BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cofrestru Sefydliadau (Ieir Dodwy) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041432w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif1432 (Cy.145)

ANIFEILIAID, CYMRU

Rheoliadau Cofrestru Sefydliadau (Ieir Dodwy) (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 25 Mai 2004 
  Yn dod i rym 31 Mai 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn cysylltiad â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, gan weithredu i arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enw, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cofrestru Sefydliadau (Ieir Dodwy) (Cymru) 2004; maent yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 31 Mai 2004.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn  - 

Sefydliadau a eithriwyd
     3. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i sefydliadau  - 

Sefydlu cofrestr a darparu Rhif adnabod
    
4.  - (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol lunio a chynnal cofrestr o sefydliadau.

    (2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn amser rhesymol ar ôl iddo gael cais i gynnwys sefydliad ar y gofrestr roi Rhif adnabod a gyfansoddwyd yn unol â'r Gyfarwyddeb i'r sefydliad hwnnw a rhoi gwybod am y Rhif hwnnw i'r ymgeisydd.

Cyfnewid gwybodaeth
    
5.  - (1) Mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a'r Asiantaeth Diogelu Iechyd yr hawl i weld y gofrestr er mwyn olrhain wyau a roddwyd ar y farchnad i gael eu bwyta gan bobl.

    (2) Mae gan yr awdurdod lleol hawl i weld y gofrestr er mwyn gorfodi'r Rheoliadau hyn.

Gwahardd sefydliadau rhag gweithredu neu ddechrau gweithredu
    
6.  - (1) Ar ôl 30 Mehefin 2004 ni chaiff neb barhau â gweithredu sefydliad sy'n gweithredu ar y dyddiad hwnnw oni bai bod cais wedi ei wneud i gynnwys y sefydliad hwnnw ar y gofrestr.

    (2) Ni chaiff neb ddechrau gweithredu sefydliad ar ôl 30 Mehefin 2004 oni bai bod cais wedi ei wneud i gynnwys y sefydliad hwnnw ar y gofrestr a bod Rhif adnabod wedi ei roi i'r ymgeisydd gan y Cynulliad Cenedlaethol.

    (3) Rhaid i geisiadau gynnwys yr wybodaeth a bennir yn yr Atodlen a honno ar y ffurf y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdani.

    (4) Rhaid rhoi gwybod am unrhyw newid yn yr wybodaeth a roddwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 28 diwrnod.

Pwerau swyddogion awdurdodedig
    
7.  - (1) Bydd hawl gan swyddog a awdurdodir gan y Cynulliad Cenedlaethol neu'r awdurdod lleol, os bydd ganddo ddogfen y gellir ei gwirio'n ddilys ac sy'n dangos ei awdurdod, ac os bydd yn ei dangos os gofynnir iddo wneud hynny, i fynd ar unrhyw dir neu safle ar unrhyw awr resymol at ddibenion canfod a gafodd y Rheoliadau hyn eu torri, neu a ydynt yn cael eu torri, ar y safle hwnnw neu mewn cysylltiad ag ef.

    (2) Bydd gan swyddog o'r fath bwerau i wneud pob gwiriad ac archwiliad sydd eu hangen i orfodi'r Rheoliadau hyn, ac yn benodol fe gaiff archwilio deunydd dogfennol neu ddeunydd prosesu data.

Rhwystro
    
8.  - (1) Ni chaiff neb  - 

    (2) Ni chaiff dim byd ym mharagraff (1)(b) uchod ei ddehongli fel ei bod yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn na rhoi unrhyw wybodaeth a allai daflu bai arno ef ei hun pe bai'n gwneud hynny.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol
    
9.  - (1) Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a phrofir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran  - 

bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

    (2) At ddibenion paragraff (1) uchod, ystyr "cyfarwyddwr", mewn cysylltiad â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

Cosbau
    
10.  - (1) Mae person sy'n mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd.

    (2) Bydd person sy'n euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i gael ei garcharu am dymor heb fod yn hwy na thri mis neu ddirwy heb fod yn fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol.

Gorfodi
    
11. Yr awdurdod lleol neu'r Cynulliad Cenedlaethol sydd i orfodi'r Rheoliadau hyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Mai 2004



YR ATODLEN

Gwybodaeth y mae ei hangen am bob sefydliad


     1. Gwybodaeth am y sefydliad:

     2. Gwybodaeth am geidwad yr ieir:

     3. Gwybodaeth am y perchennog, os nad y perchynnog yw ceidwad yr ieir:



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/4/EC ar gofrestru sefydliadau sy'n cadw ieir dodwy, a gwmpasir gan Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/74/EC.

Mae'r Rheoliadau yn gymwys i sefydliadau sy'n cadw 350 neu fwy o ieir dodwy, heblaw y rhai sy'n magu ieir dodwy ar gyfer eu bridio (rheoliad 3). Mae'n ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru lunio a chynnal cofrestr o sefydliadau o'r fath, yn cofnodi'r manylion a restrir yn yr Atodlen, a rhoi Rhif adnabod i bob sefydliad (rheoliad 4).

Bydd yr wybodaeth yn y gofrestr ar gael i'r Asiantaeth Safonau Bwyd a'r Asiantaeth Diogelu Iechyd os bydd ei hangen i olrhain wyau a roddwyd ar y farchnad i'w bwyta gan bobl (rheoliad 5).

Ni chaiff sefydliadau barhau ar waith ar ôl 30 Mehefin 2004 os nad yw'r wybodaeth a restrir yn yr Atodlen wedi ei rhoi ac ni chaiff sefydliadau newydd ddechrau gweithredu ar ôl y dyddiad hwnnw nes bod Rhif adnabod wedi ei roi (rheoliad 6).

Mae Rheoliadau 7 - 11 yn creu tramgwyddau ac yn gwneud darpariaethau ar gyfer gorfodi.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi ei baratoi. Gellir cael copïau oddi wrth Is-adran Iechyd Anifeiliaid Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] O.S. 1999/2788.back

[2] 1972 t..68back

[3] OJ Rhif L30, 31.1.2002, t. 44.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090949 6


  © Crown copyright 2004

Prepared 4 June 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041432w.html