BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) (Diwygio) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041012w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif1012 (Cy.109)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) (Diwygio) 2004

  Wedi'u gwneud 31 Mawrth 2004 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2004 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1)(f), 17(1), 26(3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac a freinir ynddo bellach[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi parchu, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor [3] sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar gyfer materion sy'n ymwneud â diogelwch bwyd, ac yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddedddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) (Diwygio) 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 1 Ebrill 2004.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y prif Reoliadau" "the principal Regulations" yw Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002[
4].

Diwygio'r prif Reoliadau
     2. Caiff y prif Reoliadau eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 7.

    
3. Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o "Cyfarwyddeb 2001/15" mewnosoder ar y diwedd y geiriau ", fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/5/EC[5] ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb y Comisiwn 2004/6/EC[6] yn rhanddirymu Cyfarwyddeb 2001/15/EC er mwyn gohirio cymhwyso'r gwaharddiad ar fasnachu i gynhyrchion penodol".

     4. Yn rheoliad 3 (cyfyngiadau ar werthu)  - 

     5. Yn Atodlen 1 (sylweddau y gellir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd DMN dynodedig)  - 

     6. Yn lle Atodlen 2 (sylweddau ychwanegol y gellir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol mewn bwydydd at ddibenion meddygol arbennig) rhodder cynnwys Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

    
7. Ar ôl Atodlen 2 mewnosoder fel Atodlen 3 gynnwys Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7]


31 Mawrth 2004


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol


ATODLEN 1
Rheoliad 6


ATODLEN 2 DDIWYGIEDIG I'W RHOI YN Y PRIF REOLIADAU




ATODLEN 2
Rheoliad 7


ATODLEN 3 NEWYDD I'W MEWNOSOD YN Y PRIF REOLIADAU




EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


     1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002 ("y prif Reoliadau").

     2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu  - 

     3. Mae'r prif Reoliadau'n gymwys i fwyd ar gyfer y rhan fwyaf o ddefnydd maethol neilltuol (diffiniad o "fwydydd DMN dynodedig" yn rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau hynny). Pan fo sylwedd sy'n dod o fewn un o'r categorïau canlynol wedi cael ei ychwanegu at y bwyd hwnnw at ddiben maethol penodol: fitaminau; mwynau; asidau amino; carnitin a thawrin; niwcleotidau; colin ac inositol, mae'r Rheoliadau hynny (yn y mwyafrif o achosion o 1 Ebrill 2004) yn gwahardd gwerthu bwyd o'r fath onid yw'r sylwedd wedi'i restru o dan y categori perthnasol yn Atodlen 1 neu, yn achos bwydydd at ddibenion meddygol arbennig, yn Atodlen 1 neu 2.

     4. Mae'r Rheoliadau hyn  - 

     5. Mae arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi yn nodi sut y trosir prif elfennau Cyfarwyddebau 2004/5/EC a 2004/6/EC yn y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.


Notes:

[1] 1990 p. 16.back

[2] Trosglwyddwyd Swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir ynghyd ag adran 40(3) o Ddeddf 1999.back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back

[4] O.S. 2002/2939 (Cy 280).back

[5] OJ Rhif L14, 21.1.2004, t.19.back

[6] OJ Rhif L15, 22.1.2004, t.31.back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090928 3


  © Crown copyright 2004

Prepared 14 April 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041012w.html