.
RHAN
II
Cyfansoddiad hanfodol bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn
Mae'r gofynion yngln â maetholion yn cyfeirio at y cynnyrch sy'n barod i'w defnyddio, sy'n cael eu marchnata fel y cyfryw neu sydd i'w hailansoddi yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd.
1.
Y cynnwys o ran grawn
Mae bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn yn cael eu paratoi'n bennaf o un neu ragor o ydau grawn wedi'u malu a/neu gynhyrchion gwreiddiau startslyd.
Rhaid i gyfanswm yr ydau grawn a/neu'r cynnyrch gwreiddiau startslyd beidio â bod yn llai na 25 y cant o'r cymysgedd terfynol o gymharu pwysau sych y naill a phwysau sych y llall.
2.
Protein
2.1.
Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraffau 2 a 4 o Ran I, rhaid i'r cynnwys o ran protein beidio â bod yn fwy nag 1.3 g /100 kJ (5.5 g / 100 kcal).
2.2.
Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I, rhaid i'r protein sydd wedi'i ychwanegu beidio â bod yn llai na 0.48 g /100 kJ (2 g / 100 kcal).
2.3.
Yn achos bisgedi a grybwyllwyd ym mharagraff 4 o Ran I sydd wedi'u gwneud drwy ychwanegu bwyd uchel mewn protein, ac sy'n cael eu cyflwyno fel y cyfryw, rhaid i'r protein sydd wedi'i ychwanegu beidio â bod yn llai na 0.36 g /100 kJ (1.5 g / 100 kcal).
2.4.
Rhaid i fynegrif cemegol y protein sydd wedi'i ychwanegu fod yn hafal i 80 y cant o leiaf o'r protein cyfeiriadol (casein fel y'i diffinnir yn Atodlen 2), neu mae'n rhaid i gymhareb effeithlonrwydd protein (PER) y protein yn y cymysgedd fod yn hafal i 70 y cant o leiaf o'r protein cyfeiriadol hwnnw. Ym mhob achos, dim ond at ddibenion gwella gwerth maethol y cymysgedd sy'n cynnwys y protein , a dim ond yn ôl y cyfrannau sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw y caniateir ychwanegu asidau amino.
3.
Carbohydradau
3.1.
Os yw swcros, ffrwctos, glwcos, suropau glwcos neu fêl yn cael eu hychwanegu at gynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraffau 1 a 4 o Ran I:
- rhaid i gyfanswm y carbohydradau sydd wedi'u hychwanegu o'r ffynonellau hyn beidio â bod yn fwy nag 1.8 g / 100 kJ (7.5 g / 100 kcal),
- rhaid i gyfanswm y ffrwctos sydd wedi'i ychwanegu beidio â bod yn fwy na 0.9 g / 100 kJ (3.75 g / 100 kcal).
3.2.
Os yw swcros, ffrwctos, suropau glwcos neu fêl yn cael eu hychwanegu at gynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I:
- rhaid i gyfanswm y carbohydradau sydd wedi'u hychwanegu o'r ffynonellau hyn beidio â bod yn fwy nag 1.2 g / 100 kJ (5 g / 100 kcal),
- rhaid i gyfanswm y ffrwctos sydd wedi'i ychwanegu beidio â bod yn fwy na 0.6 g / 100 kJ (2.5 g / 100 kcal).
4.
Braster
4.1.
Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraffau 1 a 4 o Ran I, rhaid i'r cynnwys o ran braster beidio â bod yn fwy na na 0.8 g / 100 kJ (3.3 g / 100 kcal).
4.2.
Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I, rhaid i'r cynnwys o ran braster beidio â bod yn fwy na nag 1.1 g / 100 kJ (4.5 g / 100 kcal). Os yw'r cynnwys o ran braster yn fwy na 0.8 g / 100 kJ (3.3 g / 100 kcal):
(a) rhaid i gyfanswm yr asid lawrig beidio â bod yn fwy na 15 y cant o gyfanswm y cynnwys o ran braster;
(b) rhaid i gyfanswm yr asid myristig beidio â bod yn fwy na 15 y cant o gyfanswm y cynnwys o ran braster;
(c) rhaid i gyfanswm yr asid linolëig (ar ffurf glyseridau = linoleadau) beidio â bod yn llai na 70 mg / 100 kJ (300 mg / 100 kcal) a pheidio â bod yn fwy na 285 mg / 100 kJ (1200 mg / 100 kcal).
5.
Mwynau
5.1.
Sodiwm
- dim ond at ddibenion technolegol y caniateir ychwanegu halwynau sodiwm at fwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn,
- rhaid i'r sodiwm sydd wedi'i gynnwys mewn bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn beidio â bod yn fwy na 25 mg /100 kJ (100 mg / 100 kcal).
5.2.
Calsiwm
5.2.1.
Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I, rhaid i gyfanswm y calsiwm beidio â bod yn llai nag 20 mg /100 kJ (80 mg / 100 kcal).
5.2.2.
Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 4 o Ran I sy'n cael eu gweithgynhyrchu drwy ychwanegu llaeth (bisgedi llaeth) atynt ac yn cael eu cyflwyno fel y cyfryw, rhaid i gyfanswm y calsiwm beidio â bod yn llai na 12 mg /100 kJ (50 mg / 100 kcal).
6.
Fitaminau
6.1
Yn achos bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn, rhaid i gyfanswm thiamin beidio â bod yn llai na 25 µg / 100 kJ (100 µg / 100 kcal).
6.2
Yn achos cynhyrchion a grybwyllwyd ym mharagraff 2 o Ran I:
Mae'r terfynau canlynol yn gymwys:
|
Fesul 100 kJ
|
Fesul 100 kcal
|
|
Isafswm
|
Mwyafswm
|
Lleiafswm
|
Mwyafswm
|
Fitamin A (µg RE)(1) |
14 |
43 |
60 |
180 |
Fitamin D (µg)(2) |
0.25 |
0.75 |
1 |
3 |
(1) pob cyfwerthydd traws-retinol
(2) Ar ffurf colecalsifferol, y mae 10 µg ohono = 400 i.u. o Fitamin D
Mae'r terfynau hyn yn gymwys hefyd os yw fitaminau A a D yn cael eu hychwanegu at fwydydd proses eraill sydd wedi'u seilio ar rawn.
ATODLEN 2Rheoliad 5(3) ac Atodlen1, Rhan II, Paragraff 2.4
CYFANSODDIAD CASEIN O RAN ASIDAU AMINO
Asid Amino
|
(g fesul 100 g o brotein)
|
Arginin |
3.7 |
Cystin |
0.3 |
Histidin |
2.9 |
Isolewcin |
5.4 |
Lewcin |
9.5 |
Lysin |
8.1 |
Methionin |
2.8 |
Ffenylalanin |
5.2 |
Threonin |
4.7 |
Tryptoffan |
1.6 |
Tyrosin |
5.8 |
Falin |
6.7 |
ATODLEN 3Rheoliadau 5(4) ac 8(1)(ch)
CYFANSODDIAD HANFODOL BWYDYDD BABANOD
Mae'r gofynion yngln â maetholion yn cyfeirio at y cynhyrchion sy'n barod i'w defnyddio, sydd wedi'u marchnata fel y cyfryw neu neu wedi'u hailansoddi yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd.
1.
Protein
1.1.
Os cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein yw'r unig gynhwysion sydd wedi'u crybwyll yn enw'r cynnyrch, yna:
- rhaid i gyfanswm y cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein a enwir beidio â ffurfio llai na 40 y cant, yn ôl pwysau, o'r cynnyrch cyfan,
- rhaid i bob cig, dofednod, pysgodyn, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein a enwir beidio â ffurfio llai na 25 y cant, yn ôl pwysau, o gyfanswm y ffynonellau protein a enwir,
- rhaid i gyfanswm y protein o'r ffynonellau a enwir beidio â bod yn llai nag 1.7 g / 100 kJ (7g / 100 kcal).
1.2.
Os crybwyllir cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein, yn unigol neu'n gyfunol, yn gyntaf yn enw'r cynnyrch, p'un a yw'r cynnyrch yn cael ei gyflwyno fel pryd bwyd neu beidio, yna:
- rhaid i gyfanswm y cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein a enwir beidio â ffurfio llai na 10 y cant, yn ôl pwysau, o'r cynnyrch cyfan,
- rhaid i bob cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein a enwir beidio â ffurfio llai na 25 y cant yn ôl pwysau o gyfanswm y ffynonellau protein a enwir,
- rhaid i gyfanswm y protein o'r ffynonellau a enwir beidio â bod yn llai nag 1 g / 100 kJ (4g / 100 kcal).
1.3.
Os crybwyllir cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein, yn unigol neu'n gyfunol, yn enw'r cynnyrch, ond nid yn gyntaf, p'un a yw'r cynnyrch yn cael ei gyflwyno fel pryd bwyd neu beidio, yna:
- rhaid i gyfanswm y cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein a enwir beidio â ffurfio llai nag 8 y cant, yn ôl pwysau, o'r cynnyrch cyfan,
- rhaid i bob cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell draddodiadol arall o brotein a enwir beidio â ffurfio llai na 25 y cant, yn ôl pwysau, o gyfanswm y ffynonellau protein a enwir,
- rhaid i gyfanswm y protein o'r ffynonellau a enwir beidio â bod yn llai na 0.5 g / 100 kJ (2.2g / 100 kcal),
- rhaid i gyfanswm y protein yn y cynnyrch o bob ffynhonnell beidio â bod yn llai na 0.7 g / 100 kJ (3g / 100 kcal).
1.4.
Os yw caws wedi'i grybwyll ynghyd â chynhwysion eraill yn enw cynnyrch sawrus, p'un a yw'r cynnyrch yn cael ei gyflwyno fel pryd bwyd neu beidio, yna:
- rhaid i'r protein o'r ffynonellau llaeth beidio â bod yn llai na 0.5 g / 100 kJ (2.2 g / 100kcal),
- rhaid i gyfanswm y protein yn y cynnyrch o bob ffynhonnell beidio â bod yn llai na 0.7 g / 100 kJ (3g / 100 kcal).
1.5.
Os yw'r cynnyrch wedi'i ddynodi'n bryd bwyd ar y label, ond nad cig, dofednod, pysgod, syrth neu ffynhonnell brotein draddodiadol arall wedi'u crybwyll yn enw'r cynnyrch, rhaid i gyfanswm y protein yn y cynnyrch o bob ffynhonnell beidio â bod yn llai na 0.7 g / 100 kJ (3g / 100 kcal).
1.6.
Mae sawsiau sy'n cael eu cyflwyno'n gyfwydydd pryd bwyd yn esempt rhag gofynion paragraff 1.1 i 1.5.
1.7.
Rhaid i seigiau melus, y mae cynhyrchion llaeth wedi'u crybwyll yn gynhwysyn cyntaf neu'n unig gynhwysyn yn enwau'r seigiau hynny, beidio â chynnwys llai na 2.2 g o brotein llaeth / 100 kcal. Mae pob saig felus arall yn esempt rhag y gofynion ym mharagraffau 1.1 i 1.5.
1.8.
Dim ond er mwyn gwella gwerth maethol y protein sy'n bresennol, a dim ond yn ôl y cyfrannau sy'n angenrheidiol at y diben hwnnw, y caniateir ychwanegu asidau amino.
2.
Carbohydradau
Rhaid i feintiau'r carbohydradau cyfan sy'n bresennol mewn suddau a neithdarau ffrwythau a llysiau, seigiau ffrwythau-yn-unig, a melysfwydydd neu bwdinau beidio â bod yn fwy na'r canlynol:
- 10 g / 100 ml ar gyfer suddau llysiau a diodydd sydd wedi'u seilio arnynt,
- 15 g / 100 ml ar gyfer suddau a neithdarau ffrwythau a diodydd sydd wedi'u seilio arnynt,
- 20 g / 100 g ar gyfer seigiau ffrwythau-yn-unig,
- 25 g / 100 g ar gyfer melysfwydydd a phwdinau,
- 5 g / 100 g ar gyfer diodydd eraill nad ydynt wedi'u seilio ar laeth.
3.
Braster
3.1.
Yn achos cynhyrchion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 1.1, os cig neu gaws yw'r unig gynhwysion neu os hwy sydd wedi'u crybwyll gyntaf yn enw cynnyrch, rhaid i gyfanswm y braster yn y cynnyrch o bob ffynhonnell beidio â bod yn fwy nag 1.4 g / 100 kJ (6g / 100 kcal).
3.2.
Yn achos pob cynnyrch arall rhaid i gyfanswm y braster yn y cynnyrch o bob ffynhonnell beidio â bod yn fwy nag 1.1 g / 100 kJ (4.5 g / 100 kcal).
4.
Sodiwm
4.1.
Rhaid i'r cynnwys terfynol o ran sodiwm yn y cynnyrch naill ai beidio â bod yn fwy nag 48 mg /100 kJ (200 mg / 100 kcal) neu beidio â bod yn fwy na 200 mg fesul 100 g. Er hynny, os caws yw'r unig gynhwysyn sydd wedi'i grybwyll yn enw'r cynnyrch, rhaid i'r cynnwys terfynol o ran sodiwm yn y cynnyrch beidio â bod yn fwy na 70 mg / 100 kJ (300 mg / 100 kcal).
4.2.
Ni chaniateir ychwanegu halwynau sodiwm at gynhyrchion sydd wedi'u seilio ar ffrwythau, nac at felysfwydydd neu bwdinau ac eithrio at ddibenion technolegol.
5.
Fitaminau
Fitamin C -
Mewn sudd ffrwythau, neithdar, neu sudd llysiau rhaid i'r cynnwys terfynol o ran fitamin C yn y cynnyrch naill ai beidio â bod yn llai na 6 mg /100 kJ (25 mg / 100 kcal) neu beidio â bod yn llai na 25 mg fesul 100 g.
Fitamin A -
Mewn suddion llysiau, rhaid i'r cynnwys terfynol o ran fitamin A yn y cynnyrch beidio â bod yn llai na 25 µg RE/100 kJ (100 µg RE/100 kcal) ac, at ddibenion y paragraff hwn, RE = pob cyfwerthydd traws-retinol.
Rhaid peidio ag ychwanegu fitamin A at fwydydd babanod eraill.
Fitamin D -
Rhaid peidio ag ychwanegu fitamin D at fwydydd babanod.
ATODLEN 4Rheoliadau 6(1) ac 8(2)
SYLWEDDAU MAETHOL
1.
Fitaminau
Fitamin A
Retinol
Retinyl asetad
Retinyl palmitad
Beta-caroten
Fitamin D
Fitamin D2 (= ergocalsifferol)
Fitamin D3 (= colecalsifferol)
Fitamin B1
Thiamin hydroclorid
Thiamin mononitrad
Fitamin B2
Ribofflafin
Ribofflafin-5'-ffosffad, sodiwm
Nïacin
Nicotinamid
Asid nicotinig
Fitamin B6
Pyridocsin hydroclorid
Pyridocsin-5-ffosffad
Pyridocsin deupalmitad
Asid pantothenig
D-pantothenad, calsiwm
D-pantothenad, sodiwm
Decspanthenol
Ffolad
Asid ffolig
Fitamin B12
Cyanocobalamin
Hydrocsocobalamin
Biotin
D-biotin
Fitamin C
L-asid asgorbig
Sodium L-asgorbad
Calsiwm L- asgorbad
6-palmityl-L- asid asgorbig (ascorbyl palmitad)
Potasiwm asgorbad
Fitamin K
Ffylocwinon (ffytomenadion)
Fitamin E
D-alffa tocofferol
DL- alffa tocofferol
D- alffa tocofferol asetad
DL- alffa tocofferol asetad
2.
Asidau amino
L-arginin }
L-cystin }
L-histidin } a'u hydrocloridau
L-isolewcin }
L-lewcin }
L-lysin }
L-cystein }
L-methionin
L-ffenylalanin
L-threonin
L-tryptoffan
L-tyrosin
L-falin
3.
Eraill
Colin
Colin clorid
Colin citrad
Colin bitartrad
Inositol
L-carnitin
L-carnitin hydroclorid
4.
Halwynau mwynau ac elfennau hybrin
Calsiwm
Calsiwm carbonad
Calsiwm clorid
Halwynau calsiwm asid citrig
Calsiwm glwconad
Calsiwm glyseroffosffad
Calsiwm lactad
Calsiwm ocsid
Calsiwm hydrocsid
Halwynau calsiwm asid orthoffosfforig
Magnesiwm
Magnesiwm carbonad
Magnesiwm clorid
Halwynau magnesiwm asid citrig
Magnesiwm glwconad
Magnesiwm ocsid
Magnesiwm hydrocsid
Halwynau magnesiwm asid orthoffosfforig
Magnesiwm sylffad
Magnesiwm lactad
Magnesiwm glyseroffosffad
Potasiwm
Potasiwm clorid
Halwynau potasiwm asid citrig
Potasiwm glwconad
Potasiwm lactad
Potasiwm glyseroffosffad
Haearn
Citrad fferrus
Amoniwm citrad fferrig
Glwconad fferrus
Lactad fferrus
Sylffad fferrus
Ffwmarad fferrus
Deuffosffad fferrig (pyroffosffad fferrig)
Haearn elfennol (carbonyl + electrolytig + wedi'i rydwytho â hydrogen)
Sacarad fferrig
Sodiwm ferrig deuffosffad
Carbonad fferrus
Copr
Cymhligyn Copr-lysin
Carbonad cwprig
Citrad cwprig
Glwconad cwprig
Sylffad Cwprig
Zinc
Zinc asetad
Zinc citrad
Zinc lactad
Zinc sylffad
Zinc ocsid
Zinc glwconad
Manganîs
Manganîs carbonad
Manganîs clorid
Manganîs citrad
Manganîs glwconad
Manganîs sylffad
Manganîs glyseroffosffad
Ïodin
Sodiwm ïodid
Potasiwm ïodid
Potasiwm ïodad
Sodiwm ïodad
ATODLEN 5Rheoliad 6(2) a (3)
Y TERFYNAU UCHAF AR GYFER FITAMINAU, MWYNAU AC ELFENNAU HYBRIN, OS YDYNT WEDI'U HYCHWANEGU, MEWN BWYDYDD PROSES SYDD WEDI'U SEILIO AR RAWN A BWYDYDD BABANOD
RHAN
I
Cyffredinol
Colofn 1
|
Colofn 2
|
Maetholyn
|
Y terfyn uchaf fesul 100 kcal(1)
|
Fitamin E |
3 mg a-TE |
Ribofflafin |
0.4 mg |
Nïasin |
4.5 mg NE |
Fitamin B6 |
0.35 mg |
Asid ffolig |
50 µg |
Fitamin B12 |
0.35 µg |
Asid pantothenig acid |
1.5 mg |
Biotin |
10 µg |
Potasiwm |
160 mg (o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu) |
Magnesiwm |
40 mg |
Haearn |
3 mg |
Zinc |
2 mg |
Copr |
40 µg |
Ïodin |
35 µg |
Manganîs |
0.6 mg |
(1) Oni ddywedir fel arall yng ngholofn 2 o Ran I neu golofn 3 o Ran II, mae'r terfynau uchaf a bennir yn y colofnau hynny yn gymwys i fwyd sy'n barod i'w ddefnyddio, p'un a yw'n cael ei farchnata fel y cyfryw neu i'w ailansoddi yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd.
RHAN
II
Bwydydd Penodedig
Colofn 1
|
Colofn 2
|
Colofn 3
|
Bwyd
|
Maetholyn
|
Terfyn uchaf fesul 100 kcal(1)
|
1.
Suddau llysiau sy'n fwydydd babanod
|
Fitamin A |
180 µg RE(2) |
2.
Bwyd wedi'i atgyfnerthu â haearn
|
Fitamin C |
25 mg |
3.
Seigiau wedi'u seilio ar ffrwythau, suddau ffrwythau, neithdarau neu suddau llysiau
|
Fitamin C |
125 mg |
4.
Bwyd ac eithrio bwyd o o dan eitem Rhif 2 neu 3 uchod
|
Fitamin C |
12.5 mg |
5.
Bwyd proses wedi'i seilio ar rawn
|
Thiamin |
0.5 mg |
6.
Bwyd babanod
|
Thiamin |
0.25 mg |
7.
Bwyd o fewn paragraff 1 neu 2 o Ran I o Atodlen 1
|
Calsiwm |
180 mg (o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu) |
8.
Bwyd o fewn paragraff 4 o Ran I o Atodlen 1
|
Calsiwm |
100 mg (o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu) |
9.
Bwyd ac eithrio bwyd o f ewn eitem Rhif 7 neu 8 uchod
|
Calsiwm |
80 mg (o'r bwyd fel y mae'n cael ei werthu) |
(1) Oni ddywedir fel arall yng ngholofn 2 o Ran I neu golofn 3 o Ran II, mae'r terfynau uchaf a bennir yn y colofnau hynny yn gymwys i fwyd sy'n barod i'w ddefnyddio, p'un a yw'n cael ei farchnata fel y cyfryw neu i'w ailansoddi yn unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd.
(2) RE = pob cyfwerthydd traws-retinol.
ATODLEN 6Rheoliad 7(1) a (3)
PLALEIDDIAID Y MAE RHAID I'W GWEDDILLION BEIDIO Â BOD YN BRESENNOL MEWN BWYDYDD PROSES SYDD WEDI'U SEILIO AR RAWN NEU FWYDYDD BABANOD AR LEFEL SY'N UWCH NA 0.003 MG/KG
Enw cemegol
Aldrin a deueldrin, wedi'u mynegi fel deueldrin
Deusylffoton (swm deusylffoton, deusylffoton sylffocsid a deusylffoton sylffon wedi'u mynegi fel deusylffoton)
Endrin
Ffenswlffothion (swm ffenswlffothion, ei gydwedd ocsigen a'u sylffonau, wedi'u mynegi fel ffenswlffothion)
Ffentin, wedi'i fynegi fel triffenyltin cation
Halocsyffop (swm halocsyffop, ei halwynau a'i esterau gan gynnwys cyfiau, wedi'u mynegi fel halocsyffop)
Heptaclor a thraws-heptaclor epocsid, wedi'u mynegi fel heptaclor
Hecsaclorobensen
Nitroffen
Omethoad
Terbwffos (swm terbwffos, ei sylffocsid a'i sylffon, wedi'u mynegi fel terbwffos)
ATODLEN 7Rheoliad 7(2) a (3)
LEFELAU GWEDDILLION UCHAF PENODOL PLALEIDDIAID PENODOL MEWN BWYDYDD PROSES SYDD WEDI'U SEILIO AR FWYD NEU FWYDYDD BABANOD
Colofn 1
|
Colofn 2
|
Enw cemegol y sylwedd
|
Y lefel weddillion uchaf(mg/kg)
|
Cadwsaffos |
0.006 |
Demeton-S-methyl /demeton-S-methyl sylffon/ocsydemeton-methyl (yn unigol neu'n gyfunol, wedi'i fynegi fel demeton-S-methyl) |
0.006 |
Ethoproffos |
0.008 |
Ffipronil (swm ffipronil a ffipronil-desylffinyl, wedi'u mynegi fel ffipronil) |
0.004 |
Propineb/propylenethiowrea (swm propineb a phropylenethiowrea) |
0.006 |
ATODLEN 8Rheoliad 8(3)
GWERTHOEDD CYFEIRIADOL AR GYFER LABELI MAETH AR GYFER BWYDYDD SYDD WEDI'U BWRIADU AR GYFER BABANOD A PHLANT IFANC
Colofn 1
|
Colofn 2
|
Maetholyn
|
Gwerth cyfeiriadol ar gyfer labeli
|
Fitamin A |
(µg) 400 |
Fitamin D |
(µg) 10 |
Fitamin C |
(mg) 25 |
Thiamin |
(mg) 0.5 |
Ribofflafin |
(mg) 0.8 |
Cyfwerthyddion nïacin equivalents |
(mg) 9 |
Fitamin B6 |
(mg) 0.7 |
Ffolad |
(µg) 100 |
Fitamin B12 |
(µg) 0.7 |
Calsiwm |
(mg) 400 |
Haearn |
(mg) 6 |
Zinc |
(mg) 4 |
Ïodin |
(µg) 70 |
Seleniwm |
(µg) 10 |
Copr |
(mg) 0.4 |
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer parhau i weithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 96/5/EC yngln â bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd ar gyfer babanod a phlant ifanc, fel y diwygiwyd y Gyfarwyddeb honno gan Gyfarwyddebau'r Comisiwn 1998/36/EC a 1999/39/EC ac fel y'i diwygiwyd ymhellach yn awr gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2003/13/EC. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli mewn perthynas â Chymru Reoliadau Bwydydd Proses sydd wedi'u Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc 1997, fel y'u diwygiwyd.
2.
Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Mawrth 2005. Maent -
(a) yn gwahardd gwerthu bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd babanod ar gyfer babanod a phlant ifanc oni bai eu bod yn cydymffurfio â'r gofynion yngln â gweithgynhyrchu a chyfansoddiad yn rheoliadau 5 i 7 a'r gofynion ynghylch labelu yn rheoliad 8 (rheoliad 4);
(b) yn esemptio unrhyw fwyd babanod sy'n llaeth sydd wedi'i fwriadu ar gyfer plant ifanc rhag gofynion y Rheoliadau hyn (rheoliad 3);
(c) yn pennu'r awdurdodau gorfodi (rheoliad 9);
(ch) yn creu tramgwydd ac yn rhagnodi cosb (rheoliad 10);
(d) yn darparu amddiffyniad yngln ag allforion yn unol ag Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/397/EEC (OJ Rhif L186, 30.6.89, t.23) ar reolaeth swyddogol ar fwydydd (rheoliad 11);
(dd) yn cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 12); a
(e) yn cynnwys darpariaeth ddirymu (rheoliad 13) ac yn gwneud diwygiad canlyniadol (rheoliad 14).
3.
Er mwyn gweithredu Cyfarwyddeb 2003/13/EC mae'r Rheoliadau hyn yn gwahardd gwerthu bwydydd proses sydd wedi'u seilio ar rawn a bwydydd babanod ar gyfer babanod a phlant ifanc os yw'r bwydydd hynny yn cynnwys gweddillion plaleiddiaid uwchlaw lefelau penodol. Mae lefelau gwahanol wedi'u pennu, yn dibynnu ar y plaleiddiad o dan sylw (rheoliad 7 ac Atodlenni 6 a 7). Er mwyn gweithredu brawddeg olaf Erthygl 6(2) o Gyfarwyddeb 96/5/EEC fel y'i hamnewidiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 1999/39/EC, mae darpariaeth yn cael ei gwneud yngln â dulliau dadansoddiadol (rheoliad 7(5)).
4.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud rhai mân newidiadau, newidiadau drafftio a newidiadau technegol hefyd, yn enwedig i'r ddarpariaeth sy'n cymhwyso darpariaethau penodol yn Neddf 1990 (rheoliad 12). Mae gan awdurdodau iechyd porthladdoedd rôl bellach ym maes gorfodi (rheoliad 9). Dim ond â mynd yn groes i'r cyfyngiadau ar werthu yn rheoliad 4 y mae'r ddarpariaeth yngln â thramgwyddo yn ymwneud bellach (rheoliad 10).
5.
Mae arfarniad rheoliadol llawn o effaith yr offeryn hwn ar gostau busnes wedi'i baratoi a'r roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n dangos sut mae prif elfennau Cyfarwyddeb 2003/13/EC yn cael eu trosi yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
Notes:
[1]
1990 p.16.back
[2]
Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan "the Secretary of State" i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).back
[3]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back
[4]
OJ Rhif L1, 3.1.94, t.1.back
[5]
OJ No. L1, 3.1.94, t.571.back
[6]
OJ No. L230, 19.8.91, t.1.back
[7]
OJ Rhif L49, 28.2.96, t.17.back
[8]
OJ Rhif L167, 12.6.98, t.23.back
[9]
OJ Rhif L124, 18.5.1999, t.8.back
[10]
OJ Rhif L41, 14.2.2003, t.33.back
[11]
O.S. 1996/1499, yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1998/141, 1398, 2424, 1999/747, 1136, 1483, 1540, 2000/1925 (Cy.134), 1232 (Cy.66), 2001/1440 (Cy.102), 2679 (Cy.220), 3909 (Cy.321), 329 (Cy.42), 2002/330 (Cy.43), 2003/1635 (Cy.177), 832 (Cy.104), 945 (Cy.126), 1713 (Cy.181).back
[12]
Fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor AEE Rhif 32/2002 (OJ Rhif L154, 13.6.2002, t.12) a 107/2003.back
[13]
O.S. 1997/2042.back
[14]
O.S. 1999/275.back
[15]
O.S. 2001/1691 (Cy. 121).back
[16]
O.S. 1990/1728; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2002/2939 (Cy.280).back
[17]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090873 2
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
27 February 2004
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040314w.html