BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Gwaith Penodedig a Chofrestru) (Cymru) 2004 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20041744w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 6 Gorffennaf 2004 | ||
Yn dod i rym | 1 Medi 2004 |
Y gofyniad i fod yn gymwysedig
5.
Ni chaiff neb gyflawni gwaith a bennir yn rheoliad 6 mewn ysgol onid ydynt -
Gwaith penodedig
6.
- (1) Mae pob un o'r gweithgareddau canlynol yn waith penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn -
(2) Ym mharagraff (1)(b) mae "cyflwyno" yn cynnwys cyflwyno drwy ddysgu o bell neu dechnegau drwy gymorth cyfrifiadur.
Y gofyniad i fod yn gofrestredig
7.
Dim ond os ydynt wedi'u cofrestru o dan adran 3 o Ddeddf 1998 (cofrestr sy'n cael ei chadw gan y Cyngor Addysgu Cyffredinol)[8]) y caiff athrawon cymwysedig gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
6 Gorffennaf 2004
Y Rheoliadau sy'n cael eu Dirymu | Cyfeirnod | Graddau'r Dirymu |
Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon a Safonau Iechyd) (Cymru) 1999 | O.S. 1999/2817 (Cy.18) | Paragraffau 4, 6 a 7 o Ran II o Atodlen 1; Atodlen 2 |
Rheoliadau Athrawon (Cofrestru Gorfodol) (Cymru) 2000 | O.S. 2000/3122 (Cy. 200) | Y Rheoliadau cyfan |
i gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol heb ganiatâd y Cynulliad Cenedlaethol.
Athrawon trwyddedig, athrawon sydd wedi'u hyfforddi dramor ac athrawon cofrestredig
2.
- (1) Bydd Rheoliadau 1993 yn parhau i fod yn gymwys fel petai Rheoliadau Addysg (Athrawon) (Diwygio) (Rhif 2) 1997[10], Rheoliadau 1999, Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004[11] a'r Rheoliadau hyn heb gael eu gwneud at ddibenion -
(2) Caiff personau sy'n cael eu cyflogi mewn ysgol yn rhinwedd paragraff (1)(a) gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol nes iddynt beidio â bod yn gyflogedig felly.
Athrawon Graddedig
3.
Yn achos personau a gafodd awdurdodiad cyn 1 Medi 2004 i addysgu yn rhinwedd paragraffau 5 i 11 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999, bydd y paragraffau hynny yn parhau i gael effaith fel petai'r Rheoliadau hyn heb gael eu gwneud, nes y bydd y personau hynny wedi cwblhau'n llwyddiannus yr hyfforddiant arfaethedig yn rhinwedd y paragraffau hynny neu'n peidio ag ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw.
Athrawon Cofrestredig
4.
Yn achos personau a gafodd awdurdodiad cyn 1 Medi 2004 i addysgu yn rhinwedd paragraffau 12 i 18 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999, bydd y paragraffau hynny yn parhau i gael effaith fel petai'r Rheoliadau hyn heb gael eu gwneud, nes y bydd y personau hynny wedi cwblhau'n llwyddiannus yr hyfforddiant arfaethedig yn rhinwedd y paragraffau hynny neu'n peidio ag ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw.
Yr athrawon anghymwysedig presennol mewn dosbarthiadau meithrin ac mewn ysgolion meithrin
2.
- (1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos -
y caniatawyd eu cyflogi fel athrawon gan baragraff 4 o Atodlen 4 i Reoliadau 1982 ac a oedd yn cael eu cyflogi felly yn union cyn 1 Medi 1989.
(2) Caiff personau o'r fath gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol, yn yr un swyddogaeth ag yr oedd yn cael eu cyflogi ynddi cyn 1 Medi 1989.
Hyfforddwyr gyda chymwysterau arbennig neu brofiad arbennig
3.
- (1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau nad ydynt yn athrawon cymwysedig a benodwyd, neu y bwriedir eu penodi, i roi hyfforddiant mewn unrhyw grefft neu sgil neu mewn unrhyw bwnc neu grwp o bynciau (gan gynnwys unrhyw ffurf ar hyfforddiant galwedigaethol), y mae angen cymwysterau arbennig neu brofiad arbennig neu'r ddau er mwyn cyflawni'r gwaith a bennwyd yn rheoliad 6.
(2) Caiff personau a grybwyllwyd yn is-baragraff (1) gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol os, ar adeg eu penodiad -
(3) Dim ond am y cyfnod pan nad oes unrhyw athrawon cymwysedig, athrawon graddedig, athrawon cofrestredig neu athrawon sydd ar y cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth addas ar gael i'w penodi neu i roi'r hyfforddiant hwnnw y caiff personau sy'n cael eu penodi yn unol ag is-baragraffau (1) a (2) gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol, yn ddarostyngedig i is-baragraff (4).
(4) Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys yn achos personau o'r fath a benodwyd cyn 8 Ebrill 1982 -
Athrawon a Hyfforddwyd Dramor
4.
- (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), caiff personau nad ydynt yn athrawon cymwysedig gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol (ac eithrio uned cyfeirio disgyblion) os ydynt wedi cwblhau'n llwyddiannus raglen o hyfforddiant proffesiynnol i athrawon mewn unrhyw wlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig a honno'n rhaglen sy'n cael ei chydnabod fel rhaglen hyfforddiant o'r fath gan yr awdurdod cymwys yn y wlad honno.
(2) Ni fydd is - baragraff (1) yn gymwys yn achos personau a grybwyllwyd yn yr is-baragraff hwnnw ar ôl i gyfnod o ddwy flynedd ddirwyn i ben, gan ddechrau ar ba un bynnag o'r canlynol yw'r cynharaf -
Athrawon graddedig
5.
- (1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau a gafodd awdurdodiad i addysgu yn unol â pharagraffau 5 i 11 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 cyn 1 Medi 2004.
(2) Caiff personau o'r fath gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol nes eu bod wedi cwblhau'n llwyddiannus yr hyfforddiant arfaethedig yn rhinwedd y pargraffau hynny neu'n peidio ag ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw.
Athrawon cofrestredig
6.
- (1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau a gafodd awdurdodiad i addysgu yn unol â pharagraffau 12 i 18 o Atodlen 2 i Reoliadau 1999 cyn 1 Medi 2004.
(2) Caiff personau o'r fath gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol nes eu bod wedi cwblhau'n llwyddiannus yr hyfforddiant arfaethedig yn rhinwedd y paragraffau hynny neu'n peidio ag ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw.
Cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth
7.
- (1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau sy'n ymgymryd â hyfforddiant at ddibenion cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth.
(2) Caiff personau o'r fath gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol nes eu bod yn cwblhau'r hyforddiant hwnnw'n llwyddiannus neu'n peidio ag ymgymryd ag ef.
Personau eraill sy'n cael cyflawni gwaith penodedig
8.
- (1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys yn achos personau nad ydynt yn athrawon cymwysedig ac nad ydynt wedi'u crybwyll ym mharagraffau 2 i 7 o'r Atodlen hon.
(2) Dim ond os yw'r amodau canlynol yn cael eu bodloni y caiff personau o'r fath gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol -
(3) Os ydynt yn barnu bod yr enwebiad yn briodol o dan yr amgylchiadau, caiff penaethiaid enwebu'n athrawon a enwebir at ddiben is-baragraff (2) bersonau a grybwyllwyd ym mharagraff 3, 4, 5, 6 neu 7 o'r Atodlen hon.
(4) Wrth benderfynu a oes gan y personau a grybwyllwyd yn is-baragraff (1) y sgiliau, yr arbenigedd a'r profiad y mae eu hangen i gyflawni gwaith a bennwyd yn rheoliad 6 mewn ysgol, caiff penaethiaid ystyried -
[3] O.S. 1959/364 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1968/1281, 1969/1777, 1971/342, 1973/2021 a 1978/1144.back
[4] O.S. 1982/106 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1988/542 a 1989/329.back
[5] O.S. 1989/1319 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1989/1541, 1990/1561, 1991/1134, 1991/1840, 1991/2240 a 1992/1809.back
[6] O.S. 1993/543 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/368, 1997/2679 a 1998/1584.back
[7] O.S. 1999/2817 (Cy. 18) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1663 (Cy. 158), 2002/2938 (Cy. 279), 2003/140 (Cy. 12), 2003/2458 (Cy. 240) ac fel y'i dirymwyd yn rhannol gan O.S. 2004/1729 (Cy173).back
[8] Y Rheoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd o dan y ddarpariaeth hon yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000, O.S. 2000/1979 (Cy. 140) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/2496 (Cy. 200) ac O.S. 2004/1741 (Cy.180).back
[11] O.S. 2004/1729 (Cy.173).back
[12] O.S. 2004/1729 (Cy.173).back