[New search]
[Help]
2004 Rhif1575 (Cy.161)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dadansoddiadau Awdurdodau Cyfan a Chynlluniau Gwella) (Cymru) (Diwygio) 2004
|
Wedi'i wneud |
22 Mehefin 2004 | |
|
Yn dod i rym |
30 Mehefin 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 6(3) a 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999[1]:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dadansoddiadau Awdurdodau Cyfan a Chynlluniau Gwella) (Cymru) (Diwygio) 2004 a daw i rym ar 30 Mehefin 2004.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "Gorchymyn 2002" yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dadansoddiadau Awdurdodau Cyfan a Chynlluniau Gwella) (Cymru) 2002[2].
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru ac eithrio'r rheini a bennir yn adran 1(1)(d) ac (e) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999.
Diwygiadau i Orchymyn 2002
2.
- (1) Caiff Gorchymyn 2002 ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ddechrau erthygl 3, mewnosoder "Yn ddarostyngedig i erthygl 3A,".
(3) Ar ôl erthygl 3, mewnosoder -
"
Cyhoeddi cynlluniau gwella ym mlwyddyn ariannol 2004-2005
3A.
Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2004 ac sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2005, rhaid i awdurdodau gwerth gorau gyhoeddi eu cynllun gwella erbyn 31 Gorffennaf 2004.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Mehefin 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae Rhan I o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 ("Deddf 1999") yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill i gynnal adolygiadau gwerth gorau o'u swyddogaethau ac i lunio cynllun perfformiad gwerth gorau ar gyfer pob blwyddyn ariannol.
Ar 1 Ebrill 2002, daeth Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dadansoddiadau Awdurdodau Cyfan a Chynlluniau Gwella) (Cymru) 2002 ("Gorchymyn 2002") i rym. Cafodd Gorchymyn 2002 ei wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â phwerau a freinir ynddo o dan Ddeddf 1999. Yng Ngorchymyn 2002, ymhlith pethau eraill, pennwyd y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid i awdurdod gyhoeddi ei gynllun perfformiad gwerth gorau (a elwir yn "gynllun gwella" yng Ngorchymyn 2002).
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn 2002 fel y bydd yn rhaid i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol (gan gynnwys pan fyddant yn gweithredu fel awdurdodau gwaredu gwastraff) ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru gyhoeddi eu cynlluniau gwella, at ddibenion blwyddyn ariannol 2004-2005 yn unig, erbyn 31 Gorffennaf 2004.
Notes:
[1]
1999 p.27.back
[2]
O.S. 2002/886 (Cy.101).back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 090957 7
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
29 June 2004
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041575w.html