BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040908w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif908 (Cy.91)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2004

  Wedi'u gwneud 24 Mawrth 2004 
  Yn dod i rym 31 Mawrth 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau yn adrannau 28(1), (3), a (7), a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1], a pharagraffau 7, 8(2) a 10 o Atodlen 6 iddi a pharagraffau 5 a 12 o Atodlen 7 iddi, yn gwneud y Rheoliadau canlynol  - 

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) (Diwygio) 2004, maent yn gymwys i Gymru a dônt i rym ar 31 Mawrth 2004.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y Prif Reoliadau" yw Rheoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999[2].

Diwygio'r Prif Reoliadau
     3. Caiff y Prif Reoliadau eu diwygio yn unol â darpariaethau rheoliadau 4 i 10.

    
4. Yn rheoliad 2(1) mewnosoder y geiriau "or a maintained nursery school" ar ôl "school" yn y diffiniad o "mainstream school".

    
5. Mewnosoder y rheoliad canlynol ar ôl rheoliad 3  - 

     6. Ym mharagraff 1 o Atodlen 1 mewnosoder y geiriau ",other than a nursery school," ar ôl "primary school".

    
7. Ar ôl paragraff 6(7) o Atodlen 2 mewnosoder yr is-baragraff canlynol  - 

     8. Ar ôl Atodlen 2 mewnosoder y darpariaethau a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

    
9.  - (1) Diwygir Atodlen 3 yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn  - 

    (2) Yn lle paragraff 5 rhodder y paragraff canlynol  - 

     10.  - (1) Diwygir Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn.

    (2) Ym mharagraff 1(2)(a) mewnosoder y geiriau "(including a nursery school)" ar ôl "primary school".

    (3) Ym mharagraff 4 rhodder y geiriau "voluntary, foundation and maintained nursery schools" yn lle "voluntary and foundation schools".

    (4) Ym mharagraff 6  - 

    (5) Caiff paragraff 7(e) ei ddirymu.

    (6) Ym mharagraff 13 mewnosoder ar ddechrau'r paragraff  - 

    (7) Ar ôl paragraff 18 mewnosoder y paragraff canlynol  - 

    (8) Ar ôl paragraff 29(e)(ix) mewnosoder y paragraffau canlynol  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru


John Marek
Dirprwy Lywydd

24 Mawrth 2004



YR ATODLEN
Rheoliad 8







EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cynigion Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999 (OS 1999/1671) ("y Prif Reoliadau"). Mae'r Rheoliadau  - 

Mae'r Rheoliadau'n rhagnodi newidiadau i ysgolion meithrin a gynhelir ac y mae'n rhaid i awdurdodau addysg lleol gyhoeddi cynigion ar eu cyfer (rheoliadau 5 ac 8).

Mae rheoliad 4 yn ailddiffinio'r term "mainstream school" i gynnwys ysgolion meithrin a gynhelir. Effaith hyn yw

lle y mae a wnelo cynigion ag ysgolion meithrin a gynhelir (rheoliad 4).

Mae rheoliad 9 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Atodlen 3 o'r Prif Reoliadau (gwybodaeth i'w chynnwys mewn cynigion cyhoeddedig).

Mae Atodlen 4 o'r Prif Reoliadau (gwybodaeth i'w darparu ar gyfer y Cynulliad) yn gymwys i gynigion ynghylch ysgolion meithrin a gynhelir yn rhinwedd y diwygiadau i adran 28 o Ddeddf 1998 a wnaed gan adran 154 o Ddeddf 2002 a rheoliad 6 o'r prif Reoliadau. Mae rheoliad 10 yn diwygio Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau er mwyn gwneud darpariaeth benodol bellach mewn perthynas ag ysgolion meithrin a gynhelir ac addysg feithrin sydd i'w darparu mewn ysgolion cynradd nad ydynt yn ysgolion meithrin.


Notes:

[1] 1998 p.31. Diwygiwyd adran 28 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 gan adran 154 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol yn narpariaethau Deddf 1998, sy'n ddarpariaethau a enwir, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[2] O.S. 1999/1671.back



English version




ISBN 0 11 090910 0


  © Crown copyright 2004

Prepared 31 March 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20040908w.html