BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041014w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif1014 (Cy.111)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 31 Mawrth 2004 
  Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3).

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 38, a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2004.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2004.

    (3) Daw rheoliadau 2, 3, 7 a 8 i rym ar 6 Ebrill 2004.

    (4) Yn y Rheoliadau onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall  - 

    (5) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio rheoliad 1 o Reoliadau 1997
     2.  - (1) Diwygir rheoliad 1 o Reoliadau 1997 (enwi, cychwyn a dehongli), yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Mewnosoder y diffiniadau canlynol yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor - 

    (3) Ar ôl paragraff (2), mewnosoder y paragraff canlynol - 

Diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 1997
     3. Yn rheoliad 8 o Reoliadau 1997 (cymhwyster  -  cyflenwi teclynnau optegol) - 

Diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997
    
4. Yn rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio) - 

Diwygio'r Atodlenni i Reoliadau 1997
    
5.  - (1) Yn Atodlen 1 i Reoliadau 1997 (codau llythrennau taleb a gwerthoedd ar yr wyneb  -  cyflenwi ac ailosod) yng ngholofn (3) (gwerth taleb ar yr wyneb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl isod rhodder y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw.


TABL

(1) (2)
Swm blaenorol Swm newydd
£ 31.30 £ 32.10
£ 47.60 £ 48.80
£ 64.80 £ 71.30
£ 146.30 £ 161.00
£ 54.00 £ 55.40
£ 68.70 £ 70.40
£ 83.00 £ 91.30
£ 160.90 £ 177.00
£ 160.90 £ 164.90
£ 45.70 £ 46.80

    (2) Yn Atodlen 2 i Reoliadau 1997 (prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd, sbectol fach a sbectol arbennig, a theclynnau cymhleth) - 

    (3) Yn lle Atodlen 3 i Reoliadau 1997 (gwerthoedd talebau  -  trwsio), rhodder yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Defnyddio'r Rheoliadau hyn
    
6. Nid yw'r diwygiadau a wneir gan reoliadau 4 a 5 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys ond mewn perthynas â thaleb a dderbyniwyd neu a ddefnyddiwyd yn unol â rheoliadau 12 neu 17 o Reoliadau 1997 ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004.

Diwygio rheoliad 2 o Reoliadau 1986
    
7.  - (1) Diwygir Rheoliad 2 o Reoliadau 1986 (dehongli), yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Ym mharagraff (1) - 

    (3) Ar ôl paragraff (1), mewnosoder y paragraff canlynol - 

Diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986
     8.  - (1) Diwygir Rheoliad 13 o Reoliadau 1986 (profion llygaid  -  cymhwyster) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Ym mharagraff (2)  - 

    (3) Ym mharagraff (3), yn is-baragraff (a), yn lle "sub-paragraphs (b) and (f)" rhodder "sub-paragraphs (b), (f) and (n)".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
10]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

31 Mawrth 2004



ATODLEN
Rheoliad 5(3)


ATODLEN 3 I REOLIADAU 1997 FEL Y'I HAMNEWIDIR GAN Y RHEOLIADAU HYN






SCHEDULE 3
REGULATIONS 19(2) AND (3)


VOUCHER VALUES  -  REPAIR


(1) (2)
Nature of Repair Letter Codes-Values
     A B C D E F G H I
     £ £ £ £ £ £ £ £ £
Repair or replacement of one lens 10.00 18.35 29.60 74.45 21.65 29.15 39.60 82.45 76.40
Repair or replacement of two lenses 20.00 36.70 59.20 148.90 43.30 58.30 79.20 164.90 152.80
Repair or replacement of:                                             
The front of a frame 10.25 10.25 10.25 10.25 10.25 10.25 10.25 10.25 10.25
A side of a frame 6.10 6.10 6.10 6.10 6.10 6.10 6.10 6.10 6.10
The whole frame 12.10 12.10 12.10 12.10 12.10 12.10 12.10 12.10 12.10



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 ("Rheoliadau 1997") a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 ("Rheoliadau 1986").

Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer cynllun taliadau sydd i'w gwneud gan Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau'r GIG trwy gyfrwng system dalebau mewn perthynas â chostau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion llygaid, ac â chyflenwi, ailosod a thrwsio teclynnau optegol.

Mae Rheoliadau 1986 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trefnu gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae'r newidiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn cyflwyno yn y categorïau o bersonau y mae ganddynt yr hawl i dderbyn cymorth tuag at gost cyflenwi teclynnau optegol (o dan Reoliadau 1997) ac i gael prawf llygaid o dan wasanaethau offthalmig cyffredinol (o dan Reoliadau 1986) aelodau o deulu y mae ei incwm yn disgyn o dan y terfyn penodedig ac sy'n derbyn credyd treth gwaith gydag elfen anabledd difrifol.

Maent hefyd yn gwneud diwygiadau yn sgil cyflwyno credyd gwarant credyd pensiwn yn Neddf Pensiwn y Wladwriaeth 2002. Pwrpas y diwygiadau yw sicrhau y bydd gan y rheini sy'n derbyn credyd gwarant credyd pensiwn ac aelodau o'u teuluoedd yr hawl i gael talebau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i'w rhoi tuag at gost teclynnau optegol a gwasanaethau offthalmig cyffredinol.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer ailosod neu drwsio) er mwyn cynyddu gwerth taleb optegol a ddyroddir tuag at gost ailosod un lens gyffwrdd, a chynyddu mwyafswm y cyfraniad drwy daleb at gost trwsio ffrâm sbectol.

Mae rheoliad 5(1) yn diwygio Atodlen 1 o Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth talebau a ddyroddir tuag at gostau cyflenwi ac ailosod sbectol a lensys cyffwrdd.

Mae rheoliad 5(2) yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerthoedd ychwanegol y talebau ar gyfer prismau, arlliwiau, lensys ffotocromaidd a chategorïau arbennig o declynnau.

Mae rheoliad 5(3) a'r Atodlen yn rhoi Atodlen 3 newydd yn Rheoliadau 1997 i gynyddu gwerth y talebau a ddyroddir at drwsio ac ailosod teclynnau optegol.

Tua 2.5% yw graddfa'r cynnydd, ond ceir cynnydd o ryw 10% yng ngwerth talebau ar gyfer pobl benodol sydd â lensys presgripsiwn cryf.

Mae rheoliad 6 yn darparu na fydd y cynnydd yng ngwerth y talebau a wneir gan reoliadau 4 a 5 yn gymwys ond i dalebau a dderbynnir neu a ddefnyddir ar ôl 1 Ebrill 2004.


Notes:

[1] 1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i) ar gyfer y diffiniadau o "prescribed" a "regulations". Diwygiwyd Adran 38 gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) ("Deddf 1980"), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 51; gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) ("Deddf 1984"), adran 1(3); gan O.S.1985/39, erthygl 7(11); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) ("Deddf 1988"), adran 13(1); a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), Atodlen 1, paragraff 27. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6). Yn lle paragraff 2(1) o Atodlen 12 rhoddwyd paragraff 8(1) o Atodlen 2 o Ddeddf 1988; mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 12 gan Ddeddf 1984, Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 3 ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf 1988, adran 13(2) a (3). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 38, 39, 78, 126(4) a 127 o Ddeddf 1977, a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(4), Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15), adran 68(1), Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), adran 40(1) a Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43), adran 197(1).back

[2] O.S.1997/818; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1997/2488, 1998/499, 1999/609, 2000/978 (Cy.48), 2000/3119 (Cy.198), 2001/1362 (Cy.90) a 1423 (Cy.98), 2002/186 (Cy.25) a 1506 (Cy.151), 2003/301 (Cy.43) a 955 (Cy.129).back

[3] O.S.1986/975; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1988/486, 1989/395 a 1175, 1990/1051, 1991/583, 1992/404, 1995/558, 1996/705 a 2320, 1999/693, 1999/2481 (Cy.21), 2001/1362 (Cy.90), 2003/955 (Cy.129).back

[4] Mewnosodwyd Adran 16BA yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49) gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), adran 6.back

[5] 2002 p.16.back

[6] 2002 p.21.back

[7] Mewnosodwyd Adran 16BA yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49) gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), adran 6.back

[8] 2002 p.16.back

[9] 2002 p.17.back

[10] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090937 2


  © Crown copyright 2004

Prepared 22 April 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041014w.html