BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042695w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif2695 (Cy.235)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004

  Wedi'u gwneud 19 Hydref 2004 
  Yn dod i rym 20 Hydref 2004 


TREFN Y RHEOLIADAU

1. Enwi, cychwyn a chymhwyso
2. Dirymu
3. Dehongli
4. Datgymhwyso rhag maethu plentyn yn breifat
5. Datgymhwyso rhag cofrestru ar gyfer gwarchod plant a darparu gofal dydd
6. Hepgoriadau
7. Dyletswydd i ddatgelu
8. Penderfyniadau rhagnodedig

  YR ATODLEN
 RHAN I TRAMGWYDDAU PENODEDIG
 RHAN II PERSONAU SYDD WEDI'U DATGYMHWYSO
 RHAN III RHESTRI DATGYMHWYSO

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 68(1) a (2), 79C(2) a (3), 79M(1)(c) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989[
1], a pharagraff 4 o Atodlen 9A iddi, ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â Chymru, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 20 Hydref 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dirymu
    
2. Dirymir drwy hyn Reoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2002[3].

Interpretation
     3.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn  - 

    (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfa a reolir ganddo yn swyddfa briodol mewn perthynas ag unrhyw berson cofrestredig neu geisydd am gofrestriad o dan Ran XA o'r Ddeddf.

Datgymhwyso rhag maethu plentyn yn breifat
     4.  - (1) At ddibenion adran 68 o'r Ddeddf (personau sydd wedi'u datgymhwyso rhag bod yn rhieni maeth preifat) mae person wedi'i ddatgymhwyso rhag maethu plentyn yn breifat  - 

    (2) Ni fydd person sydd wedi apelio'n llwyddiannus yn erbyn collfarn neu benderfyniad yn berson sydd wedi'i ddatgymhwyso o dan baragraff (1) mewn perthynas a'r gollfarn honno neu'r penderfyniad hwnnw.

Datgymhwyso rhag cofrestru ar gyfer gwarchod plant a darparu gofal dydd
    
5.  - (1) At ddibenion paragraff 4 o Atodlen 9A i'r Ddeddf (datgymhwyso rhag cofrestru) mae person, yn ddarostyngedig i reoliad 6, wedi'i ddatgymhwyso  - 

    (2) Yn ddarostyngedig i reoliad 6, mae person sy'n byw  - 

wedi'i ddatgymhwyso.

    (3) Ni fydd person wedi'i ddatgymhwyso o dan baragraff (1) mewn perthynas ag unrhyw dramgwydd neu benderfyniad os yw wedi apelio'n llwyddiannus yn erbyn y collfraniad neu'r penderfyniad.

Hepgoriadau
    
6.  - (1) Pan fyddai person wedi'i ddatgymhwyso yn rhinwedd rheoliad 5 ond bod y person hwnnw wedi datgelu i'r Cynulliad Cenedlaethol y ffeithiau a fyddai'n arwain at y datgymhwysiad a bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi rhoi caniatâd ysgrifenedig a heb ei dynnu'n ôl, yna ni fydd y person hwnnw'n cael ei ystyried yn berson sydd wedi'i ddatgymhwyso at ddibenion y Rheoliadau hyn oherwydd y ffeithiau a ddatgelwyd felly.

    (2) Nid yw person wedi't ddatgynhwyso o dan reoliad 5 os yw'r person hwnnw, cyn 1 Ebrill 2002, - 

Dyletswydd i Ddatgelu
    
7.  - (1) Bydd dyletswydd barhaol drwy gydol y cyfnod cofrestru ar berson sydd wedi'i gofrestru yn warchodydd plant neu'n ddarparydd gofal dydd neu'n cael ei gyflogi mewn cysylltiad â darparu gofal dydd yn unol ag adran 79D o'r Ddeddf i roi i'r Cynulliad Cenedlaethol yr wybodaeth sydd wedi'i rhestru yn is-adran (2) o ran:

sef gorchymyn neu dramgwydd sy'n sail ar gyfer datgymhwyso o dan y Rheoliadau hyn.

    (2) Y wybodaeth y mae'n rhaid iddi gael ei rhoi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion paragraff (1) yw - 

    (3) Rhaid i'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) gael ei rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

    (4) Bydd person sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn yn euog o dramgwydd.

    (5) Bydd person a geir yn euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Penderfyniadau Rhagnodedig
    
8. At ddibenion adran 79M(1)(c) o'r Ddeddf (apelau i'r Tribiwnlys), mae penderfyniad ynglyn â datgymhwyso person rhag cofrestru ar gyfer gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd o dan Atodlen 9A o'r Ddeddf yn benderfyniad sydd wedi'i ragnodi.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7]


D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

19 Hydref 2004



YR ATODLEN
Rheoliadau 4 a 5



RHAN I

TRAMGWYDDAU PENODEDIG

Tramgwyddau yn erbyn plant
     1.

ni fydd person wedi'i ddatgymhwyso o dan y paragraff hwn am unrhyw dramgwydd os yw'r person wedi apelio'n llwyddiannus yn erbyn y gorchymyn datgymhwyso (yn unol ag adran 31 o Ddeddf 2000) neu os yw'r Tribiwnlys wedi penderfynu (yn unol ag adran 32 o'r Ddeddf honno) na fydd y person hwnnw yn ddarostyngedig mwyach i'r gorchymyn datgymhwyso (oni bai bod yr Uchel Lys wedi adfer y gorchymyn datgymhwyso yn unol ag adran 34 o'r Ddeddf honno yn sgil penderfyniad o'r fath).

Tramgwyddau Eraill
     2. Unrhyw dramgwydd  - 

ni fydd person wedi'i ddatgymhwyso o dan y paragraff hwn am unrhyw dramgwydd os yw'r person wedi apelio'n llwyddiannus yn erbyn y gorchymyn datgymhwyso (yn unol ag adran 31 o Ddeddf 2000) neu os yw'r Tribiwnlys wedi penderfynu (yn unol ag adran 32 o'r Ddeddf honno) na fydd y person yn ddarostyngedig mwyach i'r gorchymyn datgymhwyso, (oni bai bod yr Uchel Lys wedi adfer y gorchymyn datgymhwyso yn unol ag adran 34 o'r Ddeddf honno yn sgil penderfyniad o'r fath), ac ymhellach bydd person yn peidio â bod yn berson sydd wedi'i ddatgymhwyso o dan y paragraff hwn os yw'r cyfnod adsefydlu sy'n gymwys i'r collfarniad o dan Ddeddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974 wedi dod i ben.

     3. Tramgwydd o dan unrhyw un o'r canlynol - 

     4. Tramgwydd mewn perthynas â chartref plant o dan neu yn rhinwedd unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Deddf Safonau Gofal 2000 - 

Tramgwyddau yn yr Alban
     5. Tramgwydd treisio.

     6. Tramgwydd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995[12].

     7. Plagiwm, sef tramgwydd cyfraith gyffredin, o ddwyn plentyn islaw oedran aeddfedrwydd.

     8. Tramgwydd o dan adran 52 neu 52A o Ddeddf Llywodraeth Ddinesig (Yr Alban) 1982 (tramgwyddau mewn perthynas â ffotograffau anweddus o blant)[13]).

     9. Tramgwydd o dan adran 3 o Ddeddf Tramgwyddau Rhywiol (Diwygio) 2000[14] (camddefnydd o ymddiriedaeth).

     10. Tramgwydd o dan unrhyw un o'r canlynol - 

     11. Tramgwydd o dan neu yn rhinwedd adran 60(3), 61(3) neu 62(6) o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 (tramgwyddau ynglyn â sefydliadau preswyl a sefydliadau eraill).

     12. Tramgwydd ynglyn â gwasanaeth cartref gofal, gwarchod plant neu ofal dydd dros blant, o dan unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Deddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001[19] neu yn rhinwedd unrhyw un o'r darpariaethau hynny  - 

Tramgwyddau yng Ngogledd Iwerddon
     13. Tramgwydd a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Amddiffyn Plant ac Oedolion sy'n Agored i Niwed (Gogledd Iwerddon) 2003[20]).

     14. Tramgwydd o dan unrhyw un o'r canlynol - 

Tramgwyddau yn Ynysoedd y Sianel
     15. Tramgwydd yn groes i'r canlynol  - 

     16. Tramgwydd yn groes i'r canlynol - 

Tramgwyddau yn Ynys Manaw
     17. Tramgwydd a bennir yn Atodlen 8 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald)[31].

Tramgwyddau eraill
     18. Tramgwydd yn groes i adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979[32] mewn perthynas â nwyddau y gwaherddir eu mewnforio o dan adran 42 o Ddeddf Cydgrynhoi Tollau 1876 (gwaharddiadau a chyfyngiadau)[33] os oedd y nwyddau gwaharddedig yn cynnwys ffotograffau anweddus o blant o dan 16 oed.

     19. Tramgwydd yn rhinwedd  - 

     20. Tramgwydd yn groes i adran 32(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1969 (cadw personau absennol).



RHAN II

PERSONAU PERTHNASOL

     21. Mae'r person yn rhiant i blentyn y mae gorchymyn wedi'i wneud ar unrhyw bryd ynglyn ag ef o dan  - 

     22. Mae un o'r gorchmynion canlynol wedi'i wneud ar unrhyw bryd ynglyn â phlentyn er mwyn symud y plentyn o ofal y person neu er mwyn atal y plentyn rhag byw gyda'r person  - 

     23. Mae gofyniad goruchwylio wedi'i osod ar unrhyw bryd ynglyn â phlentyn er mwyn symud y plentyn hwnnw o ofal y person, o dan  - 

     24. Mae hawliau a phwerau'r person perthnasol mewn perthynas â phlentyn wedi'u breinio ar unrhyw bryd mewn awdurdod lleol yn yr Alban  - 

     25. O ran y person - 

     26. Mae cofrestriad wedi'i wrthod i'r person ar unrhyw bryd mewn perthynas â chartref gwirfoddol neu gartref plant, neu mae'r person hwnnw wedi rhedeg cartref gwirfoddol neu gartref plant neu yr oedd fel arall yn ymwneud â'i reoli, neu yr oedd ganddo unrhyw fuddiant ariannol ynddo, ac mae cofrestriad y cartref hwnnw wedi'i ganslo o dan y canlynol, yn ôl y digwydd - 

     27. O ran y person  - 

     28. Mae cofrestriad wedi'i wrthod i'r person ar unrhyw bryd ar gyfer darparu meithrinfeydd neu ofal dydd neu ar gyfer gwaith gwarchod plant neu mae wedi'i ddatgymhwyso rhag cofrestru neu mae unrhyw gofrestriad o'r fath a oedd gan y person hwnnw wedi'i ganslo o dan, yn ôl fel y digwydd  - 

     29. Mae cofrestriad wedi'i wrthod i'r person ar unrhyw bryd neu mae ei gofrestriad wedi'i ganslo o dan adran 62 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968 (cofrestru sefydliadau preswyl a sefydliadau eraill).

     30. Mae cofrestriad yn ddarparydd asiantaeth gofal plant wedi'i wrthod i'r person ar unrhyw bryd o dan adran 7 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 neu mae ei gofrestriad wedi'i ganslo o dan adran 12 o'r Ddeddf honno.

     31. Mae'r person wedi'i gynnwys ar unrhyw bryd mewn rhestr o bersonau sy'n anaddas i weithio gyda phlant o dan adran 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant ac Oedolion Hawdd eu Niweidio (Gogledd Iwerddon) 2003 neu y mae wedi'i ddatgymhwyso rhag gweithio gyda phlant o dan Ran 2 o'r Gorchymyn hwnnw.



RHAN III

RHESTRI PERTHNASOL

Rhestr y Ddeddf Amddiffyn Plant
     32. Person sydd wedi'i gynnwys yn y rhestr o bersonau a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (rhestr o'r rhai y mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn barnu eu bod yn anaddas i weithio gyda phlant)[
50].

Rhestr y Ddeddf Diwygio Addysg
     33. Person sydd wedi'i gynnwys ar y seiliau a grybwyllir yn is-adran (6ZA)(c) o adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[51], yn y rhestr a gedwir at ddibenion rheoliadau[52] a wnaed o dan is-adran (6) o'r adran honno (rhestr o'r rhai sydd wedi'u gwahardd neu wedi'u cyfyngu rhag addysgu).

Rhestr Deddf Addysg 1996
     34. Mae person sydd wedi'i gynnwys, ar seiliau anaddasrwydd i weithio gyda phlant, mewn unrhyw restr a gedwir gan yr Ysgrifennydd Gwladol o bersonau sy'n ddarostyngedig i ddatgymhwysiad a osodir o dan adran 470 neu 471 o Ddeddf Addysg 1996[53]) (datgymhwyso personau rhag bod yn berchenogion ar ysgolion annibynnol neu rhag bod yn athrawon neu gyflogeion mewn unrhyw ysgol).



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn disodli, gydag addasiadau, Reoliadau Datgymhwyso rhag Gofalu am Blant (Cymru) 2002. Maent yn darparu ar gyfer yr amgylchiadau lle mae person yn cael ei ddatgymhwyso rhag maethu plentyn yn breifat (rheoliad 4). Yn ychwanegol maent yn nodi'r categorïau o bersonau sydd wedi'u datgymhwyso rhag cofrestru yng Nghymru fel gwarchodwyr plant neu ddarparwyr gofal dydd. Rhaid i bersonau sydd wedi'u datgymhwyso o dan y Rheoliadau hyn beidio â darparu gofal dydd nac ymwneud â rheoli unrhyw ddarpariaeth gofal dydd na chael unrhyw fuddiant ariannol ynddi. Rhaid peidio â'u cyflogi ychwaith mewn cysylltiad â darparu gofal dydd. Mae Rheoliad 6 yn darparu ar gyfer hepgor y datgymhwysiad o dan amgylchiadau penodol gyda'r canlyniad nad ystyrir bod person wedi'i ddatgymhwyso pan fo cydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu awdurdod lleol cyn 1 Ebrill 2002, wedi'i roi. Mae Rheoliad 7 yn gosod dyletswydd barhaol ar warchodwyr plant cofrestredig neu ddarparwyr gofal dydd cofrestredig i hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o unrhyw gollfarn ddilynol neu orchymyn dilynol a fyddai'n sail ar gyfer datgymhwyso.

Paratowyd Arfarniad Rheoliadol mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Gyfarwyddiaeth Plant a Theuluoedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Ffôn: 02920 825736)


Notes:

[1] 1989 p.41.back

[2] Mae'r swyddogaethau hyn, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672. Mewnosodwyd adran 79M ac Atodlen 9A yn y Ddeddf gan adran 79 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14) ac Atodlen 3 iddi. Gweler adran 120(2) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ar gyfer cymhwysiad O.S. 1999/672 at y Ddeddf fel y'i diwygiwyd gan y Ddeddf honno. I gael ystyr "prescribed" gweler adran 105(1) o Ddeddf 1989 ac i gael ystyr "regulations" gweler adran 79B(7) o'r Ddeddf honno a fewnosodwyd gan adran 79 o Ddeddf Safonau Gofal 2000.back

[3] O.S. 2002/896 (Cy.102).back

[4] 1974 p.53back

[5] 2000 p.43back

[6] 1999 p.14.back

[7] 1998 p. 38.back

[8] 2003 p.42back

[9] 1980 p.6. Cafodd y ddarpariaeth hon ei diddymu gan Ddeddf Plant 1989.back

[10] 1958 p.65. Cafodd y ddarpariaeth hon ei diddymu gan Ddeddf Plant Maeth 1980.back

[11] Mae'r darpariaethau hyn wedi'u diddymu gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 o 1 Ebrill 2002 ymlaen (O.S. 2001/3852).back

[12] 1995 p.46.back

[13] 1982 p.45. Mewnosodwyd adran 52A gan adran 161 o Ddeddf Cyfiawder Troseddol 1988 (p.33)back

[14] 2000 p.44.back

[15] 1995 p.36.back

[16] 1968 p.49. Diddymwyd adrannau 17(8) a 71 o Ddeddf 1968 gan Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.back

[17] 1984 p.37.back

[18] 1984 p.56back

[19] 2001 dsa.8.back

[20] O.S. 2003/417 (G.I.4).back

[21] O.S. 1995/755 (G.I.2).back

[22] 1968 p.back

[23] Deddf Jersey 16/1969.back

[24] Deddf Jersey 51/2002.back

[25] Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyf IV, t.288.back

[26] Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyf V, t.74.back

[27] Gorchymynion yn y Cyfrin Gyngor Cyf. VIII, t.273.back

[28] Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyf V, t. 342, fel y'u diwygiwyd gan y Loi Supplementaire à la Loi ayant rapport à la Protection des Enfants et des Jeunes Personnes 1937, Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyf XI, t.116, a Deddf Amddiffyn Plant a Phobl Ifanc (Diwygio) 1955, Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyf XVI, t.277.back

[29] Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor Rhif 1 o 1967.back

[30] Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor Cyf. XXIX fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn yn y Cyngor 1 1991, sef Gorchymyn Gweinyddu Cyfiawnder (Beilïaeth Guernsey) (Deddf) 1985.back

[31] 2001 p.20 (Ynys Manaw).back

[32] 1979 p.2.back

[33] 1876 p.36.back

[34] 1997 p.51.back

[35] 1995 c.39.back

[36] Daeth Rhan IV o'r Ddeddf i rym ar 14 Hydref 1991.back

[37] 2000 p.6.back

[38] Diddymwyd adran 12AA gan Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddau (Dedfrydu) 2000.back

[39] 1968 p.34 (G.I.). Diddymwyd y darpariaethau sy'n ymwneud â'r gorchmynion hyn gan Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 a Gorchymyn Cyfiawnder Troseddol (Plant) (Gogledd Iwerddon) 1998.back

[40] Diddymwyd adran 44 gan Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.back

[41] Diddymwyd adran 16 gan Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.back

[42] Mae'r ddarpariaeth hon, a'r rhai a grybwyllir yn yr is-baragraff canlynol, wedi'u diddymu gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 a hynny'n weithredol o 1 Ebrill 2002 (O.S. 2001/3852).back

[43] Cafodd yr adran hon, a phob adran arall o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 y cyfeirir ati isod yn yr Atodlen hon, eu diddymu gan Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995.back

[44] 1980 p.86. Cafodd y Ddeddf Plant Maeth ei diddymu gan Ddeddf Plant 1989.back

[45] 1958 p.65. Cafodd adran 4 ei diddymu gan Ddeddf Plant Maeth 1980.back

[46] 1984 p.56.back

[47] 1948 p.53. Cafodd y Ddeddf hon ei diddymu gan Ddeddf Plant 1989.back

[48] 2001 dsa. 8.back

[49] Diddymwyd Rhan X o Ddeddf Plant 1989 gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 a rhoddwyd Rhan XA yn ei lle.back

[50] 1999 p.14.back

[51] 1988 p.40; mewnosodwyd is-adran (6ZA) gan adran 5 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 a diwygiwyd is-adran (6) gan yr adran honno a chan adran 290(3) o Ddeddf Addysg 1993 (p.35);back

[52] Rheoliadau Addysg (Cyfyngu Cyflogaeth) 2000 (O.S. 2000/2419) yw'r rheoliadau cyfredol.back

[53] 1996 p.56.back



English version



ISBN 0 11091005 2


  © Crown copyright 2004

Prepared 27 October 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042695w.html