BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2004 Rhif1314 (Cy.139)
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygio) 2004
|
Wedi'u gwneud |
11 Mai 2004 | |
|
Yn dod i rym |
31 Mai 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 22(1) a (2)(d) ac adran 118(7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) (Diwygio) 2004 a deuant i rym ar 31 Mai 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002
2.
Yn Rheoliad 2(1) o Reoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002[2] (dehongli), yn y diffiniad o "proffesiynolyn gofal iechyd", yn lle ", yn seicotherapydd plant neu'n therapydd lleferydd" rhowch "neu'n seicotherapydd plant ".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Mai 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau diwygio hyn yn dileu'r cyfeiriad at therapyddion lleferydd o'r diffiniad o "proffesiynolyn gofal iechyd" yn Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002. Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith bod therapyddion lleferydd bellach yn rhan o broffesiwn therapyddion lleferydd ac iaith, y mae adran 60(2) o Ddeddf Iechyd 1999 yn ymdrin ag ef fel proffesiwn sy'n cael ei reoleiddio drwy Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001 (O.S. 2002 Rhif 254).
Notes:
[1]
2000 p.14. Mae'r pwerau yn arferadwy gan y Gweinidog priodol (gweler y diffiniad o "rheoliadau" yn adran 121(1) o Ddeddf 2000). Mae "Gweinidog priodol" wedi'i ddiffinio yn adran 121(1) fel y Cynulliad o ran Cymru, ac fel yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae "Cynulliad" wedi'i ddiffinio yn adran 5(b) fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru.back
[2]
O.S. 2002/324 (Cy.37), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2622 (Cy.254), O.S. 2002/2935 (Cy.277), O.S. 2003/947 (Cy.128) ac O.S. 2003/1004 (Cy.144).back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11090942 9
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
18 May 2004
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041314w.html