BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2004 Rhif2734 (Cy.241)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2004
|
Wedi'u gwneud |
19 Hydref 2004 | |
|
Yn dod i rym |
5 Tachwedd 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 77(4), 78(6) a 84 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970[1], ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol o dan adran 84(1) o'r Ddeddf honno a chan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau ar faterion diogelwch bwyd[2], ac yntau'n cael ei ddynodi[3] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[4]) mewn perthynas â mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu fwyd anifeiliaid a roddir iddynt, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran ddiwethaf uchod (i'r graddau na ellir gwneud y Rheoliadau hyn o dan bwerau Deddf Amaethyddiaeth 1970 a grybwyllir uchod), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.
- (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig a deuant i rym ar 5 Tachwedd 2004.
Diwygio Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999
2.
- (1) Diwygir Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999[5], i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn lle paragraff (3)(b)(ii) o reoliad 6 (cymhwyso dulliau dadansoddi) rhodder y paragraff a ganlyn -
"
(ii) the procedure set out in Commission Directive 2003/126/EC[6] on the analytical method for the determination of constituents of animal origin for the official control of feedingstuffs shall be used.".
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7]
D.Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
19 Hydref 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig, ac maent yn diwygio ymhellach Reoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 (O.S. 1999/1663, fel y'i diwygiwyd eisoes) sy'n gymwys i Brydain Fawr yn gyfan.
2.
Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith Gyfarwyddeb y Comisiwn 2003/126/EC (OJ Rhif L339, 24.12.2003, t.78) ar y dull dadansoddi ar gyfer penderfynu ar gyfansoddion sy'n dod o anifeiliaid er mwyn rheoli bwyd anifeiliaid yn swyddogol.
3.
Mae'r Rheoliadau hyn yn adolygu Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 drwy ddarparu bod rhaid i'r weithdrefn a nodir yng Nghyfarwyddeb y Comisiwn 2003/126/EC gael ei defnyddio pan fydd archwiliad microsgopig yn cael ei gynnal at ddibenion penodol (rheoliad 2(2)).
4.
Lluniwyd arfarniad rheoliadol o effaith yr offeryn hwn ar gostau busnes ac fe'i rhoddwyd yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi sy'n nodi sut mae prif elfennau Cyfarwyddeb y Comisiwn 2003/126/EC yn cael eu trosi i'r gyfraith ddomestig gan y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth Uned Bwyd Anifeiliaid yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EN.
Notes:
[1]
1970 p. 40. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999 (Trosglwyddo Swyddogaethau) (O.S. 1999/672).back
[2]
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. O dan Erthygl 3 o'r Rheoliad EC mae "food law" yn rhychwantu bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd neu fwyd anifeiliaid a roddir i anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd.back
[3]
O.S. 2003/2901.back
[4]
1972 p. 68.back
[5]
O.S. 1999/1663, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/1871, O.S. 2001/2253 (Cy.163); O.S. 2002/1797 (Cy.172); O.S. 2003/1677 (Cy.180); O.S. 2003/1850 (Cy.200) ac O.S. 2003/3119 (Cy.297).back
[6]
OJ Rhif L339, 24.12.2003, t.78.back
[7]
1998 p. 38.back
English version
ISBN
0 11091010 9
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
27 October 2004
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042734w.html