BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Codi Rhwystrau oddi ar Briffyrdd (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040317w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif317 (Cy.34)

HAWLIAU TRAMWY, CYMRU

Rheoliadau Codi Rhwystrau oddi ar Briffyrdd (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 10 Chwefror 2004 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 130A(8), 130B(6) a 130C(2) o Ddeddf Priffyrdd 1980[1], a phob pwcircer arall sy'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Codi Rhwystrau oddi ar Briffyrdd (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn  - 

Hysbysiadau a ragnodir
    
3. Yr hysbysiad a ragnodir at ddibenion adran - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Chwefror 2004



YR ATODLEN


FFURFLEN 1

Darllenwch y nodiadau drosodd cyn llenwi'r ffurflen hon

HYSBYSIAD O GAIS I'R AWDURDOD PRIFFYRDD LLEOL SICRHAU BOD RHWYSTR HONEDIG YN CAEL EI GODI

DEDDF PRIFFYRDD 1980 ADRAN 130A(1)

I      [enw'r Awdurdod]
o      [cyfeiriad]
Yr wyf i      [enw]
o      [cyfeiriad]
          [cyfeiriad e-bost (dewisol)]
          [Rhif ffôn (dewisol)]

drwy hyn yn gofyn i chi sicrhau bod y rhwystr a ddisgrifir isod yn cael ei godi.

Statws y briffordd [ysgrifennwch "Llwybr Troed", "Llwybr Ceffylau", "Cilffordd Gyfyngedig", "Cilffordd sy'n Agored i bob math o Draffig" neu "Ddim yn sicr."]

Lleoliad y briffordd a'r rhwystr:

Disgrifiad o'r rhwystr:

Y dyddiad y deuthum ar draws y rhwystr oedd [rhowch ddyddiad]:

Mae'n ymddangos i mi y gall y canlynol fod yn gyfrifol am y rhwystr [os nad yw'n hysbys, ysgrifennwch anhysbys]:

Enw 1:

Cyfeiriad 1:

Enw 2:

Cyfeiriad 2:

Llofnodwyd      Dyddiad

NODIADAU AR FFURFLEN 1

Beth yw diben y ffurflen hon?

Mae'r ffurflen hon yn rhoi hysbysiad o'ch cais i awdurdod priffyrdd lleol ("yr Awdurdod") gymryd camau i arfer ei ddyletswydd i atal rhwystrau i hawliau tramwy cyhoeddus. Dim ond mathau penodol o rwystrau sy'n dod o fewn cwmpas adran 130A  -  mae'r rhain yn cael eu disgrifio isod. Serch hynny, os ydych yn ansicr a yw rhwystr yn dod o fewn cwmpas adran 130A, cewch gyflwyno'r ffurflen hon a bydd yr Awdurdod yn eich hysbysu a yw o fewn eu pwerau i ymdrin ag ef.

Pan fyddwch wedi llenwi'r ffurflen, rhaid i chi ei chyflwyno i'r Awdurdod y mae'r rhwystr yn ei ardal. Mae cyflwyno hysbysiad yn golygu traddodi'r ffurflen hon i Brif Weithredwr yr Awdurdod. Cewch ei gyflwyno'n bersonol, ei adael yn swyddfa'r Awdurdod neu ei bostio gan ddefnyddio neu beidio â defnyddio'r gwasanaeth post cofrestredig neu'r gwasanaeth dosbarthiad cofnodedig. Os postiwch ef heb ei gofrestru neu heb gofnodi'r ffaith ei fod wedi'i bostio, bernir nad yw wedi'i gyflwyno os gall yr Awdurdod ddangos na ddaeth i law'r person yr oedd wedi'i gyfeirio ato.

Dylech gadw copi o bob ffurflen y byddwch yn ei chyflwyno i'r Awdurdod.

Gan y gall gwahanol weithdrefnau fod yn gymwys i wahanol rwystrau, defnyddiwch un ffurflen ar gyfer pob rhwystr.

Beth yw rhwystr?

Mae rhwystr yn dod o fewn cwmpas adran 130A os yw ar lwybr troed, llwybr ceffyl neu gilffordd cyfyngedig neu ffordd a ddangosir ar fap a datganiad diffiniol fel cilffordd cyfyngedig neu gilffordd sy'n agored i bob math o draffig, os yw'r rhwystr heb gael ei awdurdodi'n gyfreithlon ac os yw'n unrhyw beiriant, pwmp, postyn neu rywbeth arall y mae ei natur yn golygu y gall achosi niwsans, neu yn wrych, coeden neu brysgwydden neu lystyfiant o unrhyw ddisgrifiad arall sy'n hongian uwchben man lle mae hawl dramwy yn y fath fodd ag i beryglu cerbydau, cerddwyr a marchogwyr neu eu rhwystro rhag tramwyo.

Os yw'r rhwystr o fewn cwmpas Adran 130A, rhaid i'r Awdurdod y cyflwynwch hysbysiad iddo, o fewn un mis ar ôl dyddiad ei gyflwyno, gyflwyno i bob person y mae ei enw a'i gyfeiriad wedi'u cynnwys ar y ffurflen hon ac, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, i bob person arall y mae'n ymddangos iddo y gallai fod yn gyfrifol am y rhwystr, hysbysiad yn rhoi gwybod iddynt fod yr hysbysiad hwn wedi'i gyflwyno ynglycircn â'r rhwystr ac yn datgan pa gamau, os o gwbl, y mae'r Awdurdod yn bwriadu eu cymryd. Mae'ch manylion personol yn gyfrinachol ac ni fydd yr Awdurdod yn datgelu pwy ydych chi i unrhyw bartïon eraill sydd â rhan yn y broses.

Os nad yw'r rhwystr o fewn cwmpas adran 130A bydd yr Awdurdod yn eich hysbysu o hynny.

Llenwi'r ffurflen

Lleoliad y briffordd a'r rhwystr: Dylai'ch disgrifiad o leoliad y briffordd ac o'r rhwystr fod yn ddigon manwl i'r Awdurdod allu dod o hyd iddynt.

Disgrifiad o'r rhwystr: Gallai esiamplau gynnwys peiriant amaethyddol; ysbwriel wedi'i adael ar y ffordd; canghennau sy'n hongian uwchben y ffordd yn y fath fodd ag i'ch rhwystro rhag tramwyo. Cewch atodi ffotograff os dymunwch. Os yw'r rhwystr yn berygl i ddefnyddwyr, bydd angen i'r Awdurdod ystyried a oes ganddo'r pwcircer i'w godi heb gyflwyno hysbysiadau o dan adran 130A.

Pwy sy'n gyfrifol am y rhwystr? Os ydych yn adnabod, neu'n meddwl eich bod yn adnabod, yr unigolion a/neu y cwmnïau a all fod yn gyfrifol naill ai am greu'r rhwystr neu am fethu ag atal i'r rhwystr gael ei greu, ysgrifennwch eu henwau a'u cyfeiriadau.



FFURFLEN 2

I'w llenwi gan yr awdurdod priffyrdd lleol

HYSBYSIAD BOD YR AWDURDOD PRIFFYRDD LLEOL WEDI CAEL CAIS I SICRHAU BOD RHWYSTR YN CAEL EI GODI

DEDDF PRIFFYRDD 1980 ADRAN 130A(6)(a)

[Enw'r Awdurdod]

At:

Mae hysbysiad wedi'i gyflwyno i'r Awdurdod hwn sicrhau bod rhwystr yn cael ei godi o fan lle mae hawl tramwy cyhoeddus. Yr ydym wedi bodloni ein hunain fod y rhwystr o fewn cwmpas adran 130A(2) a (3) o Ddeddf Priffyrdd 1980.

Statws a lleoliad y briffordd:

Lleoliad y rhwystr (gan gynnwys cyfeirnod y briffordd, os yw'n hysbys):

Disgrifiad o'r rhwystr:

Rydych wedi eich enwi fel person:

Mae'r Awdurdod yn bwriadu [disgrifiwch pa gamau, os o gwbl, y mae'r Awdurdod yn bwriadu eu cymryd mewn perthynas â'r rhwystr honedig]:

Os chi sy'n gyfrifol am y rhwystr, ysgrifennwch at yr Awdurdod i gadarnhau bod y rhwystr wedi'i godi, neu y bydd yn cael ei godi a'r dyddiad y bwriedir ei godi. Os ydych yn credu nad ydych chi yn berson o fath a bennwyd uchod neu os ydych yn credu nad yw'r rhwystr yn un y mae'r ddeddfwriaeth hon yn gymwys iddo, ysgrifennwch at yr Awdurdod gan ddatgan eich rhesymau.

Llofnodwyd      Dyddiad

NODIADAU AR FFURFLEN 2

Beth yw diben y ffurflen hon?

Mae adran 130A(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980 yn galluogi unrhyw berson i gyflwyno hysbysiad i awdurdod priffyrdd lleol ("yr Awdurdod") yn gofyn bod rhwystr, sydd ar fan lle mae hawl dramwy, yn cael ei godi. Os yw'r rhwystr o fewn cwmpas adran 130A(2) a (3) o Ddeddf Priffyrdd 1980, mae'n ofynnol i'r Awdurdod gymryd camau i sicrhau bod y rhwystr yn cael ei godi.

Mae rhwystr yn dod o fewn cwmpas adran 130A(2) a (3) os yw ar lwybr troed, llwybr ceffyl neu gilffordd gyfyngedig neu ffordd a ddangosir ar fap a datganiad diffiniol fel cilffordd gyfyngedig neu gilffordd sy'n agored i bob math o draffig, os yw'r rhwystr heb gael ei awdurdodi'n gyfreithlon ac os yw'n unrhyw beiriant, pwmp, postyn neu rywbeth arall y mae ei natur yn golygu y gall achosi niwsans, neu'n wrych, coeden neu brysgwydden neu lystyfiant o unrhyw ddisgrifiad arall sy'n hongian uwchben man lle mae hawl dramwy yn y fath fodd ag i beryglu cerbydau, cerddwyr a marchogwyr neu eu rhwystro rhag tramwyo.

Mae'r ffurflen hon yn hysbysu'r rhai y canfuwyd mai hwy sy'n gyfrifol am rwystr fod hysbysiad wedi'i roi i'r Awdurdod arfer ei ddyletswydd i godi'r rhwystr ac yn eu hysbysu o'r camau y mae'r Awdurdod yn bwriadu eu cymryd i sicrhau ei fod yn cael ei godi.

Rhaid cyflwyno hysbysiad o fewn un mis o ddyddiad cyflwyno Ffurflen 1.



FFURFLEN 3

I'w llenwi gan yr awdurdod priffyrdd lleol

HYSBYSIAD I BERSON, A GYFLWYNODD HYSBYSIAD I'R AWDURDOD PRIFFYRDD LLEOL YN GOFYN BOD RHWYSTR YN CAEL EI GODI (FFURFLEN 1), FOD YR AWDURDOD PRIFFYRDD LLEOL WEDI CYFLWYNO HYSBYSIAD I'R PERSON(AU) Y CANFUWYD EU BOD YN GYFRIFOL

DEDDF PRIFFYRDD 1980 ADRAN 130A(6)(b)

[Enw'r Awdurdod]

At:

Cyfeiriad:

Mae hysbysiad wedi'i gyflwyno i'r personau yr ydych wedi eu henwi yn y ffurflen a gyflwynwyd gennych i'r Awdurdod ar [dyddiad yr hysbysiad o gais] fel personau sy'n gyfrifol, yn eich barn chi, am rwystr.

Rhoddwyd hysbysiad gan yr Awdurdod i'r personau hynny drwy ddefnyddio'r copi o Ffurflen 2 sydd wedi ei atodi.

Llofnodwyd      Dyddiad

Enw'r Swyddog



FFURFLEN 4

I'w llenwi gan y person a lanwodd Ffurflen 1

HYSBYSIAD O FWRIAD I WNEUD CAIS I'R LLYS YNADON AM ORCHYMYN YN EI GWNEUD YN OFYNNOL I'R AWDURDOD PRIFFYRDD LLEOL SICRHAU BOD RHWYSTR YN CAEL EI GODI

DEDDF PRIFFYRDD 1980 ADRAN 130C(1)

I      [enw'r Awdurdod]
o      [cyfeiriad]
Fe wnes i      [enw]
o      [cyfeiriad]
          [cyfeiriad e-bost (dewisol)]
          [Rhif ffôn (dewisol)]

gyflwyno hysbysiad (Ffurflen 1) i chi ar [dyddiad] i sicrhau bod rhwystr yn cael ei godi. Mae lleoliad y rhwystr wedi'i ddisgrifio yn fy hysbysiad (Ffurflen 1). [Mae copi o Ffurflen 1 wedi'i atodi] [Mae'r disgrifiadau sydd wedi'u cynnwys yn Ffurflen 1 isod].

Gan nad yw'r rhwystr wedi'i godi, yr wyf yn bwriadu gwneud cais i Lys yr Ynadon am Orchymyn i'w gwneud yn ofynnol i chi godi'r rhwystr.

Llofnodwyd      Dyddiad

NODIADAU AR FFURFLEN 4

Amserlen: Ni chewch gyflwyno hysbysiad o'ch bwriad i wneud cais i Lys yr Ynadon am Orchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod priffyrdd lleol ("yr Awdurdod") sicrhau bod rhwystr yn cael ei godi tan o leiaf ddeufis ar ôl y dyddiad pan wnaethoch chi gyflwyno hysbysiad (Ffurflen 1) i'r Awdurdod.

Cewch wneud cais i Lys yr Ynadon bum niwrnod ar ôl i chi gyflwyno'r hysbysiad hwn i'r Awdurdod, ond rhaid i unrhyw gais gael ei wneud o fewn chwe mis o roi Ffurflen 1 i'r Awdurdod.

Pa Lys Ynadon?

Rhaid i chi wneud cais i Lys yr Ynadon y mae'r rhwystr i'w gael yn eu hawdurdodaeth hwy.



FFURFLEN 5

I'w llenwi gan yr awdurdod priffyrdd lleol

HYSBYSIAD O ORCHYMYN A WNAED GAN LYS YNADON YN EI GWNEUD YN OFYNNOL I'R AWDURDOD PRIFFYRDD LLEOL SICRHAU BOD RHWYSTR YN CAEL EI GODI

DEDDF PRIFFYRDD 1980 ADRAN 130B(6)

[Enw'r Awdurdod]

Hysbysir drwy hyn fod Gorchymyn wedi'i wneud gan Lys yr Ynadon yn [lleoliad Llys yr Ynadon] ar [dyddiad] yn ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod hwn gymryd y camau canlynol [mewnosodwch y camau a'r cyfnod amser a bennir yn y Gorchymyn] i sicrhau bod y rhwystr a ddisgrifir isod yn cael ei godi.

Statws y briffordd:

Lleoliad y briffordd [gan gynnwys cyfeirnod y briffordd, os yw'n hysbys]:

Lleoliad y rhwystr:

Disgrifiad o'r rhwystr:

Mae copïau o'r hysbysiad hwn wedi'u gosod o boptu i'r rhwystr ac yn y pwynt cyntaf, o boptu i'r rhwystr, lle mae'r briffordd (neu briffordd gysylltu) yn ymuno â phriffordd sydd wedi'i metlio. [Nodwch hefyd unrhyw bwyntiau eraill lle mae'r hysbysiad wedi'i osod.] Mae copïau wedi'u hanfon hefyd i'r rhai y canfuwyd bod ganddynt fuddiant, neu sydd wedi nodi bod ganddynt fuddiant, yn y Gorchymyn. Bydd yr hysbysiadau hyn yn cael eu harddangos tan [dyddiad].

Daw'r Gorchymyn hwn yn effeithiol ar yr ail ddiwrnod ar hugain o'r diwrnod y cafodd y Gorchymyn ei wneud.

Llofnodwyd      Dyddiad

Yr hawl i apelio yn erbyn y Gorchymyn hwn Caiff yr awdurdod priffyrdd lleol ac unrhyw berson sydd am y tro yn gyfrifol am y rhwystr, neu a fu'n gyfrifol pan gafodd y cais am y Gorchymyn ei wneud i Lys yr Ynadon, apelio i Lys y Goron ar y sail bod y ffordd neu'r rhwystr o fath sydd y tu allan i gwmpas y ddeddfwriaeth neu ar y sail nad yw'r rhwystr yn amharu'n sylweddol ar arfer hawliau cyhoeddus dros y ffordd honno.

Yn ddarostyngedig i bwcirc er Llys y Goron i estyn y cyfnod ar gyfer apelio, rhaid rhoi hysbysiad o apêl i Lys y Goron o fewn 21 diwrnod ar ôl y dyddiad pan gafodd Gorchymyn Llys yr Ynadon ei wneud.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi, mewn perthynas â Chymru, ffurf yr hysbysiadau sydd i'w cyflwyno o dan adrannau 130A, 130B a 130C o Ddeddf Priffyrdd 1980 ("y Ddeddf"). Mewnosodwyd yr adrannau hyn yn y Ddeddf gan adran 63 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.

Mae'r darpariaethau newydd yn galluogi person, sy'n credu bod awdurdod priffyrdd lleol yn methu â chyflawni ei ddyletswydd i atal hawl dramwy rhag cael ei rhwystro, i ofyn i'r awdurdod sicrhau bod y rhwystr yn cael ei godi.

Mae'n ofynnol cyflwyno hysbysiadau ar y ffurf a ragnodir gan y Rheoliadau hyn (neu ar ffurf y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi) pan gaiff y darpariaethau newydd eu harfer.


Notes:

[1] 1980 p.66. Mewnosodwyd yr adrannau hyn yn y Ddeddf gan adran 63 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37).back

[2] Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672) ac adran 99(1) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090868 6


  © Crown copyright 2004

Prepared 18 February 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040317w.html