BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2004 Rhif2662 (Cy.233)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Cynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Modwleiddio) (Cymru) (Diwygio) 2004
|
Wedi'u gwneud |
12 Hydref 2004 | |
|
Yn dod i rym |
16 Hydref 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Modwleiddio) (Cymru) (Diwygio) 2004 a deuant i rym ar 16 Hydref 2004.
Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Modwleiddio) (Cymru) 2000
2.
Diwygir Rheoliadau Cynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Modwleiddio) (Cymru) 2000[3] fel a ganlyn.
(a) yn rheoliad 2(2) dileer y geiriau "IACS";
(b) yn rheoliad 3(1) -
(i) dileer y diffiniadau o "cynllun cymorth IACS" ac "atodiad ALlFf";
(ii) yn y diffiniad o "Rheoliad y Cyngor", ar ôl y gair "Ewropeaidd" mewnosoder y geiriau canlynol, ", fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) 41/2004"[4]);
(iii) yn y diffiniad o "Rheoliad y Cyngor 3508/92", ar ôl y geiriau "y Gymuned" mewnosoder y geiriau canlynol, ", fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) 495/2001"[5];
(iv) yn y diffiniadau o "ffermwr" a "daliad", yn lle'r geiriau "Erthygl 1(4)" rhodder y geirau "Erthygl 1(3)";
(v) yn y diffiniad o "dibenion perthnasol", yn lle'r geiriau "Erthyglau 13 i 24 (yn gynhwysol)" rhodder y geiriau "Erthyglau 13 i 20, Erthyglau 22 i 24"; a
(vi) yn y diffiniad o "y Rheoliad Datblygu Gwledig", ar ôl y geiriau "Rheoliadau penodol" mewnosoder y geiriau canlynol ", fel y'u diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) 1783/2003"[6].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
12 Hydref 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, a fydd yn dod i rym ar 16 Hydref 2004, yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Modwleiddio) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/3294 (Cy.216), fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2001/3680 (Cy.301)) ("y prif Reoliadau").
Mae "modwleiddio" yn ymwneud â gwneud didyniad o'r taliadau sy'n ddyledus o dan gynlluniau cymorth uniongyrchol y Polisi Amaethyddol Cyffredin ac ailddyranu'r swm hwnnw a ddidynnwyd fel cymorth i fesurau datblygu gwledig. Nodir canran y didyniad ar gyfer taliadau'r cynlluniau cymorth uniongyrchol yn rheoliad 4(3) o'r prif Reoliadau.
Mae'r Rheoliadau diwygio hyn yn adlewyrchu'r diwygiad i Reoliad y Cyngor (EC) 1259/1999 (O.J. Rhif L160, 26.6.1999, t.113) gan Reoliad y Comisiwn (EC) 41/2004 (O.J. Rhif L006, 10.01.2004, t.19), sy'n disodli'r Atodiad i'r Rheoliad y Cyngor hwnnw.
Effaith hyn yw y bydd taliadau o dan y cynlluniau cymorth uniongyrchol a gyflwynir gan Deitl IV o Reoliad y Cyngor (EC) 1782/2003 (O.J. Rhif L270, 21.10.2003, t.1) (premiwm godro a thaliadau ychwanegol, gwenith caled, cnydau protein, starts tatws, cnau a chnydau ynni) yn ddarostyngedig i fodwleiddio yng Nghymru, yn ychwanegol at y cynlluniau cymorth uniongyrchol sydd eisoes yn ddarostyngedig i fodwleiddio
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau i ddiweddaru'r prif Reoliadau i adlewyrchu mân ddiwygiadau a diwygiadau technegol eraill i offerynnau eraill gan y Gymuned.
Fe ddarparwyd arfarniad rheoliadol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn, a gellir cael copi oddi wrth Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Notes:
[1]
Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) 1999 (1999/2788).back
[2]
1972 p.68.back
[3]
O.S. 2000/3294 (Cy.216), diwygiwyd gan O.S. 2001/3680 (Cy.301).back
[4]
O.J. Rhif L006, 10.01.2004, t.19.back
[5]
O.J. Rhif L072, 14.3.2001, t.6. Diddymwyd Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 3508/92 gan Erthygl 153(1) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 (O.J. Rhif L270, 21.10.2003, t.1), ond mae'n parhau i fod yn gymwys i geisiadau am daliadau uniongyrchol mewn perthynas â'r blynyddoedd calendr cyn 2005 yn rhinwedd yr Erthygl honno.back
[6]
O.J. Rhif L270, 21.10.2003, t.70.back
[7]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091004 4
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
21 October 2004
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042662w.html