BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynigion ar Drefniadaeth Ysgolion gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant 2004 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041576w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 22 Mehefin 2004 | ||
Yn dod i rym | 1 Awst 2004 |
1. | Enwi, cychwyn a chymhwyso. |
2. | Dehongli. |
3. | Newidiadau y ceir gwneud cynigion ar eu cyfer. |
4. | Ymgynghori. |
5. | Cyhoeddi'r cynigion. |
6. | Gwrthwynebu'r cynigion. |
7. | Cyflwyno'r cynigion etc. i'r Cynulliad Cenedlaethol. |
8. | Tynnu cynigion yn ôl. |
9. | Penderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol. |
10. | Gweithredu'r cynigion. |
11. | Gwybodaeth i'w chynnwys yn y cynigion a gyhoeddir. |
12. | Dull cyhoeddi'r cynigion. |
13. | Gwybodaeth sydd i'w hanfon at y Cynulliad Cenedlaethol. |
14. | Cyrff y mae'n rhaid anfon copi o'r cynigion a gyhoeddir atynt - ysgolion arbennig. |
15. | Gwrthwynebu'r cynigion. |
16. | Cymeradwyaethau amodol. |
17. | Darparu gwybodaeth gan y Cynulliad Cenedlaethol. |
18. | Cynigion a gyhoeddir o dan baragraff 43(4) o Atodlen 7. |
19. | Newid categori ysgol. |
20. | Diwygiad canlyniadol. |
21. | Dirymu. |
Atodlen 1 - | Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn cynigion a gyhoeddir o dan adran 113A. |
Atodlen 2 - | Yr wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn cynigion a gyhoeddir o dan Atodlen 7. |
Atodlen 3 - | Yr wybodaeth sydd i'w hanfon at y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad â chynigion a gyhoeddwyd o dan adran 113A neu Atodlen 7. |
Rhan 1 - | Dehongli |
Rhan 2 - | Yr wybodaeth sydd i'w hanfon mewn cysylltiad â chynigion o dan adran 113A neu Atodlen 7 os yw'r ysgol yn ysgol brif ffrwd. |
Rhan 3 - | Yr wybodaeth sydd i'w hanfon mewn cysylltiad â chynigion o dan adran 113A neu Atodlen 7 os yw'r ysgol yn ysgol arbennig. |
Rhan 4 - | Yr wybodaeth ychwanegol sydd i'w hanfon os gwneir y cynigion o dan adran 113A i gau chweched dosbarth neu i newid terfyn uchaf oedran ysgol neu o dan Atodlen 7 i gau chweched dosbarth. |
Rhan 5 - | Yr wybodaeth ychwanegol sydd i'w hanfon os gwneir y cynigion o dan Atodlen 7 i gau sefydliad i ddisgyblion 16 i 19 oed. |
Atodlen 4 - | Cynigion o dan baragraff 43(4) o Atodlen 7. |
(2) Mae unrhyw gyfeiriad at adran 113A, Atodlen 7 neu Atodlen 7A yn gyfeiriad at adran 113A o Ddeddf 2000 neu Atodlen 7 neu Atodlen 7A iddi fel y bo'n briodol.
(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn mae faint o leoedd sydd gan ysgol i'w benderfynu yn unol ag Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Cynigion ar Drefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 1999[6].
(4) At ddibenion y Rheoliadau hyn dyddiad cyhoeddi'r cynigion yw -
(5) Mae Rhan 1 o Atodlen 3 yn gymwys at ddibenion dehongli'r termau sydd yn Rhannau 2 i 6 o'r Atodlen honno.
(ch) newid yn nherfyn uchaf oedran ysgol (sy'n derfyn uwch na'r oedran ysgol gorfodol) o flwyddyn neu fwy (na ddaw o fewn is-baragraff (c) uchod).
Ymgynghori
4.
Cyn gwneud cynigion o dan adran 113A rhaid i'r Cyngor ymgynghori â'r personau hynny y mae'n ystyried sy'n briodol, yn nodi'r ystyriaethau a arweiniodd at y cynnig a'r dystiolaeth gefnogol.
Cyhoeddi'r cynigion
5.
- (1) Rhaid i'r Cyngor gyhoeddi hysbysiad o unrhyw gynigion a wna o dan adran 113A yn y dull a bennir ym mharagraffau (2) a (3) isod, a rhaid i unrhyw hysbysiad o'r fath gynnwys yr wybodaeth a bennir yn Atodlen 1.
(2) Os yw'r cynigion ar gyfer sefydlu sefydliad newydd i ddisgyblion 16 i 19 oed mae'r Cyngor i gyhoeddi'r hysbysiad -
(3) Os yw'r cynigion ar gyfer gwneud newid i ysgol a gynhelir neu gau sefydliad i ddisgyblion 16 i 19 oed mae'r Cyngor i gyhoeddi'r hysbysiad -
(4) Rhaid i'r Cyngor anfon copi o'r hysbysiad at y personau canlynol -
(5) Os yw'r cynigion yn ymwneud ag ysgol arbennig rhaid i'r Cyngor hefyd anfon copi o'r hysbysiad at -
(6) Os yw'r cynigion yn ymwneud ag ysgol arbennig arfaethedig rhaid i'r Cyngor anfon copi o'r hysbysiad at y cyrff y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (c) ac (ch) o baragraff (5).
(7) Yn y rheoliad hwn mae i "rhiant" yr ystyr a roddir i "parent" yn adran 576 o Deddf Addysg 1996.
Gwrthwynebu cynigion
6.
Caiff unrhyw berson anfon gwrthwynebiadau ysgrifenedig i gynigion a wnaed o dan adran 113A i'r Cyngor o fewn dau fis ar ôl dyddiad cyhoeddi'r cynigion.
Cyflwyno cynigion etc. i'r Cynulliad Cenedlaethol
7.
O fewn mis ar ôl diwedd y cyfnod y ceir gwrthwynebu o dan reoliad 6 rhaid i'r Cyngor anfon at y Cynulliad Cenedlaethol -
Tynnu cynigion yn ôl
8.
Caiff y Cyngor dynnu cynigion yn ôl ar unrhyw adeg cyn y penderfynir arnynt o dan adran 113A(4) drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Penderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol
9.
- (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r personau canlynol o bob penderfyniad a wneir o dan adran 113A -
(2) Os bydd gwrthwynebiadau i gynnig ar ffurf deiseb (sef dogfen sy'n cynnwys testun un gwrthwynebiad wedi'i llofnodi gan fwy nag un gwrthwynebydd) gall y Cynulliad Cenedlaethol gydymffurfio â'r gofyniad ym mharagraff (1) drwy -
(3) Dim ond os yw'r Cyngor wedi cydsynio i addasiadau y caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo cynigion gydag addasiadau.
Gweithredu'r cynigion
10.
- (1) Rhagnodir y Cyngor at ddibenion paragraff 1(3) o Atodlen 7A (sy'n darparu y caiff personau a ragnodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol addasu cynigion neu bennu dyddiad diweddarach erbyn pryd y mae'n rhaid i achlysur ddigwydd).
(2) At ddibenion paragraffau 1(3) a (4) o Atodlen 7A (sy'n darparu ar ôl iddo ymgynghori â phersonau rhagnodedig caiff y Cynulliad Cenedlaethol addasu cynigion a gymeradwywyd, pennu dyddiad diweddarach erbyn pryd y mae'n rhaid i achlysur ddigwydd, neu benderfynu na ddylai paragraff 1(2) o Atodlen 7A fod yn gymwys) rhagnodwyd y personau canlynol -
(3) Os yw ysgol yn ysgol arbennig, mae cynigion o'r fath i'w cyhoeddi -
Yr wybodaeth sydd i'w hanfon at y Cynulliad Cenedlaethol
13.
- (1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi at ddibenion paragraffau 21(1)(b) a 29(1)(b) o Atodlen 7, yr wybodaeth y mae'n rhaid i'r Cyngor ei hanfon at y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Rhaid i'r Cyngor anfon at y Cynulliad Cenedlaethol yr wybodaeth a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn, os yw'r ysgol yn ysgol brif ffrwd, neu Ran 3 o'r Atodlen honno, os yw'r ysgol yn ysgol arbennig, ynghyd â'r canlynol -
Cyrff y mae'n rhaid anfon copi o'r cynigion a gyhoeddir atynt - ysgolion arbennig
14.
- (1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi at ddibenion paragraffau 21(2) a 29(2) o Atodlen 7 y cyrff neu'r personau, yn achos ysgol arbennig, y mae'n rhaid i'r Cyngor hefyd anfon atynt gopi o'r cynigion a gyhoeddir.
(2) Rhaid i'r Cyngor anfon copi o'r cynigion a gyhoeddir at y canlynol -
Gwrthwynebu cynigion
15.
- (1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi at ddibenion paragraff 41 o Atodlen 7 y cyfnod pan geir anfon gwrthwynebiadau i'r cynigion at y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Mae gwrthwynebiadau i'w hanfon at y Cynulliad Cenedlaethol o fewn mis ar ôl dyddiad cyhoeddi'r cynigion.
Cymeradwyaethau amodol
16.
- (1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi mathau o achlysuron at ddibenion paragraff 42(4) o Atodlen 7 (sy'n darparu y gall cymeradwyo cynigion fod yn ddarostyngedig i achlysur penodedig yn digwydd sydd o fath a ragnodwyd erbyn amser penodedig).
(2) Y mathau o achlysuron yw unrhyw rai o'r achlysuron canlynol sy'n ymwneud ag unrhyw ysgol arall neu ysgol arfaethedig y cyhoeddwyd cynigion mewn perthynas â hwy o dan adran 28 neu 31 o Ddeddf 1998 -
Darparu gwybodaeth gan y Cynulliad Cenedlaethol
17.
- (1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r personau canlynol o bob penderfyniad a wneir o dan baragraff 42(1) neu 43(2) o Atodlen 7 -
(2) Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â pharagraff (1), yn hysbysu'r personau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw am benderfyniad rhaid iddo hefyd eu hysbysu am y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.
(3) Os bydd gwrthwynebiadau i gynnig ar ffurf deiseb (sef dogfen sy'n cynnwys testun un gwrthwynebiad wedi'i llofnodi gan fwy nag un gwrthwynebydd) gall y Cynulliad Cenedlaethol gydymffurfio â pharagraff (1)(d) drwy -
Cynigion a gyhoeddir o dan baragraff 43(4) o Atodlen 7
18.
Mae Atodlen 4 i'r Rheoliadau hyn yn effeithiol mewn perthynas â chynigion o dan baragraff 43(4) o Atodlen 7 (cynigion a gyhoeddwyd ac a gymeradwywyd yn flaenorol o dan Atodlen 7 nad ydynt i'w gweithredu).
Dirymu
21.
Drwy hyn dirymir Rheoliadau Cynigion Trefniadaeth Ysgolion gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant 2002[10].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
22 Mehefin 2004
5.
Dadansoddiad o effaith hirdymor y cynigion ar yr ysgol y mae'r cynigion yn ymwneud â hi.
6.
Os yw'r cynigion yn ymwneud ag ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol â chymeriad crefyddol, manylion y grefydd neu 'r enwad crefyddol o dan sylw.
7.
Os bydd y cynigion yn cael yr effaith y bydd unrhyw ddarpariaeth ar gyfer addysg chweched dosbarth i ddod i ben, manylion yr ysgolion neu'r colegau addysg bellach y gall myfyrwyr sydd yn yr ysgol ac y mae'r ddarpariaeth ar eu cyfer i ddod i ben eu mynychu, gan gynnwys unrhyw drefniadau dros dro.
8.
Y trefniadau arfaethedig i gludo'r disgyblion hynny i ysgolion eraill neu golegau addysg bellach.
9.
Manylion unrhyw fesurau eraill y bwriedir eu cymryd i gynyddu nifer y lleoedd mewn ysgolion neu golegau addysg bellach sydd ar gael yn sgil y bwriad i ddod â'r darpariaethau i ben.
10.
Ac eithrio os yw'r cynigion -
mae nifer y disgyblion sydd i'w derbyn i'r ysgol (neu, yn ôl y digwydd, i'r ysgol newydd) ym mhob gr p oedran chweched dosbarth perthnasol yn y flwyddyn ysgol gyntaf y gweithredwyd y cynigion ynddi neu, os bwriedir gweithredu'r cynigion fesul cam, nifer y disgyblion sydd i'w derbyn felly yn y flwyddyn ysgol gyntaf y gweithredwyd pob un o'r camau.
11.
Os cynigion ydynt i newid ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a reolir, datganiad a yw'r cynigion i'w gweithredu gan yr awdurdod addysg lleol neu'r corff llywodraethu ac, os yw'r cynigion i'w gweithredu gan y ddau, datganiad ar i ba raddau y mae'r ddau gorff i'w gweithredu.
12.
Datganiad y bydd gofyn i'r cynnig gael cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol.
13.
Datganiad o effaith rheoliad 6 gan gynnwys y cyfeiriad y dylid anfon gwrthwynebiad i'r cynigion iddo.
9.
Os cynigion ydynt i gau -
10.
Datganiad yn esbonio effaith paragraff 41 o Atodlen 7 a rheoliad 15, gan gynnwys y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid anfon gwrthwynebiadau ar y Cynulliad Cenedlaethol.
11.
Cyfeiriad y Cynulliad Cenedlaethol y mae'n rhaid anfon gwrthwynebiadau ato.
4.
Map yn dangos lleoliad yr ysgol sy'n destun y cynigion a phob ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol ac ysgol sefydledig arall o fewn y radiws perthnasol i'r ysgol.
5.
Rhestr o bob ysgol uwchradd o fewn y radiws perthnasol i'r ysgol sy'n destun y cynigion, sy'n datgan pa rai o'r ysgolion hynny a gynhelir gan awdurdod addysg lleol gwahanol, ynghyd â'r wybodaeth ganlynol ar gyfer pob ysgol o'r fath am y flwyddyn ysgol gyfredol, ac am y flwyddyn ysgol flaenorol (ac eithrio'r wybodaeth a bennir yn is-baragraff (ch));
a rhagolwg o'r materion a bennir yn is-baragraffau (b) i (ch) am bob un o'r pum blwyddyn ysgol sy'n dilyn.
6.
Os yw'r cynnig yn ymwneud â newid yn yr addysg chweched dosbarth presennol, manylion canlynol yr addysg chweched dosbarth a ddarperir yn gyfredol yn yr ysgol -
7.
Manylion unrhyw effaith a gaiff y cynigion ar yr ysgol o ran darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
8.
Os gwneir y cynigion o dan Atodlen 7, copïau o adroddiadau'r ddau arolygiad o dan Ran I o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996[12] y mae Rhan II a III o Atodlen 7 yn gymwys mewn perthynas â'r ysgol yn eu sgil.
9.
Os cynigion ydynt i ddod â darpariaeth i ben y mae'r awdurdod addysg lleol yn cydnabod yn un a gedwir ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig -
10.
Os cynigion ydynt i sefydlu darpariaeth y mae awdurdod addysg lleol yn cydnabod ei bod yn cael ei chadw ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig -
13.
Map yn dangos lleoliad yr ysgol sy'n destun y cynigion.
14.
Rhestr o'r canlynol -
yn ardal yr awdurdod addysg lleol sy'n cynnal yr ysgol.
15.
Gwybodaeth o ran -
yn y flwyddyn ysgol gyfredol a rhagolwg o'r nifer hwnnw am bob un o'r pum blwyddyn ysgol sy'n dilyn.
16.
Gwybodaeth o ran nifer y disgyblion dros oedran ysgol gorfodol ag anghenion addysgol arbennig o bob un o'r mathau y mae'r awdurdod addysg lleol yn cynnal datganiad o anghenion addysgol arbennig yn y flwyddyn ysgol gyfredol ar eu cyfer ynghyd â rhagolwg o'r niferoedd hynny am bob un o'r pum blwyddyn ysgol sy'n dilyn.
17.
Manylion unrhyw effaith a gaiff y cynigion ar yr ysgol o ran darparu addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
18.
Os gwneir y cynigion o dan Atodlen 7, copïau o adroddiadau'r ddau arolygiad o dan Ran I o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996 y mae Rhan II a III o Atodlen 7 yn gymwys mewn perthynas â'r ysgol o'u plegid.
a rhagolwg o'r niferoedd hynny ar gyfer pob un o'r pum blwyddyn ysgol sy'n dilyn, gan ragdybio bod y cynigion yn cael eu cymeradwyo.
20.
Os ysgol arbennig yw'r ysgol, yr wybodaeth ganlynol sy'n ymwneud â'r ysgol am y flwyddyn ysgol gyfredol a'r bedair blwyddyn ysgol flaenorol -
a rhagolwg o'r niferoedd hynny am bob un o'r pum blwyddyn ysgol sy'n dilyn gan ragdybio bod y cynigion yn cael eu cymeradwyo.
21.
Pan fydd y cynigion yn ymwneud ag ysgol wirfoddol, datganiad a fydd, o ganlyniad i'r cynigion, angen mwyach am y fangre a ddefnyddir at ddibenion yr ysgol ac os na fydd angen -
os trefnwyd bod yr wybodaeth honno ar gael i'r Cyngor.
22.
Manylion nifer y disgyblion dros oedran ysgol gorfodol ym mhob gr p blwyddyn sy'n aros yn yr ysgol sy'n destun cynigion yn y ddwy flynedd cyn y flwyddyn ysgol gyfredol.
23.
Manylion nifer y disgyblion dros oedran ysgol gorfodol ym mhob grp oedran sydd wedi trosglwyddo o'r ysgol sy'n destun y cynigion i sefydliad arall sy'n darparu addysg llawnamser neu ran-amser yn ystod y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff 22.
24.
Manylion y sefydliadau y trosglwyddodd y disgyblion y cyfeirir atynt ym mharagraff 23 iddynt gan ddangos faint o ddisgyblion a aeth i bob sefydliad felly.
25.
Nifer y disgyblion y cyfeirir atynt ym mharagraffau 22 a 23 ym mhob gr p blwyddyn fel cyfran o gyfanswm y disgyblion yn y gr p blwyddyn hwnnw.
26.
Manylion yr ysgolion neu'r colegau addysg bellach y bwriedir y gall disgyblion sy'n cael addysg chweched dosbarth ar hyn o bryd drosglwyddo iddynt os cymeradwyir y cynigion, gan gynnwys asesiad o ansawdd y sefydliadau hynny ac o unrhyw drefniadau pontio a fydd yn gymwys.
27.
Os ysgol brif ffrwd yw'r ysgol, manylion canlyniadau'r arholiadau canlynol ar gyfer y ddwy flwyddyn ysgol cyn y flwyddyn ysgol gyfredol yn yr ysgol sy'n destun y cynigion ac ym mhob ysgol a gynhelir, pob coleg technoleg dinas, pob coleg dinas ar gyfer technoleg y celfyddydau a phob coleg addysg bellach a enwir yn unol â pharagraff 24 -
28.
Nifer y lleoedd sydd ar gael yn y sefydliadau hynny a enwir yn unol â pharagraff 24 a 26 sydd yn ysgolion.
29.
Manylion y pellter, wedi'i fesur ar y llwybr teithio byrraf sydd ar gael, rhwng yr ysgol a'r holl sefydliadau a enwir yn unol â pharagraff 24 ynghyd â manylion am y cludiant cyhoeddus sydd ar gael i'r sefydliadau hynny a enwir yn unol â pharagraff 26 (pan nad oes gwybodaeth felly wedi'i chynnwys eisoes mewn unrhyw drefniadau arfaethedig ar gyfer cludiant a gynhwysir mewn cynigion a gyhoeddir yn unol â pharagraff 7 o Atodlen 1 neu baragraff 4 o Atodlen 2).
30.
Cynllun datblygu sy'n nodi effaith tymor hir y cynnig.
31.
Manylion unrhyw gostau cylchol yn dilyn gweithredu'r cynigion ac unrhyw arbedion mewn gwariant o ganlyniad gweithredu'r cynigion.
33.
Os ysgol arbennig yw'r ysgol, yr wybodaeth ganlynol sy'n ymwneud â'r ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol gyfredol a'r bedair blwyddyn ysgol flaenorol -
34.
Yr wybodaeth ganlynol sy'n ymwneud â'r ystafelloedd yn yr ysgol -
35.
Manylion yr ysgolion a'r colegau addysg bellach y gellid yn rhesymol, ym marn y Cyngor, ddisgwyl i'r disgyblion a fyddai fel arall wedi mynychu'r ysgol allu eu mynychu ar ôl darfod oedran ysgol gorfodol os cymeradwyir y cynigion, gan gynnwys asesiad o ansawdd y sefydliadau hynny ac o unrhyw drefniadau pontio a fydd yn gymwys.
36.
Os ysgol brif ffrwd yw'r ysgol, manylion canlyniadau'r arholiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) i (c) o baragraff 27 am y ddwy flwyddyn ysgol cyn y flwyddyn ysgol gyfredol yn yr ysgol sy'n destun y cynigion ac ym mhob ysgol a gynhelir, pob coleg technoleg dinas, pob coleg dinas ar gyfer technoleg y celfyddydau a phob coleg addysg bellach a enwir yn unol â pharagraff 35.
37.
Nifer y lleoedd sydd ar gael yn y sefydliadau a enwir yn unol â pharagraff 35 sydd yn ysgolion.
38.
Manylion y pellter, wedi'i fesur ar y llwybr byrraf sydd ar gael, rhwng yr ysgol a'r holl sefydliadau a bennir ym mharagraff 35 ynghyd â manylion am y cludiant cyhoeddus sydd ar gael i'r sefydliadau hynny (pan nad oes gwybodaeth felly wedi'i chynnwys eisoes mewn unrhyw drefniadau arfaethedig ar gyfer cludiant a gynhwysir mewn cynigion a gyhoeddir yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 2).
40.
Os cynigion ydynt i newid terfyn uchaf oedran yr ysgol fel bod yr ysgol yn darparu addysg chweched dosbarth neu addysg chweched dosbarth ychwanegol, yr wybodaeth ganlynol -
(dd) cynllun datblygu ar gyfer yr ysgol sy'n nodi effaith tymor hir y cynigion;
(e) manylion o'r cyrsiau sydd i'w cynnig (os cymeradwyir y cynigion) sy'n arwain i arholiadau Safon Uwch a Safon Uwch Gyfrannol TAG a chymwysterau galwedigaethol uwch rhagolwg o'r galw am bob cwrs o'r fath, gan gynnwys manylion o sut y diwellir y gofyn am addysg grefyddol i ddisgyblion dros oedran ysgol gorfodol;
(f) nifer y disgyblion arfaethedig y darperir addysg chweched dosbarth iddynt os cymeradwyir y cynigion;
(ff) faint o leoedd a arfaethir ar gyfer disgyblion y darperir addysg chweched dosbarth iddynt os cymeradwyir y cynigion;
(g) nifer y lleoedd sydd ar gael mewn sefydliadau a enwir yn unol ag is-baragraff (c) sydd yn ysgolion;
(ng) manylion unrhyw gostau cylchol yn dilyn gweithredu'r cynigion ac unrhyw arbedion mewn gwariant o ganlyniad i weithredu'r cynigion; a
(h) manylion -
2.
Rhaid i'r cynigion newydd -
(b) pan fydd yr ysgol yn ysgol arbennig gael eu cyhoeddi -
3.
Rhaid i'r cynigion newydd gynnwys -
4.
Cyn cyhoeddi'r cynigion newydd rhaid i'r Cyngor, gan roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Cynulliad Cenedlaethol, ymgynghori â'r personau hynny y maent o'r farn eu bod yn briodol.
5.
Rhaid i'r Cyngor anfon at y Cynulliad Cenedlaethol -
6.
Pan fydd yr ysgol sy'n destun y cynigion newydd yn ysgol arbennig rhaid i'r Cyngor anfon copi o'r cynigion newydd a gyhoeddwyd at y cyrff neu'r personau yr anfonwyd copi o'r cynigion gwreiddiol atynt o dan baragraffau 21(2) a 29(2) o Atodlen 7 a rheoliad 14.
7.
Caiff unrhyw berson anfon gwrthwynebiadau i'r cynigion newydd at y Cynulliad Cenedlaethol o fewn mis ar ôl dyddiad cyhoeddi'r cynigion.
O dan Atodlen 7 i Ddeddf 2000 caiff y Cyngor, mewn amgylchiadau penodedig, gyhoeddi cynigion ar gyfer newid ysgol a gynhelir fel na fydd bellach yn darparu addysg chweched dosbarth, neu ar gyfer cau ysgol chweched dosbarth a gynhelir.
Mae Ddeddf 2000 yn nodi gweithdrefnau ar gyfer arfer y pwerau hyn gan y Cyngor. Yn benodol, rhaid i'r Cyngor gyhoeddi cynigion sy'n gofyn am gymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol. Nodir y fframwaith ar gyfer y gweithdrefnau hyn yn Deddf 2000, ond mae llawer o'r manylion i'w rhagnodi mewn Rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r manylion hynny ac, yn achos darpariaethau a wneir yn Rhan 3 (o ran Atodlen 7 i Ddeddf 2000), yn disodli (gyda rhai newidiadau) y darpariaethau a geir yn Rheoliadau Cynigion ar Drefniadaeth Ysgolion gan Gyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant 2002.
Mae Rhan 1 o'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau rhagarweiniol.
Mae rheoliad 2 yn diffinio termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau.
Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth o ran cynigion o dan adran 113A.
Mae rheoliad 3 yn rhagnodi'r disgrifiadau o newidiadau i ysgolion a gynhelir y gellir gwneud cynigion ar eu cyfer.
Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer y broses ymgynghori gan y Cyngor cyn gwneud cynnig.
Mae rheoliad 5 ynghyd ag Atodlen 1 yn rhagnodi'r wybodaeth sydd i'w chynnwys mewn cynnig a'r gofynion i gyhoeddi'r cynigion a hysbysu'r personau a bennir yn y rheoliad hwnnw.
Mae rheoliad 6 yn darparu ar gyfer gwrthwynebu'r cynigion.
Mae rheoliad 7 - ynghyd â rhannau 2, 3, 4 a 6 o Atodlen 3 yn gwneud darpariaeth i'r Cyngor gyflwyno cynigion ynghyd â gwrthwynebiadau a chyda gwybodaeth ychwanegol a ragnodwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae rheoliad 8 yn darparu y caiff y Cyngor dynnu cynigion yn ôl cyn penderfynu arnynt.
Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ddarparu gwybodaeth am ei benderfyniadau i bersonau a bennir yn y Rheoliad hwnnw.
Mae rheoliad 10 yn rhagnodi'r Cyngor fel y person a all ofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol addasu cynigion ac mae'n rhagnodi'r personau y mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ymgynghori â hwy cyn penderfynu y bydd y gofyniad i weithredu'r cynigion yn peidio â bod yn gymwys.
Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth o ran cynigion o dan Atodlen 7.
Mae rheoliad 11 ynghyd ag Atodlen 2 yn rhagnodi'r wybodaeth y mae'n rhaid ei chynnwys yn y cynigion a gyhoeddir.
Mae rheoliad 12 yn rhagnodi'r dull y mae'n rhaid cyhoeddi'r cynigion.
Mae rheoliad 13 ynghyd â rhannau 2 i 5 o Atodlen 3 yn rhagnodi gwybodaeth ychwanegol y mae'n rhaid ei hanfon at y Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â'r cynigion a gyhoeddwyd.
Mae rheoliad 14 yn rhagnodi cyrff eraill y mae'n rhaid anfon copi o'r cynigion atynt yn achos ysgolion arbennig.
Mae rheoliad 15 yn darparu ar gyfer y terfynau amser i wrthwynebu'r cynigion.
Mae rheoliad 16 yn rhagnodi digwyddiadau y gellir eu pennu yn achos cymeradwyaeth amodol o'r cynigion.
Mae rheoliad 17 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ddarparu gwybodaeth am ei benderfyniadau i'r personau a bennir yn y Rheoliad hwnnw.
Mae rheoliad 18 ynghyd ag Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynigion gan y Cyngor na ddylid gweithredu cynigion blaenorol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'u cymeradwyo.
Mae Rhan 4 o'r Rheoliadau yn cynnwys darpariaethau atodol.
Mae rheoliad 19 yn gwneud darpariaeth arbennig ar gyfer gweithredu cynigion os bydd ysgol yn newid categori o fod yn ysgol gymunedol neu'n ysgol arbennig gymunedol.
Mae rheoliad 20 yn gwneud diwygiad canlyniadol ac mae rheoliad 21 yn diddymu Rheoliadau blaenorol.
[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3] 2000 p.21; mewnosodwyd adran 113A ac Atodlen 7A gan adran 72 o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlen 9 iddi. Diwygiwyd Atodlen 7 gan baragraffau 11 a 15 o Atodlen 10 i Ddeddf Addysg 2002.back
[8] O.S. 1997/319; diwygiwyd gan O.S. 1998/371.back
[9] O.S. 1999/2020 y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[10] O.S. 2002/432 (Cy.55).back