BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041396w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 19 Mai 2004 | ||
Yn dod i rym | 31 Mai 2004 |
Dehongli
2.
Yn y Rheoliadau hyn -
Cwmpas
3.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i fwyd sy'n barod i'w gyflwyno i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo.
(2) Ni fydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fwyd -
(3) Ni fydd Rheoliad 4 (cyfyngiadau ar ddefnyddio enwau penodol) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fwyd -
lle cafodd ei werthu'n gyfreithlon, ar ôl cael ei gynhyrchu'n gyfreithlon mewn Gwladwriaeth AEE; neu
(b) y daethpwyd ag ef i mewn i Gymru -
lle cafodd ei werthu'n gyfreithlon, ar ôl cael ei gynhyrchu'n gyfreithlon mewn Aelod-wladwriaeth, neu lle'r oedd mewn cylchrediad rhydd ac yn cael ei werthu'n gyfreithlon.
(4) At ddibenion paragraff (3) -
Cyfyngiadau ar ddefnyddio enwau penodol
4.
- (1) At ddibenion Rheoliadau Labelu Bwyd 1996, ni chaiff enw sy'n ymddangos yng ngholofn 1 o Atodlen 2 ei ddefnyddio wrth labelu neu hysbysebu cynnyrch cig fel enw'r bwyd, boed wedi ei oleddfu gan eiriau eraill neu beidio -
(2) Ni chaiff enw sy'n ymddangos yng ngholofn 1 o Atodlen 2 ei ddefnyddio wrth labelu neu hysbysebu bwyd, boed wedi ei oleddfu gan eiriau eraill neu beidio, yn y fath fodd ag i awgrymu, naill ai'n bendant neu ymhlyg, bod y cynnyrch a ddynodir gan yr enw hwnnw yn gynhwysyn yn y bwyd oni bai -
(b)
(3) Ni chaiff neb werthu bwyd os defnyddir enw ar ei label yn groes i baragraffau (1) neu (2).
(4) Ni chaiff neb ddefnyddio enw yn groes i baragraffau (1) neu (2) wrth hysbysebu bwyd ar werth.
Enw'r bwyd ar gyfer cynhyrchion cig penodol
5.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), os bydd unrhyw berson yn gwerthu unrhyw gynnyrch cig sy'n ymddangos yn ddarn, rhan, tafell, cyfran neu garcas o gig neu o gig wedi'i halltu (ac ym mhob achos, boed wedi'i goginio neu heb ei goginio), bydd y rheoliad hwn yn gymwys.
(2) At ddibenion Rheoliadau Labelu Bwyd 1996, rhaid i'r enw a ddefnyddir fel enw'r bwyd wrth labelu unrhyw gynnyrch cig y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo gynnwys rhywbeth i ddynodi -
(3) At ddibenion paragraff (1), ni chymerir i ystyriaeth bresenoldeb unrhyw sesno, garnisio neu sylweddau gelatin sydd yn neu ar y cynnyrch cig, neu unrhyw ddeunyddiau pecynnu am gynnyrch cig.
(4) Ni fydd y rheoliad hwn yn gymwys lle defnyddir enw fel enw'r bwyd sy'n enw sy'n ymddangos yng ngholofn 1 o Atodlen 2 boed wedi ei oleddfu gan eiriau eraill neu beidio neu i fwyd yr ymddengys ei fod yn friwgig heb ei goginio a gafodd ei siapio.
Rhannau o'r carcas mewn cynhyrchion cig heb eu coginio
6.
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni chaiff neb werthu cynnyrch cig heb ei goginio y defnyddiwyd unrhyw ran a bennir ym mharagraff (2) o'r carcas o unrhyw rywogaeth famalaidd fel cynhwysyn wrth ei baratoi.
(2) Dyma'r rhannau a bennir o'r carcas: ymennydd, traed, coluddyn mawr, coluddyn bach, ysgyfaint, oesoffagws, rectwm, madruddyn cefn, dueg, stumog, ceilliau a chadair neu bwrs.
(3) Ni fydd y gwaharddiad sydd ym mharagraff (1) yn cynnwys defnyddio'r coluddyn mamalaidd mawr neu fach ond fel croen selsig yn unig.
(4) Yn y rheoliad hwn mae'r gair "selsig" yn cynnwys chipolata, frankfurter, dolen, salami ac unrhyw gynnyrch tebyg.
Cosbau a gorfodi
7.
- (1) Bydd unrhyw berson sy'n torri rheoliad 4 neu 5(2) neu 6(1) o'r Rheoliadau hyn neu'n methu cydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd a bydd yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) rhaid i bob awdurdod bwyd or fodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
(3) Rhaid i bob awdurdod iechyd porthladd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn yn ei ardal mewn perthynas â bwyd a fewnforir i Gymru o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig.
Cymhwyso amryw ddarpariaethau yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990
8.
Bydd darpariaethau canlynol Deddf Diogelwch Bwyd 1990 yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn -
Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996
9.
Diwygir Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru) fel a ganlyn -
(c) Ar ôl Atodlen 4 mewnosoder yr Atodlen a nodir yn Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn.
Darpariaeth drosiannol ac amddiffyniad mewn perthynas ag allforion
10.
Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir brofi -
(b) bod y bwyd yr honnir bod y tramgwydd wedi digwydd mewn perthynas ag ef -
Dirymu
11.
I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, dirymir Rheoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod Taenadwy 1984.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Mai 2004
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 | ||
Enw'r Bwyd | Gofynion Cynnwys Cig neu Gig wedi'i Halltu | Gofynion Ychwanegol | ||
Rhaid i'r bwyd gynnwys dim llai na'r ganran o gig a ddynodir, pan fydd y cynhwysyn sy'n gig yn cynnwys y canlynol: | ||||
Cig neu, yn ôl y digwydd, cig wedi'i halltu o foch yn unig | Cig neu, yn ôl y digwydd, cig wedi'i halltu o adar yn unig, cwningod yn unig, neu gyfuniad o adar chwningod yn unig | Cig neu, yn ôl y digwydd, cig wedi'i halltu o rywogaeth arall neu gymysgeddau eraill o gig | ||
1.
Burger - boed yn rhan o air arall neu beidio, ond gan eithrio unrhyw enw sy'n dod o fewn eitemau 2 neu 3 o'r Atodlen hon. |
67% | 55% | 62% |
1.
Os defnyddir yr enw "hamburger", rhaid i'r cig a ddefnyddir wrth baratoi'r bwyd fod yn gig eidion, porc neu gymysgedd o'r ddau. 2. Os goleddfir yr enwau "burger" neu "economy burger" gan enw ar fath o gig wedi'i halltu, rhaid i'r bwyd gynnwys canran o gig o'r math y paratoir y cig wedi'i halltu ohono sydd o leiaf yn hafal i'r lleiafswm o gynnwys cig sy'n ofynnol ar gyfer y bwyd hwnnw. 3. Os goleddfir unrhyw un o'r enwau "burger", "economy burger" neu "hamburger" gan enw ar fath o gig, rhaid i'r bwyd gynnwys canran o'r cig hwnnw a enwir sydd o leiaf yn hafal i'r lleiafswm o gynnwys cig sy'n ofynnol ar gyfer y bwyd hwnnw. 4. Os defnyddir unrhyw un o'r enwau "burger", "economy burger" neu "hamburger" i gyfeirio at gynhwysyn cyfansawdd sy'n cynnwys cymysgedd o gig a chynhwysion eraill, fel rholyn bara, bydd y gofynion hyn yn gymwys i'r cymysgedd cig yn unig, fel pe bai'r cymysgedd cig yn gynnyrch cig y defnyddiwyd ei enw fel enw'r bwyd wrth ei labelu neu ei hysbysebu. |
2.
Economy Burger - p'un a yw "burger" yn ffurfio rhan o air arall neu beidio. |
50% | 41% | 47% | |
3.
Hamburger - p'un a yw'n ffurfio rhan o air arall neu beidio. |
67% | Ddim yn gymwys | 62% | |
4.
Chopped X, os rhoddir yn lle'r "X" yr enw "meat" neu "cured meat" neu enw ar fath o gig neu gig wedi'i halltu, p'un a chynhwysir yr enw ar y math o gig neu beidio. |
75% | 62% | 70% | Dim gofynion ychwanegol |
5.
Corned X, os rhoddir yn lle'r "X" yr enw "meat" neu enw ar fath o gig, oni oleddfir yr enw gan eiriau sy'n cynnwys enw bwyd heblaw cig. |
120% | 120% | 120% |
1.
Rhaid i'r bwyd gynnwys cig a gyffeithiwyd yn unig. 2. Os bydd enw'r bwyd yn cynnwys enw ar fath o gig, rhaid i'r cig a ddefnyddir wrth baratoi'r bwyd fod o'r math a enwir yn unig. 3. Rhaid i gyfanswm y braster yn y bwyd beidio â bod yn fwy na 15%. |
6.
Luncheon meat Luncheon X, lle rhoddir yn lle'r "X" enw ar fath o gig neu gig wedi'i halltu. |
67% | 55% | 62% | Dim gofynion ychwanegol |
7.
Meat pie Meat pudding Yr enw "pie" neu "pudding" wedi'i oleddfu gan enw ar fath o gig neu gig wedi'i halltu oni oleddfir ef hefyd gan enw bwyd heblaw cig neu gig wedi'i halltu |
1.
Os defnyddir yr enw "Melton Mowbray pie", rhaid i'r cig a ddefnyddir wrth baratoi'r bwyd fod yn gig o foch yn unig. |
|||
Melton Mowbray pie Game pie |
||||
Yn seiliedig ar bwysau'r cynhwysion pan fo'r bwyd heb ei goginio | 12.5% | 12.5% | 12.5% | |
Ond os yw'r bwyd yn pwyso - | ||||
dim mwy na 200 g. a dim llai na 100 g. | 11% | 11% | 11% | |
llai na 100 g. | 10% | 10% | 10% | |
8.
Scottish pie neu Scotch pie |
Dim gofynion ychwanegol | |||
Yn seiliedig ar bwysau'r cynhwysion pan fo'r bwyd heb ei goginio | 10% | 10% | 10% | |
9.
Yr enw "pie" neu "pudding" wedi'i oleddfu gan y geiriau "meat" neu "cured meat" neu gan enw ar fath o gig neu gig wedi'i halltu ac wedi'i oleddfu hefyd gan enw bwyd heblaw cig neu gig wedi'i halltu - |
Dim gofynion ychwanegol | |||
Lle bo'r goleddfiad cyntaf (sy'n ymwneud â chig) yn dod o flaen yr olaf | 7% | 7% | 7% | |
Lle bo'r goleddfiad olaf (nad yw'n ymwneud â chig) yn dod o flaen y cyntaf | 6% | 6% | 6% | |
Yn seiliedig ar bwysau'r cynhwysion pan fo'r bwyd heb ei goginio | ||||
10.
Pasty neu Pastie Bridie Sausage roll |
Dim gofynion ychwanegol | |||
Yn seiliedig ar bwysau'r cynhwysion pan fo'r bwyd heb ei goginio | 6% | 6% | 6% | |
11.
Sausage (heb gynnwys yr enw "sausage" pan oleddfir ef gan y geiriau "liver" neu "tongue" neu'r ddau), link, chipolata neu sausage meat. |
Dim gofynion ychwanegol | |||
Os goleddfir yr enw gan yr enw "pork" ond nid gan enw unrhyw fath arall o gig | 42% | Ddim yn gymwys | Ddim yn gymwys | |
Ym mhob achos arall | 32% | 26% | 30% |
(ff) yn cynnwys darpariaeth drosiannol sy'n ymwneud â thramgwyddau o dan y Rheoliadau a gyflawnwyd cyn 1 Awst 2004 ac amddiffyniad mewn perthynas â bwyd a fwriadwyd ei allforio (rheoliad 10).
Mae Arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn wedi cael ei baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a'i roi yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.
[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers"o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ("Deddf 1990"), i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 ("Deddf 1999") (p.28). Diwygiwyd adrannau 16(1) a 48(1) o Ddeddf 1990 gan Ddeddf 1999, Atodlen 5, diwygiwyd paragraff 8 ac adran 26(3) gan Ddeddf 1999, Atodlen 6.back
[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith fwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewropeaidd ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.back
[5] OJ Rhif L109, 6.5.2000, t.29.back
[6] OJ Rhif L310, 28.11.2001, t.19.back
[7] O.S.1996/1499; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1998/1398, 1999/747, 1136, 1483.back
[8] OJ Rhif L1, 3.1.94, t.1.back
[9] OJ Rhif L1, 3.1.94, t.571.back
[10] O.S.1984/1566, a ddiwygiwyd gan O.S. 1986/987, 1990/2486, 1991/1476, 1992/2596, 1995/3123, 3124, 1996/1499, 1998/1398 a 2001/2294.back
[12] OJ Rhif L173, 6.7.90, t.1.back
[13] OJ Rhif L37, 13.2.93, t.8.back
[14] OJ Rhif L289, 24.11.93, t.3.back
[15] OJ Rhif L143, 7.6.91, t.11.back
[16] OJ Rhif L263, 22.10.93, t.12.back
[17] OJ Rhif L244, 12.10.95, t.60.back
[18] OJ Rhif L134, 5.6.96, t.9.back
[19] O.S.1995/3124, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/1799(Cy.124), 2001/3909(Cy.321).back
[20] O.S.1992/1971, a ddiwygiwyd gan O.S. 1994/1486, 1996/1499.back
[21] O.S.1995/3187, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/1413, 1999/1136, 2001/1440(Cy.102), 1787(Cy.128), 2679(Cy.220), 3909(Cy.321), 2002/329(Cy.42).back
[22] O.S.1995/3123; diwygiwyd gan O.S. 1996/1477, 1997/814 a 1999/982, 2001/2679(Cy.220).back
[23] OJ Rhif L57, 2.3.92, t.1.back
[24] OJ Rhif L10, 16.1.98, t.25.back