BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040785w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif785 (Cy.82)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 16 Mawrth 2004 
  Yn dod i rym 18 Mawrth 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1], paragraffau 1 a 4(2) o Atodlen 2 iddi, a pharagraffau 1, 3, 5, 11A a 12A o Atodlen 4 iddi, ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2], a thrwy ddibynnu ar y pwerau a roddwyd yn uniongyrchol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 113(4) o'r Ddeddf honno a chan baragraff 20(b) o Atodlen 4 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

    (3) Daw'r rheoliadau hyn i rym ar 18 Mawrth 2004.

Diwygio Rheoliadau
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992[3] yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.

Enwi, cychwyn, a dehongli
     3. Yn rheoliad 1(2), ar ôl y diffiniad o "demand notice regulations", mewnosoder y diffiniadau canlynol[4] - 

Darganfod a oes hawl i gael disgownt a swm y disgownt hwnnw
     4. Yn lle rheoliad 14 rhodder - 

Gorchmynion dyled
    
5.  - (1) Yn rheoliad 32(1), yn y diffiniad o "liability order" ar ôl "regulation 34" mewnosoder "or regulation 36A(5)".

    (2) Ar ôl rheoliad 36 mewnosoder y rheoliad canlynol[
5] - 

Gwneud gorchymyn atafaelu enillion
     6. Yn rheoliad 37 - 

Gorchmynion codi tâl
     7. Yn rheoliad 50 - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Mawrth 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Atodlenni 2 a 4 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("Deddf 1992") yn rhoi pwerau amrywiol i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud rheoliadau mewn perthynas â gweinyddu a gorfodi'r dreth gyngor. Y prif reoliadau a wnaed o dan y pwerau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (fel y'u diwygiwyd) ("y prif reoliadau").

I'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru, trosglwyddwyd y pwerau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.

Diwygiodd Rhan 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 ("Deddf 2003") y pwerau hyn, ynghyd â darpariaethau eraill Deddf 1992 sy'n ymwneud â gweinyddu a gorfodi'r dreth gyngor.

O ganlyniad i'r newidiadau a wnaed gan Ddeddf 2003, a chan ddibynnu ar y pwerau yn Atodlen 2 a 4 i Ddeddf 1992, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn i ddiwygio ymhellach y prif reoliadau.

Mae Rheoliad 3 o'r rheoliadau hyn yn mewnosod diffiniadau newydd o "discount" ac "exempt dwelling" yn rheoliad 1(2) o'r prif reoliadau. Bydd y newid hwn, ynghyd â'r newid a wneir gan reoliad 4, yn gwireddu'r bwriad y tu cefn i baragraff 21 o Atodlen 2 i Ddeddf 1992 er mwyn sicrhau bod anheddau sy'n perthyn i ddosbarth y mae awdurdod yng Nghymru wedi penderfynu ar ei gyfer o dan adran 13A o Ddeddf 1992 y caiff swm y dreth gyngor sy'n daladwy ei leihau i ddim neu i rywbeth heblaw dim (yn ôl y digwydd) yn cael eu trin, yn y drefn honno, fel anheddau esempt neu rai sy'n destun disgownt at ddibenion gweinyddu'r dreth gyngor. Mewnosodwyd adran 13A o Ddeddf 1992 a pharagraff 21 o Atodlen 2 iddi yn y Ddeddf gan adran 76 o Ddeddf 2003 a pharagraff 53(3) o Atodlen 7 iddi yn y drefn honno.

Mae Rheoliad 5(2) yn mewnosod rheoliad 36A newydd yn y prif reoliadau er mwyn caniatáu i lys ynadon, ar gais awdurdod bilio, ddileu gorchymyn dyled y dreth gyngor, lle mae'r llys wedi'i fodloni na ddylai'r gorchymyn fod wedi'i wneud. Mae Rheoliad 36A(3) yn caniatáu i awdurdod sy'n gwneud cais i ddileu gorchymyn dyled wneud cais hefyd i'r llys am orchymyn pellach yn erbyn yr un person lle mae swm llai na'r swm y gwnaed y gorchymyn gwreiddiol ar ei gyfer wedi dod yn ddyledus yn y cyfamser. Bydd Rheoliad 36A(5) yn caniatáu i'r llys ynadon roi swm llai yn lle'r swm yn y gorchymyn dyled gwreiddiol lle mae o'r farn y gallai gorchymyn dyled am swm llai o'r fath fod wedi'i wneud yn briodol. Mae Rheoliad 36A(4) yn golygu y bydd gofynion paragraffau (2) i (5) o reoliad 34 hefyd yn gymwys i gais am orchymyn dyled sydd wedi'i amnewid. Mae'r darpariaethau hyn yn ei gwneud yn ofynnol cyflwyno gwycircs i'r dyledwr cyn y gellir gwneud gorchymyn o'r fath. Os bydd y swm sydd heb ei dalu a chostau rhesymol yr awdurdod o'r cais yn cael eu cyflwyno cyn i'r cais gael ei wrando, maent hefyd yn darparu na fydd y cais yn mynd yn ei flaen.

Mae Rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 37 o'r prif Reoliadau er mwyn caniatáu i'r swm y gwneir gorchymyn atafaelu enillion mewn perhynas ag ef gynnwys, yn ddarostyngedig i rai terfynau, unrhyw gostau a dynnir gan yr awdurdod mewn ymgais aflwyddiannus i atafaelu nwyddau er mwyn sicrhau bod swm heb ei dalu y gwnaed gorchymyn dyled mewn perthynas ag ef yn cael ei dalu. Diwygir Rheoliad 37 ymhellach er mwyn caniatáu i'r swm hwnnw gynnwys hefyd, yn ddarostyngedig i rai terfynau, unrhyw gostau a dynnir gan awdurdod mewn cais ofer am warant i draddodi'r dyledwr i garchar. Ni chaiff awdurdod wneud cais i'r llys ynadon am warant i draddodi'r dyledwr i garchar o dan reoliad 47 ond ar ôl cais aflwyddiannus i atafaelu nwyddau (lle nad oedd y person a oedd yn gwneud yr atafaelu yn gallu dod o hyd i unrhyw rai o nwyddau'r dyledwr neu nwyddau digonol i godi'r swm arnynt). Gan fod rhaid i'r llys ynadon ofyn beth yw moddion y dyledwr wrth ystyried a yw am roi traddodeb, efallai na ddaw moddion y dyledwr yn hysbys i'r awdurdod mor hwyr a hyn, ac yn lle mynd ar drywydd y cais am draddodeb ymhellach gallai'r awdurdod benderfynu gwneud gorchymyn atafaelu enillion yn lle hynny.

Mae Rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 50 o'r prif reoliadau. Mae Rheoliad 50 yn caniatáu i orchymyn codi tâl gael ei wneud ynghylch y fangre y mae'r dreth gyngor yn dal heb ei thalu mewn perthynas â hi. Dim ond lle mae mwy na £1000 yn dal heb ei dalu y gellir gwneud gorchymyn codi tâl. Gynt roedd angen dangos bod mwy na £1000 heb ei dalu o dan un gorchymyn dyled. Mae Rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 50 er mwyn i awdurdodau gyfuno symiau sydd heb eu talu o dan orchmynion dyled ar wahân (pob un ohonynt yn llai na £1000) er mwyn eu galluogi i wneud cais am orchymyn codi tâl, ar yr amod bod y cyfanswm agregedig sydd heb ei dalu yn uwch na £1000.


Notes:

[1] 1992 p.14.back

[2] Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, paragraff 1 a 4(2) o Atodlen 2 iddi, a pharagraffau 1, 3, 5, 11A a 12A o Atodlen 4 iddi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag erthygl 2(2) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Mewnosodwyd adran 113(4) yn Neddf 1992 gan adran 127(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (2003 p.26), a pharagraffau 40, 52(1) a (5) o Atodlen 7 iddi. Mewnosodwyd paragraff 20(b) o Atodlen 4 yn Neddf 1992 gan adran 127(1) o Ddeddf 2003 a chan baragraffau 40 a 54 o Atodlen 7 iddi.back

[3] O.S. 1992/613.back

[4] Diwygiwyd Rheoliad 1(2) gan Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) 1992 (O.S. 1992/3008).back

[5] Diwygiwyd Rheoliad 36 gan Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Rhif 2) 1993 (O.S. 1993/733).back

[6] Diwygiwyd Rheoliad 37(1) gan Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) 1998 (O.S. 1998/295).back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090915 1


  © Crown copyright 2004

Prepared 7 April 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040785w.html