BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040553w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif553 (Cy.56)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 2 Mawrth 2004 
  Yn dod i rym 5 Mawrth 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], a chan ei fod wedi rhoi sylw, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac wedi ymgynghori fel y mae'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 o Senedd Ewrop a'r Cyngor[3] sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau mewn materion diogelwch bwyd ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2004, maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 5 Mawrth 2004.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn  - 

    (2) Nid yw bwyd a ddisgrifir yng ngholofn 2 unrhyw un o eitemau 1 i 7 yn Atodlen 1 yn gynnyrch jam penodedig na'n gynnyrch tebyg penodedig o fewn ystyr y Rheoliadau hyn os  - 

    (3) Mae i unrhyw ymadrodd arall sy'n cael ei ddefnyddio yn y Rheoliadau hyn ac y mae'r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn cael ei ddefnyddio yng Nghyfarwyddeb 2001/113 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn â'r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Gyfarwyddeb honno.

Cwmpas y Rheoliadau
     3.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gynhyrchion jam penodedig a chynhyrchion tebyg penodedig, a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl ac sy'n barod i'w cyflwyno i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.

    (2) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw gynnyrch jam penodedig neu gynnyrch tebyg penodedig a fwriedir ar gyfer gweithgynhyrchu mân gynnyrch popty, crystiau neu fisgedi.

    (3) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw gynnyrch sy'n dwyn y disgrifiad a nodir yn eitemau 8 i 11 o golofn 1 Atodlen 1 ac  - 

Disgrifiadau neilltuedig
    
4. Ni chaiff neb werthu unrhyw fwyd â label, p'un a yw wedi'i gysylltu â'r deunydd lapio neu'r cynhwysydd neu wedi'i argraffu arno neu beidio, a'r label hwnnw'n dwyn arno, yn ffurfio neu'n cynnwys unrhyw ddisgrifiad neilltuedig neu unrhyw ddisgrifiad sy'n deillio ohono neu unrhyw air neu ddisgrifiad sy'n sylweddol debyg iddo oni bai  - 

Labelu a disgrifio cynhyrchion jam penodedig
    
5.  - (1) Heb ragfarnu cyffredinolrwydd Rhan II o Reoliadau 1996, ni chaiff neb werthu unrhyw gynnyrch jam penodedig neu gynnyrch tebyg penodedig onid yw wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r manylion canlynol  - 

    (2) Heb ragfarnu cyffredinolrwydd Rhan II o Reoliadau 1996, ni chaiff neb werthu unrhyw gynnyrch a bennir yn eitemau 1-7 o Atodlen 1 onid yw wedi'i farcio neu wedi'i labelu â'r manylion canlynol  - 

    (3) Rhaid i'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu'r cynnyrch â hwy yn unol â pharagraff 2(b) ac (c) ymddangos ar labeli'r bwyd yn yr un cylch golwg ag enw'r cynnyrch ac mewn arwyddnodau y gellir eu gweld yn eglur.

Dull marcio neu labelu
    
6. Bydd Rheoliadau 35, 36(1) a (5) a 38 o Reoliadau 1996 (sy'n ymwneud â dull marcio neu labelu bwyd) yn gymwys i'r manylion y mae'n ofynnol marcio neu labelu cynnyrch jam penodedig neu gynnyrch tebyg penodedig â hwy o dan reoliad 5 o'r Rheoliadau hyn fel petaent yn fanylion y byddai'n ofynnol marcio neu labelu bwyd â hwy o dan Reoliadau 1996.

Cosbi a gorfodi
    
7.  - (1) Bydd unrhyw berson sy'n torri rheoliad 4 neu 5 o'r Rheoliadau hyn neu'n methu cydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd a bydd yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

    (2) Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.

Amddiffyniad mewn perthynas ag allforion
    
8. Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir brofi  - 

Cymhwyso amryw o ddarpariaethau'r Ddeddf
     9.  - (1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y bydd unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu unrhyw Ran ohoni yn cael eu dehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn  - 

Diwygio a dirymu
    
10.  - (1) Dirymir Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg 1981[11] a Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Diwygio)1990[12], i'r graddau y mae pob un yn gymwys i Gymru.

    (2) Hepgorir y cofnodion canlynol sy'n ymwneud â Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg 1981 (i'r graddau y mae'r Rheoliadau canlynol yn gymwys i Gymru)  - 

    (3) Yn Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995[19]) (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru), yn Atodlenni 2, 3 a 7 yn lle'r geiriau "Directive 79/693/EEC" ym mhob man y maent yn ymddangos rhoddir y geiriau "Directive 2001/113/EC" relating to fruit jams, jellies and marmalades and sweetened chestnut purée intended for human consumption".

Darpariaethau trosiannol
     11. Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir brofi  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
20]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

2 Mawrth 2004



ATODLEN 1
Rheoliad 2(1)


CYFANSODDIAD




Colofn 1 Colofn 2
Disgrifiadau Neilltuedig Cynnyrch jam penodedig neu gynnyrch tebyg penodedig
     1. Jam

Cymysgedd, y daethpwyd ag ef i ddwyster geliedig addas, o siwgrau, mwydion neu biwrî neu'r ddau o un math o ffrwyth neu fwy a dwcirc r, yn y fath fodd â bod maint y mwydion ffrwythau neu'r piwrî ffrwythau neu'r ddau ohonynt a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na  - 

      (i) 250 gram yn achos cyrains cochion, cyrains duon, egroes, criafol, aeron helyg y môr neu gwins,

      (ii) 150 gram yn achos sinsir,

      (iii) 160 gram yn achos afalau cashiw,

      (iv) 60 gram yn achos ffrwyth y dioddefaint,

      (v) 350 gram yn achos unrhyw ffrwythau eraill.

     2. Extra Jam

Cymysgedd, y daethpwyd ag ef i ddwyster geliedig addas, o

     -  siwgrau, mwydion annwysedig un math o ffrwyth neu fwy a dwcirc r, neu

 -  yn achos jam ecstra egroes neu jam ecstra di-had mafon, mwyar duon, cyrains duon, llus America, cyrains cochion, o siwgrau, piwr annwysedig y ffrwyth hwnnw, neu gymysgedd o fwydion a phiwrî annwysedig y ffrwyth hwnnw, a dwcirc r,

ond ni chaniateir defnyddio'r ffrwythau canlynol wedi'u cymysgu ag eraill wrth weithgynhyrchu jam ecstra: afalau, gellyg, eirin careglynol, melonau, melonau dwcirc r, grawnwin, pwmpenni, cucumerau a thomatos.

A maint y mwydion ffrwythau neu biwrî ffrwythau neu'r ddau a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na  - 

      (i) 350 gram yn achos cyrains cochion, cyrains duon, egroes, criafol, aeron helyg y môr neu gwins,

      (ii) 250 gram yn achos sinsir,

      (iii) 230 gram yn achos afalau cashiw,

      (iv) 80 gram yn achos ffrwyth y dioddefaint,

      (v) 450 gram yn achos unrhyw ffrwythau eraill.

     3. Jelly

Cymysgedd sydd wedi'i gelio'n briodol o siwgrau a sudd ffrwythau neu echdynnyn dyfrllyd ffrwythau neu'r ddau ohonynt yn y fath fodd â bod maint y sudd ffrwythau neu'r echdynnyn ffrwythau dyfrllyd neu'r ddau ohonynt sy'n cael ei ddefnyddio am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na  - 

      (i) 250 gram yn achos cyrains cochion, cyrains duon, egroes, criafol, aeron helyg y môr neu gwins,

      (ii) 150 gram yn achos sinsir,

      (iii) 160 gram yn achos afalau cashiw,

      (v) 60 gram yn achos ffrwyth y dioddefaint, 4(v)350 gram yn achos unrhyw ffrwythau eraill.

Cyfrifir y meintiau ym mharagraffau (i) i (v) uchod ar ôl didynnu pwysau'r dwcirc r a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r echdynion dyfrllyd.

     4. Extra Jelly

Cymysgedd sydd wedi'i gelio'n briodol o siwgrau a sudd ffrwythau neu echdynnyn dyfrllyd ffrwythau, neu'r ddau, ond ni chaniateir defnyddio'r ffrwythau canlynol wedi'u cymysgu ag eraill i weithgynhyrchu extra jelly: afalau, gellyg, eirin careglynol, melonau, melonau dwcirc r, grawnwin, pwmpenni, cucumerau a thomatos.

A maint y sudd ffrwythau a'r echdynnyn dyfrllyd ffrwythau, neu'r ddau, a defnyddiwyd am bob cilogram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na  - 

      (i) 350 gram yn achos cyrains cochion, cyrains duon, egroes, criafol, aeron helyg y môr neu gwins,

      (ii) 250 gram yn achos sinsir,

      (iii) 230 gram yn achos afalau cashiw,

      (iv) 80 gram ar gyfer ffrwyth y dioddefaint,

      (v) 450 gram yn achos unrhyw ffrwythau eraill.

Cyfrifir y meintiau ym mharagraffau (i) i (v) uchod ar ôl didynnu pwysau'r dwcirc r a ddefnyddiwyd wrth baratoi'r echdynion dyfrllyd.

     5. Jelly marmalade

Cyfansoddiad marmalêd, fel y'i disgrifir isod ond lle nad yw'r cynnyrch yn cynnwys unrhyw sylwedd annhoddadwy ac eithrio o bosibl meintiau bach o bilion sydd wedi'u sleisio'n fân.
     6. Marmalade

Cymysgedd, y daethpwyd ag ef i ddwyster geliedig addas, o ddwcirc r, siwgrau a mwydion ffrwythau, piwrî ffrwythau, sudd ffrwythau, pilion ffrwythau neu echdynnyn dyfrllyd ffrwythau neu unrhyw gyfuniad ohonynt, a phob un o'r rheini wedi'u sicrhau o ffrwythau sitrws, yn y fath fodd â bod maint y ffrwythau sitrws a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na 200 gram, y mae nid llai na 75 gram ohono wedi'i gael o'r endocarp.
     7. Sweetened chestnut purée

Cymysgedd, y daethpwyd ag ef i ddwyster addas, o ddwcirc r, siwgr a chastanau a wnaed yn biwrî, yn y fath fodd â bod maint y castanau a wnaed yn biwrî ac a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na 380 gram.
     8. X curd

Emwlsiad o fraster neu olew bwytadwy (neu'r ddau), siwgr, wcirc y cyfan neu felynwy (neu'r ddau), ac unrhyw gyfuniad o ffrwythau, mwydion ffrwythau, piwrî ffrwythau, sudd ffrwythau, echdynnyn dyfrllyd ffrwythau neu olewau naws ffrwythau, gyda chynhwysion bwytadwy eraill neu hebddynt, yn y fath fodd  - 

    (a) â bod maint y braster a'r olew a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na 40 gram;

    (b) â bod maint yr wyau cyfan a'r melynwyau a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na 6.5 gram o solidau melynwy; ac

    (c) â bod maint y ffrwythau, y mwydion ffrwythau, y piwrî ffrwythau, y sudd ffrwythau, yr echdynnyn dyfrllyd ffrwythau, ac olew naws y ffrwythau yn ddigon i nodweddu'r cynnyrch gorffenedig.

     9. Lemon cheese

Bwyd sy'n cydymffurfio â'r disgrifiad yn eitem 8 uchod sy'n briodol ar gyfer ceuled lemon.
     10. Y flavour curd

Emylsiad o fraster neu olew bwytadwy (neu'r ddau), siwgr, wcirc y cyfan neu felynwy (neu'r ddau), a deunydd cyflasu gyda chynhwysion eraill neu hebddynt, yn y fath fodd  - 

    (a) â bod maint y braster a'r olew a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na 40 gram;

    (b) â bod maint yr wyau cyfan a'r melynwyau a ddefnyddiwyd yn gyfryw ag y bydd pob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig yn cynnwys nid llai na 6.5 gram o solidau melynwy; ac

    (c) â bod maint y deunydd cyflasu a ddefnyddiwyd yn ddigon i nodweddu'r cynnyrch.

     11. Mincemeat

Cymysgedd o gyfryngau melysu, ffrwythau gwinwydd, pilion sitrws, siwet neu fraster cyfatebol a finegr neu asid asetig, gyda chynhwysion bwytadwy eraill neu hebddynt, yn y fath fodd  - 

    (a) â bod maint y ffrwythau gwinwydd a'r pilion sitrws a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na 300 gram, y mae nid llai na 200 gram ohono yn cynnwys ffrwythau gwinwydd; a

    (b) â bod maint y siwet neu'r braster cyfatebol a ddefnyddiwyd am bob 1000 gram o'r cynnyrch gorffenedig heb fod yn llai na 25 gram.

At ddibenion y cofnod hwn ystyr "cyfryngau melysu" yw  - 

    (a) unrhyw gynnyrch siwgr a ddiffinnir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 2001/111/EC[21] ynglycircn â siwgrau penodol a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl;

    (b) siwgr brown;

    (c) triogl cansen;

    (ch) mêl, fel y'i diffinnir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2001/110/EC[22] ynglycircn â mêl.


NODIADAU

     1. Yn achos cynnyrch a baratowyd o gymysgedd o fathau o ffrwythau, rhaid darllen colofn 2 o'r Atodlen hon fel petai'r meintiau isaf a bennir ar gyfer y gwahanol fathau o ffrwythau a grybwyllir neu y cyfeirir atynt ynddi wedi'u lleihau yn gymesur â meintiau cymharol y mathau o ffrwythau a ddefnyddiwyd.

     2. Rhaid bod y cynhyrchion a ddisgrifir yn yr Atodlen hon yn cynnwys 60% neu fwy o sylwedd sych toddadwy, fel y penderfynir arno drwy reffractomedr ar 20oC, ac eithrio  - 

     3. Rhaid darllen colofn 1 o'r Atodlen fel petai'r canlynol wedi'i roi yn lle "X" yn eitem 8  - 

     4. Rhaid darllen colofn 1 o'r Atodlen hon fel petai'r canlynol wedi'i roi yn lle "Y" yn eitem 10  - 



ATODLEN 2
Rheoliad 2(1) a (2)


CYNHWYSION YCHWANEGOL A GANIATEIR A THRINIAETHAU AWDURDODEDIG AR GYFER CYNHYRCHION A DDISGRIFIWYD YN EITEMAU 1 I 7 O ATODLEN 1


     1. Caniateir defnyddio'r cynhwysion ychwanegol canlynol, i'r graddau a nodir isod:

     2. Caniateir i ffrwythau, mwydion ffrwythau, piwrî ffrwythau ac echdynnyn dyfrllyd ffrwythau gael eu trin yn y ffyrdd canlynol:

     3. Caniateir i fricyll ac eirin sydd i'w defnyddio wrth weithgynhyrchu jam gael eu trin â phrosesau sychu eraill ar wahân i sych-rewi.

     4. Yn ychwanegol caniateir i bilion sitrws gael eu preserfio mewn heli.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/113/EC ynghylch jamiau ffrwythau, jelïau a marmaledau a phiwrî castan a felyswyd a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.67) ac maent yn cynnwys mesurau cenedlaethol hefyd. Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg 1981, fel y'u diwygiwyd, mewn perthynas â Chymru.

Mae'r Rheoliadau  - 

Mae arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a rhoddwyd copi ohono yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau o'r Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.


Notes:

[1] 1990 p.16.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back

[4] OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.67.back

[5] OJ Rhif L1, 3.1.94, t.1.back

[6] OJ Rhif L1, 3.1.94, p.571.back

[7] O.S. 1995/3123.back

[8] O.S. 1996/1499.back

[9] OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.53.back

[10] OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.67, fel y'i mabwysiadwyd drwy Benderfyniad Cyd-bwyllgor AEE Rhif 99/2002 (OJ Rhif L298, 31.10.2002, t.10).back

[11] O.S. 1981/1063.back

[12] O.S. 1990/2085.back

[13] O.S. 1982/1727.back

[14] O.S. 1985/67.back

[15] O.S. 1990/2486.back

[16] O.S. 1991/1476.back

[17] O.S. 1992/2596.back

[18] O.S. 1996/1499.back

[19] O.S. 1995/3187.back

[20] 1998 p.38.back

[21] OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.53.back

[22] OJ Rhif L10, 12.1.2002, t.47.back

[23] OJ Rhif L.010, 12/01/2002, t.47.back

[24] OJ Rhif L.040, 11/02/1989, t.27.back

[25] OJ Rhif L.61, 18.03.95, t.1.back



English version



ISBN 0 11090886 4


  © Crown copyright 2004

Prepared 18 March 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040553w.html