BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040872w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif872 (Cy.87)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 23 Mawrth 2004 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2004 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 19 a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003
    
2. Mae Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003[3] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

     3. Yn rheoliad 2(1)  - 

     4.  - (1) Caiff Rheoliad 6 ei ddiwygio fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff (2)(a) yn lle'r geiriau "adran 15(6)(a) i (c)" rhodder y geiriau "adran 15(6) (a) a (b)".

    (3) Ym mharagraff (3)(a) yn lle'r geiriau "adran 354(3) o Ddeddf 1996" rhodder y geiriau "adran 105(2) a (3) ac adran 106(2) a (3) o Ddeddf 2002".

    (4) Ym mharagraff (3)(b) yn lle'r geiriau "adran 353" i'r diwedd rhodder y geiriau "adran 105(1) o Ddeddf 2002 (Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru) heblaw mewn perthynas â threfniadau asesu; ac".

    
5.  - (1) Caiff rheoliad 8 ei ddiwygio fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff (1) mewnosoder ar ôl y geiriau "o hyd" y geiriau ", neu, yn ddarostyngedig i baragraff (1A), dau hanner tymor ysgol,".

    (3) Mewnosoder y canlynol ar ôl paragraff (1)  - 

    (4) Ym mharagraff (2) mewnosoder ar ôl y geiriau "o hyd" y geiriau ", neu, yn ddarostyngedig i baragraff (2A), dau hanner tymor,".

    (5) Mewnosoder y canlynol ar ôl paragraff (2)  - 

    (6) Ar ddiwedd paragraff (3) ychwaneger y canlynol  - 

     6. Caiff rheoliad 9 ei ddiwygio trwy roi yn lle paragraff (2) y canlynol  - 

     7.  - (1) Caiff Rheoliad 18 ei ddiwygio fel a ganlyn.

    (2) Caiff y geiriad presennol ei ailrifo'n baragraff (1).

    (3) Mewnosoder y canlynol ar ôl paragraff (1) a ailrifwyd  - 

     8.  - (1) Diwygir Atodlen 1 fel a ganlyn.

    (2) Yn lle paragraff 4 rhodder y canlynol  - 

    (3) Ar ôl paragraff 4, mewnosoder y paragraffau canlynol  - 

    (4) Rhodder y paragraff canlynol yn lle paragraff 5  - 

    (5) Ar ddiwedd paragraff 9 ychwaneger y geiriau ", ac fel y'i diwygiwyd gan y Cytundeb ar Ryddid i Bobl Symud a wnaed rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau, ar y naill law, a Chyd-ffederasiwn y Swistir, ar y llaw arall, a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999[7] ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002.".

    (6) Ar ôl paragraff 19 ychwaneger y paragraff canlynol  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9].


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Mawrth 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003 (Rheoliadau 2003).

Mae rheoliadau 3 a 4 yn diweddaru'r diffiniadau yn rheoliad 2 o Reoliadau 2003 ac yn diwygio rheoliad 6 o Reoliadau 2003 er mwyn cyfeirio at ddarpariaethau perthnasol Deddf Addysg 2002 (Deddf 2002).

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 2003 er mwyn darparu y gall cyfnodau o gyflogaeth sy'n cyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu gynnwys dau hanner tymor sy'n dilyn ei gilydd yn ogystal â thymhorau llawn. Mae hefyd yn galluogi penaethiaid, naill ai cyn i'r cyfnod gychwyn neu o fewn pythefnos ar ôl iddo gychwyn, i gytuno y caiff cyfnodau o gyflogaeth fel athrawon cyflenwi gyfrif tuag at gyfnod ymsefydlu.

Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 9 o Reoliadau 2003 er mwyn galluogi personau sy'n absennol o achos absenoldeb mabwysiadu cyffredin, absenoldeb rhieiniol neu absenoldeb tadolaeth (yn ogystal ag absenoldeb mamolaeth) i ddewis estyn cyfnod ymsefydlu.

Mae rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 18 o Reoliadau 2003 er mwyn darparu bod y corff priodol yn gallu awdurdodi personau sydd eisoes wedi gweithio yn ystod cyfnod o flwyddyn a thymor fel athrawon cyflenwi i gael eu cyflogi felly am ddeuddeg mis arall. Anwybyddir absenoldebau o achos absenoldeb mamolaeth, absenoldeb mabwysiadu cyffredin, absenoldeb rhieiniol neu absenoldeb tadolaeth wrth gyfrifo'r deuddeg mis hynny.

Mae rheoliad 8 yn diwygio Atodlen 1 i Reoliadau 2003 er mwyn  - 


Notes:

[1] 1998 p.30; i gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 43(1).back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 2003/543 (Cy.77).back

[4] O.S. 2002/2788, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/921.back

[5] O.S. 1999/3312, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/4010.back

[6] 2002 p.32.back

[7] Cm 4904.back

[8] O.S. 1999/2817 (Cy.18) a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/1663 (Cy.158), 2002/2938 (Cy.279), 2003/140 (Cy.12) a 2003/2458 (Cy.240).back

[9] 1998 p.38.back



English version




ISBN 0 11 090908 9


  © Crown copyright 2004

Prepared 30 March 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040872w.html