BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Canolfan Iechyd Cymru (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041742w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif1742 (Cy.181)

IECHYD Y CYHOEDD, CYMRU

Rheoliadau Canolfan Iechyd Cymru (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) 2004

  Wedi'u gwneud 6 Gorffennaf 2004 
  Yn dod i rym 31 Gorffennaf 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 8 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003 a pharagraff 10 o Atodlen 2 iddi[1] yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Canolfan Iechyd Cymru (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) 2004 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2004.

    (2) Yn y rheoliadau hyn - 



RHAN 1

Aelodaeth

Aelodaeth y Ganolfan
     2.  - (1) Bydd y Ganolfan yn cynnwys dim mwy na 12 aelod wedi'u penodi gan y Cynulliad.

    (2) Wrth benodi aelodau, bydd y Cynulliad yn ystyried pa mor ddymunol fydd penodi personau sydd â phrofiad, ac sydd wedi dangos cymhwysedd, yn rhyw fater sy'n berthnasol i swyddogaethau'r Ganolfan.

    (3) Y Cynulliad fydd yn penodi'r cadeirydd (a fydd yn aelod o'r Ganolfan) a chaiff, os gwêl yn dda, benodi un o'r aelodau eraill yn is-gadeirydd.

    (4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff y Ganolfan o dro i dro benodi aelodau cyfetholedig y mae'n ymddangos iddi ei bod yn angenrheidiol neu'n hwylus er mwyn i'r Ganolfan gyflawni ei swyddogaethau.

    (5) Rhaid i nifer yr aelodau cyfetholedig beidio â bod yn fwy na nifer yr aelodau oni chafodd y Ganolfan ganiatâd ysgrifenedig y Cynulliad i fynd dros y nifer hwn.

Deiliadaeth swydd cadeirydd ac aelodau eraill
    
3.  - (1) Cyfnodau swydd y cadeirydd, yr is-gadeirydd ac aelodau eraill y Ganolfan fydd y cyfnodau a bennir gan y Cynulliad wrth benodi ond fel arfer ni fydd yn fwy na chyfnod o bum mlynedd ar y mwyaf.

    (2) Cyfnod swydd aelod cyfetholedig fydd y cyfnod a bennir gan y Ganolfan wrth benodi ond fel arfer ni fydd yn fwy na chyfnod o ddwy flynedd.

Terfynu deiliadaeth swydd
    
4.  - (1) Caiff aelod ymddiswyddo ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod y penodwyd ef iddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Cynulliad.

    (2) Caiff aelod cyfetholedig ymddiswyddo ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod y penodwyd ef iddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Ganolfan.

    (3) Y dyddiad y bydd ymddiswyddiad drwy hysbysiad yn unol â pharagraff (1) neu (2) yn effeithiol fydd - 

    (4) Yn achos aelod sydd yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd, rhaid i'r ymddiswyddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) ddatgan os yw mewn perthynas â phenodiad yr aelod yn gadeirydd neu is-gadeirydd yn unig a chaiff y Cynulliad ganiatáu i'r person hwnnw barhau fel aelod am y cyfnod sydd heb ddirwyn i ben o gyfnod gwreiddiol y penodiad fel cadeirydd neu is-gadeirydd.

    (5) Os yw'r Cynulliad o'r farn nad yw person a benododd yn gadeirydd, is-gadeirydd neu aelod arall o'r Ganolfan yn ffit neu fel arall yn alluog i gyflawni swyddogaethau'r swydd honno, caiff y Cynulliad derfynu deiliadaeth y person hwnnw o'r swydd ar unwaith drwy roi hysbysiad ysgrifenedig iddo i'r perwyl hwnnw.

    (6) Os bydd y Cynulliad wedi'i fodloni bod aelod wedi bod yn absennol o 3 chyfarfod olynol o'r Ganolfan, caiff y Cynulliad derfynu deiliadaeth y swydd gan y person hwnnw ar unwaith onid yw wedi'i fodloni - 

    (7) Os cafodd person ei benodi'n aelod o'r Ganolfan gan y Cynulliad  - 

a, phan ddaw'r hysbysiad hwnnw i law, bydd deiliadaeth swydd y person hwnnw, os oes un, yn terfynu a bydd yn peidio â bod yn aelod.

    (8) Mae paragraffau (5) i (7) yn gymwys i aelodau cyfetholedig fel pe bai pob cyfeiriad at aelod yn gyfeiriad at aelod cyfetholedig a phob cyfeiriad at y Cynulliad yn gyfeiriad at y Ganolfan.

Datgymhwyso rhag penodi
    
5. Yn ddarostyngedig i reoliad 6, datgymhwysir person rhag cael ei benodi'n aelod neu'n aelod cyfetholedig  - 

Diwedd datgymhwysiad
     6.  - (1) At ddibenion rheoliad (5)(a), bernir mai'r dyddiad collfarnu fydd y dyddiad y mae'r cyfnod a ganiateir yn gyffredinol ar gyfer gwneud apêl neu gais ynghylch y gollfarn yn dod i ben neu, os gwnaed apêl neu gais o'r fath, y dyddiad pan benderfynir yn derfynol ar yr apêl neu'r cais neu'r dyddiad pan roddir y gorau iddynt neu os metha oherwydd na chaiff yr apêl ei herlyn neu'r cais ei erlyn.

    (2) At ddibenion rheoliad (5)(c), ni fernir bod person wedi bod mewn cyflogaeth am dâl yn unig oherwydd ei fod wedi dal swydd cadeirydd, is-gadeirydd, cyfarwyddwr neu aelod o unrhyw gorff gwasanaeth iechyd.

    (3) Os datgymhwyswyd person oherwydd rheoliad 5(b)  - 

    (4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), os yw person yn anghymwys oblegid rheoliad (5)(c), caiff y person hwnnw, ar ôl dwy flynedd o leiaf ar ôl dyddiad y diswyddo o'r gyflogaeth, wneud cais ysgrifenedig i'r Cynulliad i ddileu'r anghymhwyster, a chaiff y Cynulliad gyfarwyddo y bydd yr anghymhwyster hwnnw yn dod i ben.

    (5) Os bydd y Cynulliad yn gwrthod dileu datgymhwysiad, ni chaiff y person hwnnw wneud cais pellach cyn pen dwy flynedd gan ddechrau gyda dyddiad y cais a bydd y paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gais wedyn.

    (6) Os caiff person ei ddatgymhywso oblegid rheoliad 5(ch), daw'r person hwnnw yn gymwys i'w benodi fel aelod ar ôl dwy flynedd o ddyddiad terfyniad yr aelodaeth neu am gyfnod hirach y gallai y corff gwasanaeth iechyd a derfynodd yr aelodaeth ei bennu, ond caiff y Cynulliad, pan wneir cais iddo yn ysgrifenedig gan y person hwnnw, leihau cyfnod y datgymhwysiad.

    (7) Mae paragraffau (4) i (6) yn gymwys i aelodau cyfetholedig fel pe bai pob cyfeiriad at y Cynulliad yn gyfeiriad at y Ganolfan.



RHAN 2

Trafodion a threfniadau gweinyddol

Penodi is-gadeirydd
    
7.  - (1) Os na phenodwyd is-gadeirydd gan y Cynulliad, yna, yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff yr aelodau benodi un o'u plith yn is-gadeirydd am gyfnod nad yw'n hirach na'i gyfnod gwreiddiol yn aelod, yn ôl yr hyn a bennir ganddynt.

    (2) Caiff unrhyw aelod a benodwyd yn y modd hwnnw ymddiswyddo o swydd is-gadeirydd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r cadeirydd.

    (3) Rhaid i aelod sy'n ymddiswyddo yn unol â pharagraff (2) anfon copi o'r hysbysiad ysgrifenedig at y Cynulliad.

    (4) Y dyddiad y bydd ymddiswyddiad yn unol â pharagraff (2) yn effeithiol fydd - 

Pwerau is-gadeirydd
    
8. Os digwydd y canlynol - 

rhaid i'r is-gadeirydd weithredu fel cadeirydd hyd nes y penodir cadeirydd newydd neu nes bydd y cadeirydd ar y pryd yn ysgwyddo dyletswyddau'r cadeirydd yn ôl y digwydd, ac ystyrir y bydd cyfeiriadau at y cadeirydd, tra nad oes cadeirydd sy'n gallu cyflawni dyletswyddau'r cadeirydd, yn cynnwys cyfeiriadau at yr is-gadeirydd.

Penodi pwyllgorau ac is-bwyllgorau
    
9.  - (1) Caiff y Ganolfan benodi pwyllgorau'r Ganolfan sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn cynnwys aelodau o'r Ganolfan.

    (2) Cynhelir cyfarfodydd a thrafodion pwyllgor a benodir o dan y rheoliad hwn yn unol â'r rheolau sefydlog a wneir gan y Ganolfan.

    (3) Caiff pwyllgor a benodir o dan y rheoliad hwn, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth yn y rheolau sefydlog a wneir gan y Ganolfan, benodi is-bwyllgorau sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn cynnwys aelodau o'r pwyllgor.

Cyfarfodydd a thrafodion
    
10.  - (1) Rhaid cynnal cyfarfodydd a thrafodion y Ganolfan yn unol â'r rheolau a nodir yn yr Atodlen i hyn ac yn unol â'r rheolau sefydlog a wneir o dan baragraff (2).

    (2) Yn ddarostyngedig i'r rheolau hynny, rhaid i'r Ganolfan wneud, a chaiff amrywio neu ddirymu, rheolau sefydlog ar gyfer rheoli ei drafodion a'i fusnes



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Gorffennaf 2004



YR ATODLEN
Rheoliad 10

Rheolau ynghylch cyfarfodydd a thrafodion y Ganolfan
     1. Cynhelir cyfarfod cyntaf y Ganolfan ar ddiwrnod ac mewn man y caiff y Cynulliad ei bennu a'r cadeirydd fydd yn gyfrifol am gynnull y cyfarfod.

     2.  - (1) Caiff y cadeirydd alw cyfarfod y Ganolfan ar unrhyw adeg ond rhaid iddo sicrhau bod o leiaf dri chyfarfod o'r Ganolfan yn cael eu cynnull yn y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Ebrill yn unrhyw flwyddyn ac sy'n dod i ben ar 31 Mawrth yn y flwyddyn ganlynol.

    (2) Os bydd y cadeirydd yn gwrthod galw cyfarfod wedi i gais at y diben hwnnw, a lofnodwyd gan o leiaf draean o'r aelodau, gael ei gyflwyno iddo, neu os nad yw'n gwrthod, ond nad yw'n galw cyfarfod o fewn saith diwrnod ar ôl i gais o'r fath gael ei gyflwyno iddo, gall y traean hwnnw neu fwy o'r aelodau alw cyfarfod yn ddiymdroi.

    (3) Cyn pob cyfarfod o'r Ganolfan, rhaid i hysbysiad o'r cyfarfod, yn nodi'r busnes y bwriedir ei drin ynddo, ac wedi'i lofnodi gan y cadeirydd neu gan swyddog o'r Ganolfan a awdurdodwyd gan y cadeirydd i lofnodi ar ei ran gael ei draddodi i bob aelod ac i'r Cynulliad, neu gael ei anfon drwy'r post i breswylfa arferol aelod o'r fath neu i'r cyfryw gyfeiriad arall a hysbyswyd o flaen llaw gan yr aelod fel ei fod ar gael i aelod o'r fath o leiaf saith niwrnod clir cyn y cyfarfod.

    (4) Ni fydd diffyg cyflwyno'r hysbysiad i unrhyw aelod neu i'r Cynulliad yn effeithio ar ddilysrwydd cyfarfod.

    (5) Yn achos cyfarfod sy'n cael ei alw gan aelodau oherwydd diffyg y cadeirydd, rhaid i'r hysbysiad gael ei lofnodi gan yr aelodau hynny ac ni chaiff unrhyw fusnes ei drin yn y cyfarfod heblaw'r hyn a bennir yn yr hysbysiad.

    (6) Bydd gan gynrychiolydd o'r Cynulliad yr hawl i fynychu cyfarfodydd y Ganolfan neu unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor a benodir yn unol â rheoliad 9.

    (7) Ni fydd trafodion y Ganolfan yn annilys drwy unrhyw swydd wag yn ei haelodaeth neu drwy unrhyw ddiffyg ym mhenodiad aelod.

     3.  - (1) Mewn unrhyw gyfarfod o'r Ganolfan, y cadeirydd, os yw'n bresennol, fydd yn llywyddu.

    (2) Os yw'r cadeirydd yn absennol o'r cyfarfod, yr is- gadeirydd, os oes un wedi'i benodi ac os yw'n bresennol, fydd yn llywyddu.

    (3) Os yw'r cadeirydd a'r is-gadeirydd yn absennol, bydd yr aelodau sy'n bresennol yn dewis pwy a fydd yn llywyddu.

     4. Rhaid i bob cwestiwn mewn cyfarfod o'r Ganolfan gael ei benderfynu gan fwyafrif pleidleisiau'r aelodau sy'n bresennol ac yn pleidleisio y cwestiwn ac, os yw'r pleidleisiau yn gyfartal, bydd gan y person sy'n llywyddu ail bleidlais a fydd yn bleidlais fwrw.

     5. Rhaid cofnodi enwau'r cadeirydd, yr aelodau a phersonau eraill sy'n bresennol yn y cyfarfod.

     6. Ni chaiff unrhyw fusnes ei drin mewn cyfarfod o'r Ganolfan onid yw'r nifer sy'n bresennol ddim llai na thraean aelodaeth gyfan y Ganolfan

     7. Caiff cofnodion trafodion cyfarfod y Ganolfan eu llunio a'u cyflwyno er mwyn cael cytundeb arnynt yng nghyfarfod nesaf y Ganolfan, lle cânt, os cytunir arnynt, eu llofnodi gan y person sy'n llywyddu.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfansoddiad ac aelodaeth Canolfan Iechyd Cymru yn barod er mwyn sefydlu'r Ganolfan.

Mae Canolfan Iechyd Cymru i'w sefydlu yn Ebrill 2005 (pan ddaw, at bob diben, adrannau 2 a 3 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003 i rym) a bydd ganddi swyddogaethau datblygu a chynnal trefniadau ar gyfer sicrhau bod gwybodaeth am faterion sy'n ymwneud â diogelu a gwella iechyd yng Nghymru ar gael i'r cyhoedd yng Nghymru ac ymgymryd ag ymchwil a'i gomisiynu i faterion o'r fath a chyfrannu at ddatblygu hyfforddiant yn y materion hynny.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer gweithdrefnau a threfniadau gweinyddol penodol i'r Ganolfan.


Notes:

[1] 2003 p.4.back

[2] Caiff Canolfan Iechyd Cymru ei sefydlu pan ddaw adrannau 2 a 3 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003 ac Atodlen 2 iddi i rym ("y Ddeddf"). Daeth adrannau 2 a 3 o'r Ddeddf a pharagraff 10 o Atodlen 2 iddi i rym at ddibenion gwneud rheoliadau yn unig ar 20 Hydref 2003 yn unol â Gorchymyn Deddf Iechyd (Cymru) 2003 (Cychwyn Rhif 1) 2003 O.S.2003/2660 (Cy.256) (C.102).back

[3] 1998 p.18.back

[4] 1990 p.40.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11090976 3


  © Crown copyright 2004

Prepared 19 July 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041742w.html