BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041434w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif1434 (Cy.147)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2004

  Wedi'i wneud 25 Mai 2004 
  Yn dod i rym 1 Medi 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59, 69, 74, 78 a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[1], ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol[2] mewn perthynas â Chymru, a phob pwcircer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2004 ac mae'n dod i rym ar 1 Medi 2004.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

    (3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "Gorchymyn 1995" yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995[
3].

Diwygiadau i Orchymyn 1995
     2. Yn erthygl 1(2) o Orchymyn 1995 (dehongli) - 

     3. Yn erthygl 22(1)(a) o Orchymyn 1995 (hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad neu ddyfarniad sy'n ymwneud â chais cynllunio), ar ôl "condition imposed", rhowch - 

     4. Yn erthygl 23 o Orchymyn 1995 (apelau), ar ôl paragraff (3), rhowch - 

     5. Yn erthygl 25 o Orchymyn 1995 (cofrestr o geisiadau) - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
6].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Mai 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio, mewn perthynas â Chymru, erthyglau 1, 22, 23 a 25 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 ("Gorchymyn 1995").

Mae'r diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn i erthygl 22 o Orchymyn 1995 (hysbysiad ysgrifenedig i'w roi gan yr awdurdod cynllunio lleol pan wneir penderfyniad neu ddyfarniad sy'n ymwneud â chais cynllunio) yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r awdurdod cynllunio lleol roi gwybodaeth ychwanegol sy'n ymwneud â pholisïau a chynigion yn y cynllun datblygu sy'n berthnasol i'r penderfyniad (erthygl 3).

Mae'r diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn i erthygl 23 o Orchymyn 1995 (gweithdrefn cychwyn apêl) yn rhoi disgresiwn datganedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drin hysbysiad apêl fel pe bai heb gael ei roi o fewn y terfyn amser perthnasol os na ddarperir y dogfennau y mae angen eu cyflwyno ar y cyd â'r ffurflen angenrheidiol o fewn y terfyn amser hwnnw (erthygl 4).

Mae angen y prif newidiadau i erthygl 25 o Orchymyn 1995 (cofrestr o geisiadau) er mwyn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod cynllunio lleol gynnwys yn y gofrestr o geisiadau, yn ogystal â'r manylion a gofnodwyd eisoes yn y gofrestr, yr wybodaeth a nodir yn erthygl 5 o'r Gorchymyn hwn, sef:

Mae'r materion canlynol i'w nodi ynglycircn â'r diwygiadau sydd wedi'u gwneud ar gyfer Lloegr - 


Notes:

[1] 1990 p.8: y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'r Cynulliad Cenedlaethol gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo, ac maent yn arferadwy bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 4 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253) (Cy. 5), ac Atodlen 3 iddo.back

[3] O.S. 1995/419, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back

[4] Amnewidiwyd adran 106 gan adran 12 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34).back

[5] 1980 p.66; amnewidiwyd yr adran hon gan adran 23 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 090946 1


  © Crown copyright 2004

Prepared 3 June 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041434w.html