BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2004 Rhif2697 (Cy.236)
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Gorchymyn Tatws o Wlad Pwyl (Hysbysu) (Cymru) 2004
|
Wedi'i wneud |
19 Hydref 2004 | |
|
Yn dod i rym |
20 Hydref 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 2, 3(1), (2) a (4) a 4(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967[1], fel y'u darllenir gydag adran 20 o Ddeddf Amaethyddol (Darpariaethau Amrywiol) 1972[2], sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tatws o Wlad Pwyl (Hysbysu) (Cymru) 2004, mae'n gymwys i Gymru a daw i rym ar 20 Hydref 2004.
Dehongli
2.
Yn y Gorchymyn hwn -
ystyr "arolygydd" ("inspector") yw unrhyw berson a awdurdodwyd i fod yn arolygydd at ddibenion y prif Orchymyn;
ystyr "y prif Orchymyn" ("the principal Order") yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993[3];
ystyr "taten" ("potato") yw unrhyw gloronen Solanum tuberosum L. neu unrhyw had gwirioneddol neu blanhigyn arall ohono neu unrhyw rywogaeth arall o'r genws Solanum L. sy'n ffurfio cloron neu unrhyw gymysgryw ohono;
ystyr "taten hadyd" ("seed potato") yw unrhyw daten sydd wedi'i bwriadu i'w phlannu; ac
ystyr "tatws o wlad Pwyl" ("Polish potatoes") yw tatws a dyfwyd yng ngwlad Pwyl yn ystod 2003 neu ers hynny.
Hysbysu am fewnforion
3.
- (1) Ni chaiff neb, wrth gynnal busnes, fewnforio tatws i Gymru y mae'r person hwnnw'n gwybod eu bod, neu y mae ganddo sail resymol dros amau eu bod, yn datws o wlad Pwyl, oni bai ei fod wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i arolygydd, o leiaf ddau ddiwrnod cyn y dyddiad yr oedd yn bwriadu cyflwyno'r tatws i mewn i Gymru, ynghylch ei fwriad i fewnforio'r tatws, ac ynghylch:
(a) amser, dyddiad a dull arfaethedig eu cyflwyno;
(b) y pwynt mynediad arfaethedig ar gyfer dod â hwy i mewn i Gymru;
(c) y defnydd arfaethedig ar y tatws;
(ch) yn achos tatws hadyd neu datws sydd wedi'u bwriadu i'w prosesu, cyrchfan arfaethedig y tatws;
(d) rhywogaeth y tatws;
(dd) y maint o datws; ac
(e) Rhif adnabod y cynhyrchydd neu gyfeirnod y lot.
(2) I'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, rhaid i unrhyw berson a fewnforiodd datws o wlad Pwyl i Gymru, wrth gynnal busnes, ar ôl 30 Ebrill 2004 a chyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym, roi hysbysiad ysgrifenedig i arolygydd erbyn 15 Tachwedd 2004 fan bellaf ynghylch -
(a) y dyddiad y mewnforiwyd y tatws;
(b) y pwynt mynediad lle doed â hwy i mewn i Gymru;
(c) y defnydd arfaethedig ar y tatws;
(ch) yn achos tatws hadyd neu datws sydd wedi'u bwriadu i'w prosesu, cyrchfan neu gyrchfan arfaethedig y tatws;
(d) rhywogaeth y tatws;
(dd) y maint o datws; ac
(e) Rhif adnabod y cynhyrchydd neu gyfeirnod y lot.
(3) Yn yr erthygl hon, ystyr "prosesu" ("processing") yw unrhyw driniaeth ddiwydiannol, gan gynnwys graddio, didoli, golchi a phacio, p'un ai ar gyfer manwerthu ai peidio.
Pwerau arolygydd
4.
- (1) Nid yw darpariaethau'r erthygl hon yn rhagfarnu o dan ba amgylchiadau y gall arolygydd, yn rhinwedd y prif Orchymyn, arfer y pwerau a roddwyd gan y Gorchymyn hwnnw.
(2) Pan fydd ganddo seiliau rhesymol dros amau bod erthygl 3 wedi'i thorri neu'n debygol o gael ei thorri, gall arolygydd, at ddibenion y Gorchymyn hwn, arfer -
(a) y pwer a roddwyd gan erthygl 22(1) o'r prif Orchymyn fel y'i darllenir gydag erthygl 24(1) i (3) o'r prif Orchymyn, fel petai taten o wlad Pwyl yn blanhigyn a oedd wedi'i lanio neu'n debygol o gael ei lanio yn groes i'r prif Orchymyn; a
(b) y pwer a roddwyd gan erthygl 22(2) o'r prif Orchymyn fel y'i darllenir gydag erthygl 24(1) i (3) o'r prif Orchymyn, fel petai taten o wlad Pwyl a oedd yn cael ei chadw mewn mangre neu'n cael ei symud ohoni, neu a oedd yn debyg o gael ei chadw neu ei symud, yn blanhigyn a oedd yn cael ei gadw neu'n cael ei symud o'r fangre yn groes i'r prif Orchymyn.
(3) Caiff arolygydd, at ddibenion gwirio cydymffurfedd â'r Gorchymyn hwn, arfer y pwerau a roddwyd gan erthygl 25 o'r prif Orchymyn, fel petai'n gwirio cydymffurfedd â'r prif Orchymyn.
(4) Bydd i unrhyw hysbysiad a gyflwynir yn rhinwedd yr erthygl hon effaith fel petai wedi'i gyflwyno o dan erthygl 22(1) neu (2) o'r prif Orchymyn, a bydd erthyglau 24(4) i (6), 26 i 28, 32 a 33(1)(b) ac (c) a (6) o'r prif Orchymyn yn gymwys yn unol â hynny.
(5) Rhaid ymdrin ag unrhyw bwer sy'n cael ei roi gan erthygl 25 o'r prif Orchymyn, ac sy'n cael ei arfer yn rhinwedd yr erthygl hon, fel petai'r pwer hwnnw wedi'i arfer o dan y prif Orchymyn, a bydd darpariaethau'r prif Orchymyn (gan gynnwys erthygl 33(1)(c) a (6)) yn gymwys yn unol â hynny.
Tramgwyddau
5.
- (1) Bydd person yn euog o dramgwydd os ydyw, heb esgus rhesymol y mae'n rhaid i'r person hwnnw ei brofi, yn mynd yn groes i, neu yn methu â chydymffurfio â, gofyniad a geir yn erthygl 3.
(2) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Hydref 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n dod i rym ar 20 Hydref 2004, yn gosod gofynion hysbysu penodol ar bersonau sy'n mewnforio tatws o wlad Pwyl a dyfwyd yn ystod 2003 neu ers hynny.
Mae erthygl 3 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n mewnforio tatws o wlad Pwyl i Gymru, wrth gynnal busnes, roi o leiaf ddau ddiwrnod o hysbysiad yn ysgrifenedig i arolygydd Iechyd Planhigion o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gan gynnwys ynddo fanylion penodol o ran, ymhlith pethau eraill, pa bryd ac ymhle y bwriedir cyflwyno'r tatws i mewn i Gymru (erthygl 3(1)). Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i bersonau sydd wedi mewnforio tatws felly i Gymru ar ôl 30 Ebrill 2004 ond cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym ddarparu gwybodaeth benodol o natur debyg i arolygydd, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, a hynny heb fod yn hwyrach na 15 Tachwedd 2004 (erthygl 3(2)).
Mae erthygl 4 yn darparu, at ddibenion gwirio cydymffurfedd â'r Gorchymyn hwn, neu ei orfodi, y caiff arolygydd arfer pwerau penodol a roddir gan Orchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 ("y prif Orchymyn").
Mae erthygl 5 yn darparu bod person yn euog o dramgwydd os ydyw wedi mynd yn groes i, neu wedi methu â chydymffurfio â, gofyniad a geir yn erthygl 3, a hynny heb esgus rhesymol.
Notes:
[1]
1967 p. 8; diwygiwyd adrannau 2(1) a 3(1) a (2) gan Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972 (p.68), adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraff 8; amnewidiwyd adran 3(4) gan adran 42 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p.48). O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Iechyd Planhigion 1967, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol; ac, o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, trosglwyddwyd y swyddogaethau a drosglwyddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Orchymyn 1978 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back
[2]
1972 p. 62.back
[3]
O.S. 1993/1320; diwygiwyd gan O.S. 1993/3213, 1995/1358 a 2929, 1996/25, 1165 a 3242, 1997/1145 a 2907, 1998/349, 1121 a 2245 a 1999/2126 a 2726, 2001/2343, 2002/1067 a 2003/1157.back
[4]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11091015 X
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
1 November 2004
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042697w.html