BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 13) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041015w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif1015 (Cy.112) (C.45)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 13) (Cymru) 2004

  Wedi'i wneud 31 Mawrth 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 118(5) a (6) a 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1].

Enwi, dehongli a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 13) (Cymru) 2004.

    (2) Yn y Gorchymyn hwn, mae cyfeiriad at adran yn gyfeiriad at adran yn Neddf Safonau Gofal 2000.

    (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Y Diwrnod Penodedig
    
2. 1 Ebrill 2004 yw'r diwrnod penodedig i adrannau 8, 9(2) a (3), 10(2) i (7), 11 i 15, 17 i 21, 24, 26 i 32, 36 a 37 ddod i rym i'r graddau y mae'u darpariaethau yn ymwneud ag asiantaethau gofal cartref ac nad ydynt eisoes mewn grym.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

31 Mawrth 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r gorchymyn hwn yn penodi 1 Ebrill 2004 fel y diwrnod y daw darpariaethau penodol o Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ("y Ddeddf") i rym at ddibenion rheoliadau a wnaed mewn perthynas ag asiantaethau gofal cartref. Effaith hyn fydd dwyn yr asiantaethau hyn o fewn fframwaith reoliadol Deddf Safonau Gofal 2000.



NOTE AS TO EARLIER COMMENCEMENT ORDERS

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae darpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 y gwnaed cofnod mewn perthynas â hwy yn y Tabl isod wedi cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru ar y dyddiad a bennir gyferbyn â'r cofnod amdanynt. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir cofnod amdanynt yn y Tabl gan y llythyren a nodir isod eu dwyn i rym gan yr offeryn statudol a ddangosir gyferbyn â'r llythyren honno:

Mae darpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 y gwnaed cofnod mewn perthynas â hwy yn y Tabl isod wedi cael eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru, yn ogystal â Lloegr, ar y dyddiad a bennir gyferbyn â'r cofnod amdanynt. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir cofnod amdanynt yn y Tabl gan y llythyren" "(a)" eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2544 (C.72); a'r rhai y dilynir cofnod amdanynt gan "(b)" eu dwyn i rym gan yr O.S. 2002/629 (C.19).


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041015w.html